Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Awgrymiadau i’ch helpu yn ystod y broses gwyno – ar gyfer plant a phobl ifanc 11-18 oed

Awgrymiadau i bobl ifanc sy’n mynd drwy’r broses gwyno a chymorth i ymdopi â’r teimladau anodd sy’n gysylltiedig â hyn.

Awgrymiadau ar gyfer ymdopi â’r broses o wneud cwyn

Os oes angen awgrymiadau arnoch i’ch helpu i ymdopi â’r broses o wneud cwyn am ofal iechyd meddwl neu ofal cymdeithasol, rydyn ni yma i helpu.

Mae rhai o’r awgrymiadau ar y dudalen hon yn rhai ymarferol, tra bydd eraill yn eich helpu gyda’ch lles meddyliol.

Gwahanol awgrymiadau ar gyfer gwahanol bobl – does dim angen i chi roi cynnig ar ddim byd sydd ddim yn teimlo'n iawn i chi.

Deall cwynion am ofal iechyd a gofal cymdeithasol

Cyn darllen ein hawgrymiadau, efallai y bydd ein tudalennau eraill am gwynion yn eich helpu i ddeall beth yw pwrpas cwynion a sut mae gwneud cwyn.

Darllenwch ein cyflwyniad i gwynion

Dysgwch am y broses gwyno

Mae'n anodd wynebu pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol unwaith eto. Trefnwch bethau braf i’w gwneud, meddyliwch am eich targedau ar gyfer y dyfodol, mwynhewch ddarn o gacen neu fath llawn swigod, siaradwch â ffrindiau – Saffron

Awgrymiadau ar gyfer canfod ble i wneud eich cwyn

Dylai fod gan bob sefydliad neu wasanaeth broses gwyno. Bydd gan rai reolau arbennig y mae angen eu dilyn hefyd. Gallwch ofyn i unrhyw wasanaeth:

  • Eich tywys drwy’r broses gwyno
  • Esbonio sut i wneud eich cwyn

Os nad ydych yn siŵr ble i wneud cwyn, gallwch bob amser ofyn i'r sefydliad neu'r gwasanaeth neu edrych ar eu gwefan.

Cwyno am eich meddyg

Ar gyfer cwynion am eich meddyg teulu, byddwch fel arfer yn cwyno’n uniongyrchol i’r gwasanaeth meddyg teulu. Fel arall, gallwch roi cynnig ar opsiwn arall:

Cwyno am wasanaethau fel CAMHS

Ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), bydd angen gwneud cwyn yn uniongyrchol i’r gwasanaeth fel arfer. Fel arall, gallwch roi cynnig ar opsiwn arall:

Cwyno am wasanaethau plant

Ar gyfer cwynion am wasanaethau plant, byddwch fel arfer yn gwneud cwyn i’ch awdurdod lleol:

Awgrymiadau ar bethau i feddwl amdanynt cyn gwneud cwyn

Pan fyddwch chi’n ceisio penderfynu a ydych chi am gwyno ai peidio, mae rhai pethau pwysig y dylech feddwl amdanynt.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall hyd a lled eich cwyn

Bydd bod yn glir ynghylch hyn yn eich helpu i wybod i ble i wneud eich cwyn. Efallai fod eich cwyn yn ymwneud ag un o’r canlynol:

  • Rhywbeth penodol sydd wedi digwydd
  • Person neu dîm penodol
  • Mater ehangach neu fwy cyffredinol yn y gwasanaeth
  • Rhywbeth sydd wedi digwydd i chi droeon

Casglwch ddigon o fanylion am eich cwyn

Bydd yr ymchwiliad i’ch cwyn yn haws os gallwch ddarparu:

  • Manylion clir
  • Dyddiadau penodol
  • Enwau perthnasol

Ceisiwch gadw cofnod o broblemau cyn gynted ag y byddant yn digwydd, yn hytrach na sbel ar ôl hynny, rhag ofn y byddwch am gwyno am eich profiad rywbryd yn y dyfodol.

Cadwch gofnod o bopeth y gallwch chi! – Saffron

Deall cyfrinachedd

Os oes angen i chi gael gwybodaeth o’ch ffeiliau neu’ch cofnodion i’ch helpu i wneud eich cwyn, gallwch ofyn am gael eu gweld weithiau.

Meddyliwch am y canlyniad rydych chi’n anelu i’w gael

Ceisiwch ofyn i chi’ch hun, “Beth ydw i wir eisiau ei gael o’r broses gwyno?” Mae’n bwysig deall beth yw’r nod a dychmygu’r canlyniad yn glir yn eich pen cyn i chi wneud y gŵyn.

Weithiau, ar ôl meddwl am y peth, efallai y byddwch chi’n penderfynu na fydd cwyn yn helpu eich problem nac yn gwneud i chi deimlo'n well. Er enghraifft, os hoffech gael gwell cefnogaeth heddiw, a fydd cwyno am rywbeth ddigwyddodd 10 mis yn ôl mewn gwasanaeth gwahanol wir yn eich helpu i gyflawni hyn?

Cofiwch y gallai teimladau anodd ddod i’r wyneb

Gall cwyno deimlo fel proses anodd iawn i fynd drwyddi. Mae’n bwysig meddwl sut gallai cwyno effeithio ar eich lles meddyliol.

Gall pethau deimlo’n anoddach:

  • Os nad ydych chi’n teimlo'n dda
  • Os ydych chi’n delio â theimladau anodd yn dilyn y ffordd mae rhywun wedi eich trin chi
  • Os ydych chi’n clywed pethau sy’n eich ypsetio neu nad ydych chi’n cytuno â nhw
  • Os nad yw eich cwyn yn cael ei datrys yn y ffordd rydych chi’n dymuno

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gyfer gofalu amdanoch eich hun yn ystod y broses gwyno.

Dewiswch sut rydych chi am wneud eich cwyn

Mae gwahanol ffyrdd o wneud cwyn. Ceisiwch feddwl beth fyddai’n teimlo’n fwyaf cyfforddus i chi, fel:

  • Dweud wrth rywun wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Gofynnwch i bwy bynnag rydych chi'n cwyno amdano ysgrifennu'r hyn rydych chi'n ei ddweud ac anfon copi atoch. Dylech gofnodi’r cyfarfod eich hun neu ofyn iddyn nhw gofnodi’r cyfarfod.
  • Ysgrifennu llythyr neu anfon e-bost. Er y gallai cwynion ysgrifenedig gymryd mwy o amser i’r gwasanaeth eu prosesu, efallai y byddai’n syniad da teipio eich meddyliau beth bynnag. Edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gyfer ysgrifennu cwynion.

Sut bynnag y byddwch yn penderfynu mynd o’i chwmpas hi, ceisiwch ddangos yn glir eich bod yn gwneud cwyn a'ch bod am iddynt ymchwilio iddi o ddifrif.

Gall ysgrifennu beth ddigwyddodd fod yn therapiwtig, a gallaf ei ddefnyddio ar gyfer cwynion yn y dyfodol neu ar gyfer rhannu fy mhroblemau gydag eraill – Saffron

Awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu cwyn

Pan fyddwch yn ysgrifennu cwyn i’w hanfon drwy lythyr neu e-bost, ceisiwch wneud y canlynol:

  • Bod yn benodol ynghylch yr hyn rydych chi’n cwyno amdano. Ceisiwch nodi’n glir beth ddigwyddodd, gan roi unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol.
  • Esbonio beth ddigwyddodd mewn trefn glir.
  • Cynnwys dyddiadau ac enwau os ydych yn eu gwybod.
  • Esbonio sut mae’r hyn sydd wedi digwydd wedi effeithio arnoch chi.
  • Egluro beth rydych chi am iddyn nhw ei wneud i unioni pethau. Er enghraifft, a fyddech chi’n hoffi cael ymddiheuriad, neu a fyddech chi’n hoffi i rywbeth newid o safbwynt eich gofal a’ch triniaeth? Gallwch ofyn iddynt wneud mwy nag un peth.
  • Dweud sut yr hoffech iddynt gyfathrebu â chi am eich cwyn. Er enghraifft, os ydych chi’n cael trafferth cwrdd wyneb yn wyneb, byddwch yn glir am hyn ac awgrymu ffordd well iddyn nhw gysylltu â chi.

Dydy pawb ddim yn ei chael hi’n hawdd ysgrifennu pethau ar bapur. Gallwch gwyno dros y ffôn neu wyneb yn wyneb os yw hynny'n well i chi.

Y naill ffordd neu’r llall, efallai y byddai’n ddefnyddiol gwneud nodiadau ar yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw fanylion pwysig yn cael eu hepgor. Gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau uchod fel canllaw ar gyfer gwneud eich nodiadau.

Templed ar gyfer cwynion ysgrifenedig

Beth am ddefnyddio ein templed Word i ysgrifennu cwyn gan egluro’ch profiadau.

Cadwch gofnod o bethau, drwy fideo neu nodyn llais hyd yn oed, os nad ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu ysgrifennu – Saffron

Awgrymiadau ar gyfer gofalu amdanoch eich hun yn ystod y broses gwyno

Gall y broses o wneud cwyn fod yn ddigon i godi ofn ar lawer ohonom – y sefyllfa anodd ei hun, gwneud y penderfyniad i gwyno, aros am ganlyniad – gall y broses gyfan deimlo’n llawn straen.

Ceisiwch edrych ar ôl eich hun:

  • Byddwch yn garedig â chi eich hun a chymryd seibiant os oes angen
  • Ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o ddeall eich teimladau a delio â nhw
  • Neilltuwch amser i wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau
  • Siaradwch â phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw am yr hyn sy’n digwydd

Dyma gyngor rhai o’r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw:

Gorffwyswch a gofalu amdanoch eich hun yn gyntaf.

Does dim rhaid i chi wneud popeth ar unwaith.

Peidiwch â theimlo’n ofnus a pheidiwch â digalonni. Peidiwch â bod ofn gwneud hyn.

Gofalu am eich lles

Mae rhagor o awgrymiadau ar gael ar sut i ofalu amdanoch eich hun yn ystod y broses anodd hon.

Delio â theimladau anodd

Gall gwneud cwyn fod yn ffordd dda o ddatrys problem neu o gael ymddiheuriad am y ffordd y mae rhywun wedi ein trin. Ond fydd pob un ohonom ddim yn cael y canlyniadau roedden ni wedi gobeithio eu cael.

Efallai na fyddwch chi’n cytuno â chanlyniad yr ymchwiliad, neu efallai na fydd y gwasanaeth yn cytuno â’r hyn rydych chi wedi gofyn iddyn nhw ei wneud er mwyn unioni pethau. Gall hyn achosi straen i chi a bod yn broses anodd i fynd drwyddi.

I’ch helpu i ymdopi’n well, gallwch geisio:

  • Siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich teulu neu’ch ffrindiau. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi cael profiad tebyg, gallech gysylltu â nhw hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen am siarad a rhannu.
  • Adnabod teimladau anodd, fel siom, dicter neu dristwch. Mae llawer ohonom yn profi’r teimladau hyn yn ystod cyfnod anodd. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen am ddeall eich teimladau.
  • Atgoffa eich hun y gall dim ond sefyll i fyny drosoch eich hun fod yn ddigon. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr yn y dyfodol. Mae’r ffaith eich bod wedi ceisio newid pethau’n bwerus – mae brwydro dros eich hawliau a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn sgiliau defnyddiol iawn. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen am eiriol drosoch eich hun.

Gall ail-fyw pethau eto fod yn brofiad trawmatig. Cynlluniwch bethau hwyliog i’w gwneud a phethau i fynd â’ch bryd rhwng cyfnodau o straen pan fyddwch yn gwneud cwyn – Saffron

decorative

Cofiwch – rydych chi’n gwneud eich gorau i ofalu amdanoch chi eich hun yn ystod y broses anodd o wneud cwyn. Byddwch yn garedig â chi eich hun.

Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2024
Adolygiad nesaf: Gorffennaf 2027

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig