Mathau o broblemau iechyd meddwl – ar gyfer pobl ifanc
Gwybodaeth i bobl ifanc ar ddeall mathau o broblemau a symptomau iechyd meddwl.
Mathau o broblemau iechyd meddwl
Efallai dy fod di wedi clywed pobl yn sôn cryn dipyn am rai problemau iechyd meddwl, fel iselder neu orbryder, ac wedi clywed llai am rai eraill, fel sgitsoffrenia neu anhwylder deubegwn.
Gall pobl ddioddef o symptomau, naill ai ar eu pen eu hun neu fel rhan o broblem iechyd meddwl, fel gweld rhithiau neu hunan-niweidio.
Does dim un problem iechyd meddwl sy’n waeth na’r llall, ac nid arwydd o wendid yw dioddef problem iechyd meddwl.
Mae’r dudalen hon yn rhoi disgrifiad o fathau gwahanol o broblemau iechyd meddwl a symptomau. Mae hefyd yn mynd i’r afael â’r canlynol:
Ceir mwy o wybodaeth ar ddeall iechyd meddwl yma.
"Dydy cael mwy nag un salwch meddwl ddim yn fy wneud i’n gryfach na’n wannach na rhywun â llai o broblemau iechyd meddwl."
Enghreifftiau o broblemau iechyd meddwl
Does dim rhaid i broblemau iechyd meddwl gael diagnosis gan feddyg. Ond mae rhai pobl yn ystyried bod cael diagnosis o’u problem iechyd meddwl yn gallu bod o gymorth, er mwyn derbyn cefnogaeth.
I bobl eraill, dydy eu teimladau a’u hymddygiad – sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel ‘symptomau’ – ddim yn cyfateb i unrhyw ddiagnosis penodol, ac mae hynny’n iawn hefyd.
“Dydw i erioed wedi teimlo bod diagnosis yn diffinio fy mhroblem yn llawn... rydw i bob amser wedi cymryd yr hyn sy’n ddefnyddiol ynddyn nhw ac anghofio am y gweddill.”
Dyma rai diffiniadau o broblemau iechyd meddwl:
Iselder – pan rwyt ti’n teimlo’n drist, yn isel neu’n ddagreuol am amser hir, ac yn stopio mwynhau dy fywyd bob dydd.
Mae gan Childline fwy o wybodaeth ar iselder a lle i gael help yma.
Gorbryder – pan rwyt ti’n teimlo’n bryderus neu’n ofnus yn aml, weithiau’n profi panig a phyliau o banig, ac mae’n dy atal di rhag byw dy fywyd yn normal.
Os wyt ti’n derbyn diagnosis o orbryder, efallai y byddi di’n cael diagnosis o anhwylder penodol, fel y canlynol:
- Anhwylder gorbryder cyffredinol – poeni cryn dipyn, a’i chael yn anodd stopio poeni am bethau sy’n digwydd bob dydd.
- Anhwylder gorbryder cymdeithasol – teimlo’n ofnus neu’n bryderus iawn mewn sefyllfaoedd cymdeithasol neu wrth feddwl amdanyn nhw, fel partïon neu weithio gyda rhywun arall.
- Ffobia – pryder neu ofn mawr o wedi’i achosi gan sefyllfaoedd neu rywbeth penodol, fel uchderau, corynnod/pry cop, neu fynd yn sâl.
- Anhwylder dysmorffia’r corff – pan rwyt ti’n ystyried bod dy gorff yn aflun (allan o siâp), ac yn meddwl bod rhannau ohono yn ‘hyll’, yn ‘anghywir’ neu’n ‘fwy’ nag ydyn nhw.
- Anhwylder gorbryder obsesiynol – pan fo dy bryderon yn cynnwys cael meddyliau neu ymddygiad ailadroddus, fel edrych i weld os yw drysau wedi’u cloi neu boeni bod rhywun mewn perygl.
- Anhwylder straen wedi trawma – pan fo rhywbeth trawmatig yn digwydd i ti ac rwyt ti’n datblygu problemau gyda gorbryder o ganlyniad i dy brofiad. Gall rhain fod yn hunllefau neu ôl-fflachiadau am y ffordd roeddet ti’n teimlo ar y pryd.
Cer i wefan Childline ar orbryder am ragor o wybodaeth a chyngor ar ble i gael cymorth.
Problemau bwyta – pan rwyt ti’n bwyta llawer mwy neu lawer llai na’r bwyd sydd ei angen arnat ti, neu pan fo gen ti berthynas anodd â bwyd.
Y problemau bwyta mwyaf cyffredin yw:
- Anorecsia – pan rwyt ti’n atal dy hun rhag bwyta digon o fwyd i dy gadw di’n iach.
- Bwlimia – pan rwyt ti’n bwyta llawer o fwyd heb reolaeth, ac yna’n teimlo’n wael ac yn gwneud rhywbeth i’w ‘ddadwneud’ neu wneud i fyny amdano.
- Gorfwyta mewn pyliau (Binge-eating) - pan rwyt ti’n bwyta llawer o fwyd mewn cyfnod byr o amser, yn aml ar dy ben dy hun a heb ddangos.
Cer i wefan Beat ar broblemau bwyta am ragor o wybodaeth a chyngor ar ble i gael cymorth.
Sgitsoffrenia - gall effeithio dy feddyliau a dy ymddygiad dros gyfnod hir o amser. Gall hyn gynnwys drysu dy feddyliau neu dy leferydd, neu weld a chlywed pethau nad yw pobl eraill yn gallu.
Mae gan YoungMinds fwy o wybodaeth ar sgitsoffrenia a lle i gael help yma.
Anhwylder deubegwn – newidiadau mawr mewn hwyliau lle mae'n bosib dy fod di’n mynd trwy gyfnodau manig (teimlo’n ewfforig) a chyfnodau o iselder (teimlo’n isel), sy’n gallu effeithio ar dy fywyd bob dydd.
Mae gan YoungMinds fwy o wybodaeth ar anhwylder deubegwn a lle i gael help yma.
Anhwylderau personoliaeth – pan rwyt ti’n ei chael yn anodd newid rhannau o dy bersonoliaeth sy’n gallu achosi problemau i ti neu i bobl eraill. Gall hyn effeithio ar dy berthnasau, dy sylw, neu dy ymddygiad.
Mae’n anodd eu hadnabod, gan fod nifer o symptomau gwahanol yn bosib, ac yn aml mae’n rhaid i ti eu harddangos am ychydig o flynyddoedd cyn i dy feddyg allu darparu diagnosis.
Mae gan The Mix fwy o wybodaeth ar anhwylderau personoliaeth a lle i gael help yma.
“Mae’n bwysig gwybod nad yw dy frwydrau yn dy ddiffinio di, ac yn y bôn, dy fod di’n gryfach na nhw.”
Beth arall allaf i deimlo?
Mae pob un ohonom ni’n gallu profi teimladau neu ymddygiad sy’n gallu bod yn anodd ymdopi â nhw, fel mynd yn grac neu’n flin mewn dadl neu fynd i banig cyn arholiad.
Ond oes wyt ti’n profi’r teimladau a’r ymddygiad hyn am gyfnod hir o amser, neu’n ei chael hi’n anodd eu rheoli, maen nhw’n gallu bod yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, ac efallai ei fod yn bryd i ti ofyn am help. Mae’r symptomau’n cynnwys y canlynol:
Dicter – emosiwn sy’n iach i’w deimlo ar adegau, ond gall fod yn broblem pan mae’n mynd allan o reolaeth, yn ymosodol neu’n ddinistriol.
Pyliau o banig – ffordd y gall dy gorff ymateb i sefyllfaoedd rwyt ti’n eu hystyried i fod yn peri straen i ti. Mae’n rhan o ymateb naturiol o’r enw’r ymateb ffoi, ymladd neu rewi (flight, fight or freeze reaction). Mae hyn yn broblem pan mae’n dy atal di rhag gwneud pethau rwyt ti fel arfer yn eu mwynhau. Efallai y byddi di’n teimlo dy hun yn dechrau chwysu, teimlo’n sâl, neu’n teimlo dy galon yn curo’n gynt, neu’n teimlo dy fod di’n colli rheolaeth.
Rhithiau (hallucinations) – pan rwyt ti’n synhwyro pethau nad ydyn nhw’n bodoli i bobl eraill, fel clywed lleisiau neu weld pethau. Maen nhw’n fath cyffredin o seicosis, sef pan rwyt ti’n deall realiti mewn ffordd wahanol.
Rhithdybiau (delusions) - pan rwyt ti’n credu nad yw rhywbeth yn wir a bod neb arall yn credu’r peth, fel mai rhywun arall wyt ti, neu fod rhywbeth penodol yn mynd i ddigwydd. Mae rhithdybiau hefyd yn fath o seicosis, a gall pobl â seicosis ystyried y peth i fod yn gadarnhaol neu’n negyddol.
Hunan-niweidio – pan rwyt ti’n gwneud niwed i dy hun er mwyn delio â meddyliau neu brofiadau anodd. Am fwy o gyngor a chefnogaeth ar hunan-niweidio, cer i wefan YoungMinds yma.
Teimladau hunanladdol - teimlo fel petai ti eisiau marw neu beidio byw. Er eu bod nhw’n gallu peri gofid mawr, dydy profi teimladau hunanladdol ddim o reidrwydd yn golygu dy fod di’n bwriadu cymryd dy fywyd dy hun. Cer i dudalennau YoungMinds ar ddod o hyd i gymorth a sut i gefnogi ffrind am ragor o wybodaeth.
“Mae pawb yn ymdopi â phethau’n wahanol, ac mae hyn yn agwedd ar ddeall iechyd meddwl hefyd.”
Beth ddylwn i wneud os ydw i’n teimlo fel cymryd fy mywyd fy hun?
Gall bawb teimlo fel petai nhw eisiau cymryd eu bywyd eu hun ar ryw adeg – os wyt ti eisiau cyngor, cefnogaeth, neu am siarad am bethau gyda rhywun yn gyfrinachol, mae Papyrus yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a linell gymorth.
Os nad wyt ti’n teimlo dy fod di’n gallu cadw dy hun yn ddiogel, yna argyfwng yw hwn.
Gelli di:
- Ddweud wrth oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw, a gofyn iddyn nhw alw am help
- Anfon neges destun gyda YM i Gwasanaeth negeseuo testun YoungMind ar 85258, a bydd cwnselydd yn rhoi galwad nôl i ti gael drafod pethau
- Galwa HOPELINEUK i gael siarad â chynghorydd
- Neu galwa 999 os wyt ti wedi gwneud niwed i dy hun, neu’n teimlo dy fod di am gymryd dy fywyd dy hun.
Mae argyfwng iechyd meddwl yn beth difrifol. Dwyt ti ddim yn gwastraffu amser unrhyw un.
Cyhoeddwyd: Mehefin 2020
Rydyn ni’n gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.