Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall fy mhrofiad o’r pandemig – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Gwybodaeth i bobl ifanc am ymdopi â theimladau a phrofiadau anodd yn ystod ac ar ôl pandemig Covid-19.

Fy lles meddyliol ar ôl y pandemig

Mae pandemig Covid-19 wedi bod yn gyfnod anodd i bob un ohonom. Mae llawer ohonom yn dal i ddysgu sut i ymdopi â’n lles meddyliol, ein teimladau a’n profiadau.

Rydym ni yma i’ch helpu i gofio bod eich teimladau’n ddilys, beth bynnag rydych chi wedi bod yn mynd drwyddo, ac i roi rhai syniadau i chi ar sut i ymdopi ar ôl y pandemig.

Ar y dudalen hon, rydym yn defnyddio’r term ‘pandemig’ ar gyfer pandemig Covid-19, sydd hefyd yn cael ei alw’n coronafeirws neu Covid. Dywedodd Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU fod y salwch hwn yn bandemig o fis Mawrth 2020 ymlaen.

Ym mis Mai 2023, nid oedd gan y pandemig statws argyfwng byd-eang mwyach. Er bod pethau eisoes wedi dechrau newid cyn hynny, mae rhai pobl yn meddwl mai dyma ddiwedd y pandemig.

Pan fyddwn yn dweud ‘ar ôl y pandemig’, rydym ni’n golygu’r amser ar ôl mis Mai 2023. Fodd bynnag, dydym ni ddim yn ei weld fel ‘diwedd’ y pandemig oherwydd mae Covid yn dal i fodoli ac mae’n effeithio ar ein bywydau mewn llawer o wahanol ffyrdd.

decorative

Rhybudd: rydym ni’n siarad am bethau anodd a allai beri gofid ar y dudalen hon.

Daliwch ati i ddarllen dim ond os ydych chi’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny. Cymerwch seibiant os oes angen a chofiwch y gallwch ddod yn ôl i’r dudalen hon ar unrhyw adeg.

Pan ddaeth Covid am y tro cyntaf, cafodd effaith enfawr ar fy iechyd meddwl... roedd yn straen fawr ac yn cael effaith – Kaya, 16

Sut gallwn i fod yn teimlo ers fy mhrofiad o’r pandemig?

I lawer ohonom, mae’r pandemig wedi teimlo fel llawer i ymdopi ag ef. Rydym ni i gyd yn wahanol ac nid oes ffordd gywir nac anghywir o deimlo amdano.

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r canlynol:

Teimladau anodd

Mae hi’n bosibl y byddwn yn dal i brofi’r teimladau anodd hyn ar hyn o bryd, neu mae’n hi’n bosibl ein bod wedi teimlo’r canlynol yn ystod y pandemig:

  • Ofnus a dan straen
  • Dig
  • Allan o reolaeth a ddim yn ddiogel
  • Trist a phryderus
  • Unig ac ar eich pen eich hun
  • Galar a cholled
  • Diobaith
  • Wedi dioddef trawma
  • Llai abl i ymdopi â phethau
  • Poeni amdanom ni ein hunain, am eraill ac am y dyfodol

Fe wnaethom siarad â phobl ifanc am rai o’r teimladau anodd roedden nhw wedi’u hwynebu oherwydd y pandemig:

Yn gynharach yn y pandemig, roeddwn i’n poeni am y coronafeirws yn uniongyrchol. Ond yn ystod y misoedd diwethaf, rydw i wedi bod yn poeni am wahanol bethau, fel poeni am sut mae fy nhad yn ymdopi.

Cefais fy anfon adref yn gynnar gan bennaeth fy ysgol gan ei fod yn ofni fy mod am fynd yn sâl. Roedd hyn bythefnos cyn pawb arall, ac fe wnaeth i mi deimlo’n wahanol iawn ac fy mod i ar fy mhen fy hun, hyd yn oed yn fwy nag yr oeddwn i’n ei deimlo’n barod.”

Roeddwn i’n teimlo llawer o orbryder yn ystod y cyfnod clo a byddwn i’n crïo llawer. Byddwn dan ormod o straen i fynd i mewn i siopau gan eu bod yn fannau caeedig lle gallai’r feirws ledaenu.

Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd ar ôl i fy nhrefn arferol newid yn eithafol ers Covid, yn ogystal â’r hyn roeddwn i’n gyfarwydd ac yn gyfforddus ag ef... doeddwn i ddim yn gallu gweithredu am ddyddiau ac rwyf yn dal i gael trafferth ymdopi hyd heddiw.

Profiadau anodd

Mae hi’n bosibl ein bod wedi wynebu, neu wrthi’n wynebu profiadau anodd fel:

  • Pryderon am arian a chyllid
  • Pryderon am yr ysgol, coleg, gwaith neu'r dyfodol
  • Problemau gyda’n perthnasoedd
  • Bwlio
  • Trawma
  • Profi neu weld camdriniaeth
  • Profi neu weld mathau o anghydraddoldeb neu wahaniaethu
  • Byw gyda phroblem iechyd meddwl
  • Diffyg mynediad at gymorth iechyd meddwl neu gorfforol
  • Colli rhywun sy’n bwysig i ni
  • Ymdopi â salwch corfforol, salwch tymor hir neu orfod gwarchod eich hun
  • Newid mewn cyfrifoldeb, fel gorfod gofalu am rywun

Fe wnaethom siarad â phobl ifanc a rannodd rai o’u profiadau anoddaf o’r pandemig, a oedd wedi effeithio arnyn nhw ar y pryd ac sy’n dal i effeithio arnyn nhw nawr:

Roedd byw gyda rhywun a oedd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol, nad oedd yn cael cymorth ar ddechrau’r pandemig, yn ei gwneud yn anoddach dod o hyd i gydbwysedd.

Ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben, roeddwn i gartref y rhan fwyaf o’r amser yn dal i ofalu am fy mam fel o’r blaen. Ond nawr mae’n fy mhoeni’n fawr y gallai fynd yn sâl drwy fynd allan.

Yn ystod y pandemig, roeddwn i’n cael trafferth dod o hyd i'r amser i gwblhau gwaith ysgol gan ddefnyddio’r systemau ar-lein, a effeithiodd yn fawr arnaf pan ddes i’n ôl i’r ysgol. Rydw i wedi gorfod gweithio’n galed iawn i adennill fy ngraddau.

Yn ystod Covid, roeddwn i wedi fy ynysu cymaint, yn gorfod cadw oddi wrth bawb ac yn treulio llawer o amser ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd gan y bwlis fynediad 24/7 ataf gan mai fy ffôn oedd fy unig ffordd o gyfathrebu ag unrhyw un.

Teimladau neu brofiadau cadarnhaol

Roedd llawer ohonom yn teimlo’n llawn gofid yn ystod y pandemig neu ar ei ôl. Ond mae hi’n bosibl bod rhannau ohono hefyd wedi teimlo’n gadarnhaol i ni, fel darganfod bod treulio amser gartref yn well i’n hiechyd meddwl.

Mae hi’n bosibl ein bod wedi cael teimladau neu brofiadau cadarnhaol o’r pandemig sydd wedi parhau yn ein bywydau, fel y canlynol:

  • Teimlo nad ydym ni’n cael ein llethu gymaint
  • Teimlo llai o straen
  • Teimlo’n fwy diogel
  • Teimlo’n fwy cysylltiedig ag eraill
  • Teimlo’n fwy abl i ymdopi â phethau

Fe wnaethom siarad â phobl ifanc a rannodd rai o’u profiadau cadarnhaol yn ystod neu ar ôl y pandemig:

Mae’r pandemig wedi fy ngorfodi i wynebu llawer o’m pryderon, ac rwy’n credu bod hynny’n beth da.

Roeddwn i’n teimlo y gallwn ddod i adnabod fy hun yn well, ond roeddwn i hefyd yn teimlo’n euog fy mod i’n mwynhau’r amser ar fy mhen fy hun.

Yn ystod y cyfnod clo, roedd gen i amser i ddod i delerau â fy nghyflwr a derbyn mai dyma oedd fy mywyd newydd. Roeddwn i wedi dod yn fwy agored yn siarad amdano.

Roedd yn anodd ar y dechrau, ond dechreuais gael trefn arferol yn araf, ac roeddwn i wrth fy modd yn y pen draw. Roeddwn i’n mwynhau gallu treulio mwy o amser gyda fy chwaer yn enwedig.

Roedd pob un ohonom wedi profi pethau gwahanol yn ystod ac ar ôl y pandemig, sy’n golygu bod ymdopi â’r pandemig nawr yn teimlo’n wahanol i bawb.

Ym mha ffyrdd rydym ni’n dal i fyw gyda’r pandemig?

Er y dywedwyd bod y pandeming wedi dod i ben ym mis Mai 2023, nid yw ar ben yn ein bywydau bob dydd. Mae hi’n bosibl mai dim ond o bryd i’w gilydd y bydd rhai ohonom yn ei gofio, ond efallai y bydd eraill yn meddwl amdano’n aml. Roedd gan rai ohonom safbwyntiau gwahanol am y pandemig, ddim yn meddwl ei fod yn wir, pan oedd yn bodoli mewn gwirionedd.

Does dim ots sut roeddech chi’n teimlo amdano yr adeg hynny, neu sut rydych chi’n teimlo amdano ar hyn o bryd, does dim rheolau ar gyfer y pandemig yng Nghymru a Lloegr mwyach.

Er enghraifft, does dim rhaid i ni aros y tu mewn mwyach pan fydd gennym Covid, neu os ydym ni mewn perygl o’i gael. Ond mae hi’n bosibl na fydd hyn yn teimlo’n iawn i ni, ac efallai y byddwn eisiau neu angen aros i mewn er nad yw hyn yn rheol.

Mae rhywbeth bob amser yn fy atal i rhag teimlo neu fwynhau bod pethau’n mynd yn ôl i normal, mae fel pe bawn i’n dal i fod ym meddylfryd mis Mawrth 2020, ond yn byw nawr.

Rydym ni’n dal i allu cael y feirws, neu weld neu glywed amdano yn ein bywydau bob dydd. Mae hi’n bosibl y byddwn yn:

  • Clywed am Covid ar y newyddion neu ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Clywed am y brechlyn a’r pigiadau atgyfnerthu, y gall rhai ohonom eu cael hyd heddiw
  • Byw gyda Covid Hir neu’n adnabod pobl eraill sy’n byw ag ef
  • Cael Covid neu adnabod pobl eraill sy’n ei gael

Pan gefais Covid, roedd arna i gymaint o ofn ei roi i weddill fy nheulu gan nad oeddwn i eisiau iddyn nhw fynd yn sâl. Pan gafodd fy nheulu Covid rai misoedd yn ddiweddarach, roeddwn i’n crio llawer ac yn dibynnu’n drwm ar fy ffrindiau i godi fy nghalon a’m cefnogi.

Rydym ni’n dal i allu gweld neu brofi effeithiau parhaol y pandemig neu gael ein hatgoffa o sut roedd pethau’n arfer bod yn ystod y pandemig:

  • Mae hi’n bosibl bod llawer o bethau’n digwydd ar-lein erbyn hyn a fyddai wedi digwydd wyneb yn wyneb gynt. Gallent hyd yn oed fod yn gymysgedd o’r ddau.
  • Dydy gwisgo masgiau wyneb ddim yn rhywbeth mae’n rhaid i ni ei wneud nawr, ond mae hi’n bosibl y byddwn ni’n dal eisiau eu gwisgo i deimlo’n fwy diogel. Mae hi’n bosibl y byddwn hefyd eisiau i bobl eraill eu gwisgo.
  • Mae hi’n bosibl y byddwn am barhau i gadw pellter cymdeithasol, neu i bobl eraill wneud hynny.

Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd mynd yn ôl i fyw’n ‘normal’. Roeddwn i’n gwisgo masg ac yn dal i wneud hynny, os ydw i’n mynd i unrhyw le a allai fod yn orlawn – Iqra, 16

Gall fod yn anodd deall faint ohonom sydd wedi mynd yn ôl i’r ffordd yr oedd pethau gynt, pan mae cymaint wedi newid ers y pandemig. Rydym ni i gyd yn teimlo ac yn ymdopi’n wahanol â’n profiad.

Sut bynnag rydych chi’n ymdopi â phethau ar ôl y pandemig, mae eich teimladau’n ddilys ac nid ydych chi ar eich pen eich hun.

Byddai’n dda gen i pe bai rhywun wedi fy nysgu i wynebu’r hyn sy’n gwneud i mi golli fy limpyn, gan ei bod yn mynd yn anoddach gwneud hyn yn nes ymlaen. Byddwch yn ddewr ac yn ddigon cryf i wynebu eich ofnau, eich pryderon neu unrhyw beth rydych chi’n cael trafferth ag ef – Elaina, 16

Trafferthion, teimladau a phrofiadau parhaus

Mae hi’n bosibl ein bod i gyd wedi cael adegau pan oeddem yn cael trafferth gyda’r pandemig. Mae hi’n bosibl y bydd rhai ohonom yn dal i deimlo ein bod yn cael trafferth gyda’r pandemig a’n hiechyd meddwl. Mae hi’n bosibl y bydd hefyd yn teimlo’n anodd delio â llawer o newid ac ansicrwydd.

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r canlynol:

Teimlo’n bryderus neu dan straen

Mae hi’n bosibl bod y pandemig wedi gwneud i ni boeni mwy neu deimlo’n fwy pryderus nag arfer. Gallai barhau i effeithio ar ein bywydau mewn ffyrdd fel y canlynol:

  • Gwneud i ni osgoi rhai pethau roedden ni’n arfer eu gwneud neu eu mwynhau
  • Ei chael hi’n anodd gwneud pethau roedden ni’n arfer eu gwneud yn aml
  • Teimlo’n fwy pryderus am bethau fel iechyd, salwch a’r dyfodol

Er fy mod i nawr yn llawer gwell, weithiau mewn ystafelloedd prysur neu boeth, mae hi’n bosibl y byddaf yn dal i deimlo’n bryderus – Elaina, 16

Cael trafferth yn mynd i'r ysgol, i'r coleg neu i’r gwaith

Mae llawer ohonom wedi cael trafferth mynd yn ôl i’r ysgol, i’r coleg neu i’r gwaith ers y pandemig.

Daeth rhai ohonom i arfer â dysgu neu weithio gartref ac rydym wedi cael trafferth mynd yn ôl ers hynny. Neu mae hi’n bosibl ein bod ni wedi colli cymaint o amser ym myd addysg fel ein bod ni’n ei chael hi’n anodd mynd yn ôl iddo.

Fe wnes i golli cymaint o addysg, oherwydd roedd yn rhaid i fy nheulu rannu dyfeisiau â’i gilydd yn eu tro, a oedd yn gwneud i mi deimlo mor anobeithiol wrth ddychwelyd i’r ysgol. Y cyfan y gallwn i ei gael oedd canlyniadau gwael ar y rhan fwyaf o arholiadau ymarfer – Iqra, 16

Ymdopi â cholled a galar

Roedd llawer ohonom wedi profi colled neu alar mewn rhyw ffordd yn ystod y pandemig. Mae hi’n bosibl ein bod wedi colli pobl roedden ni’n eu hadnabod neu’n agos atyn nhw. Mae hi’n bosibl bod hyn wedi teimlo’n anoddach fyth os nad oeddem yn gallu galaru yn y ffordd roeddem yn dymuno gwneud, oherwydd rheolau yn ystod y pandemig.

Efallai ein bod wedi cael colled mewn ffordd wahanol, fel peidio â gweld ffrindiau neu bartneriaid am amser hir a cholli cysylltiad â nhw.

Gallwch ddod o hyd i sefydliadau sy’n helpu gyda cholled a galar ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol.

Dydw i ddim yn dda iawn am anfon negeseuon ac rydw i’n casáu sgyrsiau fideo (dwi’n llawer gwell wyneb yn wyneb), felly rydw i wedi colli cysylltiad â phobl a dydw i ddim yn meddwl y byddwn ni’n gweld ein gilydd eto.

Colli’r cyfle i fynd i ddigwyddiadau pwysig

Mae hi’n bosibl ein bod wedi teimlo ein bod wedi colli llawer o brofiadau neu ddigwyddiadau pwysig roedden ni’n edrych ymlaen atynt. Gallai hyn wneud i ni deimlo ein bod yn cael ein gadael ar ôl ac yn poeni am y dyfodol.

Does dim ots pa gyfleoedd wnaethoch chi eu colli, neu rydych chi’n dal i’w colli, mae teimlo eich bod wedi colli’r pethau hynny’n gwbl ddilys.

Mae llawer o ddigwyddiadau y gallech fod wedi bod yn edrych ymlaen atynt. Er enghraifft, parti pen-blwydd yn 16 oed, wythnos y Glas yn y brifysgol, graddio eich chwaer, dod at eich gilydd fel teulu, neu eich prawf gyrru cyntaf.

Mae’n iawn teimlo eich bod wedi colli cyfleoedd, boed y rheini’n ddigwyddiadau mawr neu fach.

Fel plentyn 16 oed, mae’n gwneud i mi deimlo bod blynyddoedd pwysicaf fy mywyd yn fy arddegau wedi cael eu gwastraffu ac mae’n amser na cha i fyth yn ei ôl.

Delio â Covid Hir

Os byddwn yn parhau i brofi symptomau Covid-19 am fwy na 4 wythnos ar ôl cael y feirws, gelwir hyn yn Covid Hir. I rai pobl, gall fod bwlch rhwng cael y feirws am y tro cyntaf a phrofi Covid Hir.

Mae Covid Hir yn wahanol i bawb, ond mae rhai symptomau cyffredin yn cynnwys y canlynol:

  • Teimlo’n flinedig iawn
  • Diffyg anadl
  • Colli eich synnwyr arogli
  • Poenau yn y cyhyrau
decorative

Gallwch ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth am Covid Hir, a darllen am brofiadau pobl ifanc eraill, yn Long Covid Kids.

Ar ôl fy mhrofiad gyda Covid, rydw i wedi parhau i gael trafferth anadlu, sy’n fy rhwystro rhag gwneud yr hyn rydw i wrth fy modd yn ei wneud, sef canu. Roedd yn rhaid i mi ddysgu sut i weithio gyda’r ffordd roeddwn i’n teimlo ac addasu i fy amgylchiadau newydd.

Sut alla i ymdopi â phrofiadau anodd o’r pandemig?

Gall dod o hyd i ffyrdd o ymdopi â phrofiadau anodd o’r pandemig deimlo’n anodd iawn. Rydym ni i gyd yn wahanol, felly byddwn yn gweld bod gwahanol bethau’n ein helpu ni. Beth am roi cynnig ar rai o’r awgrymiadau isod.

Os nad ydych chi’n teimlo bod unrhyw un o’r syniadau hyn yn gweithio i chi ar hyn o bryd, mae hynny’n iawn hefyd. Gallech roi cynnig arnyn nhw rywbryd eto.

Treuliwch amser yn gofalu am eich lles eich hun

Mae’n bwysig gofalu am eich lles cymaint â phosibl. Mae hyn yn cynnwys iechyd corfforol yn ogystal â’ch iechyd meddwl.

Roedd llawer ohonom yn teimlo bod byd natur yn ddefnyddiol iawn ar gyfer ein lles meddyliol yn ystod y pandemig. Nid oes gan bob un ohonom fynediad hawdd at fyd natur, ond gallwn ddod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu ag ef, fel gwrando ar synau natur er enghraifft.

Sut gallaf i ofalu am fy lles?

Dewch o hyd i syniadau am ofalu am eich lles.

Cofiwch fod eich teimladau’n ddilys

Ceisiwch atgoffa eich hun bod eich teimladau am y pandemig yn ddilys, hyd yn oed os nad yw pobl eraill yn teimlo'r un fath. Gallech ddod o hyd i ffyrdd o ddeall eich teimladau ac ymdopi â nhw.

Sut alla i ddeall fy nheimladau?

Dysgwch fwy am adnabod teimladau anodd.

Dewch o hyd i ffordd o ryddhau eich emosiynau... ysgrifennwch, canwch, neu crëwch ddarn o gelf. Dewch o hyd i ryddhad i ysgafnhau’r prysurdeb yn eich pen.

Siaradwch â phobl eraill a gofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch

Gall siarad â phobl eraill eich helpu i deimlo’n llai unig gyda’r hyn rydych chi’n mynd drwyddo. Gallai fod yn rhywbeth sy’n gysylltiedig â phrofiad a gawsoch yn ystod y pandemig, neu gallai fod yn rhywbeth rydych chi’n mynd drwyddo ar hyn o bryd.

Sut alla i siarad â phobl eraill?

Darllenwch ein gwybodaeth i gael awgrymiadau ar sut i wneud hyn.

Mae dweud eich bod yn cael trafferth yn golygu eich bod yn mynd drwyddo gyda rhywun arall – Maddie, 16

Ewch ati i osod nodau a dathlu eich llwyddiannau

Os nad ydych chi’n gallu gwneud pethau roeddech chi’n arfer eu gwneud, neu os ydych chi’n teimlo eich bod chi wedi colli cyfleoedd i wneud pethau, cofiwch fod y teimladau hyn yn ddilys.

Ceisiwch atgoffa eich hun o’r pethau rydych chi’n dal yn gallu eu gwneud, hyd yn oed os ydyn nhw’n teimlo’n fach. Mae hi’n bosibl y byddwch eisiau gosod nodau ar gyfer y dyfodol. Gallai’r rhain fod yn nodau tymor hir neu’n rhywbeth rydych chi eisiau gallu ei wneud heddiw.

Mae gennym adnodd y gellir ei lwytho i lawr am osod a chynllunio nodau o amgylch eich lefelau egni. Mae’n golygu llenwi tabl i’ch helpu i dracio eich teimladau a’ch gweithgarwch.

Ar rai diwrnodau, efallai y bydd gennych fwy neu lai o egni a chymhelliant – mae hi’n bosibl y bydd ein hadnodd yn eich helpu i benderfynu pa weithgareddau sydd orau i chi ar adegau penodol.

Sut alla i osod nodau sy’n gysylltiedig â’m lefelau egni?

Llwythwch ein hadnodd i lawr fel dogfen Word drwy bwyso’r botwm isod.

decorative

Mae dod o hyd i ffyrdd o ymdopi a gweithio ar nodau yn gallu teimlo’n flinedig iawn. Cymerwch eich amser i weithio ar bethau yn y ffordd sy’n gweithio orau i chi.

Cofiwch: mae’n iawn cymryd seibiant.

Mae gen i jar llwyddiannau lle rwy’n ysgrifennu o leiaf un peth y gwnes i ei gyflawni y diwrnod hwnnw (a nodi’r dyddiad) a’i roi yn y jar.

Daliwch ati i wneud beth bynnag sydd ei angen arnoch i deimlo’n ddiogel

Nid yw pob un ohonom yn teimlo y gallwn fynd yn ôl i normal ar ôl y pandemig, ond mae hi’n bosibl na fydd eraill yn deall sut rydym ni’n teimlo. Er nad oes unrhyw reolau mwyach, gallwch geisio gwneud pethau sy’n eich helpu i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus.

Mae hi’n bosibl y byddwch yn parhau i wisgo masg, osgoi llefydd prysur, neu wneud unrhyw beth arall sy’n eich helpu i deimlo’n ddiogel. Ac i rai ohonom, gall helpu i wneud pethau a oedd yn teimlo’n frawychus o’r blaen. Gall dechrau gwneud y pethau hyn yn araf, pan fydd yn ddiogel, ein helpu i symud ymlaen.

Allwn ni ddim cael rheolaeth dros sefyllfaoedd bob amser. Er ei bod yn bwysig gwneud popeth o fewn eich gallu i deimlo’n ddiogel, gwnewch eich gorau i gydnabod y pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n waeth a gweithio arnyn nhw. Os nad yw pobl eraill yn deall, ceisiwch atgoffa eich hun eich bod yn gofalu amdanoch eich hun.

Roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus wrth osgoi’r sefyllfaoedd a oedd yn achosi i mi deimlo’n orbryderus a chael pyliau o banig. Ond nawr, oherwydd nad ydw i wedi wynebu’r pethau sy’n achosi i mi deimlo fel hyn, maen nhw nawr yn gyfrifol am fy atal rhag gwneud rhai pethau. Rwy’n difaru cael cysur drwy redeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw – Elaina, 16

Sut alla i ymdopi â fy nheimladau am y dyfodol?

Ar ôl mynd drwy’r pandemig, mae hi’n bosibl y bydd gennym fwy o bryderon am y dyfodol. Pan fydd y dyfodol yn edrych yn ansicr iawn, mae hi’n bosibl y byddwn yn teimlo’n ofnus neu’n anobeithiol.

Mae gennych chi hawl i deimlo beth bynnag rydych chi’n ei deimlo, ac rydych chi’n haeddu dod o hyd i ffyrdd o reoli eich teimladau a’ch pryderon. Rhowch gynnig ar rai syniadau i ymdopi â theimladau anodd am y dyfodol, fel y canlynol:

  • Bod yn ofalus gyda sut rydych chi’n defnyddio newyddion a chyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd darllen am bethau sy’n digwydd yn y byd, mae gan YoungMinds fwy o wybodaeth am y cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl.
  • Cynllunio gweithgareddau ar gyfer eich lles. Gallech geisio gwneud pethau yn ystod eich diwrnod sy’n tawelu eich meddwl neu’n gwneud i chi deimlo’n dda. Gall gwybod bod gennych chi rywbeth i edrych ymlaen ato helpu, hyd yn oed os yw’n rhywbeth bach. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gyfer gofalu am eich lles.
  • Gofalu am bobl eraill. Mae hi’n bosibl y byddwch am wneud rhywbeth sy’n helpu pobl neu achosion sy’n bwysig i chi, fel gwirfoddoli.
  • Cadw at drefn reolaidd. Mae hi’n bosibl y byddwch yn gweld bod trefn reolaidd yn helpu, os nad oes gennych chi un yn barod, drwy bethau fel yr ysgol neu’r gwaith. Gallech feddwl am bethau rydych chi eisiau ceisio eu gwneud yn ystod y dydd neu dros yr wythnos. Mae hi’n bosibl y byddai’n well gennych chi gael pethau i’w gwneud ar adeg benodol neu weld sut mae pethau’n mynd fesul awr.

Mae mor bwysig cadw eich ymennydd yn brysur gyda gweithgareddau iach fel darllen, ymarfer corff neu bethau cyffredinol rydych chi’n eu mwynhau. Gall hyn fod yn ffordd iach o gael gwared ar unrhyw egni nerfus neu feddyliau negyddol sydd gennych – Elaina, 16

Er y gallwn gael rhywfaint o reolaeth dros ein bywydau a’r byd, mae angen i eraill gymryd mwy o gyfrifoldeb hefyd. Nid chi’n unig sy’n gyfrifol am y dyfodol.

Cofiwch y gallech chi ymdopi’n well ar rai diwrnodau nag eraill – rydych chi’n gwneud eich gorau.

Edrych ar ôl eich hun a dod o hyd i fwy o wybodaeth

Beth bynnag rydych chi wedi’i ddioddef yn ystod y pandemig, neu beth bynnag rydych chi’n ei deimlo nawr, rydych chi’n haeddu cymorth

Dod o hyd i gymorth

Awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich lles

Cyhoeddwyd: Mehefin 2024
Adolygiad nesaf: Mehefin 2027

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

For more information 

arrow_upwardYn ôl i'r brig