Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall cyfrinachedd – i bobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc sy'n esbonio pryd y gallai gwybodaeth am dy iechyd meddwl gael ei rhannu, neu pryd y dylai gael ei chadw'n breifat.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Rhannu dy wybodaeth iechyd meddwl

Yn aml, siarad am ein hiechyd meddwl gyda gweithwyr proffesiynol yw’r cam cyntaf ar y llwybr at gael help. Ond gall hefyd deimlo'n frawychus i siarad â rhywun am hyn.

Efallai na fyddwn ni’n siŵr beth fyddan nhw’n ei wneud gyda'r wybodaeth. Neu efallai y byddwn ni’n poeni y byddan nhw’n ei rhannu gyda phobl eraill, fel ein teulu a'n ffrindiau.

Rydyn ni yma i dy helpu i ddeall pam y gallai fod angen i weithwyr proffesiynol rannu dy wybodaeth, a phryd y dylen nhw ei chadw'n breifat.

Pan o’n i'n chwilio am ffyrdd i helpu fy hun, ro’n i'n rhy ofnus i ddweud wrth unrhyw un pa mor anodd roedd pethau i fi achos do’n i ddim eisiau i fy rhieni wybod.

Beth yw cyfrinachedd?

Mae cyfrinachedd yn ymwneud â chadw ein gwybodaeth bersonol yn breifat ac yn ddiogel. Os yw ein gwybodaeth yn gyfrinachol, ni ddylai unrhyw un ei rhannu oni bai ein bod ni’n cytuno i hynny. 

Mae'n golygu, pan fyddwn ni’n siarad â gweithwyr proffesiynol am ein hiechyd meddwl, na ddylen nhw ddweud wrth neb arall beth rydyn ni wedi'i ddweud. 

Mae'r wybodaeth y dylai gweithwyr proffesiynol ei chadw'n gyfrinachol yn cynnwys: 

 

  • Dy enw a dy fanylion cyswllt

  • Manylion unrhyw broblemau corfforol neu iechyd meddwl sydd gennyt ti 

  • Manylion unrhyw feddyginiaeth, triniaeth neu gynllun gofal sydd gennyt ti 

  • Unrhyw beth rwyt ti wedi siarad amdano mewn apwyntiadau neu gyfarfodydd 

  • Beth mae rhywun wedi'i ysgrifennu amdanat ti mewn apwyntiadau 

  • Beth mae rhywun wedi'i ysgrifennu yn dy gofnodion 

 

Er enghraifft, os oes gennyt ti bresgripsiwn am feddyginiaeth gorbryder, all dy feddyg ddim dweud wrth dy gwnselydd ysgol, hyd yn oed os bydd yn gofyn. Bydd angen i dy feddyg gadw'r wybodaeth hon yn gyfrinachol. 

Mae'r gyfraith hefyd yn dweud y dylai ein gwybodaeth gyfrinachol fod yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y dylai gael ei storio'n ddiogel fel na all gael ei: 

 

  • Cholli 

  • Dwyn 

  • Gweld gan rywun arall 

  • Dileu ar ddamwain 

Dy hawliau iechyd meddwl

Yn ogystal â hawliau sy'n gysylltiedig â chyfrinachedd, mae gan bob un ohonon ni hawliau eraill sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. 

Cyfrinachedd ac iechyd meddwl

Mae llawer o weithwyr proffesiynol y gallwn ni siarad â nhw yn breifat am ein hiechyd meddwl. Mae rhai o'r rhain yn cynnwys: 

 

  • Meddygon  

  • Nyrsys 

  • Athrawon 

  • Gweithwyr cymdeithasol 

  • Therapyddion neu gwnselwyr 

  • Cwnselwyr ysgol 

  • Cwnselwyr yn ein gweithle 

  • Ein tîm Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) 

  • Eiriolwyr proffesiynol 

  • Gwasanaethau llinell gymorth, fel Childline 

 

Pan fyddwn ni’n gwybod ein bod ni’n siarad â nhw’n breifat, gall hyn ein helpu ni i deimlo'n ddiogel a siarad am beth rydyn ni’n mynd drwyddo. 

Ond hyd yn oed os byddwn ni’n siarad yn breifat, dyw hynny ddim bob amser yn golygu y bydd y wybodaeth rydyn ni’n ei rhannu’n cael ei chadw'n gyfrinachol.

Pwy sy'n gorfod cadw fy ngwybodaeth yn gyfrinachol? 

Mae'n rhaid i feddygon a therapyddion ddilyn rheolau arbennig ar ofalu am ein gwybodaeth gyfrinachol. 

Ond efallai y bydd angen i fathau eraill o weithwyr proffesiynol, fel athrawon, ddilyn polisi eu hysgol neu goleg eu hunain, sy'n ceisio ein cadw ni’n ddiogel. Mae'n bwysig gwybod y bydd y polisïau hyn ychydig yn wahanol ym mhobman. 

decorative

Os nad wyt ti’n siŵr neu os wyt ti’n poeni am dy wybodaeth gyfrinachol, hola’r person rwyt ti’n siarad â nhw. 

Gallan nhw esbonio'r rheolau y mae'n rhaid iddyn nhw eu dilyn, beth fydd yn digwydd gyda'r wybodaeth rwyt ti’n ei rhannu a’r sefyllfaoedd pan fydd angen iddyn nhw rannu. 

Os byddi di’n siarad gyda ffrindiau a theulu, dylen nhw barchu dy breifatrwydd gyda beth rwyt ti wedi'i ddweud wrthyn nhw, oni bai dy fod ti wedi cytuno y gallan nhw ei rannu. 

Ond yn wahanol i rai gweithwyr proffesiynol, does dim rhaid i deulu a ffrindiau gadw dy wybodaeth yn gyfrinachol. Efallai y byddan nhw eisiau dweud wrth rywun arall beth rwyt ti wedi'i ddweud os ydyn nhw'n poeni amdanat ti, neu os oes angen cymorth arnyn nhw eu hunain. 

I gael rhagor o wybodaeth, darllena ein tudalen ar siarad â phobl eraill. 

Pan ddechreuais i ymwneud â CAMHS, ro’n i wedi cau fy hun i ffwrdd achos ro’n i’n poeni y byddai pethau'n mynd ’nôl at fy rhieni, fel bod yn cwîar. Byddai wedi bod yn llawer gwell os byddwn i wedi gwybod sut y byddai CAMHS yn trin fy ngwybodaeth, ac wedi gwybod mwy am gyfrinachedd.

Young Person Looking Into School Bathroom Mirror

Torri cyfrinachedd

Fel arfer, mae'n rhaid i ni gytuno i adael i rywun rannu ein gwybodaeth gyfrinachol. Rhoi caniatâd yw’r enw ar hyn. 

Ond mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i rywun rannu ein gwybodaeth heb ein caniatâd. 'Torri cyfrinachedd' yw hyn. 

Dylai gweithwyr proffesiynol dorri cyfrinachedd dim ond: 

  • Os ydyn nhw’n poeni dy fod ti’n wynebu risg o niwed difrifol neu mewn perygl. Er enghraifft, os wyt ti wedi dweud wrth rywun dy fod ti’n cael dy gam-drin, dylen nhw rannu hyn er mwyn sicrhau dy fod ti’n ddiogel. 

  • Os ydyn nhw’n poeni bod rhywun arall yn wynebu risg o niwed difrifol neu mewn perygl. Er enghraifft, os wyt ti’n dweud wrth athro fod dy ffrind yn yr ysgol yn hunan-niweidio, efallai y bydd angen iddyn nhw rannu beth rwyt ti wedi'i ddweud â rhywun arall. Mae hyn i sicrhau bod dy ffrind yn aros yn ddiogel. 

  • Os nad wyt ti’n gallu gwneud y penderfyniad am rannu dy wybodaeth. Er enghraifft, os nad wyt ti’n gallu deall beth rwyt ti’n rhoi caniatâd iddo a beth allai ddigwydd os byddi di’n dweud ie neu na. 

  • Os bydd yn rhaid iddyn nhw rannu, yn ôl y gyfraith. Er enghraifft, os oes angen y wybodaeth ar gyfer achos llys. 

 

Os oes angen i'r gweithiwr proffesiynol dorri dy gyfrinachedd, dylen nhw bob amser geisio dweud wrthyt ti yn gyntaf. 

decorative

Os oes rhai pethau nad wyt ti am iddyn nhw gael eu rhannu â phobl benodol, dweda wrth y person rwyt ti’n siarad â nhw. 

Cofia, os byddi di’n penderfynu nad wyt ti am i rywun rannu dy wybodaeth mwyach, galli di dynnu dy ganiatâd yn ôl ar unrhyw adeg. 

Hunan-niweidio a thorri cyfrinachedd

Os nad wyt ti am i dy rieni, gofalwyr neu warcheidwaid wybod dy fod ti’n hunan-niweidio, fe allet ti fod yn poeni am ddweud wrth weithiwr proffesiynol. 

Mae'n bwysig gwybod na fyddan nhw bob amser yn rhannu hyn gyda dy rieni, gofalwyr neu warcheidwaid. 

Os byddi di’n dweud wrth rywun am dy hunan-niweidio, byddan nhw eisiau gwneud beth sydd orau i ti. Er enghraifft, byddan nhw’n ystyried sut rwyt ti’n teimlo am dy rieni, gofalwyr neu warcheidwaid yn gwybod, ac a oes unrhyw risgiau iddyn nhw wybod. 

Bydd eu penderfyniad ynghylch a ddylid dweud wrth rywun arall am dy hunan-niweidio yn dibynnu ar:  

 

  • Ei swydd. Mae'n rhaid i rai gweithwyr proffesiynol, fel therapyddion neu nyrsys, ddilyn rheolau llym ar gadw dy wybodaeth yn gyfrinachol. Rhaid i eraill, fel athrawon, ddilyn polisi eu hysgol eu hunain. Gallai eu polisi ddweud bod angen i athrawon ddweud wrth rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid bob amser am hunan-niweidio. 
  • Pa mor fawr maen nhw'n meddwl yw'r risg i dy ddiogelwch. Os nad ydyn nhw’n credu bod risg o niwed difrifol, efallai y byddan nhw’n gallu dy gefnogi i reoli dy deimladau heb orfod dweud wrth neb arall. 

 

Os nad wyt ti’n siŵr a fydd y person rwyt ti’n siarad â nhw yn cadw beth rwyt ti wedi'i ddweud yn breifat, galli di ofyn iddyn nhw. 

Os ydyn nhw'n dweud bod angen iddyn nhw ddweud wrth rywun, galli di drafod hyn gyda nhw a chytuno ar y ffordd orau o wneud hyn. 

Efallai y bydd hyn yn teimlo'n frawychus, ond mae'n bwysig cofio y gall siarad dy helpu i gael y driniaeth a'r gefnogaeth gywir. 

Deall hunan-niweidio

Darllena wybodaeth am ddeall hunan-niweidio, sut i siarad am y peth a ble i fynd am gefnogaeth. 

Siaradais i â chwnselydd a oedd yn dod i’r ysgol yn wythnosol a helpodd fi i deimlo'n ddigon cyfforddus i siarad am fy mhroblem, a sut i ddelio â’r peth yn well.

Ro’n i’n ofni’n fawr y byddai fy rhieni'n dod i wybod trwy siarad â gweithiwr proffesiynol. Gan fy mod i o dras Asiaidd, mae iechyd meddwl yn bwnc sy'n cael ei anwybyddu a byth yn cael ei drafod; mae stigma ynghlwm wrtho.

Rhannu gwybodaeth gyfrinachol 

Gyda dy ganiatâd, gallai gweithiwr proffesiynol rannu dy wybodaeth os: 

 

  • Rwyt ti’n gofyn iddyn nhw ei rhannu gyda rhywun arall. Er enghraifft, os byddi di’n gofyn i dy feddyg neu athro rannu pethau penodol am beth rwyt ti wedi ei ddweud wrthyn nhw gyda dy rieni, gofalwyr neu warcheidwaid. 

  • Rwyt ti’n cytuno ar ôl iddyn nhw ofyn i rannu. Er enghraifft, efallai y byddi di’n hapus i weithiwr proffesiynol rannu dy wybodaeth gyda gwasanaeth arall, fel CAMHS, fel y galli di gael atgyfeiriad. 

  • Bydd rhannu yn dy helpu i gael y gofal cywir. Er enghraifft, os wyt ti’n cael cymorth gan wasanaeth iechyd meddwl, gallai dy nodiadau gael eu rhannu o fewn y gwasanaeth. Mae hyn i sicrhau, os byddi di’n gweld meddyg gwahanol, y bydd yn gwybod sut i dy gefnogi. 

Mae gwybod eu bod nhw wir eisiau beth sydd orau i fi yn rhoi tawelwch meddwl i fi, a byddan nhw ond yn rhannu gwybodaeth i’ch diogelu chi ac eraill o'ch cwmpas.
 

Ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun 

Galli di ofyn i bobl neu sefydliadau rannu'r wybodaeth gyfrinachol sydd ganddyn nhw amdanat ti. 'Cais am fynediad at ddata gan y testun' yw hyn. 

Er enghraifft, efallai y byddi di eisiau copi o'r wybodaeth y mae dy ysgol neu CAMHS yn ei chadw amdanat ti yn eu cofnodion. 

Fel arfer bydd angen i ti anfon e-bost neu lythyr i ofyn am y wybodaeth. Yn dibynnu ar beth sydd ei angen arnat ti, efallai y byddan nhw hefyd yn codi ffi am anfon y wybodaeth atat ti. 

Os nad wyt ti’n teimlo'n gyfforddus neu'n ddigon da i wneud hyn dy hun, fe allet ti ofyn i oedolyn dibynadwy neu eiriolwr dy helpu. 

 

Mynediad at ddata gan y testun

Lawrlwytha ein templed i ysgrifennu llythyr neu e-bost yn esbonio pa wybodaeth rwyt ti am ei gweld. 

Mae ’na ambell sefyllfa pan y gall sefydliad ddweud na wrth dy gais. Er enghraifft: 

 

  • Os wyt ti’n gofyn am yr un wybodaeth neu wybodaeth debyg dro ar ôl tro 

  • Os ydyn nhw’n credu y gallai rhannu'r wybodaeth achosi niwed difrifol i ti neu i rywun arall 

  • Os nad ydyn nhw’n credu bod gennyt ti reswm dilys dros ofyn am y wybodaeth 

 

Os nad ydynt yn ymateb o fewn 1 mis, os nad wyt ti'n hapus gyda'u hymateb, neu os wyt ti'n teimlo nad ydynt yn gwrando, gallet ti cwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

 

Beth os nad oedd rhywun i fod i rannu? 

Weithiau gallwn ni gael problemau gyda gwybodaeth gyfrinachol. Mewn rhai achosion, gallai gweithiwr proffesiynol dorri cyfrinachedd heb geisio ein rhybuddio ni yn gyntaf. Neu efallai y byddan nhw’n rhannu ein gwybodaeth heb reswm dilys, neu’n ei rhannu â'r person anghywir trwy gamgymeriad. 

Os yw gweithwyr proffesiynol yn rhannu dy wybodaeth ar gam, gallai hynny beri gofid mawr, ond mae ’na bethau y galli di eu gwneud: 

 

  • Gofynna pam y cafodd dy wybodaeth ei rhannu. Cysyllta â'r person neu'r sefydliad a rannodd dy wybodaeth i weld pam y gwnaethon nhw ei rhannu. Dylet ti hefyd ofyn am gopi o'u polisi cyfrinachedd. 

  • Os nad ydyn nhw’n ymateb neu os wyt ti’n teimlo nad ydyn nhw’n dy drin yn deg, galli di gwyno. Dylai'r gwasanaeth neu'r sefydliad rwyt ti’n cwyno amdano egluro sut i wneud hyn. Fel arfer, bydd angen i ti ysgrifennu llythyr. 

 

Ar ôl cwyno, os wyt ti’n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, fe allet ti siarad â'r ICO. 

Eu gwaith nhw yw sicrhau bod sefydliadau'n gofalu am y wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanom ni. I ddysgu mwy am wneud cwyn am gyfrinachedd, clicia yma i fynd i wefan yr ICO. 

Deall cwynion

Dysga beth mae'n ei olygu i wneud cwyn a chael awgrymiadau ar gyfer y broses.

Mynd i'r cyflwyniad ar gwynion

Darllena am y broses gwyno

Darllena am awgrymiadau ar wneud cwynion

Y peth pwysicaf rwy'n ei ddweud wrth fyfyrwyr yw na fydda’ i byth yn rhedeg o gwmpas gyda golau glas yn fflachio ar fy mhen ac yn troi pethau'n argyfwng – Arweinydd Bugeiliol mewn ysgol uwchradd

Young Person And Teacher Working On Computer

Cyhoeddwyd: Chwefror 2025

Mae'r adolygiad nesaf ar y gweill: Chwefror 2028

Siaradon ni â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl sy'n cael eu harddangos yn y lluniau.Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am ailddefnyddio'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen trwyddedu a throsglwyddo.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig