Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gwneud cwyn am ofal cymdeithasol neu ofal iechyd meddwl – ar gyfer plant a phobl ifanc 11-18 oed

Gwybodaeth i bobl ifanc sy'n esbonio sut mae gwneud cwyn am y ffordd rydych chi wedi cael eich trin neu'r gofal rydych chi wedi'i gael.

Sut mae gwneud cwyn?

Gall meddwl am wneud cwyn am ofal cymdeithasol neu ofal iechyd meddwl fod yn anodd, yn ddryslyd ac yn ddigon i godi ofn arnoch.

Mae llawer o wahanol opsiynau ar gyfer sut a ble i wneud cwyn, sy’n gallu bod yn ddigon i’ch llorio ar adegau.

Efallai nad yw’n hawdd mynd drwy’r broses gwyno, ond rydyn ni yma i helpu.

Beth yw cwynion?

Dyma wybodaeth sylfaenol am wneud cwyn cyn i chi ddarllen am y broses ei hun.

Ddylai gwneud cwyn ddim bod yn dalcen caled na chodi gormod o ofn arnoch chi. Mae’n hollol bosibl! – Saffron

Beth fydd yn digwydd pan fydda i'n gwneud cwyn?

Gan ddibynnu ar ble rydych chi’n gwneud cwyn ac i bwy, mae’n bosibl y bydd y bobl fydd yn ei derbyn yn delio â’r gŵyn mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae rheolau arbennig ar sut i wneud cwyn ar gyfer:

  • Gwasanaethau gofal cymdeithasol, fel gwasanaethau plant sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol
  • Gwasanaethau iechyd sy’n cael eu rhedeg gan y GIG neu y mae’r GIG yn talu amdanynt

Mae gwasanaethau iechyd yn cynnwys eich meddyg, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gofal cleifion mewnol.

Os nad ydych chi'n siŵr ai’r GIG sy’n rhedeg y gwasanaeth sy’n eich cefnogi neu'n talu amdano, gallwch holi.

Os byddwch yn talu gyda'ch arian eich hun i weld cwnselydd neu therapydd, ni fydd y gwasanaethau preifat hyn yn dilyn yr un rheolau arbennig sy'n berthnasol i'r GIG. Fodd bynnag, bydd ffordd o wneud cwyn o hyd.

Mae ein tudalen awgrymiadau ar gyfer y broses gwyno yn cynnwys canllawiau ar sut i gael gwybod ble i wneud eich cwyn.

Mae pob adran isod yn ymdrin â beth fydd yn digwydd nesaf pan fyddwch yn cwyno am y canlynol:

 

Gwneud cwyn am wasanaethau iechyd yn Lloegr

Yn yr achos hwn, rhaid bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhedeg y gwasanaeth rydych chi’n cwyno amdano neu'n talu am y gwasanaeth hwnnw. Ar ôl i chi wneud eich cwyn, dylai'r gwasanaeth gadarnhau ei fod wedi'i derbyn o fewn 3 diwrnod gwaith.

Dylai roi gwybod i chi:

  • Sut y bydd yn ymchwilio i’ch cwyn
  • Pryd y bydd yn anfon ymateb atoch

Os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon cyfforddus i gael cyfarfod er mwyn siarad â’r gwasanaeth, gall anfon llythyr neu e-bost atoch chi. Dylai hyn esbonio sut y bydd yn ymchwilio a phryd y dylech gael ymateb.

Ar ôl i’r gwasanaeth orffen ymchwilio i’ch cwyn, bydd yn anfon ymateb ysgrifenedig atoch yn egluro:

  • Sut mae wedi ymchwilio i’ch cwyn
  • Beth yw’r penderfyniad
  • Unrhyw gamau y bwriedir eu cymryd oherwydd eich cwyn

Os na chewch chi ymateb o fewn y cyfnod a addawyd, bydd angen i'r gwasanaeth anfon llythyr neu e-bost atoch yn egluro pam. Ar ddiwedd y broses gwyno, bydd y canlyniad terfynol yn ganlyniad neu'n gam gweithredu gwahanol yn dibynnu ar eich cwyn.

A timeline showing what happens after you make a complaint about health services in England.

Pan wnes i adael yr ysgol, aeth fy mhroblemau gyda CAMHS yn waeth. Ond roeddwn i’n gwybod fy ngwerth ac yn gwybod beth roeddwn i'n ei haeddu. Fe wnes i gwyno a chael therapydd newydd heb ddim gwrthdaro o ran diwylliant.

Gwneud cwyn am ofal cymdeithasol yn Lloegr

Os byddwch yn cwyno am ofal cymdeithasol yn Lloegr, fel gwasanaethau plant, efallai y gwelwch hyd at 3 cham yn y broses.

Cam 1 y gŵyn

Dylai'r gwasanaeth rydych chi’n cwyno amdano drefnu i drafod eich cwyn gyda chi er mwyn ceisio datrys y broblem. Ar ôl y drafodaeth hon:

  • Os caiff eich cwyn ei datrys, bydd y gwasanaeth yn ysgrifennu atoch yn nodi'r hyn rydych chi wedi cytuno arno gyda'ch gilydd.
  • Os na chaiff eich cwyn ei datrys, bydd yn ysgrifennu atoch i ddweud beth sydd wedi cael ei wneud i geisio datrys eich problem. Dylech hefyd gael gwybod am eich hawl i symud i gam 2.

Dylai cam 1 bara hyd at 10 diwrnod gwaith (2 wythnos). Os yw eich cwyn yn gymhleth neu os hoffech gael cefnogaeth gan eiriolwr, byddai modd ymestyn y cam hwn am 10 diwrnod ychwanegol.

A timeline showing stage 1 of what happens after you make a complaint about social care services in England.

Cam 2 y gŵyn

Bydd y gwasanaeth yn ymchwilio i’ch cwyn, yna bydd person annibynnol yn edrych ar yr ymchwiliad.

Dylai cam 2 bara hyd at 25 diwrnod gwaith (5 wythnos) ond gallai bara hyd at 65 diwrnod gwaith (13 wythnos) ar y mwyaf. Os yw'n mynd i gymryd mwy na 25 diwrnod gwaith, dylai rhywun ddweud wrthych.

Pan fydd y gwasanaeth wedi cwblhau’r ymchwiliad, bydd yn ysgrifennu atoch yn egluro:

  • Sut mae wedi ymchwilio i’ch cwyn
  • Beth yw’r penderfyniad
  • Unrhyw gamau y bwriedir eu cymryd oherwydd eich cwyn

Efallai y bydd hefyd yn ysgrifennu i egluro beth yw ei farn am yr ymchwiliad ac unrhyw gamau eraill ddylai gael eu cymryd. Dylech hefyd gael gwybod am eich hawl i symud i gam 3, os nad ydych chi’n hapus â’r ymateb.

Os ydych chi eisiau mynd i gam 3, rhaid i chi benderfynu o fewn 20 diwrnod gwaith (4 wythnos) ar ôl clywed am yr ymchwiliad.

A timeline showing stage 2 of what happens after you make a complaint about social care services in England.

Cam 3 y gŵyn

Bydd panel o 3 unigolyn annibynnol yn ystyried:

  • Beth ddigwyddodd yng ngham 2 yr ymchwiliad
  • A oedd yr ymchwiliad yn ddigon da

Y cam nesaf fel arfer yw ‘gwrandawiad wyneb yn wyneb’, a ddylai ddigwydd o fewn 30 diwrnod gwaith (6 wythnos). Mae hyn yn golygu y bydd y panel a phobl o’r tîm gofal cymdeithasol yn dod at ei gilydd i siarad. Byddwch chithau'n cael gwahoddiad hefyd, ond gallwch ddod â rhywun gyda chi i’ch cynorthwyo neu i siarad ar eich rhan, fel rhiant, gofalwr neu eiriolwr. Os nad ydych chi eisiau mynd i’r gwrandawiad wyneb yn wyneb, gallwch fel arfer ysgrifennu at y panel i egluro beth hoffech chi iddo ei wneud.

Bydd y panel yn penderfynu sut i ddatrys eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd yn argymell beth ddylai gwasanaeth gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol ei wneud.

Dylech gael ymateb gan y gwasanaeth 15 diwrnod gwaith ar ôl penderfyniad y panel. Ar ddiwedd y broses gwyno, bydd y canlyniad terfynol yn ganlyniad neu'n gam gweithredu gwahanol yn dibynnu ar eich cwyn. Os nad ydych chi'n hapus gyda'r canlyniad, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon.

A timeline showing stage 3 of what happens after you make a complaint about social care services in England.

Gwneud cwyn am wasanaethau iechyd yng Nghymru

Rhaid bod GIG Cymru yn rhedeg y gwasanaeth rydych chi’n cwyno amdano neu’n talu am y gwasanaeth hwnnw. Dylai gadarnhau bod eich cwyn wedi cael ei derbyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Dylai roi gwybod i chi:

  • Sut y bydd yn ymchwilio i’ch cwyn
  • Pryd y bydd yn anfon ymateb atoch
  • Pa fath o gymorth y gallwch chi ei gael, fel eiriolaeth

Efallai y bydd hefyd yn anfon llythyr neu e-bost atoch yn cadarnhau sut y bydd yn ymchwilio a phryd y byddwch yn cael ymateb.

Ar ôl i’r gwasanaeth orffen ymchwilio i’ch cwyn, bydd yn anfon ymateb ysgrifenedig atoch yn egluro:

  • Sut mae wedi ymchwilio i’ch cwyn
  • Beth yw’r penderfyniad
  • Unrhyw gamau y bwriedir eu cymryd oherwydd eich cwyn

Dylai wneud hyn o fewn 30 diwrnod gwaith (6 wythnos). Os na chewch chi ymateb o fewn y cyfnod hwn, bydd angen i chi gael llythyr neu e-bost yn egluro pam. Rhaid i’r gwasanaeth anfon ymateb atoch cyn gynted â phosibl, ond gall gymryd hyd at 6 mis.

Ar ddiwedd y broses gwyno, bydd y canlyniad terfynol yn ganlyniad neu'n gam gweithredu gwahanol yn dibynnu ar eich cwyn.

A timeline showing what happens after you make a complaint about health services in Wales.

Gwneud cwyn am ofal cymdeithasol yng Nghymru

Dylai'r gwasanaeth gofal cymdeithasol rydych chi’n cwyno amdano ymateb i chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Dylai’r ymateb gynnwys:

  • Mwy o wybodaeth am y broses gwyno
  • Cynnig help ac arweiniad ar gyfer eich cwyn, fel eiriolaeth
  • Cynnig cwrdd â chi o fewn 10 diwrnod gwaith (2 wythnos) i weld a allwch gytuno ar sut i ddatrys eich cwyn

Os nad ydych chi eisiau cwrdd â’r gwasanaeth, gall anfon llythyr neu e-bost atoch chi yn cadarnhau sut bydd yn ymchwilio i’ch cwyn a phryd byddwch chi’n cael ymateb.

Os bydd cwrdd â’r gwasanaeth:

  • Yn datrys eich cwyn, bydd yn cadarnhau’r hyn rydych chi wedi cytuno arno gyda’ch gilydd yn ysgrifenedig.
  • Ddim yn datrys eich cwyn, bydd yn anfon ‘datganiad ysgrifenedig’ atoch yn egluro’ch cwyn er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr bod popeth yn gywir ac yn wir.

Pan fydd y gwasanaeth wedi gorffen ymchwilio i’ch cwyn, bydd yn ysgrifennu atoch i egluro:

  • Sut mae wedi ymchwilio i’ch cwyn
  • Beth yw’r penderfyniad
  • Unrhyw gamau y bwriedir eu cymryd oherwydd eich cwyn

Dylai wneud hyn o fewn 25 diwrnod gwaith (5 wythnos) ar ôl cytuno â’ch datganiad ysgrifenedig. Ar ddiwedd y broses gwyno, bydd y canlyniad terfynol yn ganlyniad neu'n gam gweithredu gwahanol yn dibynnu ar eich cwyn.

A timeline showing what happens after you make a complaint about social care services in Wales.

Gall gwneud cwyn fod yn broses anodd a blinedig iawn, sy'n rhoi llawer o straen arnoch chi. Mae'n anodd gorfod wynebu pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol unwaith eto – Saffron

Beth am y canlyniad neu’r camau gweithredu ar y diwedd?

Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich llethu gan y broses hir a chymhleth o wneud cwyn am ofal iechyd neu ofal cymdeithasol.

Pan fydd unrhyw fath o broses gwyno y soniwyd amdani ar y dudalen hon wedi dod i ben, efallai y bydd 1 neu ragor o’r canlyniadau hyn yn berthnasol:

  • Ymddiheuriad. Efallai y cewch ymddiheuriad ar lafar neu ar bapur gan y gwasanaeth i ddatrys y broblem a gwneud yn siŵr nad yw'n digwydd i chi eto.
  • Argymhellion. Os yw panel annibynnol wedi cymryd rhan yn y broses gwyno, efallai y bydd yn gwneud argymhellion ynghylch sut mae angen i’r gwasanaeth newid.
  • Iawndal ariannol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael rhywfaint o arian fel rhan o ymddiheuriad i'ch helpu gyda'r hyn rydych wedi bod drwyddo.
  • Gwelliannau yn y dyfodol. Efallai y bydd eich cwyn yn gwneud y gwasanaeth yn ymwybodol o’i broblem, ac y bydd am sicrhau nad oes neb arall yn mynd drwy hyn yn y dyfodol. Bydd hyn wir yn helpu pobl eraill, er nad yw'n golygu llawer o foddhad i chi o bosibl.
  • Ddim yn gallu ymchwilio. Gallai diffyg prawf neu wybodaeth olygu na fydd y gwasanaeth neu’r panel annibynnol yn gallu ymchwilio i’ch cwyn yn llawn. Fydd dim modd mynd â phethau ymhellach, sy’n gallu achosi gofid.
  • Newid penderfyniad. Efallai fod eich cwyn yn ymwneud â phenderfyniad am ofal iechyd neu ofal cymdeithasol a arweiniodd at gamau a effeithiodd arnoch chi. Os felly, ac os yw’n cytuno, efallai mai’r canlyniad terfynol fydd mynd yn ôl ar y penderfyniad hwnnw i ddatrys eich cwyn.

Gall deall pob canlyniad posibl eich helpu i weld pob nod yn glir neu’ch atgoffa beth rydych chi am i’ch cwyn ei gyflawni.

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud hefyd os nad ydych chi'n hapus gyda chanlyniad cwyn.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl y gallwch chi wneud gwahaniaeth, fe allwch chi fel arfer – Kalia, 18 oed

Ble mae cwyno am rywbeth ddigwyddodd yn yr ysbyty?

Efallai y bydd angen i chi gwyno am sut y cawsoch eich trin gan rywun neu am eich gofal pan gawsoch eich cadw yn yr ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl.

Os digwyddodd rhywbeth pan oeddech chi wedi cael eich anfon i’r ysbyty neu ar Orchymyn Triniaeth Gymunedol, efallai y bydd modd i chi gwyno wrth y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) yn Lloegr neu Arolygiaeth gofal Iechyd Cymru (AGIC) yng Nghymru.

Mae eu gwefannau’n cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cwyn:

Fel arfer, bydd y CQC ac AGIC yn gofyn i chi wneud cwyn i’r ysbyty y cawsoch eich anfon iddo fel rhan o Orchymyn Triniaeth Gymunedol. Gall y broses hon deimlo’n gymhleth ac yn anodd, ond gallwch gael eiriolwr i’ch helpu.

Ni all y CQC nac AGIC ymchwilio i gwynion am bethau a ddigwyddodd pan oeddech chi’n glaf anffurfiol.

Beth mae cael eich anfon i ysbyty (section) yn ei olygu?

Dyma ragor o wybodaeth am beth mae’n ei olygu i gael eich cadw yn yr ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl.

Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod gen i dal hawl i leisio fy marn ar bethau fel triniaethau neu beth oedd yn digwydd i mi, hyd yn oed pan oedd hynny’n golygu mai meddygon oedd â’r gair olaf.

Sut alla i gael cymorth i wneud cwyn?

Efallai y bydd arnoch ofn gwneud cwyn ar eich pen eich hun, neu fod hynny’n teimlo fel cam mawr, ond mae help ar gael.

Gofyn i rywun eich helpu neu i wneud y gŵyn ar eich rhan

Gallai rhiant, gwarcheidwad, gofalwr neu oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo wneud y canlynol:

  • Eich cefnogi chi wrth i chi wneud eich cwyn
  • Dod i gyfarfodydd am y gŵyn a chynnig cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad
  • Gwneud eich cwyn yn uniongyrchol ar eich rhan

Os bydd rhywun arall yn gwneud y gŵyn i chi, efallai y bydd y gwasanaeth am wneud yn siŵr eich bod yn fodlon i'r person hwn wneud hynny. Efallai na fydd rhai gwasanaethau'n caniatáu hyn, sy'n golygu y bydd angen i chi gyflwyno’r gŵyn eich hun, ond gallwch gael cefnogaeth rhywun o hyd.

Gofyn i eiriolwr eich helpu i wneud y gŵyn

Mae gennych hawl i gael cymorth gan eiriolwr proffesiynol. Gallwch hefyd ofyn i'r gwasanaeth rydych yn cwyno amdano am fanylion ynghylch sut i gael gafael ar eiriolwr.

Gall eiriolwyr helpu gyda chwynion mewn llawer o wahanol gyd-destunau, gan gynnwys cwynion am eich cyfnod yn yr ysbyty.

Cael help gan eiriolwr

Beth mae’n ei olygu i gael cymorth gan eiriolwr i helpu gyda’ch cwyn?

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r GIG, efallai y bydd modd i chi gael cymorth tebyg i eiriolaeth gan y Gwasanaethau Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) yn Lloegr neu Gynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru:

Gall cael cymorth gan rywun arall fod yn fuddiol iawn, hyd yn oed os nad yw’n eiriolwr proffesiynol.

Beth os nad ydw i'n hapus gyda chanlyniad fy nghwyn?

Weithiau dydy cwynion ddim yn gweithio allan fel rydyn ni’n dymuno. Gall hyn achosi straen a phoen meddwl, ond gall llefydd eraill gynnig mwy o help os nad ydych chi’n hapus gyda’r canlyniad.

Defnyddio’r Ombwdsmon

Person neu sefydliad annibynnol sy’n gallu ymchwilio i gwynion yw’r Ombwdsmon. Dim ond rhai cwynion y bydd yn ymchwilio iddynt, ac mae rheolau penodol ar gyfer gwneud hyn.

Efallai y gallwch ofyn i'r Ombwdsmon ymchwilio os nad ydych chi'n hapus gyda chanlyniad eich cwyn am naill ai:

  • Gwasanaethau iechyd sy’n cael eu rhedeg gan y GIG neu y mae’r GIG yn talu amdanynt
  • Gwasanaethau gofal cymdeithasol, fel gwasanaethau plant sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol

Gellir defnyddio’r Ombwdsmon yn rhad ac am ddim. Os bydd yn cytuno â’ch cwyn, gall wneud argymhellion i helpu i unioni pethau i chi.

Byddwch yn cysylltu ag Ombwdsmon gwahanol, gan ddibynnu ar natur eich cwyn:

Dweud wrth reoleiddiwr

Corff sy’n monitro iechyd a gofal cymdeithasol yw rheoleiddiwr. Gallwch siarad â rheoleiddiwr yr un pryd ag y byddwch yn gwneud cwyn.

Ni fydd siarad â rheoleiddiwr yn datrys eich cwyn, ond gall helpu i sbarduno newidiadau a gwelliannau. Drwy ddweud wrth y rheoleiddiwr am broblemau gyda’r gwasanaeth, byddwch yn helpu pobl ifanc eraill a allai wynebu’r un broblem yn y dyfodol.

Byddwch yn cysylltu â rheoleiddiwr gwahanol, gan ddibynnu ar natur eich cwyn:

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn perthyn i reoleiddiwr sy’n gosod rheolau arbennig ar gyfer sut maen nhw’n gwneud eu gwaith. Er enghraifft, y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw’r rheoleiddiwr ar gyfer meddygon.

Gallwch weld rhestr lawn o reoleiddwyr ar wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n cael y cymorth neu’r canlyniad roeddech chi wedi'i ddymuno, gall y ffaith eich bod wedi sôn am y peth fod yn fuddiol i chi ac i eraill – Kalia, 18 oed

Siarad â chyfreithiwr

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein syniadau ac nad oes dim wedi helpu, efallai yr hoffech siarad â chyfreithiwr. Bydd cyfreithiwr yn gallu trafod eich opsiynau gyda chi a dweud wrthych a allech chi neu’ch teulu gymryd camau cyfreithiol.

Mae gan ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer pobl ifanc adran ar gysylltiadau ar gyfer hawliau cyfreithiol a chymorth eiriolaeth.

Mae angen awgrymiadau arna i er mwyn delio gyda gwneud cwyn

Gall meddwl am wneud cwyn fod yn ddigon i godi ofn arnoch. Gall deimlo'n llethol a chymryd llawer o amser. Mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd o ofalu am eich lles eich hun.

Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2024
Adolygiad nesaf: Gorffennaf 2027

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)

Am ragor o wybodaeth  

arrow_upwardYn ôl i'r brig