Siarad am dy iechyd meddwl – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed
Canllaw i bobl ifanc 11-18 oed ar siarad am sut rwyt ti’n teimlo neu beth rwyt ti’n ei brofi.
Siarad am dy iechyd meddwl
Gall siarad â phobl sy’n poeni amdanat ti dy helpu i ofalu am dy iechyd meddwl ac ymdopi â sut rwyt ti’n teimlo.
Ond efallai ei fod yn deimlad ofnus, neu dy fod ddim yn gwybod ble mae dechrau. Efallai dy fod yn nerfus am ddweud wrth bobl beth sy’n digwydd, neu ddim yn gwybod beth i’w ddweud wrthyn nhw. Rydyn ni yma i dy helpu i ddod o hyd i ffordd sy’n gweithio orau i ti.
Ar y dudalen hon, mae gwybodaeth am:
Pam dylwn i siarad am sut ydw i’n teimlo?
Mae’n iawn i ti boeni am ddweud wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo neu beth rwyt ti wedi bod yn mynd drwyddo. Ond gall ceisio delio â phethau ar dy ben dy hun wneud i ti deimlo’n waeth.
Mae siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo yn gallu dy helpu di:
- I deimlo nad wyt ti ar dy ben dy hun
- I deimlo bod y bobl o dy gwmpas yn dy gefnogi
- I helpu pobl eraill i ddeall beth rwyt ti’n mynd drwyddo
- I gael cymorth gyda phethau ymarferol
- I wybod bod pobl eraill wedi cael profiadau tebyg
- I ddod o hyd i gymorth i helpu gyda dy deimladau neu beth rwyt ti'n yn ei brofi
- I rwystro pethau rhag gwaethygu
- I ddechrau teimlo’n well
Efallai nad wyt ti’n gwybod beth rwyt ti’n ei deimlo na beth rwyt ti eisiau siarad amdano, ac mae hynny’n iawn. Mae gennym wybodaeth am ddeall dy deimladau a sut i adnabod gwahanol deimladau a allai dy helpu.
Fe wnes i ymddiried mewn ffrind yn gyntaf – roedd hi’n rhyddhad mawr cael gwybod ei bod hi weithiau’n profi pethau tebyg. Am y tro cyntaf ro'n i’n teimlo fy mod i’n cael fy neall.
Pryd ddylwn i siarad?
Does dim amser perffaith i siarad. Ond cofia: beth bynnag ti’n mynd drwyddo, does dim angen i ti ymdopi ar dy ben dy hun. Mae pob un ohonom yn haeddu cefnogaeth.
Efallai y byddet ti am feddwl am siarad am dy deimladau neu’r hyn rwyt ti’n ei brofi os:
- Rwyt ti’n cael trafferth ymdopi â sut rwyt ti’n teimlo
- Rwyt ti wedi bod drwy neu’n mynd drwy rywbeth anodd
- Dwyt ti ddim yn teimlo yn ti dy hun
- Rwyt ti’n ei chael hi’n anodd ymdopi â bywyd bob dydd
- Rwyt ti eisiau i rywun wybod sut rwyt ti wedi bod yn teimlo
- Mae’n effeithio ar dy berthnasoedd
- Rwyt ti’n teimlo dy fod eisiau neu angen help
Gallet ti siarad am sut rwyt ti’n teimlo ar unrhyw adeg – does dim rhaid i ti aros i hynny waethygu. Po gyntaf y gallet ti siarad, y cyntaf y byddet ti’n dechrau teimlo’n well. A dydy hi byth yn rhy hwyr i siarad am sut rwyt ti’n teimlo.
Os wyt ti’n teimlo dy fod eisiau siarad am dy iechyd meddwl, mae gennym ni gyngor i dy helpu i baratoi a chynllunio beth rwyt ti eisiau ei ddweud.
Bydd dy deimladau'n ddryslyd ac efallai y byddi di'n teimlo'n unig neu'n drist... Mae'n bwysig peidio atal dy teimladau oherwydd trwy siarad ag eraill, gallant dy helpu i ddatrys y broblem – Bear, 12
Sut fydda’ i’n gwybod pwy rydw i’n gallu ymddiried ynddo?
Mae penderfynu gyda phwy i siarad yn gallu bod yn anodd. Ceisia feddwl am rywun ti'n gwybod sydd:
- Yn garedig, yn deall ac yn wrandäwr da
- Yn gwneud i ti deimlo’n ddiogel yn eu cwmni
- Wedi cael profiad tebyg efallai
- Fydd yn barod i dderbyn beth sydd gen ti i’w ddweud
- Rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â nhw
- Wedi dy gefnogi di neu bobl eraill o’r blaen
Mae gen i ffrind a gwnes i siarad â nhw, ac er nad oedden nhw’n gallu uniaethu â fy mhrofiad i, roedden nhw yno i mi ac yn gwrando arna i.
Gyda phwy y galla i siarad?
Does dim rhaid i ti siarad â theulu, gofalwyr, ffrindiau na phartneriaid am sut rwyt ti’n teimlo. Efallai y bydd hi’n haws i ti siarad â rhywun nad wyt ti’n ei adnabod cystal neu ddim mor agos atyn nhw. Dyma rai pobl eraill a allai helpu:
- Athrawon
- Staff eraill yn yr ysgol, fel cwnselwyr ysgol, nyrsys, arweinwyr bugeiliol neu gynorthwywyr addysgu
- Dy feddyg
- Gweithwyr clybiau ieuenctid
- Hyfforddwyr chwaraeon
- Gweithwyr cymdeithasol
- Arweinwyr crefyddol neu bobl o’ch grŵp ffydd
Cofia, hyd yn oed os nad yw un person yn deall, neu os nad yw’n siŵr sut i dy helpu, gallet ti bob amser geisio siarad â rhywun arall. Mae pawb yn ymateb yn wahanol - nid ti sydd ar fai os nad ydynt yn deall.
Os wyt ti’n teimlo’n isel, yna cer allan i siarad â phobl oherwydd mae'n gwneud i ti deimlo'n llawer, llawer gwell – Eilidh, 13
Beth os ydyn nhw’n ailadrodd yr hyn rydw i wedi’i ddweud wrth rywun arall?
Mae’n normal i ti ddymuno eu bod yn cadw beth ti wedi’i ddweud yn breifat, ond efallai y bydd angen iddyn nhw ddweud wrth rywun arall os ydyn nhw:
- Yn poeni amdanat ti, ac maent angen rhoi gwybod i rywun arall, fel dy riant, athro neu feddyg i wneud yn siŵr dy fod yn ddiogel
- Eisiau dod o hyd i gymorth i ti gan dy feddyg neu wasanaeth fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) neu
- Angen cefnogaeth iddyn nhw eu hunain am yr hyn rwyt ti wedi’i ddweud wrthyn nhw
Efallai y byddai’n ddefnyddiol esbonio pam dwyt ti ddim eisiau i bobl eraill gael gwybod. Gofynna iddyn nhw roi gwybod i ti os ydyn nhw’n bwriadu dweud wrth unrhyw un arall.
Edrycha ar ein tudalen ar gyfrinachedd i gael gwybod sut a phryd y caiff gwybodaeth am dy iechyd meddwl ei gadw’n breifat.
Beth os nad ydyn nhw’n deall?
Dydyn ni ddim bob amser yn cael yr ymateb rydyn ni’n gobeithio ei gael pan fyddwn yn siarad â phobl eraill am ein teimladau. Os nad ydyn nhw’n deall neu ddim yn dy gymryd o ddifri, nid dy fai di yw hynny. Efallai eu bod wedi cael sioc a bod angen ychydig o amser arnynt i feddwl am yr hyn rwyt ti wedi’i ddweud wrthynt.
Hyd yn oed os yw hynny’n dy frifo, efallai y bydd hi’n help siarad â rhywun arall rwyt ti’n ymddiried ynddo, neu roi amser iddynt a rhoi cynnig arall arni rywbryd eto. Gallet ti roi cynnig ar ddweud wrthynt mewn ffordd wahanol, fel ysgrifennu llythyr neu adael nodyn llafar iddynt.
Os nad ydynt yn deall o hyd, efallai y bydd hi’n help dweud “efallai nad wyt ti’n deall pam fy mod yn teimlo fel hyn, ond dwi angen i ti dderbyn y peth a fy helpu i drwy...”
Y person cyntaf i mi siarad â nhw oedd fy athrawes ac roedd hi’n gefnogol iawn ac yn deall. Buom yn trafod fy holl broblemau a chefais fy nghyfeirio at gwnselwyr yr ysgol. Dyna’r penderfyniad gorau i mi ei wneud.
Cofia: mae pawb yn ymateb yn wahanol i wahanol bethau. Mae’n gallu bod yn anodd agor i fyny eto pan nad yw pobl yn deall, ond mae’n bwysig dy fod yn cael cymorth ar gyfer sut rwyt ti’n teimlo.
Er nad fy ngwaith i yw addysgu pobl, rwyf wedi canfod bod rhai pobl yn fwy tebygol o ddeall beth rydw i’n ei ddweud os byddaf yn rhoi rhai ffeithiau neu adnoddau iddynt am y mater.
Beth os nad oes gen i neb i siarad â nhw?
Efallai dy fod di’n teimlo na allet ti siarad â neb am yr hyn sy’n digwydd i ti, neu nad ydyn nhw’n deall. Mae sawl ffordd arall o ddod o hyd i gefnogaeth i ti dy hun, ond gallai fod o gymorth i ti geisio siarad â:
- Childline. Mae’n rhedeg llinell gymorth 24 awr gyda chwnselwyr wedi’u hyfforddi i wrando arnoch a dy gefnogi. Mae hefyd yn cynnig byrddau negeseuon ar-lein a sgyrsiau un-i-un ar y we i blant a phobl ifanc. Mae Childline yn gallu darparu cwnselwyr sy’n siarad Cymraeg hefyd.
- The Mix. Mae’n cynnig llinell gymorth, gwasanaeth e-bost, llinell destun argyfwng a byrddau negeseuon ar-lein i unrhyw un sydd angen cymorth.
- YoungMinds. Mae’n darparu gwasanaeth negeseuon testun argyfwng a byrddau negeseuon ar-lein. Mae hefyd yn cynnig gwybodaeth am broblemau iechyd meddwl.
- Sefydliadau eraill a all eich helpu gyda phrofiadau penodol. Mae’r rhain wedi’u rhestru ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol
Mae’n gallu teimlo nad oes neb yn deall sut rwyt ti’n teimlo na beth rwyt ti’n ei brofi, ond mae wastad rhywun sy’n gallu dy helpu a dy gefnogi. Ni waeth beth yw’r broblem, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun ac rwyt ti’n haeddu cymorth.
Rhannu sut roeddwn i’n teimlo oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud.
Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS) - Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
Gwasanaethau sy’n gallu dy gynorthwyo di o ran dy iechyd meddwl yw’r rhain. Maen nhw’n darparu gwasanaethau i unrhyw un o dan 18 oed.
Weithiau, bydd ganddyn nhw enwau gwahanol, ond maen nhw’n darparu’r un peth:
- Yng Nghymru, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol (SCAMHS) yw eu henw.
- Yng Nghymru a Lloegr, gallet ti hefyd glywed yr enw Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CYPMHS).
Gelli ddod i wybod mwy ar ein tudalennau gwybodaeth am CAMHS.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Cyhoeddwyd: Ionawr 2023
Adolygiad nesaf: Ionawr 2026
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.
