Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Awgrymiadau ar gyfer gofalu am dy les – ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-18 oed

Awgrymiadau ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-18 oed ar sut i ofalu am les meddyliol.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Awgrymiadau ar gyfer gofalu am dy les

Os wyt ti angen cymryd ennyd i ofalu am dy les, mae gynnon ni rywfaint o awgrymiadau i dy helpu.

Os wyt ti’n teimlo dy fod ti angen mwy o gymorth ar gyfer dy les meddyliol neu dy iechyd meddwl, cymer olwg ar ein tudalen ar ddod o hyd i gymorth.

Mae’n bwysig cofio bod pethau gwahanol yn gweithio i wahanol bobl. Mae pob un ohonon ni’n wahanol ac mae pethau gwahanol yn digwydd yn ein bywydau. Does dim angen i ti roi cynnig ar unrhyw beth dwyt ti ddim yn teimlo fydd yn iawn i ti.

Ti’n adnabod dy hun yn well na heb arall, a does dim ffordd berffaith o ofalu am dy les.

Sut mae gofalu am fy lles nawr

Weithiau mae angen i ni gymryd eiliad i ofalu am ein lles yn y tymor byr. Efallai y byddi di’n dymuno rhoi cynnig ar rai o’r awgrymiadau hyn nawr. Gallet ti hefyd eu cadw i roi cynnig arnyn nhw’n nes ymlaen, os bydd pethau’n dechrau teimlo’n anodd.

Gofala am y pethau rwyt ti eu hangen y funud hon

Gall fod yn anodd gwella sut rydyn ni’n teimlo os nad ydyn ni wedi gofalu am ein hanghenion sylfaenol yn gyntaf. Wyt ti eisiau rhywbeth i’w fwyta neu yfed? Efallai dy fod ti wedi blino’n gorfforol neu’n feddyliol.

Gallet ti fod angen dod o hyd i ffordd o deimlo’n fwy cyfforddus yn dy gorff neu feddwl. Gallai hynny olygu pethau fel gadael rhywle swnllyd neu addasu dy ddillad.

Cymer saib

Os oes llawer yn digwydd, gall cymryd munud o seibiant helpu. Efallai y bydd pethau’n teimlo’n llai llethol os byddi di’n cymryd saib o beth bynnag rwyt ti’n ei wneud.

Mae’n iawn os nad wyt ti’n gallu cymryd seibiant go iawn ar hyn o bryd. Gall cymryd ychydig eiliadau i sylwi ar sut rwyt ti’n teimlo, neu i orffwys, helpu. Cer i'n tudalen ar ddeall teimladau i gael help i gydnabod sut rwyt ti’n teimlo.

Cymer sylw o ble rwyt ti

Mae rhai pobl yn tawelu wrth dalu sylw i ble maen nhw’n gorfforol. Gelli di roi cynnig ar sylwi ar yr hyn rwyt ti’n gallu ei weld, ei glywed, ei gyffwrdd a’i arogli o dy gwmpas, gan fynd drwy bob synnwyr yn ei dro.

Efallai y bydd hi’n haws gwneud hyn os nad yw’n rhy swnllyd, llachar neu lethol ble rwyt ti. Efallai y bydd angen i ti wisgo plygiau clustiau neu symud i ystafell arall. Gall hyn dy helpu i deimlo’n fwy tawel, a’i gwneud yn haws i ti benderfynu beth arall sydd ei angen arnat ti ar hyn o bryd.

Rho gynnig ar rywbeth arall

Oes yna rywbeth sydd wedi dy helpu i deimlo’n well yn y gorffennol, fel mynd am dro neu wrando ar gerddoriaeth? Gallet ti roi cynnig arall ar hynny.

Os nad wyt ti’n siŵr beth allai helpu, beth am weld a oes unrhyw beth a allai dynnu dy sylw. Gall tynnu dy sylw helpu pan fyddi di’n teimlo nad wyt ti’n gallu ymdopi â dy deimladau. Gallet ti wylio neu wrando ar unrhyw beth syml a chysurus.

Cysyllta â phobl eraill

Gall siarad â rhywun dy helpu i deimlo’n llai unig. Efallai y byddi di’n dymuno siarad am yr hyn sy’n digwydd i ti, neu am rywbeth hollol wahanol.

Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â rhywun ar hyn o bryd, gallet ti gysylltu’n ddienw ar fannau fel The Mix a Childline. Gelli di anfon neges, e-bost neu ffonio’r cynghorwyr. Rwyt ti’n haeddu teimlo dy fod yn cael cefnogaeth.

Efallai y byddi di hefyd yn dymuno bod o gwmpas pobl eraill ond nad wyt ti eisiau siarad â nhw. Gallet ti wneud pethau fel ymweld â man cyhoeddus fel llyfrgell, canolfan ieuenctid neu gaffi.

Ceisia gofio fod gwahanol bethau'n fuddiol i wahanol bobl. Er bod rhywbeth wedi gweithio i rywun arall, nid yw'n golygu y bydd yn gweithio i ti. Neu efallai y bydd yn helpu, ond ar adeg arall yn dy fywyd.

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

Dw i’n credu ei fod yn bwysig i mi wneud rhywbeth sy’n gwneud i mi deimlo’n well, hyd yn oed os nad ydw i’n teimlo’n drist. Gallai hyn gynnwys cysgu am ychydig yn hirach, pobi cacen neu ganu cân. Unrhyw beth sy'n gwneud i mi deimlo fy mod wedi cael fy adnewyddu.

Sut mae gofalu am fy lles yn y tymor hir

Pan allwn ni, mae’n bwysig gofalu am ein lles yn rheolaidd, nid yn unig pan fydd pethau’n anodd. Dydy gofalu amdanon ni ein hunain ddim yn hunanol. Gall wneud gweddill ein bywyd yn haws i’w reoli.

Efallai dy fod ti wedi rhoi cynnig ar lawer o bethau, ond nad ydy unrhyw beth wedi gweithio. Neu efallai mai hwn ydy’r tro cyntaf i ti geisio gofalu am dy les. Mae hynny’n iawn, a does dim angen i ti roi pwysau arnat ti dy hun.

Y peth pwysig yw dal i drio pan fedri di. Mae pawb yn wahanol a gall gymryd amser i ddod o hyd i ffyrdd o ofalu am dy les.

Efallai y dylet ti feddwl hefyd am sut mae angen i ti ofalu am dy les mewn gwahanol leoedd. A oes rhywbeth a allai helpu pan fyddi di gartref, yn yr ysgol neu gyda dy ffrindiau neu bartner(iaid)?

Fe wnaethon ni ofyn i bobl ifanc eraill beth oedd yn ddefnyddiol iddyn nhw yn ogystal ag ychwanegu rhai o’n hawgrymiadau ein hunain. Efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol i ti fel man cychwyn.

Does dim rhaid i ti ddilyn unrhyw un o’r awgrymiadau yn union. A dwyt ti ddim yn gwneud unrhyw beth o’i le os nad wyt ti’n teimlo eu bod yn ddefnyddiol.

Dw i’n teimlo bod cael un foment bendant o heddwch yn ystod y dydd yn wych – Grace, 17

Gwna bethau ti’n eu mwynhau ac sy’n dy helpu i ymlacio

Gall gwneud rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau helpu i wella dy hwyliau, clirio dy feddwl a gwneud i ti deimlo dy fod wedi ymlacio. Gallai hyd yn oed helpu dy berthynas ag eraill a datblygu sgil ddifyr neu ddefnyddiol.

 Gallet ti roi cynnig ar y canlynol:

  • Hobi, fel chwaraeon
  • Treulio amser gyda dy ffrindiau, teulu neu bartner(iaid)
  • Darllen, gwylio ffilmiau neu chwarae gemau
  • Cadw dyddlyfr ac ysgrifennu pethau
  • Ymarferion ymlacio, myfyrdod neu weddïo
  • Neilltuo amser lle gelli di fod yn dawel ar dy ben dy hun

Dw i’n hoffi darllen llyfr cyn mynd i’r gwely yn hytrach nag edrych ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd yn greadigol neu ddysgu rhywbeth newydd

Gall gwneud rhywbeth creadigol ein helpu i ddod o hyd i ffordd o fynegi ein teimladau. Mae’n ein helpu i ddysgu rhywbeth newydd a theimlo’n dda amdanon ni ein hunain. Gallai fod yn bethau fel:

  • Darlunio, paentio, ffotograffiaeth, gwneud fideos neu ysgrifennu creadigol
  • Pobi neu goginio
  • Canu neu chwarae offeryn
  • Dawns neu ddrama

Does dim rhaid iddo fod i rywun arall na fod yn berffaith nac yn dda. Y peth pwysig yw sut mae’n gwneud i ti deimlo.

Gallet roi cynnig ar ddysgu rhywbeth newydd hefyd. Gall hyn fod yn ffordd wych o fagu hyder a chael ymdeimlad o gyflawni. Gallet roi cynnig ar bethau fel dysgu chwaraeon neu iaith newydd, neu ymweld â llyfrgell, amgueddfa neu oriel gelf.

Mae’n bwysig neilltuo amser i wneud y pethau sydd wrth dy fodd. Os nad wyt ti’n gallu eu gwneud nhw nawr, mae hynny’n iawn. Beth am weld a elli di drefnu i wneud rhywbeth yn y dyfodol.

Gofalu am dy iechyd corfforol

Mae angen i ni ofalu am ein lles corfforol a meddyliol. Maen nhw’n gallu effeithio’n hawdd ar ei gilydd.

Ceisia wneud yn siŵr dy fod yn bwyta ac yn yfed digon o ddŵr. Mae’n beth da cael digon o gwsg, a chael digon o amser i wneud pethau sy’n dy ymlacio.

Gelli di hefyd roi cynnig ar ymarfer corff, fel chwaraeon, ioga, neu fynd am dro. Gall gwneud beth elli di i deimlo’n lân ac yn ffres fel brwsio dy ddannedd neu gael cawod helpu hefyd.

Gall fod yn anodd rheoli’r pethau hyn os wyt ti’n gweld pethau'n anodd. Efallai y bydd angen i ti gael rhywfaint o gymorth, neu gymryd camau bychan. I ddechrau, gallai fod yn bethau fel codi o’r gwely neu fwyta rhywbeth.

Os wyt ti’n teimlo’n well, gallet ti olchi dy wyneb neu wneud ychydig o ymarferion i ymestyn y cyhyrau. Dydy hyn ddim bob amser yn hawdd, felly bydd yn garedig â thi dy hun. Rwyt ti’n gwneud dy orau.

Bydd yn garedig â thi dy hun, bydd yn ffrind gorau i ti dy hun.

Cadwa mewn cysylltiad â phobl eraill

Mae cadw mewn cysylltiad â phobl eraill yn bwysig iawn o ran lles.

Gall treulio amser gyda phobl eraill wella’r ffordd rydyn ni’n teimlo. Hefyd, gall helpu pobl eraill wneud i ni deimlo’n dda. Gallet ti drefnu rhywbeth gyda dy ffrindiau, dy deulu neu bartner(iaid), neu anfon neges destun at rywun nad wyt ti wedi siarad ag ef ers tro. Gallet ti roi cynnig ar gwrdd â phobl newydd drwy wirfoddoli neu ymuno â chlwb newydd.

Mae sawl ffordd wahanol o dreulio amser gyda phobl eraill. Weithiau, efallai y byddi di’n dymuno chwarae gêm fideo ar-lein gydag eraill neu dreulio amser gydag anifail anwes.

Treulia amser ym myd natur

Gall treulio amser yn yr awyr agored ym myd natur helpu ein lles meddyliol a chorfforol. Gallet ti roi cynnig ar bethau fel mynd am dro mewn parc lleol neu eistedd yn yr awyr agored pryd bynnag fedri di.

Os nad wyt ti’n gallu mynd allan, beth am ddod â byd natur i mewn atat ti. Gallet ti sylwi ar y natur rwyt ti’n ei gweld drwy’r ffenestr, fel adar neu goed, neu drwy wrando ar y glaw. Gallet ti gasglu planhigion mewn potiau, dail, blodau neu gerrig mân i addurno dy ofod.

Efallai y byddi di hefyd am wrando ar synau natur, neu wylio fideos a chwarae gemau sydd wedi’u lleoli yn y byd naturiol.

Dw i’n teimlo bod ymarfer corff yn rhyddhau llawer o densiwn ac yn rhoi pwrpas i mi.

Noda sefyllfaoedd neu sbardunau sy’n achosi straen

Efallai y bydd pethau sy’n gwneud i ti deimlo’n waeth neu heriau sy’n anodd i ti eu rheoli. Gall helpu i baratoi cymaint ag y gelli di. Gallai hynny olygu cynllunio’r hyn y byddi di’n ei wneud ymlaen llaw a chael pethau’n barod i dy helpu i ymdopi.

Er enghraifft, efallai y byddi di’n creu rhestr chwarae o ganeuon tawel, yn recordio sioe deledu i edrych ymlaen ati yn ddiweddarach, neu’n gwneud yn siŵr bod gennyt ti fwyd wrth law.

Hyd yn oed pan fyddi di’n mynd drwy gyfnodau o straen, gallet ti geisio ychwanegu pethau sy'n dy helpu at dy ddiwrnod. Er enghraifft, gallet ti gynllunio i wneud y pethau y mae angen i ti eu gwneud yn y bore a neilltuo rhywfaint o amser hamdden i ymlacio yn y prynhawn.

Dim ots beth mae pobl yn ei ddweud, dydy hunanofal ddim yn hunanol. Dw i wedi sylwi, pryd bynnag dw i’n cymryd hunanofal o ddifrif, mae’n cael effaith bositif iawn ar sut dw i’n teimlo ac yn ymddwyn.

Cofia’r amseroedd da a chynllunio mwy ohonyn nhw

Pan fydd pethau’n galed, gall fod yn anodd teimlo’n dda. Os gelli di, ceisia gofio nad oedd pethau bob amser yn teimlo fel hyn. Os yw’n teimlo’n dda, gallet ti edrych ar bethau sy’n dy atgoffa o amseroedd da, fel lluniau a fideos ar dy ffôn.

Efallai y byddi di hefyd yn dymuno gosod nodau ar gyfer y dyfodol, a hynny ar gyfer y tymor hir a’r tymor byr. Gallai cynllunio rhywbeth braf ar gyfer y dyfodol, fel gweld ffrind, fod yn ddigon.

Nodau tymor byr yw pethau fel gwneud un peth ar gyfer dy les bob dydd, am ychydig ddyddiau. Nodau tymor hir yw pethau fel dechrau prosiect neu feithrin sgil fel dy fod ti’n gallu gwneud rhywbeth newydd yn y dyfodol.

Gofyn am fwy o help os oes angen hynny arnat ti

Hyd yn oed os wyt ti’n ymdopi'n iawn weithiau, does dim rhaid i ti ddelio â phopeth ar dy ben dy hun. Gall ymddiried mewn ffrindiau, teulu, partner(iaid) neu bobl eraill rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw wneud i ti deimlo bod rhywun yn dy gefnogi.

Cofia, mae hi’n iawn gofyn am help. Rwyt ti’n haeddu cael gofal. Cer i’n tudalen ar ddod o hyd i gymorth i gael rhagor o syniadau ynghylch ble gelli di gael help a chymorth.

Mae trafod yr hyn sydd wedi bod yn effeithiol o ran hybu fy lles yn y gorffennol gydag aelodau o’m teulu a’m ffrindiau agos yn eu galluogi i weithredu ar adegau o angen.

Canolbwyntia ar yr hyn sy’n gweithio i ti

Gwna dy orau i beidio â chymharu dy hun ag eraill na’r hyn sy’n ddefnyddiol iddyn nhw o ran eu lles. Weithiau efallai na fydd pobl yn deall pam ein bod ni’n hoffi neu’n mwynhau rhai pethau. Ceisia ddod o hyd i weithgareddau sy’n dy helpu i ofalu amdanat ti dy hun.

Mae gwrando ar gerddoriaeth yn helpu fy iechyd meddwl oherwydd y berthynas sydd gen i â’r gân, y geiriau. – Chantelle, 13

Sut gall gwahanol heriau effeithio ar fy lles

Does dim bai arnat ti os wyt ti’n cael trafferth gofalu am dy les. Gall fod yn anodd gofalu am dy les pan fydd pethau eraill yn digwydd yn dy fywyd.

Dyma rai pethau a allai effeithio ar ein gallu i ofalu am ein lles:

  • Rheoli llawer o gyfrifoldebau ar unwaith, fel gwaith ysgol a gofalu am bobl eraill
  • Mynd drwy ddigwyddiadau sy’n rhoi llawer o bwysau arnon ni, fel straen arholiadau
  • Teimlo pwysau gan bobl eraill i ganolbwyntio ar bethau penodol, fel yr ysgol neu hobïau
  • Cael pobl o dy gwmpas sydd ddim yn dy ddeall, neu sut mae angen i ti ofalu amdanat ti dy hun
  • Dim egni na gallu i ofalu amdanat ti dy hun
  • Cael anhawster ag iechyd corfforol a phroblemau iechyd meddwl

Efallai y byddwn hefyd yn wynebu heriau o ble rydyn ni’n byw neu’n gweithio, ac o’n profiadau mewn bywyd bob dydd.

Mae llawer o’r pethau sy’n digwydd yn y byd yn gallu gwneud gofalu am ein lles yn anoddach. Gallai fod yn bethau fel:

  • Dim digon o arian i ofalu am ein lles yn y ffordd rydyn ni eisiau gwneud hynny
  • Methu cael gafael ar gymorth ar gyfer ein hiechyd meddwl
  • Methu cael gafael ar wasanaethau iechyd eraill
  • Dim lle diogel i fyw, dim digon o fwyd nac anghenion sylfaenol eraill
  • Ble rydyn ni’n byw a’r amgylchedd o’n cwmpas
  • Peidio â chael ein cynnwys yn ein teuluoedd, grwpiau ffrindiau na chymdeithas yn gyffredinol
  • Profi neu weld hiliaeth, rhywiaeth, homoffobia, trawsffobia neu fathau eraill o wahaniaethu
  • Cael dy farnu’n annheg a dy drin yn wael am bethau eraill amdanat ti, fel dy grefydd, dy hunaniaeth rhywedd neu dy anabledd

Gall fod yn anodd rheoli heriau o ran gofalu am ein lles, yn enwedig pan fyddwn ni’n delio â llawer o bethau ar unwaith. Gall achosi straen a gofid pan nad yw rhai pethau o fewn ein rheolaeth neu pan fyddwn yn cael ein trin yn annheg.

Mae’r adran nesaf yn cynnwys ychydig o syniadau ar gyfer ymdopi â’r heriau hyn.

Roedd arna i ofn i ddechrau siarad yn agored â phobl am fy lles, ond roedd yn gymaint o bwysau oddi ar fy ysgwyddau i wybod nad oeddwn i ar fy mhen fy hun. Ac roedd yn golygu y gallai fy ffrindiau a’m teulu gynnig mwy o awgrymiadau personol a chefnogaeth i’m helpu gyda fy lles.

Awgrymiadau ar gyfer delio â heriau o ran fy lles

Dydy hi ddim bob amser yn bosibl cael gwared ar heriau o ran ein lles. Ond mae rhai pethau y gelli di eu gwneud, ar dy ben dy hun a gyda phobl eraill, i’w gwneud hi’n haws ymdopi.

Gallai’r awgrymiadau a’r syniadau hyn helpu os wyt ti’n teimlo nad yw pobl eraill yn dy gynnwys di neu'n dy drin yn deg.

Gwella dy hyder a hunan-barch

Mae’n bwysig bod o gwmpas pobl sy’n ein deall. Mae hefyd yn bwysig dathlu ein llwyddiannau. Gall dysgu rhywbeth newydd hefyd ein helpu i deimlo’n fwy hyderus.

Ceisia ddathlu dy hunaniaeth

Mae dy hunaniaeth yn gymysgedd o'r holl bethau sy’n dy wneud ti yn ti. Rhai enghreifftiau ydy dy ddiddordebau, y bobl o dy gwmpas, o ble rwyt ti’n dod a’r hyn sy’n bwysig i ti mewn bywyd.

Efallai yr hoffet ti ddewis rhannau ohonot ti dy hun i’w dathlu. Beth wyt ti’n hoffi am fod yn ti?

Gallet ti hefyd feddwl am y bobl sy'n bwysig i ti a beth sy’n eu gwneud nhw pwy ydyn nhw. Gall teimlo cysylltiad â’r bobl sy’n bwysig i ti dy helpu i ddathlu dy hunaniaeth. Gall teimlo cysylltiad â phobl sy’n debyg i ti wneud pethau’n haws hefyd.

Chwilia am gymorth gan grwpiau a chymunedau  

Gall cysylltu â phobl fel ni ein hunain ein helpu i deimlo ein bod yn cael ein deall yn well a theimlo’n llai unig. Gall hyn fod yn bethau fel grwpiau wyneb yn wyneb neu siarad â phobl eraill ar-lein.

Efallai mai diben rhai grwpiau fydd ymuno â gweithgareddau difyr. Gallai grwpiau eraill gynnig cyfleoedd i ddysgu am ddiwylliannau a chymunedau rwyt ti’n rhan ohonyn nhw. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n dysgu iaith gyda’ch gilydd, yn chwarae offerynnau cerdd, yn gwylio ffilmiau neu’n coginio bwyd gyda’ch gilydd.

Gallet ti hefyd chwilio am grwpiau sy'n ceisio gwneud y byd yn lle gwell. Mae rhestr o leoedd sy’n cynnig cymorth a syniadau ar gyfer pob math o wahanol bobl ar gael ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol.

Rheoli’r hyn rwyt ti’n ei weld ar y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol

Does dim modd o hyd osgoi’r hyn sy’n digwydd yn y byd, nac atal ein hunain rhag meddwl amdano. Weithiau gall y newyddion neu’r cyfryngau cymdeithasol effeithio ar y ffordd rydyn ni’n teimlo amdanon ni ein hunain. Os ydy hynny’n digwydd, gallet ti gymryd seibiant o wrando, gwylio neu ddarllen unrhyw beth sy’n teimlo’n anodd.

Bydd yn garedig â thi dy hun

Weithiau efallai y bydd pethau’n teimlo yn ormod i ti. Efallai y bydd angen seibiant arnat rhag meddwl am bob math o bethau. Mae hynny’n cynnwys cymryd seibiant o feddwl am sut i ofalu amdanat ti dy hun.

Rwyt ti’n gwneud dy orau. Mae hynny’n fwy na digon.

Dwi'n edrych am fwy o gymorth 

Edrycha ar ein tudalen ar ddod o hyd i gymorth 

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Dyfyniadau gan bobl ifanc y buom yn siarad â nhw wrth gasglu’r wybodaeth hon sydd ar y dudalen hon. Maen nhw wedi rhoi eu caniatâd i ni ddefnyddio eu dyfyniadau yn ein gwybodaeth. Nid yw’r geiriau, y profiadau na’r farn yn y dyfyniadau yn gysylltiedig â’r bobl ifanc a ddangosir yn unrhyw un o’r ffotograffau rydyn ni’n eu defnyddio.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffet ti atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, cer i edrych ar ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth 

arrow_upwardYn ôl i'r brig