Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gwybodaeth i bobl ifanc 11-18 oed

Ni yw Mind. Rydyn ni'n deall iechyd meddwl a lles. Rydyn ni yma os wyt ti angen cymorth a chyngor. Rydyn ni'n helpu pawb i ddeall iechyd meddwl, felly does neb angen teimlo'n unig.

Sut rydyn ni'n gallu helpu

Os wyt ti'n profi amser anodd neu'n brwydro gyda sut rwyt ti'n teimlo, mae'n gallu bod yn ofidus.

Rydyn ni yma i helpu ti i ddeall dwyt ti ddim ar ben dy hun ac i helpu ti ffeindio'r gefnogaeth rwyt ti'n haeddu.

Cyflwyniad i iechyd meddwl

Gwybodaeth i dy helpu i ddeall iechyd meddwl, lles a mathau o broblemau iechyd meddwl.

Ffeindio cefnogaeth

Gwybodaeth am y wahanol lefydd allet ti fynd am gymorth pan wyt ti angen cefnogaeth am sut rwyt ti'n teimlo.

Gwybodaeth CAMHS

Gwybodaeth i dy helpu i ddeall sut y gall Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru) gefnogi pobl ifanc. Gallet ti hefyd ddod o hyd i wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd pan rwyt yn gadael CAMHS neu'n symud i wasanaethau oedolion.

Gofalu am dy les

Gwybodaeth ar ddeall lles meddyliol, a sut mae gofalu amdano.

Cefnogi eraill

Gwybodaeth ac adnoddau i dy helpu i gefnogi ffrind neu bartner sy'n cael trafferth gyda'u teimladau.

Ar gyfer rhieni a gofalwyr

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer rhieni, gofalwyr, aelodau o’r teulu a gwarcheidwaid sy’n cefnogi person ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.

Mae iechyd meddwl ar sbectrwm – gallwn fod yn sâl ac yn cael trafferth ac yn iach ac yn gweithredu. Mae'n newid yn gyson, sy'n gallu bod yn flinedig, ond mae hefyd yn ein hatgoffa y bydd pethau'n newid er gwell eto.

Cysylltiadau defnyddiol

Os wyt ti'n teimlo fel bod angen mwy o gymorth arnat ti, mae nifer o sefydliadau y gelli gysylltu gyda.

Mynd i'n tudalen cysylltiadau defnyddiol

arrow_upwardYn ôl i'r brig