Straen arholiadau – ar gyfer pobl ifanc
Gwybodaeth i bobl ifanc ar straen arholiadau, gyda chyngor ar sut i ymdopi a ble i fynd am gefnogaeth.
Straen arholiadau
Gall arholiadau ddod â llawer o bwysau a gwneud i ni deimlo dan straen mawr.
Os wyt ti'n cael trafferth ymdopi, nid wyt ti ar dy ben dy hun. Rydyn ni yma i dy helpu ti i reoli dy deimladau o amgylch arholiadau a dod o hyd i ffyrdd o ymdopi.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:
Beth yw straen arholiadau?
Mae llawer ohonom yn gwybod sut brofiad yw teimlo dan straen, ond nid yw'n hawdd disgrifio beth yw straen.
Nid oes un diffiniad unigol o straen, a gallai deimlo'n wahanol i ti nag y mae i rywun arall. Gall sut rydyn ni'n profi straen deimlo'n wahanol ar wahanol adegau. Gall hefyd ddibynnu ar yr hyn sy'n ei achosi.
Gall straen arholiad fod yn fwy na theimlo'n nerfus ar ddiwrnod arholiad. Gall hefyd fod sut rwyt ti'n teimlo wrth baratoi ar gyfer arholiadau, yn ystod arholiadau ac wrth aros am ganlyniadau.
Disgrifiodd y bobl ifanc y siaradom â nhw straen arholiadau fel:
- "Fel pwysau sy'n cael ei osod ar dy ben. Tra dy fod ti eisiau llwyddo, rwy’n ei chael hi’n anodd iawn gwneud hynny oherwydd y pwysau."
- "Mae'r syniad o astudio neu wneud yr arholiadau yn fy llethu ac mae'n achosi i mi golli ffocws. Mae’r diffyg ffocws hwn yn gwneud i mi deimlo fy mod yn mynd i fethu ac yn ychwanegu at y straen – ac mae’n tyfu a thyfu."
- "Gwybod bod gennyt ti gymaint i'w wneud mewn cyn lleied o amser. Dychmygu sut rwyt ti'n gwybod dy fod ti'n mynd i fethu a theimlo mor dwp oherwydd dwyt ti ddim yn gallu cofio dim byd."
Gall fod yn anodd ymdopi â theimlo dan straen, yn bryderus, neu dan bwysau ynghylch arholiadau. Ond mae yna bethau a all helpu – mae'n ymwneud â dod o hyd i'r hyn sy'n iawn i ti.
Beth sy'n achosi straen arholiadau?
Gall arholiadau fod yn straen ar eu pen eu hunain, ond gallai pethau eraill achosi i ti teimlo'n waeth. Gallai’r rhain gynnwys:
- Teimlo nad wyt ti'n barod neu wedi paratoi ar gyfer arholiadau, fel gadael adolygu yn rhy hwyr.
- Poeni am sut y byddi ti'n teimlo ac yn perfformio yn ystod yr arholiad, yn enwedig pan nad wyt ti'n gwybod beth fydd ynddo.
- Pwysau gan eraill, fel rhieni, gofalwyr neu athrawon.
- Pwysau gennyt ti dy hun i gael graddau penodol.
- Cymharu dy hun ag eraill, fel credu bod yn rhaid i ti cael yr un canlyniadau â'ch ffrindiau.
- Poeni am y dyfodol, fel mynd i'r brifysgol neu gael swydd.
- Ymdopi â newidiadau bywyd, fel symud o'r ysgol uwchradd i'r coleg.
- Cael anawsterau gartref neu yn dy berthynas â theulu, ffrindiau neu bartneriaid.
- Bod â chyfrifoldebau gofalu am aelod o'r teulu neu rywun rwyt ti’nn byw gyda.
- Ymdopi â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol, a allai gynnwys pryderon ynghylch trefnu addasiadau rhesymol ar gyfer dy arholiadau.
Efallai dy fod ti hefyd yn teimlo dan straen am resymau nad ydynt wedi'u rhestru yma. Rydyn ni i gyd yn wahanol ac mae hynny'n iawn.
“Daeth straen arholiadau i mi o ofn am fy nyfodol. I mi, roedd yn teimlo bod sawl peth yn rhoi pwysau arnaf.”
- Pryderus, gofidus, wedi dy lethu
- Ypset, dagreuol
- Wedi blino'n lân
- Wedi trechu, wedi diflasu, heb ddiddordeb, wedi cael llond bol
- Anfodlon, blin
- Teimlo cywilydd, gwirion, dwp
- Cythruddo'n hawdd
- Siomedig
- Crynu
- Teimlo'n sâl
- Cur pen a phendro
- Poen stumog
- Newidiadau mewn arferion bwyta
- Crio
- Cael trafferth canolbwyntio
- Anghofus
- Aflonydd
- Teimlo'n dynn yn dy gorff
- Newidiadau mewn anadlu, anadlu'n gyflym iawn
- Chwysu llawer
- Teimlo'n flinedig
- Ofn methu
- Ofn siomi dy hun neu eraill
- Cymharu dy hun ag eraill
- Siarad yn wael â ti dy hun
- Teimlo na allet ymdopi
- Teimlo bod pethau'n ddibwrpas
- Amau dy hun
- Credu bod popeth yn anghywir neu'n ddrwg
- Osgoi pethau fel adolygu a chynllunio arholiadau
- Cael trafferth rheoli bywyd o ddydd i ddydd
- Diffyg cymhelliant
- Peidio â gwneud pethau rwyt ti'n eu mwynhau fel arfer
Pan fydd teimladau o straen yn mynd yn ormod i'w rheoli, gall hyn effeithio ar ein hiechyd meddwl.
Gall straen hefyd wneud i broblemau iechyd meddwl presennol deimlo'n anoddach i ymdopi â nhw. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen ar ddeall iechyd meddwl.
“I mi, mae straen arholiadau yn ymwneud yn bennaf â phoeni, ond mae hefyd yn amrywiaeth eang o emosiynau – rhyw fath o hwyliau ansad.”
Syniadau ar gyfer ymdopi â straen arholiadau
Gall straen arholiadau deimlo fel llawer i ymdopi ag ef, ond mae yna bethau y gallet ti eu gwneud i wella dy les. Mae gennym awgrymiadau a syniadau i dy helpu i ymdopi ar wahanol adegau:
Cofia: rydyn ni i gyd yn unigryw, felly gall yr hyn sy'n gweithio i ti fod yn wahanol i'r hyn sy'n gweithio i rywun arall. Efallai y bydd yn rhaid i ti hefyd roi cynnig ar ychydig o bethau gwahanol i weld beth sy'n gweithio orau.
Yn ystod cyfnod yr arholiadau
Efallai dy fod ar absenoldeb astudio neu efallai y bydd yn rhaid i ti parhau i fynd i'r ysgol. Efallai dy fod ti hefyd yn gweithio swydd ran-amser. Gall cyfnod yr arholiadau deimlo'n hir ac yn anodd, a gallet ti teimlo dan bwysau.
Gallet ti gofalu amdano dy hun mewn gwahanol ffyrdd:
- Gwna amser ar gyfer y pethau rwyt yn eu mwynhau. Ceisia dod o hyd i ffyrdd o ryddhau straen a dathlu cynnydd. Gallet ti gwrando ar gerddoriaeth, tynnu llun, coginio, chwarae gydag anifail anwes neu fynd am dro. Gallet ti rhoi cynnig ar bethau ar dy ben dy hun neu gyda ffrindiau.
- Siarada ag eraill am sut rwyt ti'n teimlo. Cysyllta â phobl eraill, yn enwedig pobl sy'n mynd trwy'r un peth. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen siarad am sut rwyt ti'n teimlo.
- Ceisia dod o hyd i gydbwysedd. Cymera seibiannau rheolaidd a bydd yn realistig am yr hyn y gallet ti ei wneud mewn diwrnod. Cadwa pethau mewn persbectif a chofia na fydd arholiadau'n para am byth.
- Gofala am dy iechyd corfforol. Gwna’n siŵr dy fod ti’n cael digon o gwsg, bwyd, dŵr ac ymarfer corff. Os wyt ti'n cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, cadwa i fyny â dy drefn arferol.
- Canolbwyntia ar ti dy hun. Ceisia peidio â chymharu dy hun ag eraill. Meddylia am bethau rwyt ti'n eu hoffi amdano ti dy hun a'r hyn rwyt ti'n ei wneud yn dda – gall hyn helpu i roi hwb i dy hyder.
Am ragor o syniadau, gweler ein tudalen gofalu am dy les.
“Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod gennym ni gydbwysedd o ymlacio hefyd… Rydyn ni i gyd yn cael trafferth gyda’n hiechyd meddwl felly mae ceisio dod o hyd i’r cydbwysedd hwn yn hynod o bwysig.”
Paratoi ar gyfer arholiad
Tra dy fod ti'n paratoi arholiad, fe allet ti ceisio gostwng lefelau straen trwy:
- Dod o hyd i grŵp astudio. Os nad oes un yn yr ysgol, ceisia dechrau un gyda ffrindiau neu bobl yn dy ddosbarth.
- Llunio amserlen adolygu. Mae hyn yn helpu i drefnu dy adolygu a dy seibiannau. Gallet ti dod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ar wefan BBC Bitesize.
- Gweithio yn y ffordd orau i ti. Bydd yn greadigol neu'n actif os yw'n helpu, fel lluniadu diagramau neu greu caneuon. Ceisia bod yn agored i wahanol fathau o astudio ac adolygu.
- Adolygu yn y lle gorau i ti. Efallai y byddai'n well gennyt y tawelwch neu fod o gwmpas eraill. Os nad oes gennyt le i astudio gartref, gallet ti rhoi cynnig ar yr ysgol, y llyfrgell, caffi, neu dŷ aelod o'r teulu neu ffrind.
Cofia: mae teimlo dan straen am arholiadau yn normal, ond nid oes rhaid i ti ymdopi ar dy pen dy hun.
Ar ddiwrnod dy arholiad
Er mwyn helpu i ymdopi â straen ar ddiwrnod dy arholiad, fe allet ti:
- Paratoi dy eitemau y noson gynt.Gwna’n sicr i baratoi bopeth sydd ei angen arnot i fynd gyda ti, fel beiros a dŵr ar gyfer dy arholiad.
- Dechrau dy ddiwrnod y gorau y gallet. Ceisia bwyta brecwast a gwna’n siŵr bod gennyt ti digon o amser i gyrraedd dy arholiad heb ruthro.
- Ceisio faeddu dy hun gydag ymarfer anadlu. Os wyt ti'n teimlo dy fod wedi dy lethu yn yr arholiad, ceisia anadlu i mewn trwy dy drwyn am bedwar cyfrif, dalia ef am ddau gyfrif, ac anadlu allan trwy dy geg am saith cyfrif. Gall ailadrodd hyn arafu dy anadl a helpu i dy deimlo’n fwy llonydd..
- Cymryd dy amser. Darllena’r arholiad yn ofalus a chynllunia beth sydd angen i ti ei wneud cyn ateb.
- Atgoffa dy hun bydd yr arholiad drosodd yn fuan. Rwyt ti wedi gwneud dy orau a dyna'r cyfan y gallet ti ei wneud.
“Roeddwn i’n nerfus ond dywedais wrthyf fy hun ‘erbyn nos Iau bydd wedi’i wneud’. Beth bynnag sy’n digwydd, pan fydda’ i’n dod adref gallaf ymlacio, ei fwynhau a does dim rhaid i mi straenio at y dyfodol.”
Ar ôl dy arholiad
Er mwyn ymdopi â straen a theimladau anodd ar ôl arholiad, fe allet ti:
- Ceisio peidio â chymharu dy atebion ag atebion eraill. Os yn bosibl, ceisia osgoi siarad â phobl eraill am y cwestiynau, cymharu atebion neu chwilio am atebion ar-lein.
- Gwobrwyo dy hun. Meddylia am rywbeth i'w wneud wedyn rwyt ti'n ei fwynhau. Gallet ti mynd allan gyda dy ffrindiau, chwarae gemau fideo, neu fwyta dy hoff fwyd.
- Canolbwyntio ar y camau nesaf. Cynllunia beth fyddi di'n ei wneud nesaf, fel mynd adref, gwneud rhywbeth hwyliog, yna adolygu ar gyfer yr arholiad nesaf. Meddylia ymlaen llaw mewn ffordd gadarnhaol – os oes gennyt ti arholiad arall, canolbwyntia ar yr amser a'r dyddiad y bydd wedi dod i ben.
- Ymlacio cyn eich arholiad nesaf. Gall y straen o wneud arholiad gadael ti’n teimlo wedi blino'n lân. Efallai y byddi di yn ei chael yn anodd adolygu eto cyn i ti cymryd seibiant.
Cofia: dim ond dy orau y gallet ti ei wneud. Mae pob diwrnod newydd yn gyfle i ddechrau eto.
“Hyd yn oed os nad wyt ti’n gwneud yn dda ar brofion, nid yw hynny'n golygu dy fod ti'n llai teilwng na neb arall. Gall olygu dy fod yn llai cryf yn y modd y mae'r ysgol yn profi gwybodaeth.”
Cymorth gan yr ysgol neu goleg
Efallai y bydd dy athrawon yn gallu cynnig cymorth i helpu gyda dy arholiadau. Gallet gofyn am help gyda:
- Sut i adolygu ac unrhyw awgrymiadau sydd ganddynt
- Pynciau rwyt ti'n cael trafferth gyda nhw
- Paratoi ar gyfer arholiadau
- Rheoli pryderon am y coronafeirws
- Cydbwyso gwahanol bynciau a thestunau
- Sut i ofalu amdano ti dy hun
Efallai y bydd dy ysgol yn gallu cynnig mwy o gefnogaeth i ti, fel gwasanaeth cwnsela.
Os oes gennyt ti problem iechyd meddwl sy'n cyfrif fel anabledd, efallai y bydd gennyt hawl hefyd i rywbeth a elwir yn addasiadau rhesymol. I gael rhagor o wybodaeth am addasiadau rhesymol, gweler ein tudalen diagnosis.
Os nad wyt ti'n siŵr beth sydd ar gael, gofynna i oedolyn rwyt ti'n ymddiried ynddo fel athro neu nyrs ysgol pa gymorth y gall ei gynnig.
“Rydw i wedi gofyn am help yn yr ysgol gan athrawon, ac maent wedi bod yn ffynhonnell wych o gymorth. Mae rhai pynciau hefyd yn cynnal sesiynau adolygu ar ôl ysgol, sy’n ddefnyddiol iawn i mi.”
Mathau eraill o gymorth
Ni all pob un ohonom ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnom gan yr ysgol neu'r coleg. Os wyt ti'n teimlo bod pethau'n mynd yn ormod, fe allet ti:
- Siarad â rhywun rwyt ti'n ymddiried ynddo, fel aelod o'r teulu, partner neu ffrind. Am syniadau ar sut i gychwyn y sgwrs, gweler ein tudalen ar fod yn agored ag eraill.
- Dod o hyd i fathau eraill o gymorth ar ein tudalen ar ddod o hyd i gymorth.
- Siarad â rhywun yn gyfrinachol, fel Childline neu The Mix.
- Mynd i'n tudalen cysylltiadau defnyddiol am restr o sefydliadau eraill a all helpu. Mae rhai yn cynnig gwasanaethau testun neu negeseuon gwib ar gyfer preifatrwydd ychwanegol.
“Mae gan bawb werth a gall llawer o bobl sydd ddim yn gwneud yn dda mewn arholiadau ychwanegu gwerth at gymdeithas a’r byd.”
Counselling - Cwnsela
Math o therapi siarad gyda chwnselydd hyfforddedig yw hwn. Gall cwnsela dy helpu di:
- I drin a thrafod problem neu sefyllfa sy’n effeithio’n negyddol ar dy iechyd meddwl
- I gydnabod sut mae’r broblem neu’r sefyllfa’n effeithio arnat ti
- I ddod o hyd i strategaethau ymdopi cadarnhaol neu ffyrdd o wella’r sefyllfa
Gall ddigwydd wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Cyhoeddwyd: Ebrill 2022
Adolygiad nesaf: Ebrill 2025
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.