Deall cyfrinachedd – ar gyfer pobl ifanc
Canllawiau ar gyfer pobl ifanc sy’n egluro sut a pha bryd y mae gwybodaeth ynghylch dy iechyd meddwl yn cael ei chadw’n breifat.
Deall cyfrinachedd
Mae datgelu gwybodaeth i weithwyr proffesiynol ynghylch dy iechyd meddwl yn gallu bod y cam cyntaf i gael help. Ond gall deimlo’n wirioneddol ddychrynllyd hefyd.
Efallai dy fod yn teimlo’n ddryslyd ynglŷn â beth maen nhw am ei wneud gyda’r wybodaeth yr wyt yn ddatgelu wrthyn nhw. Neu efallai y gelli di fod yn poeni y byddan nhw’n ei rhannu gyda phobl eraill, fel dy deulu neu dy ffrindiau.
Rydym ni yma i dy helpu di i ddeall beth yw cyfrinachedd, fel dy fod yn gwybod sut a pha bryd y bydd dy wybodaeth yn cael ei chadw’n breifat.
Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:
- Beth yw cyfrinachedd?
- Gyda phwy allaf i siarad yn breifat ynghylch fy iechyd meddwl?
- Sut bydd fy ngwybodaeth yn cael ei storio?
- Pryd allai fy ngwybodaeth gael ei rhannu?
- Beth sy'n digwydd os ydw i'n dweud wrth rywun fy mod yn hunan-niweidio?
- Beth sy'n digwydd os yw rhywun wedi rhannu fy ngwybodaeth yn anghywir?
- Sut gallaf i weld beth sydd yn fy ffeiliau a'm cofnodion?
Beth yw cyfrinachedd?
Mae cyfrinachedd yn ymwneud â chadw dy wybodaeth yn breifat.
Mae’n golygu pan wyt ti’n siarad gyda gweithwyr proffesiynol, ni ddylen nhw ddweud wrth unrhyw un arall beth ddywedaist ti.
Mae gwybodaeth sydd angen ei chadw yn gyfrinachol yn cynnwys:
- dy enw a dy fanylion cyswllt
- manylion ynglŷn ag unrhyw broblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl sydd gennyt ti
- manylion ynglŷn ag unrhyw feddyginiaeth, triniaeth neu gynllun gofal sydd gennyt ti
- unrhyw beth yr wyt ti wedi siarad amdano mewn apwyntiadau neu gyfarfodydd
- beth mae rhywun yn ei ysgrifennu amdanat ti mewn apwyntiadau
- beth sydd wedi cael ei ysgrifennu yn dy gofnodion.
Er enghraifft, os wyt ti'n siarad gyda dy feddyg ac yn dweud wrtho dy fod wedi bod yn teimlo’n isel, ni allan nhw ddweud wrth dy rieni na dy ofalwyr. Mae’n rhaid iddo gadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol.
“Pan oeddwn yn chwilio am ffyrdd i helpu fy hun, roeddwn i'n rhy ofnus i ddweud wrth unrhyw un i ba raddau yr oeddwn yn cael trafferth oherwydd nad oeddwn eisiau i fy rhieni gael gwybod.”
Gyda phwy allaf fi siarad yn breifat ynghylch fy iechyd meddwl?
Mae llawer o weithwyr proffesiynol y gelli di siarad gyda nhw yn hyderus ynghylch dy iechyd meddwl.
Gall gwybod y byddan nhw’n cadw’r hyn a ddywedaist ti yn breifat yn gallu dy helpu di i deimlo’n ddiogel a datgelu beth yr wyt ti yn ei ddioddef.
Mae’r rhestr yn cynnwys:
- meddygon
- nyrsys
- athrawon
- cwnselwyr ysgol
- gweithwyr cymdeithasol
- therapyddion neu gwnselwyr
- dy dîm Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)
- eiriolwyr
- gwasanaethau llinellau cymorth, fel Childline.
Mae’n rhaid i feddygon a therapyddion ddilyn rheolau arbennig ynghylch diogelu dy wybodaeth gyfrinachol.
Bydd gweithwyr proffesiynol eraill, fel athrawon, yn dilyn polisi eu hysgol neu'u coleg eu hunain. Mae’n bwysig gwybod y bydd y polisïau hyn ychydig yn wahanol ymhobman.
Mae siarad gyda phobl sy’n gofalu amdanat ti yn gallu dy helpu i deimlo bod gennyt ti gefnogaeth a dy fod yn llai unig.
Am y rhan fwyaf o’r amser, y mwyaf y byddan nhw’n deall beth sy’n digwydd i ti, byddan nhw yn gallu dy helpu yn well.
Pan wyt ti’n datgelu wrth dy ffrindiau a dy deulu, dylen nhw barchu dy breifatrwydd a chadw’r wybodaeth ar gyfer eu hunain yn unig. Os nad wyt ti wedi gofyn iddyn nhw ei rhannu.
Er hynny, mae’n bwysig deall nad oes raid iddyn nhw gadw dy wybodaeth yn gyfrinachol. Gallan nhw ddweud wrth rywun arall beth a ddywedaist ti os ydyn nhw’n poeni amdanat ti neu pan maen nhw angen cefnogaeth ar gyfer eu hunain.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen ynglŷn â datgelu i dy deulu a dy ffrindiau.
“Siaradais gyda chwnselydd a fynychoedd yr ysgol bob wythnos ac a wnaeth i mi deimlo yn ddigon cyfforddus i siarad ynglŷn â beth oedd yn achosi trafferth i mi a sut i ddelio gyda hynny yn well.”
Sut bydd fy ngwybodaeth yn cael ei storio?
Efallai dy fod yn poeni ynglŷn â beth fydd gweithwyr proffesiynol yn ei wneud gyda dy wybodaeth. Er enghraifft, os wyt ti’n meddwl y bydd dy gwnselydd ysgol yn cadw dy nodiadau yn rhywle y gall disgyblion eraill eu gweld.
Mae’r gyfraith yn datgan y dylid cadw dy wybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y dylid ei storio yn ddiogel fel na ellir ei dileu, ei cholli, ei dwyn na’i gweld yn ddamweiniol gan rywun arall.
Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gall gweithwyr proffesiynol gadw dy wybodaeth yn ddiogel. Er enghraifft, gallen nhw gadw dy nodiadau mewn ffolder sydd wedi’i diogelu gan gyfrinair ar gyfrifiadur, neu mewn cwpwrdd ffeilio sydd wedi cael ei gloi.
Os nad wyt ti’n siŵr sut bydd dy wybodaeth yn cael ei storio, gelli di ofyn i’r unigolyn yr wyt yn siarad gydag ef. Dylai ef allu dweud wrthyt ti sut bydd yn cael ei chadw yn ddiogel.
Pryd allai fy ngwybodaeth gael ei rhannu?
Fel arfer, mae’n rhaid i ti roi caniatâd i dy wybodaeth gael ei rhannu. Cyfeirir at hyn fel rhoi dy gydsyniad.
Gall pobl rannu dy wybodaeth gyda dy gydsyniad os:
- Wyt ti'n gofyn iddyn nhw wneud. Er enghraifft, os wyt ti’n gofyn i dy feddyg neu dy athro rannu'r hyn a wnest ti ddweud wrthyn nhw gyda dy rieni neu dy ofalwyr.
- Wyt ti'n cytuno i hyn. Er enghraifft, os wyt ti’n cytuno i rannu dy wybodaeth gyda gwasanaeth arall, fel CAMHS, fel y gelli di gael dy atgyfeirio yno.
- Bydd yn dy helpu di i dderbyn gofal da. Er enghraifft, os wyt ti’n cael cefnogaeth gan wasanaeth iechyd meddwl, gellid rhannu dy nodiadau o fewn y gwasanaeth. Gwneir hyn i sicrhau os byddi di’n gweld meddyg gwahanol, bydd yn gwybod sut i dy gynorthwyo.
Mewn rhai sefyllfaoedd, gall fod angen i dy wybodaeth gael ei rhannu heb dy gydsyniad. Gelwir hyn yn ‘torri cyfrinachedd’.
Dylai hyn ddigwydd yn unig os:
- Oes pryderon dy fod ti mewn risg o niwed difrifol neu dy fod mewn perygl. Er enghraifft, os wyt ti wedi dweud wrth rywun dy fod yn cael dy gam-drin, gallan nhw fod angen rhannu hyn er mwyn sicrhau dy fod yn aros yn ddiogel.
- Oes pryderon bod rhywun arall mewn risg o niwed neu'u bod mewn perygl. Er enghraifft, os wyt ti’n dweud wrth rywun fod dy frawd neu dy chwaer yn teimlo fel lladd eu hunain, gallan nhw fod angen rhannu’r hyn a ddywedaist wrth rywun arall. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod dy frawd neu dy chwaer yn parhau i aros yn ddiogel.
- Wyt ti'n methu â dod i benderfyniad ynglŷn â rhannu dy wybodaeth. Er enghraifft, os nad wyt ti'n gallu deall beth wyt ti'n rhoi dy gydsyniad iddo a beth all ddigwydd os wyt ti’n dweud ie neu na.
- Dywedir wrth rywun bod yn rhaid iddyn nhw wneud hyn drwy'r gyfraith. Er enghraifft, os oes angen y wybodaeth ar gyfer achos llys.
Os yw’r gweithiwr proffesiynol angen dweud wrth rywun beth wyt ti wedi’i ddweud wrthyn nhw, dylen nhw bob amser geisio dweud wrthyt ti yn y lle cyntaf.
“Mae'n tawelu fy meddwl o wybod eu bod o ddifrif eisiau'r hyn sydd orau i ti a byddan nhw'n rhannu gwybodaeth yn unig er mwyn dy ddiogelu di a diogelu eraill sydd o dy gwmpas.”
“Roeddwn i wedi dychryn am fy mywyd drwy siarad â gweithiwr proffesiynol y byddai ef yn dweud wrth fy rieni. Gan fy mod o gefndir Asiaidd, mae iechyd meddwl yn bwnc sy'n cael ei anwybyddu a byth yn cael ei drafod; mae stigma ynghlwm ag ef. ”
Mae’n bwysig gwybod na fydd hyn yn digwydd bob amser.
Bydd yr unigolyn yr wyt yn siarad gydag ef yn dymuno gwneud beth sydd orau i ti. Er enghraifft, byddan nhw’n ystyried sut wyt ti’n teimlo bod dy rieni neu dy ofalwyr yn cael gwybod, ac a oes unrhyw risgiau iddyn nhw wybod.
Bydd eu penderfyniad ynghylch a ddylen nhw ddweud wrth rywun arall yn dibynnu ar:
- Eu swydd. Mae’n rhaid i rai gweithwyr proffesiynol, fel therapyddion neu nyrsys, ddilyn rheolau caeth ynghylch cadw dy wybodaeth yn gyfrinachol. Mae eraill, fel athrawon, yn gorfod dilyn polisi eu hysgol. Gall hyn ddweud fod rheini a gofalwyr bob amser angen cael gwybod ynghylch hunan-niweidio.
- Pa mor fawr y maen nhw'n feddwl yw'r risg i dy ddiogelwch di. Os nad ydyn nhw’n meddwl bod risg o niwed difrifol, efallai y gallan nhw dy gefnogi di i reoli dy deimladau heb orfod dweud wrth dy rieni nag wrth dy ofalwyr.
Os nad wyt ti’n siŵr a fydd yr unigolyn yr wyt ti’n siarad gydag ef yn cadw’r hyn a ddywedaist yn breifat, gallet ti ofyn iddo.
Os ydyn nhw’n dweud bod angen iddyn nhw ddweud wrth rywun, gelli di drafod hyn gyda nhw a chytuno ar y ffordd orau o wneud hyn.
Gall hyn deimlo’n wirioneddol ddychrynllyd, ond mae’n bwysig cofio bod datgelu yn gallu dy helpu di i dderbyn yr help a’r gefnogaeth gywir.
I gael rhagor o wybodaeth am hunan-niweidio, gweler ein tudalen am ymdopi â hunan-niweidio.
“Y peth pwysicaf yr ydw i'n ei roi ar ddeall i fyfyrwyr yw na fyddaf byth yn rhedeg o gwmpas gyda golau glas sy'n fflachio ar fy mhen ac yn achosi argyfwng." – Arweinydd Bugeiliol mewn ysgol uwchradd.”
Beth sy'n digwydd os yw rhywun wedi rhannu fy ngwybodaeth yn anghywir?
Dyma pryd mae gweithwyr proffesiynol yn rhannu dy wybodaeth heb dy gydsyniad neu reswm dilys arall. Er enghraifft, os yw dy feddyg wedi anfon llythyr ynglŷn â dy atgyfeiriad CAMHS at rywun arall.
Os yw gweithwyr proffesiynol yn rhannu dy wybodaeth yn anghywir, gall fod yn ddryslyd iawn, ond mae rhai pethau y gelli di eu gwneud:
- Gofynna pam y rhannwyd dy wybodaeth. Cysyllta â’r unigolyn neu’r sefydliad a rannodd dy wybodaeth er mwyn darganfod pam y cafodd ei rhannu. Dylet ti hefyd ofyn am gopi o’u polisi ynglŷn â chyfrinachedd.
- Os nad ydyn nhw'n ymateb neu rwyt ti'n teimlo nad wyt ti'n cael dy drin yn deg, gelli di gwyno. Gelli di ofyn i’r gwasanaeth neu’r sefydliad yr wyt ti’n cwyno amdano sut i wneud hyn. Gallan nhw ofyn efallai i ti ysgrifennu llythyr i gwyno neu gwblhau ffurflen. Efallai y gelli di hefyd ddarllen copi o’u polisi cwynion sydd ar eu gwefan.
Os wyt ti’n parhau i fod yn anfodlon â’r modd y rhannodd y sefydliad dy wybodaeth, gallet ti siarad â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG).
Eu gwaith nhw yw sicrhau bod sefydliadau yn diogelu’r wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanom ni. Gallan nhw hefyd ymchwilio i gwynion ynglŷn â’r ffordd y mae sefydliadau yn ymdrin â gwybodaeth. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, darllena wefan SCG.
Sut gallaf i weld beth sydd yn fy ffeiliau a'm cofnodion?
Efallai y byddi angen gweld pa wybodaeth sydd gan leoedd fel dy ysgol neu CAMHS amdanat ti yn eu cofnodion.
Ambell waith, gall fod yn eithaf hawdd gweld y wybodaeth hon. Er enghraifft, gallet ti ofyn i dy therapydd ddangos y nodiadau y mae ef wedi’u cymryd yn ystod dy sesiynau, a gall ef rannu hyn gyda thi yn syth.
Ond mewn sefyllfaoedd eraill, efallai y gelli di fod angen anfon e-bost neu lythyr i ofyn am y wybodaeth hon. Pan wyt ti’n gofyn am y wybodaeth hon, gelwir hyn yn ‘gais gan y testun am fynediad at ddata’.
Fel arfer, bydd y sefydliad yn cymryd un mis i ateb i dy gais. Ond os yw’r cais yn un cymhleth iawn, gallan nhw gymryd ychydig mwy o amser. Nid oes hawl ganddyn nhw godi tâl arnat i wneud hyn.
Mae ychydig o sefyllfaoedd pan all sefydliad wrthod dy gais. Mae hyn yn cynnwys:
- os ydyn nhw’n meddwl nad wyt ti mewn gwirionedd angen y wybodaeth a dy fod yn gofyn amdano er mwyn achosi problemau iddyn nhw
- os wyt ti’n parhau i ofyn am yr un wybodaeth neu wybodaeth debyg
- os ydyn nhw’n meddwl y gall rhannu’r wybodaeth achosi niwed difrifol i ti neu i rywun arall.
Os nad wyt ti’n fodlon â’u hymateb neu dy fod yn teimlo nad wyt ti’n derbyn gwrandawiad, gallet ti gwyno wrth SCG. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, darllena wefan SCG.
Therapist
This is a trained professional who runs or supervises your therapy. Therapists help you explore how you’re thinking, feeling and behaving, and what can help you in the future.
You may hear the terms therapist or counsellor used, but they mean the same thing.
Visit our full treatment and support glossaryCounsellor
Counsellors listen to you and give you a safe space to explore how you’re thinking, feeling and behaving.
They can help you talk through problems or situations that are affecting you, and help you find ways to cope.
You may hear the terms counsellor or therapist used, but they mean the same thing.
Visit our full treatment and support glossaryChild and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that can support you with your mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same thing:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS).
- In England and Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS).
Find out more in our CAMHS information hub.
Advocate
Advocates can help you speak up about things that are important to you. And help make sure your voice is heard.
In some situations, you will have a legal right to have an advocate. This is called statutory advocacy.
Even if you don’t have a right to an advocate, there are other types of advocacy that can help you get your voice heard.
See our page on advocacy for more information.
Policy
This is a document that sets out how an organisation will act in certain situations.
For example, a transition policy should explain how an organisation will manage you leaving their service.
Consent
This is when you agree to something, like going into hospital or having treatment.
You can’t consent to something unless you are competent to (if you’re 15 or below), or you have capacity (if you’re 16 or above).
Being competent or having capacity means that you understand what you’re consenting to and what might happen if you say yes or no to it.
Visit our full treatment and support glossary
Referral
This is a request to a service which asks them to review:
- How you’re feeling
- What support you need
The referral helps explain to the new service why they should see you and what the best way to help you might be.
Sometimes referrals can be made by yourself, a family member or social worker. But they’re often made by your doctor as they understand your medical history.
Cyhoeddwyd: Mai 2021
Rydyn ni’n gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.
