Mynnwch help nawr Gwnech rodd

Hyder a hunan-barch – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc am hyder a hunan-barch, beth sy’n gallu eu heffeithio, a chyngor ynghylch sut i deimlo’n well am dy hun.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Hyder a hunan-barch

Os oes uchel o hunan-barch (self-esteem) gennyn ni, rydyn ni’n teimlo’n dda amdanon ni ein hun. Ac os ydyn ni’n hyderus, rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n gallu gwneud rhai pethau’n dda. Ond weithiau, mae ein hyder yn cael ei siglo, neu dydyn ni ddim yn hoffi ein hunain rhyw lawer.

Mae pawb yn gallu teimlo fel hyn weithiau, ond pan fyddwn ni’n teimlo fel hyn am amser hir, gall fod yn broblem.

Beth bynnag sy’n effeithio ar dy hyder neu dy hunan-barch, mae’n bwysig cofio bod gen ti’r hawl i deimlo’n dda amdanat ti dy hun. Rydyn ni yma i dy helpu di i ffeindio ffordd.

Mae gwybodaeth am y canlynol ar y dudalen hon:

Beth yw hunan-barch?

Hunan-barch yw’r ffordd rwyt ti’n meddwl ac yn teimlo amdanat ti dy hun. Gall dy hunan-barch effeithio ar faint rwyt ti’n:

  • Hoffi ac yn gwerthfawrogi dy hun fel person
  • Credu ynot ti dy hun a'r hyn rwyt ti’n gallu gwneud
  • Sefyll dros dy hun pan fyddi di o dan bwysau
  • Barod i geisio gwneud pethau newydd neu anodd
  • Symud ymlaen o gamgymeriadau heb feio dy hun yn ormodol
  • Credu dy fod di’n bwysig ac yn ddigon da
  • Credu dy fod di’n haeddu hapusrwydd.

Os oes lefel uchel o hunan-barch gen ti, mae’r ffordd rwyt ti’n meddwl ac yn teimlo amdanat ti dy hun yn debygol o fod yn gadarnhaol (yn bositif). Ond os oes lefel isel o hunan-barch gen ti, efallai bydd y ffordd rwyt ti’n meddwl ac yn teimlo amdanat ti dy hun yn debygol o fod yn fwy negyddol, ac efallai y byddi di’n teimlo’n llai hyderus i sefyll dros dy hun.

Enghraifft

Pan roedd hunan-barch Matt yn isel, doedd e ddim yn teimlo ei fod e’n glyfar ac roedd e’n poeni am y ffordd roedd e’n edrych. Fe wnaeth e roi’r gorau mewn gwersi mathemateg, gan feddwl na fyddai e byth yn gallu llwyddo. Fe wnaeth e hefyd rhoi'r gorau i wisgo dillad roedd e’n eu hoffi, gan ei fod e’n meddwl na fyddai diddordeb gan neb ynddo.

Wedyn, daeth Matt o hyd i ambell ffrind newydd oedd yn hoffi'r ffordd roedd e’n gwisgo. Pan ddywedodd e wrthyn nhw ei fod e’n cael trafferth gyda mathemateg, cynigon nhw ei helpu e gyda phroblemau roedd e’n eu cael yn anodd.

Erbyn hyn, mae Matt yn gwisgo'r ffordd mae e eisiau, ac mae’n teimlo’n dda am y peth. Mae hefyd yn ei chael yn haws dilyn a thrio mewn gwersi mathemateg, hyd yn oed pan mae’n ei chael yn anodd.

“Rhywbeth sydd wir effeithio ar ein hunan-barch a’n hyder yw’r bobl rydyn ni’n ymwneud â nhw, yn enwedig ein ffrindiau.”

Beth yw hyder?

Mae hyder yn ymwneud â’r canlynol:

  • Credu yn dy hun, dy allu a dy syniadau - gall hyn amrywio o wybod bod dy awgrym yn y dosbarth yn un da, teimlo y gelli di ddysgu cân newydd y mae dy fand eisiau ei pherfformio, neu wybod y gelli di ofyn rhywun allan heb gael traed oer.
  • Deall a derbyn dy hun am bwy wyt ti - fel bod yn falch o dy rywioldeb neu liw dy wallt, bod yn iawn gyda pheidio bod yn wych mewn chwaraeon, neu beidio eisiau newid dy hun er mwyn ffitio mewn gydag eraill.

Dydy hyder ddim yn golygu ‘siaradus’. Gelli di fod yn dawel neu’n swil a bod yn hyderus ar yr un pryd. A hyd yn oed os mai nhw yw’r person mwyaf swnllyd, dydy hynny ddim bob tro’n golygu eu bod nhw’n teimlo’n hyderus ar y tu mewn.

Enghraifft

Roedd Aneesa’n arfer dioddef o ddiffyg hunanhyder. Roedd ei mam a’i ffrindiau i gyd yn dweud ei bod hi’n awdur dawnus ond byddai hi’n teimlo embaras am y peth. Roedd hi’n tueddu i guddio ei straeon a gobeithio na fyddai ei hathro Saesneg yn darllen ei gwaith yn uchel.

Erbyn hyn, mae Aneesa yn adeiladu ei hyder ac mae’n gwneud gwahaniaeth. Mae hi’n gludo negeseuon i’w hysgogi a lluniau ar ei waliau.  Mae hi hefyd yn cadw rhestr o’r sylwadau caredig mae hi’n eu derbyn am ei gwaith ysgrifennu, iddi gael eu darllen pan ei bod hi’n teimlo’n ansicr.

Er bod Aneesa’n dal ddim yn hyderus i’r athro ddarllen ei gwaith yn uchel yn y dosbarth, mae hi’n teimlo’n ddigon hyderus i gyflwyno stori i gystadleuaeth genedlaethol. Mae hi’n falch iawn bod ei hyder wedi tyfu cymaint.

“Rwy’n credu bod derbyn pwy wyt ti a bod yn falch o unrhyw beth sy’n dy wneud di’n wahanol yn bwysig iawn. Dim ond un fersiwn ohonot ti dy hun sy’n bodoli.”

Beth sy’n gallu effeithio ar fy hyder a fy hunan-barch?

Gall profiadau negyddol waethygu dy hyder a dy hunan-barch, fel tor-perthynas neu pan fo pobl yn chwerthin ar dy ben am y ffordd rwyt ti’n edrych. A gall profiadau cadarnhaol roi hwb i dy hyder a dy hunan-barch, fel gwneud yn dda mewn prawf, cael sylw caredig am y ffordd rwyt ti’n edrych, neu wneud rhywbeth caredig i ffrind neu gymydog.

Mae’r hyn sy’n effeithio ar hyder a hunan-barch yn gallu bod yn wahanol i bawb.  Gall y profiadau canlynol effeithio ar ein hyder neu’n hunan-barch mewn ffordd gadarnhaol neu negyddol:

  • Dy ganlyniadau yn yr ysgol neu'r coleg
  • Y cyfryngau cymdeithasol neu hysbysebion
  • Y lefel o gefnogaeth rwyt ti’n ei dderbyn gan bobl rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw
  • Delwedd dy gorff a’r ffordd rwyt ti’n teimlo am y ffordd rwyt ti’n edrych
  • Yr hyn rwyt ti’n ei gyflawni neu dy sgiliau.

Ond gall profiadau eraill wneud dim ond effeithio’n negyddol ar ein hyder a hunan-barch, fel y canlynol:

  • Problemau iechyd meddwl neu gorfforol sy’n effeithio ar ein gallu i wneud pethau neu gael ein deall gan bobl eraill
  • Pwysau gan bobl eraill i ffitio mewn
  • Pwysau i wneud yn dda mewn arholiadau, chwaraeon neu ddiddordebau eraill
  • Cael dy fwlio neu dy gam-drin
  • Profi stigma neu wahaniaethu (discrimination)
  • Symud i ffwrdd o rywle lle rydyn ni’n teimlo’n ddiogel, fel i ffwrdd o deulu neu ffrindiau
  • Problemau yn y teulu
  • Problemau mewn perthynas.

Efallai y cei di dy effeithio gan brofiadau eraill nad ydyn nhw ar y rhestrau hyn. Neu efallai dy fod di wedi dioddef o hyder neu hunan-barch isel ers amser hir, sy’n gallu ei wneud yn anodd deall pam rwyt ti’n teimlo’r ffordd hyn.

“Roedd gweld pobl eraill oedd yn dewis treulio amser gyda fi wedi fy helpu i sylweddoli bod llawer o bethau rwy’n eu hoffi amdanaf i fy hun, ac i boeni llai am beth roedden nhw’n meddwl amdanaf i.”

Newidiadau i dy hyder a hunan-barch

Efallai dy fod di’n teimlo bod dy hyder a dy hunan-barch yn newid o ddydd i ddydd, neu fod newid mwy sylweddol wedi bod dros gyfnod o amser.

Os yw dy hyder neu dy hunan-barch wedi bod yn isel am gyfnod hir o amser, byddai’n syniad i ti siarad â dy feddyg. Bydd dy feddyg yn gallu gweld os yw dy hyder neu dy hunan-barch isel yn gysylltiedig â phroblem iechyd meddwl, fel iselder neu orbryder.  Byddan nhw hefyd yn gallu siarad â ti am opsiynau cefnogaeth gwahanol, fel cwnsela, i weld beth sydd orau i ti.

Sut allaf i adeiladu fy hyder a fy hunan-barch?

Mae adeiladu dy hyder a hunan-barch yn gallu cymryd amser a gwaith ymarfer. Ac efallai na fydd yr hyn sydd o help i ti nawr yn gweithio cystal â rhywbeth arall yn y dyfodol. Ond mae nifer o bethau y gelli di eu gwneud i wella’r ffordd rwyt ti’n teimlo am dy hun a dy allu.

Gall rhoi'r newidiadau hyn ar waith deimlo fel cam mawr. Gelli di ddechrau drwy roi tro ar ambell i beth newydd bob wythnos, nes i ti ffeindio beth sy’n gweithio i ti. Cer ar dy gyflymder dy hun a phaid rhoi dy hun dan ormod o bwysau - gall newidiadau bychain wneud gwahaniaeth mawr.

  • Rho gynnig ar adnabod a herio dy feddyliau angharedig. Ceisia wneud hyn gan siarad â dy hun fel petai ti’n gwneud â ffrind da. Gelli di ofyn y canlynol: ‘Sut y byddai rhywun arall yn gweld hyn?’ ‘Oes unrhyw beth sy’n awgrymu na fyddai hyn yn digwydd?’ neu ‘Beth fyddwn i’n dweud wrth ffrind sy’n meddwl hyn?’ Gall ateb y cwestiynau hyn dy helpu di i feddwl yn fwy pwyllog a gofalus.
  • Cofia, mae gwneud camgymeriadau yn iawn. Mae hefyd yn bwysig maddau i dy hun pan fyddi di’n gwneud camgymeriad.
  • Dylet ti osgoi cymharu dy hun â phobl eraill. Er enghraifft, cofia bod y lluniau mae pobl yn eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu dewis yn ofalus neu eu ffiltro. Yn aml, dydyn nhw ddim yn dangos sut mae bywyd go iawn y person.
  • Ailadrodda syniadau cadarnhaol i dy hun. Er enghraifft, gelli di ddweud ‘rwy’n ddigon’ neu ‘rwy’n werthfawr’ yn y drych bob bore.

Efallai na fydd pethau fel hyn yn teimlo’n hawdd bob amser, ond maen nhw’n gallu bod yn ffyrdd pwerus o newid y ffordd rwyt ti’n meddwl a theimlo amdanat ti dy hun.

Ceisia gysgu’n dda, fwyta deiet cytbwys, ymarfer dy gorff, treulio amser tu allan mewn natur, ac osgoi cyffuriau ac alcohol.

O ofalu am dy iechyd, byddi di’n teimlo’n well ar y tu fewn. Am ragor o syniadau, cer at ein tudalen ynglŷn â gofalu am dy lesiant.

Gelli di ddathlu dy lwyddiant.

“Mae gen i bot llwyddiannau, lle rwy’n ysgrifennu o leiaf un peth rwy’ wedi’i gyflawni ar y dydd hwnnw (a’i ddyddio) a’i rhoi yn y pot.”

Gelli di hefyd wneud rhestr o bethau rwyt ti a phobl eraill yn eu hoffi amdanat ti dy hun, y gelli di eu darllen yn hwyrach.  Gall hyn gynnwys unrhyw sylwadau caredig rwyt ti’n eu derbyn, hyd yn oed os nad wyt ti’n eu credu nhw ar y pryd.  Dros amser, efallai fyddi di’n dechrau gweld dy hun yn wahanol.

Ceisia fwynhau dy hun gyda theulu a ffrindiau, neu gysylltu â rhywun sy’n uniaethu â ti ac rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw, a bydd yn garedig wrth eraill. Dyma'r bobl fydd yn dy hoffi di am bwy wyt ti.

Gall defnyddio dy sgiliau a dy amser i helpu ffrind neu aelod o’r teulu, neu i wirfoddoli yn rhywle hefyd dy helpu di i deimlo’n dda amdanat ti dy hun.

Mae bod yn bendant yn golygu rhoi dy farn, neu ddweud beth rwyt ti ei eisiau neu angen, neu sut rwyt ti’n teimlo, heb fod yn haerllug. Mae’n ymwneud â sefyll i fyny dros dy hun, wrth fod yn barchus o safbwyntiau a theimladau pobl eraill.

Gall hyn fod yn anodd i ddechrau, a gall gymryd amser i ti deimlo’n hyderus i wneud hyn. Gelli di geisio meddwl am dy derfynau (boundaries) dy hun, ac ymarfer dweud ‘ie’ neu ‘na’ pan fyddi di’n gwneud dewis. Paid â rhoi pwysau ar dy hun i geisio gwneud gormod ar unwaith.

Mae gan Childline rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch bod yn bendant y gelli di roi cynnig arnyn nhw.

Gall hyn gynnwys gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau fideo, nofio, neu rywbeth arall. Rho gyfle i dy hun gael hwyl heb deimlo’n euog am y peth, hyd yn oed os yw hynny am 15 munud yn unig.

Gelli di ddechrau gan ymarfer siarad neu roi wyneb ymlaen yn y drych, a gweithio ar geisio bod yn hyderus o flaen eraill. Ond os wyt ti’n parhau i wneud hynny, efallai y byddi di’n sylweddoli ar ôl tipyn nad wyt ti’n rhoi wyneb ymlaen rhagor.

Gall rhoi cynnig ar rywbeth newydd dy helpu di i ddatblygu sgil a chyfarfod â phobl newydd. Gall fod yn rhywbeth fel dysgu brawddegau newydd mewn iaith arall, dysgu sut i chwarae offeryn cerdd, peintio neu arlunio, neu ymuno â dosbarth neu glwb chwaraeon.

Gelli di osod amcanion i dy hun wrth i ti fynd ymlaen i weld faint rwyt ti’n gwella, neu ei wneud am hwyl yn unig.

Dyma ambell i ddarn o gyngor gan bobl ifanc sydd wedi rhannu eu profiadau gyda ni:

  • “Bydd yn ymwybodol o dy derfynau” a phaid â gwthio dy hun yn rhy bell.
  • “Gwna fwrdd ar-lein neu flog o ddyfyniadau a lluniau ysbrydoledig.”
  • “Myfyria, a chael meddwl clir.”
  • “Cadwa flwch neu ddyddiadur o lwyddiannau a phethau rwyt ti’n falch ohonyn nhw.
  • “Paid bod ofn dad-ddilyn cyfrifon sy’n gwneud i ti deimlo’n wael am dy hun, sy’n hybu syniadau afiach am fwyd neu sydd ddim yn creu delweddau go iawn.”
  • “Ceisia adnabod pethau nad ydyn nhw o help i ti” fel cyngor nad yw’n gweithio, neu bethau sy’n cael effaith negyddol ar dy hunan-barch a dy hyder.
  • “Gofala amdanat ti dy hun” – cymer amser i dy hun, a gwna’r pethau sydd angen i ti eu gwneud i ofalu am dy iechyd meddwl a chorfforol.
  • “Meddwl yn ôl i amser pan oeddet ti wedi gwneud camgymeriadau tebyg pan oeddet ti'n ifanc, a chyn lleied mae’n effeithio arnat ti heddiw. Efallai y bydd hyn o help i ti roi pethau mewn persbectif."

“Rwy’n credu bod maddau i dy hun yn bwysig iawn.”

‘Rhaid i fi wneud cyflwyniad o flaen y dosbarth, bell alla i wneud?’

Dyma ambell i ddarn o gyngor i dy helpu di i baratoi:

  • Ceisia ymarfer o flaen y drych, wedyn o flaen dy deulu, ffrind, neu anifail anwes
  • Ceisia roi wyneb hyderus ymlaen hyd yn oed os nad wyt ti’n teimlo fel gwneud
  • Bydd yn onest gyda pha mor dda rwyt ti’n credu rwyt ti’n gwneud
  • Ceisia beidio cymharu dy hun â phobl eraill, neu feddwl am eu barn nhw ohonot ti
  • Ystyria’r cyflwyniad fel cyfle i ddysgu, nid fel siawns i fethu
  • Cofia bod teimlo’n nerfus yn gyffredin
  • Mwynha dy hun yn y foment, a dathla ar ôl i ti orffen!

“Meddylia am yr hyn rwyt ti’n ei ddisgwyl gan dy hun, nid yr hyn mae pobl eraill yn ei ddisgwyl gennyt ti.”

Ble allaf i gael cymorth a chefnogaeth?

Os wyt ti’n poeni am y ffordd rwyt ti’n teimlo, neu os yw diffyg hyder neu hunan-barch yn effeithio ar dy berthnasau a dy fywyd bob dydd, mae’n iawn i ofyn am help. Gelli di wneud y canlynol:

Am restr o sefydliadau eraill all fod o gymorth, cer at ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2020. Caiff ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n dudalen ar ganiatâd a thrwydded

Rhannu'r wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig