Ymateb Mind Cymru i adroddiad Comisiynydd Plant Cymru
Friday, 12 February 2021
Mind
Wrth ymateb i adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, dywedodd Nia Evans, Rheolwr Plant a Phobl Ifanc yn Mind Cymru: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos yr effaith ddifrifol mae'r cyfnod clo wedi'i chael ar iechyd meddwl ein plant. Mae'r arolwg hwn o bron i 20,000 o leisiau ifanc yn cryfhau ein galwad ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mynediad at gymorth iechyd meddwl o ansawdd da i bob person ifanc ledled Cymru.