Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall fy hawliau – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc i dy helpu di i ddeall beth yw hawliau, pa hawliau sydd gen ti o ran dy iechyd meddwl a beth i’w wneud os wyt ti’n teimlo nad yw dy hawliau yn cael eu parchu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Deall fy hawliau

Mae hawliau gan bawb.

Pan rydyn ni’n sôn am hawliau, rydyn ni’n golygu:

  • dy hawliau i wneud pethau, fel cael llais mewn penderfyniadau amdanat ti
  • dy hawliau i gael pethau, fel bwyd, llety a gofal iechyd
  • dy hawl i gael dy drin mewn ffordd benodol, fel cael dy amddiffyn rhag cael dy gam-drin.

Mae’n bwysig deall beth yw dy hawliau i ti gael sicrhau dy fod yn cael dy drin yn deg, a dy fod ti’n cael dy ddiogelu a dy gefnogi fel sydd angen.  

Ar y dudalen hon, mae gwybodaeth am y canlynol:  

Pa hawliau sydd gen i?

Rydyn ni’n rhannu llawer o’r un hawliau, ond hefyd mae gennym ni rhai hawliau gwahanol yn ôl ein hoedran a’n anghenion. Efallai nad wyt ti’n sylweddoli hyn, ond mae hawliau’n rhan o’n bywyd bob dydd.

Dyma rai o’r hawliau sydd gen ti:

  • Ym mhobman – yr hawl i dy gredoau neu grefydd, a’r hawl i gael dy amddiffyn rhag trais a cham-drin
  • Gartref – yr hawl i safon byw, fel arian, bwyd a llety sy’n cwrdd â dy anghenion
  • Yn yr ysgol neu’r coleg – yr hawl i addysg hyd yn oed os nad wyt ti’n mynd i’r ysgol, os wyt ti mewn ysbyty neu fel person ifanc yn y ddalfa
  • Yn y gwaith – yr hawl i egwyl, amser i ffwrdd am wyliau ac i gadw’n ddiogel
  • Wrth dderbyn gofal – yr hawl i’r gofal iechyd gorau posibl a’r hawl i sicrhau bod staff gofal iechyd yn cadw dy wybodaeth bersonol yn breifat.

Os wyt ti’n byw yng Nghymru, gelli di ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Canolfan Gyfreithiol y Plant.

Os wyt ti’n byw yn Lloegr, gelli di ffeindio allan am dy hawliau gwahanol ar wefan the Law Stuff.

Pryd oes mwy neu lai o hawliau gen i?

Weithiau, efallai bydd hawliau ychydig yn wahanol gen ti os:

Rwyt ti mewn gofal neu wedi bod yn y gorffennol – Os wyt ti’n byw yng Nghymru, cer i wefan Voices from Care Cymru. Os wyt ti’n byw yn Lloegr, mae mwy o wybodaeth ar wefannau Coram Voice neu Become.  

Rwyt ti’n blentyn ar ben dy hun sy’n ceisio lloches – Os wyt ti’n byw yng Nghymru, cer i wefan Canolfan Gyfreithiol y Plant. Os wyt ti’n byw yn Lloegr, mae mwy o wybodaeth ar wefan The Law Stuff.

Pa hawliau sydd gen i o ran fy iechyd meddwl?

Mae llawer o hawliau gen ti sy’n ymwneud â dy iechyd meddwl. Dyma rai ohonyn nhw:

Dylai pob darn o wybodaeth bersonol y mae gweithwyr proffesiynol yn ei gadw amdanat ti gael eu cadw’n breifat. Felly, os wyt ti’n siarad â gweithwyr iechyd, dy ysgol, gweithwyr cymdeithasol, eiriolwyr neu dy gyflogwr am dy iechyd meddwl, dylai’r wybodaeth aros rhyngoch chi, oni bai eu bod nhw’n dweud yn wahanol.

Weithiau, efallai bydd dy wybodaeth yn cael ei rhannu am y rhesymau canlynol:

  • I ti gael gofal o safon. Er enghraifft, bydd dy feddyg yn ysgrifennu popeth rwyt ti’n ei ddweud wrthyn nhw mewn apwyntiad i lawr. Bydd meddygon eraill sy’n gweithio yn yr un lle yn gallu gweld y nodiadau hyn, felly os oes gen ti apwyntiad gyda meddyg gwahanol, bydd dim rhaid i ti esbonio popeth eto.
  • I ti gael dy gyfeirio at wasanaeth arall, fel meddyg arbenigol. Dylen nhw ddweud wrthot ti os ydyn nhw’n bwriadu gwneud hyn.
  • Os ydyn nhw’n poeni dy fod di neu rywun arall mewn perygl. Fel arfer, dylen nhw ddweud wrthot ti eu bod nhw’n mynd i wneud hyn, oni bai fod dweud wrthot ti’n mynd i roi rhywun arall mewn perygl.

Os wyt ti’n poeni ynghylch cyfrinachedd, gelli di bob amser sôn am y peth gyda’r gweithiwr proffesiynol rwyt ti’n siarad â nhw, a dylen nhw sôn am y rheolau sy’n rhaid iddyn nhw eu dilyn.

Mae hawl gen ti hefyd i weld dy wybodaeth bersonol, fel beth mae dy feddyg wedi ysgrifennu yn dy nodiadau meddygol.

I wybod mwy am dy hawl i gyfrinachedd, cer i wefan Anna Freud.

Os oes gen ti anabledd neu’n ei chael hi’n anodd yn yr ysgol o ganlyniad i dy iechyd meddwl, efallai bod hawl gen ti i gefnogaeth ychwanegol, fel:

  • Lle diogel i fynd amser cinio neu rhwng gwersi
  • Help ychwanegol gan athro/athrawes neu gynorthwyydd
  • Amser ychwanegol i gymryd arholiadau neu brofion.

Os wyt ti’n credu y byddai hyn yn ddefnyddiol neu eisiau cael gwybod mwy, gelli di siarad â dy ysgol neu goleg i ffeindio allan pa help sydd ar gael i ti.

Os wyt ti’n byw yng Nghymru, cer i wefan Canolfan Gyfreithiol y Plant. Os wyt ti’n byw yn Lloegr, mae mwy o wybodaeth ar wefan The Law Stuff.

Dylet ti bob amser gael llais mewn penderfyniadau amdanat ti, fel y canlynol:

  • Y driniaeth a’r gefnogaeth rwyt ti’n eu derbyn
  • Pwy sy’n gwybod am dy broblem iechyd meddwl
  • Y gefnogaeth rwyt ti’n ei chael yn yr ysgol.

Dylai’r bobl sy’n ymwneud â dy ofal, dy gefnogaeth a dy addysg wrando ar dy safbwyntiau a dy farn.

Os oes gen ti broblem iechyd meddwl, efallai bydd hawliau ychwanegol gen ti i atal rhagfarn yn dy erbyn di. Mae hyn yn golygu na ddylai pobl dy drin yn annheg o achos dy iechyd meddwl.

Gall hyn fod yn yr ysgol, y gwaith, neu pan rwyt ti’n derbyn gofal iechyd neu ofal cymdeithasol.

Os oes angen i ti fynd i’r ysbyty am dy iechyd meddwl, mae gen ti hawliau am y canlynol:

  • Dy benderfyniad i fynd mewn a gadael
  • Sut rwyt ti’n cael dy drin pan fyddi di’n aros yno
  • Parhau gyda dy addysg
  • Y gallu i siarad â dy deulu
  • Y mathau o driniaeth rwyt ti’n eu derbyn.

Weithiau, efallai na fydd dewis gen ti am y penderfyniad i dy anfon i’r ysbyty. Cael dy ddal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, neu sectioning yn Saesneg, yw’r enw am hyn. Pan rwyt ti’n cael dy ddal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, rwyt ti’n cael dy gadw yn yr ysbyty i dy gadw di neu rywun arall yn ddiogel.

Os wyt ti’n cael dy ddal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd dy hawliau yn wahanol, ond dylid gwrando ar dy farn a dy safbwyntiau.

Cer i wefan Young Minds am ragor o wybodaeth, ac am straeon go iawn am dy hawliau yn yr ysbyty.  

Os nad wyt ti’n hapus am y driniaeth rwyt ti’n ei derbyn ar gyfer dy iechyd meddwl, mae gen ti hawl i gwyno. Er enghraifft:

  • Os nad wyt ti’n cael y driniaeth na’r gefnogaeth rwyt ti eisiau
  • Os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n cael dy drin yn y ffordd gywir gan weithiwr proffesiynol
  • Os nad wyt ti’n cytuno â dy ddiagnosis.

I ddod o hyd i fwy o wybodaeth, cer i’n hadran am Beth os yw fy hawliau’n cael eu hanwybyddu.

O ble mae ein hawliau ni’n dod? 

Mae hawliau’n dod o lawer o leoedd gwahanol.

Mae deall o ble maen nhw’n dod yn gallu dy helpu di i ffeindio allan beth i wneud os ydyn nhw’n cael eu hanwybyddu.

Cyfreithiau – mae’r rhan fwyaf o’n cyfreithiau ni’n dod o Lywodraethau Cymru a’r DU. Mae’r rhain yn dweud beth mae pobl yn y DU yn gallu ac yn methu gwneud, a pha gefnogaeth dylai fod gyda nhw. Maen nhw hefyd yn dweud pa bobl neu sefydliadau sydd â chyfrifoldeb drosom ni.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (UNCRC) – dyma set o safonau rydyn ni’n eu dilyn yn y DU sy’n rhestru’r hawliau y dylai pobl plentyn eu cael. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawliau i ymlacio a chwarae, i fynegi dy hun yn eglur a chael addysg. Am fwy o wybodaeth am y Confensiwn, cer i wefan Comisiynydd Plant Cymru, neu Unicef.

Polisïau a chanllawiau – mae pob gweithiwr proffesiynol, fel dy feddyg, tîm CAMHS (gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol plant a phobl ifanc), athrawon a gweithwyr cymdeithasol yn dilyn set lym o reolau. Dim cyfreithiau yw’r rhain, ond maen nhw’n dweud wrth weithwyr proffesiynol sut i ymddwyn a sut y dylech chi gael eich trin.

Sut alla i ffeindio allan os oes gen i hawl i rywbeth?

Efallai nad wyt ti’n siŵr os oes gen ti hawl i rywbeth, fel defnyddio dy ffôn tra dy fod di’n aros yn yr ysbyty.

Dyma ambell i ffordd o ffeindio allan:

Hola’r gwasanaeth neu’r sefydliad os oes polisi gyda nhw am y pethau maen nhw’n eu darparu neu unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddyn nhw amdanat ti. Gall hyn gynnwys dy ysgol, dy feddygfa, neu wasanaethau CAMHS lleol.

Chwilia am wybodaeth ar lein. Mae llawer o wefannau ar gael i ti ddod o hyd i wybodaeth am dy hawliau.

Childline – am wybodaeth gyffredinol am hawliau.

Canolfan Gyfreithiol y Plant – am wybodaeth ar amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â hawliau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

LawStuff – am wybodaeth ar amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â hawliau i blant a phobl ifanc yn Lloegr. Maen nhw hefyd yn darparu gwasanaeth lle gelli di anfon cwestiwn atyn nhw a byddan nhw’n dy e-bostio di nôl.

Anna Freud – am wybodaeth am dy hawliau ynghylch cyfrinachedd, opsiynau triniaeth, capasiti meddyliol, caniatâd gan rieni a chael dy ddal dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Young Minds – am wybodaeth am dy hawliau tra dy fod yn yr ysbyty.

Beth os yw fy hawliau’n cael eu hanwybyddu?

Weithiau, mae pethau yn mynd yn anghywir a dydyn ni ddim yn derbyn y pethau y mae hawl gennym ni iddyn nhw. Gall hyn fod yn anodd iawn, ond mae nifer o bethau y gelli di eu gwneud fel y canlynol:

Siarad ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw – fel rhiant, athro, neu athrawes. Byddan nhw’n gallu trafod pethau gyda ti a dy helpu di i benderfynu beth i wneud nesaf.

Cael cefnogaeth oddi wrth eiriolydd – mae eiriolwyr (advocates) yn bobl sy’n gallu dy helpu di i ddeall dy hawliau, mynd i gyfarfodydd gyda ti, dy helpu i fynegi dy farn ac i gael y gefnogaeth rwyt ti’n ei haeddu. Gall fod yn ffrind agos neu’n aelod o’r teulu, neu gall fod yn eiriolydd proffesiynol.

Ble alla i ddod o hyd i eiriolydd proffesiynol?

I ddod o hyd i eiriolydd, efallai byddai o help i ti holi dy feddyg os ydyn nhw’n ymwybodol am unrhyw wasanaethau eiriolaeth lleol.

Os wyt ti’n byw yng Nghymru – cysyllta â’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol.    

Os wyt ti’n byw yn Lloegr – gelli di hefyd gysylltu â VoiceAbility neu POhWER sy’n sefydliadau elusennol yn darparu gwasanaethau eiriolaeth yn rhad ac am ddim.

Siarad â’r sefydliad – gelli di ddweud wrthyn nhw beth yw dy hawl a sut mae’r hyn maen nhw wedi wneud wedi dy effeithio di. Gall dy rieni neu dy eiriolydd dy helpu di i wneud hyn.

Cwyno – dylai bob sefydliad neu wasanaeth gael proses gwyno. Gelli di ofyn iddyn nhw i esbonio’r broses hon a sut i gwyno. Gall dy riant neu dy eiriolydd dy helpu i wneud hyn. Gall dy riant neu dy ofalwr hefyd gwyno ar dy ran os wyt ti eisiau.

Os wyt ti wedi rhoi tro ar y pethau hyn i gyd ond nad ydyn nhw wedi helpu, efallai byddai’n syniad i ti siarad â chyfreithiwr. Maen nhw’n gallu esbonio dy opsiynau a chadarnhau os y gelli di neu dy deulu gymryd camau cyfreithiol. Cer i’r wefan Cymdeithas y Gyfraith (The Law Society) am wybodaeth ynghylch dod o hyd i gyfreithiwr.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mai 2020. Byddwn yn ei hadolygu yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig