er gwell iechyd meddwl
Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall diagnosis – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc ynghylch deall diagnosis iechyd meddwl a sut y gall dy effeithio di.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Beth yw diagnosis?

Mae diagnosis yn ffordd o ddisgrifio grŵp o deimladau, symptomau neu brofiadau.

Yn union fel cael diagnosis i broblem iechyd corfforol, fel ecsema neu glefyd y siwgr, gall gweithiwr iechyd proffesiynol roi diagnosis iechyd meddwl i ti yn seiliedig ar yr hyn rwyt ti’n ei deimlo.

Er enghraifft, os wyt ti’n teimlo’n isel iawn, yn ei chael hi’n anodd codi o'r gwely ac yn crïo’n aml, efallai gei di ddiagnosis o iselder.

Er bod nifer o bobl yn gallu bod â’r un diagnosis, maen nhw i gyd yn gallu cael profiad gwahanol o’u cyflwr.

Mae gwybodaeth am y canlynol ar y dudalen hon:

Sut mae cael diagnosis am broblemau iechyd meddwl?

Gall gweithiwr iechyd proffesiynol, fel meddyg teulu, wneud diagnosis. Efallai y cei di ddiagnosis wrthyn nhw eu hunain, neu efallai byddan nhw’n dy gyfeirio at wasanaeth iechyd meddwl, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (Children and Adolescent Mental Health Services - CAMHS).

I wneud diagnosis, mae’n bosib y byddan nhw’n holi am y canlynol:

  • Y teimladau, y meddyliau a’r mathau o ymddygiad rwyt ti’n eu profi
  • Pa mor hir rwyt ti wedi bod yn teimlo fel hyn
  • Unrhyw broblemau rwyt ti’n eu cael gartref, yn yr ysgol, neu yn y gwaith
  • Yr effaith mae dy deimladau a dy brofiadau yn eu cael ar dy fywyd
  • Dy iechyd corfforol – unrhyw newidiadau i dy allu i gysgu, dy chwant bwyd a dy lefelau egni.

Mae’n haws cael diagnosis ar gyfer rhai problemau iechyd meddwl nag eraill. Er enghraifft, os wyt ti’n dioddef o orbryder neu iselder, mae’n bosib bydd dy feddyg yn gallu rhoi diagnosis i ti ar ôl ychydig o apwyntiadau.

I broblemau iechyd meddwl eraill, gall derbyn diagnosis gymryd yn hirach. Efallai cei di dy holi i weld sut wyt ti’n teimlo dros gyfnod o amser i sicrhau bod dy feddyg yn deall yr hyn rwyt ti’n ei deimlo.  

Am ragor o wybodaeth am sut i chwilio am gymorth a beth i ddweud wrth dy feddyg, cer at ein tudalennau dod o hyd i gymorth a ymweld â’r meddyg.

"Efallai dy fod di wedi cael diagnosis o salwch penodol, ond dydy hynny ddim yn golygu bod rhaid i ti fod yn dioddef o bob symptom."

Beth sy’n digwydd pan gaf i ddiagnosis?

Pan gei di ddiagnosis, dylai dy feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol siarad â ti ynghylch beth sydd am ddigwydd nesaf. Dylen nhw hefyd siarad â ti am y mathau gwahanol o driniaethau a chefnogaeth sydd ar gael i ti.

Mae derbyn diagnosis yn gallu teimlo fel cam cyntaf sylweddol. Gall dy helpu di i wneud y canlynol:

  • Siarad â rhywun – cer at ein tudalen bod yn agored am gyngor ar sut i siarad â ffrindiau neu deulu am dy iechyd meddwl, neu galwa Childline am gyngor cyfrinachol.
  • I wybod mwy am dy gyflwr, cer at ein tudalen mathau o broblemau iechyd meddwl neu cer i wefan YoungMinds am fwy o wybodaeth ar gyflyrau gwahanol.
  • Chwilio am leoedd i gael cefnogaeth a thriniaeth – cer at ein tudalen dod o hyd i gymorth neu hola dy feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol am ragor o wybodaeth.

Os nad wyt ti eisiau, does dim rhaid i ti ddweud wrth unrhyw un am dy ddiagnosis.

Fydd dy feddyg di ddim fel arfer yn siarad â dy rieni neu dy ofalwyr am dy ddiagnosis di chwaith, oni bai eu bod nhw’n meddwl dy fod di neu rywun arall mewn perygl.

Sut all diagnosis fod o gymorth?

Weithiau, mae derbyn diagnosis yn gallu bod yn beth da. Gall dy helpu di i wneud y canlynol:

  • Deall dy deimladau
  • Gwybod bod enw i’r hyn rwyt ti’n ei deimlo
  • Teimlo rhyddhad – nid ti yw’r person cyntaf i deimlo hyn
  • Cael mwy o wybodaeth am dy gyflwr
  • Cael y gefnogaeth a'r driniaeth gywir sy’n gallu helpu gyda dy ddiagnosis
  • Esbonio beth sy’n mynd ymlaen i bobl eraill
  • Cysylltu â phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg

Ond hyd yn oed os nad wyt ti’n derbyn diagnosis, mae dal yn bosib i ti gael cymorth gyda dy symptomau.

"Gall diagnosis godi ofn ar rywun, ond gall fod yn rhyddhad nad ti yw’r unig berson sy’n teimlo fel rwyt ti."

Beth os nad ydw i’n credu bod y diagnosis o gymorth?

Mae gan rai pobl deimladau cymysg ynghylch derbyn diagnosis. Efallai na fyddi di’n cytuno â dy ddiagnosis, neu’n teimlo nad yw wir yn esbonio beth rwyt ti’n ei deimlo. Os mai dyna’r achos, efallai y byddi di’n ei chael yn haws canolbwyntio ar dy symptomau yn lle hynny.

Neu mae’n bosib dy fod di’n meddwl ei fod yn label nad yw o help i ti o gwbl, ac y bydd pobl yn dy drin di’n wahanol oherwydd hynny.

Mae diagnosis yn un ffordd o esbonio’r hyn rwyt ti’n ei deimlo, ond does dim angen iddo ddiffinio pwy wyt ti.  Gall dy feddyliau a dy deimladau dy hun fod yr un mor bwysig wrth ddeall yr hyn rwyt ti’n ei deimlo, ac wrth weithio allan sut i deimlo’n well.

"Byddai wedi bod yn dda pe bai rhywun yno i fi ar ôl fy asesiadau, i gadarnhau nad yw diagnosis yn fy niffinio i a bod meddygon yno i fy helpu i."

Beth os nad ydw i’n cytuno â’r diagnosis?

Os nad wyt ti’n cytuno â dy ddiagnosis, dylet ti siarad â dy feddyg ac esbonio pam.

Dydy meddygon ddim yn rhannu’r un syniadau am ddiagnosis a thriniaeth bob amser. Os nad wyt ti’n cytuno â dy ddiagnosis, gelli di ofyn i siarad â meddyg arall i weld os gall dy ddiagnosis fod yn wahanol. ‘Cael barn arall’ (second opinion) yw’r enw ar hyn.

Does dim hawl cyfreithiol gen ti i gael barn arall, ond os yw dy feddyg yn gwrthod dy gyfeirio di at gael barn arall, dylet ti ofyn iddyn nhw esbonio pam. Os nad wyt ti’n fodlon a’u rhesymau, mae hawl gen ti i wneud cwyn.  Gall hyn fod yn anodd ar adegau, felly efallai fyddai’n syniad gofyn i oedolyn cyfrifol am gymorth.

Oes modd cael cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu’r gwaith?

Dy ddewis dy yw dweud wrth dy ysgol, dy goleg, dy brifysgol neu dy gyflogwr am dy ddiagnosis.  Efallai y bydd o gymorth i ti ddweud wrthyn nhw fel eu bod nhw’n deall yr hyn rwyt ti’n ei deimlo. Mae’n bosib y byddan nhw’n gallu cynnig cefnogaeth i ti hefyd, fel y canlynol:

  • Bod yno er mwyn gwrando, os oes angen rhywun i siarad arnat ti
  • Rhoi gwybodaeth i ti am y gefnogaeth maen nhw’n ei chynnig, fel cwnselydd ysgol neu wasanaeth llesiant
  • Gwneud ‘addasiadau rhesymol’ – i dy helpu di gyda’r pethau rwyt ti’n eu cael yn anodd o achos dy iechyd meddwl.

Beth yw addasiadau rhesymol?

Os yw dy broblem iechyd meddwl yn ei wneud yn anodd i ti wneud pethau cyffredin o ddydd i ddydd, fel mynd i leoedd prysur neu deithio ar ben dy hun, yna mae cyfraith yn bodoli o’r enw Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n nodi y gall hyn gael ei gyfri fel anabledd.

Os yw dy broblem iechyd meddwl neu dy ddiagnosis yn cael ei gyfri fel anabledd, efallai bydd modd i ti dderbyn ‘addasiadau rhesymol’.

Mae addasiadau rhesymol yn newidiadau y mae’n rhaid i ysgolion, prifysgolion a gweithleoedd eu cyflawni os yw dy anabledd yn ei wneud yn anoddach i ti i wneud yr un pethau â phobl eraill nad ydyn nhw’n anabl.

Yn yr ysgol, gall y rhain fod yn newidiadau i’r amgylchedd gweithio neu i'r gefnogaeth sydd ar gael i ti. Er enghraifft, os wyt ti’n dioddef o orbryder a dy fod di’n ei chael yn anodd ymdopi mewn lleoedd swnllyd a phrysur, gall dy ysgol ganiatáu i ti adael gwersi ychydig yn gynt i osgoi coridorau prysur. Gallan nhw hefyd gynnig rhywle tawel i ti dreulio amser egwyl ac amser cinio.

Does dim rhaid derbyn diagnosis i gael dy gyfri’n anabl dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Os nad wyt ti’n siŵr a yw dy broblem iechyd meddwl neu ddiagnosis yn cyfri fel anabledd, dylet ti siarad â dy feddyg. Os nad yw’n cyfri fel anabledd, gelli di ofyn am addasiadau, ond does dim hawl cyfreithiol gen ti iddyn nhw.

"Roedd y diagnosis o gymorth yn yr ysgol. Roedd fy athrawon yn deall os oedd rhaid i fi adael y dosbarth ar adegau i gael cefnogaeth oddi wrth y gwasanaeth cwnsela, neu os oeddwn i ychydig yn hwyr neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi."

A fydd fy niagnosis yn gallu effeithio ar fy nyfodol?

Dydy derbyn diagnosis am broblem iechyd meddwl ddim yn golygu na elli di fynd i’r brifysgol nac yn cyfyngu ar y swyddi elli di wneud – oni bai ei bod yn swydd benodol iawn a bod rheswm da iawn na fyddi di’n gallu ei gwneud.

Gall profiad o broblemau iechyd meddwl hyd yn oed dy wneud di’n well gweithiwr gan dy fod di’n gallu deall pobl eraill â phroblemau tebyg.

Ymgeisio am swyddi

Pan fyddi di’n ymgeisio am swydd, dim ond mewn rhai sefyllfaoedd gall y cyflogwr holi am dy iechyd meddwl, fel yn yr achosion canlynol:

  • Os oes angen addasiadau rhesymol arnat ti yn ystod y broses ymgeisio
  • Os byddi di’n gallu gwneud tasgau pwysig yn y swydd
  • Os wyt ti’n gallu amddiffyn diogelwch gwladol, os wyt ti’n ymgeisio am rai swyddi gyda’r llywodraeth
  • Os ydyn nhw’n derbyn ceisiadau gan amrywiaeth eang o bobl.

Os yw cyflogwr yn holi am dy iechyd meddwl cyn cynnig y swydd i ti, ac nad yw am y rhesymau a restrir uchod, gall hyn fod yn achos o arwahanu.

Ar ôl i ti gael cynnig swydd, gall dy gyflogwr newydd dy holi am dy iechyd. Os yw dy gyflogwr newydd yn tynnu cynnig yn ôl unwaith i ti ddweud wrthyn nhw am dy broblem iechyd meddwl, gall hyn hefyd fod yn enghraifft o arwahanu.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein tudalen i oedolion, ymgeisio am swyddi.

Am y rhan fwyaf o gyrsiau a swyddi, dy ddewis di yw dweud wrthyn nhw am dy broblem iechyd meddwl.

Gall dweud wrth arweinwyr y cwrs neu dy gyflogwr am dy iechyd meddwl eu helpu nhw i ddeall sut rwyt ti’n teimlo ac i gynllunio sut i dy gefnogi di yn y ffordd orau.  Gelli di feddwl am y canlynol:

  • Beth sy’n gwneud i ti deimlo’n iach yn feddyliol, a pha gamau y gelli di gymryd os wyt ti’n dechrau dioddef o iechyd meddwl gwael
  • Beth all dy reolwr neu arweinydd y cwrs wneud i dy helpu di i deimlo’n iach yn feddyliol
  • Os oes unrhyw sefyllfaoedd yn y gwaith, y coleg neu’r brifysgol all achosi dy iechyd meddwl i waethygu, ac os felly, pa gefnogaeth y gellir ei roi mewn lle i helpu rheoli’r sefyllfaoedd hyn
  • Sut y gall dioddef o iechyd meddwl gwael effeithio ar dy waith
  • Os oes unrhyw arwyddion y dylen nhw eu hadnabod os wyt ti’n dechrau dioddef o iechyd meddwl gwael, ac os ydyn nhw’n eu hadnabod, beth ddylen nhw wneud.

"Mae wedi bod yn bwysig i fi ofyn am help mewn sefyllfaoedd lle maen nhw’n gallu gwneud addasiadau. Mae’n rhaid dyfalbarhau, ond mae’n werth gwneud er mwyn chwalu ffiniau i ti allu cyflawni'r hyn rwyt ti eisiau."

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Gorffennaf 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannu'r wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig