Deall CAMHS – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed
Canllaw i bobl ifanc 11-18 oed sy’n egluro beth yw CAMHS, pa gymorth maen nhw’n ei gynnig a sut gallwch chi gael help ganddyn nhw.
Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:
- Beth yw CAMHS?
- Gyda beth all CAMHS fy helpu i?
- Pa fathau o driniaeth a chymorth mae CAMHS yn eu cynnig?
- Sut galla’ i gael help gan CAMHS?
- Beth os na fydd CAMHS yn fy helpu i?
- A fydd CAMHS yn siarad â fy rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid?
- Am ba mor hir fydd CAMHS yn rhoi cymorth i mi?
- Beth os ydw i’n troi’n 18 oed wrth aros am gymorth?
Beth yw CAMHS?
Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn wasanaethau sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n profi iechyd meddwl gwael, neu deimladau neu brofiadau anodd. Gall CAMHS weithio gydag ysgolion, elusennau ac awdurdodau lleol.
Yn Lloegr, efallai y byddwch ch’n eu clywed yn cael eu galw’n:
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CYPMHS)
- CAMHS Arbenigol neu CYPMHS Arbenigol
Yng Nghymru, byddwch chi fel arfer yn eu clywed yn cael eu galw’n Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (SCAMHS).
Mewn rhai ardaloedd, efallai bydd gan eich gwasanaeth CAMHS enw arall. Os nad ydych chi’n siŵr, gallwch chi holi yn eich meddyg.
Gyda beth all CAMHS fy helpu i?
Gall CAMHS gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag amrywiaeth o brofiadau a phroblemau iechyd meddwl. Er enghraifft, os ydych chi’n profi:
- Tristwch, hwyliau drwg neu iselder
- Teimladau o boeni neu bryder
- Hyder a hunan-barch isel
- Problemau bwyta neu gyda’ch perthynas â bwyd
- Problemau gyda rheoli dicter
- Cael trafferth cysgu
- Problemau gydag ailadrodd yr un gweithredoedd neu ymddygiad
- Clywed lleisiau neu weld pethau
- Meddyliau am fod eisiau brifo eich hun
- Meddyliau a theimladau hunanladdol
- Teimladau anodd ar ôl digwyddiad trawmatig
Mae gennym ni wybodaeth hefyd am beth i’w wneud os na fydd CAMHS yn eich helpu.
Dywedodd fy ffrindiau yn yr ysgol wrth athro am fy mhroblemau bwyta... Cytunodd yr ysgol a minnau i drefnu i mi weld cwnselydd yr ysgol. Penderfynodd fy atgyfeirio at CAMHS drwy fy meddyg teulu er mwyn i mi allu cael gofal iechyd meddwl arbenigol.
Pa fathau o driniaeth a chymorth mae CAMHS yn eu cynnig?
Gall CAMHS gynnig llawer o wahanol opsiynau o ran triniaeth a chymorth, fel:
- Therapïau siarad – siarad un i un gyda therapydd am eich meddyliau, eich teimladau a’ch ymddygiad. Weithiau, efallai y byddwch chi’n cael y sesiynau hyn gyda phobl ifanc eraill, a elwir yn therapi grŵp, neu gyda phobl sy’n byw gyda chi, a elwir yn therapi teulu. Mae rhai mathau o therapi yn cynnwys cwnsela a therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Efallai y bydd CAMHS yn cynnig therapïau gwahanol i chi yn dibynnu ar eich profiad a’ch diagnosis.
- Therapïau creadigol – defnyddio celfyddydau fel cerddoriaeth, peintio, dawnsio neu chwarae gemau i archwilio eich teimladau, gyda therapydd creadigol.
- Meddyginiaeth – rhoi cyngor ar gyffuriau a’u presgripsiynu i’ch helpu i ymdopi â sut rydych chi’n teimlo, neu’r hyn rydych chi’n ei brofi. I gael rhagor o wybodaeth am feddyginiaeth, ewch i wefan YoungMinds.
- Gofal ysbyty i gleifion mewnol – aros yn yr ysbyty fel claf mewnol i gael triniaeth a chymorth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hwb gwybodaeth am fynd i’r ysbyty.
- Iechyd corfforol ac adolygiadau meddygol – mae’n cynnwys cefnogaeth fel nyrsys yn gwirio eich pwysedd gwaed, cymryd samplau gwaed, neu greu cynlluniau prydau i helpu gyda phroblemau bwyta.
- Cymorth mewn argyfwng – llinellau cymorth a gweithwyr proffesiynol sy’n gallu helpu i’ch cadw’n ddiogel os ydych chi eisiau brifo eich hun, neu os ydych chi’n teimlo y gallech chi geisio lladd eich hun.
Fe wnaeth gymryd amser i ddod o hyd i'r ffit iawn yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (S-CAMHS). Ond pan wnes i, roeddwn i'n gallu cael rhywfaint o help allan ohono ac roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gallu bod yn fwy agored – Charlotte, 13
Bydd eich tîm CAMHS yn penderfynu pa fath o driniaeth a chefnogaeth i’w rhoi i chi. Ond fe ddylen nhw ofyn i chi beth fyddech chi'n ei hoffi a beth fyddech chi'n teimlo fwyaf cyfforddus yn ei wneud. Mae rhagor o wybodaeth am wneud dewisiadau ar ein tudalen am broblemau y gallech chi eu hwynebu yn CAMHS.
Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n gweithio gyda CAMHS yn darparu eich triniaeth a’ch cefnogaeth mewn gwahanol ffyrdd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar bwy sy’n gweithio yn CAMHS.
Mae mwy nag un opsiwn ar gael. Mae’n rhaid i chi ddal ati nes i chi ganfod y llwybr iawn – ac mae ar gael, rwy’n addo.
Sut galla' i gael help gan CAMHS?
Efallai y bydd y ffordd rydych chi’n cael help gan eich CAMHS lleol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Mae gan y rhan fwyaf o wasanaethau eu gwefan eu hunain lle gallwch chi gael rhagor o wybodaeth.
Fel arfer, bydd angen i chi gael eich atgyfeirio gan eich meddyg, ond mae rhai gwasanaethau hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan:
- Ysgolion a chwnselwyr ysgol
- Gweithwyr cymdeithasol
- Timau troseddu ieuenctid
- Chi eich hun, yn dibynnu ar eich oedran a beth mae eich gwasanaeth lleol yn ei ganiatáu
Os na allwch chi atgyfeirio eich hun, bydd angen rhywun i wneud yr atgyfeiriad ar eich rhan. Os nad ydych chi'n siŵr sut i gael atgyfeiriad, gofynnwch i rywun fel eich meddyg, athro neu oedolyn dibynadwy am help.
Ar ryw adeg ar ôl i CAMHS gael eich atgyfeiriad, byddan nhw’n cysylltu â chi dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy anfon llythyr atoch chi. Gallai hyn fod er mwyn trefnu eich apwyntiad cyntaf neu ofyn mwy o gwestiynau am yr hyn rydych chi’n ei brofi. Os byddai’n well gennych, gallwch chi ofyn iddyn nhw anfon llythyrau apwyntiad neu negeseuon testun at eich rhieni, eich gofalwyr neu eich gwarcheidwaid hefyd.
Roedd cael rhywun i eistedd i lawr a dweud wrtha i ‘oes, mae yna broblem go iawn’, yn anhygoel o ran dilysu.
Beth os na fydd CAMHS yn fy helpu i?
Ar ôl i chi gael eich atgyfeirio, weithiau bydd CAMHS yn penderfynu nad yw eu gwasanaeth yn addas i chi:
- Efallai na fyddant yn darparu’r math o driniaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch
- Efallai na fyddan nhw’n gallu cynnig help i chi ar hyn o bryd oherwydd eu bod yn rhy llawn
- Efallai y bydd eu rhestr aros yn rhy hir ar gyfer y math o gymorth brys sydd ei angen arnoch
Gall hyn beri gofid a’ch gwneud yn rhwystredig, yn enwedig os ydych chi eisoes wedi aros am amser hir ac nad ydych chi’n cael unrhyw gymorth. Os yw hyn yn digwydd, dylent awgrymu lleoedd eraill gallwch chi fynd i gael cymorth neu bethau gallwch chi roi cynnig arnynt a allai helpu.
Pan es i CAMHS am y tro cyntaf, dywedwyd wrtha i nad oedd fy sefyllfa’n ddigon brys i gael gofal ar unwaith. Fel dewis arall, cynigiwyd sesiynau therapi grŵp i mi. Os ydw i’n onest, wnaeth y rhain ddim fy helpu i ryw lawer – yn enwedig gan fy mod i’n cael trafferth gyda gorbryder cymdeithasol.
Os ydych chi’n cael trafferth cael help gan eich CAMHS lleol am unrhyw reswm, dylech chi siarad â phwy bynnag wnaeth eich atgyfeirio chi. Gallant eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael cymorth. Os ydych chi wedi atgyfeirio eich hun, cysylltwch â’r gwasanaeth i ofyn.
Gallwch chi hefyd ddod o hyd i lefydd eraill sy’n gallu helpu ar ein tudalen am ddod o hyd i gymorth.
Roeddwn i’n teimlo na fyddai dim byd arall yn helpu ar wahân i CAMHS. Mewn gwirionedd, elusennau lleol a chymorth gan yr ysgol sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
A fydd CAMHS yn siarad â fy rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid?
Fel arfer, bydd eich tîm CAMHS yn siarad â’ch rhieni, eich gofalwyr neu’ch gwarcheidwaid i ddeall mwy amdanoch chi a’ch bywyd gartref. Pwrpas hyn ydy gallu eich helpu yn y ffordd orau bosibl.
Efallai y bydd eich tîm hefyd yn siarad gyda nhw am y math o gymorth y gallai CAMHS ei gynnig i chi, neu’n gofyn iddyn nhw ddod i apwyntiadau.
- Gall cael rhywun rydych chi’n ei adnabod yn rhan o’ch triniaeth eich helpu i deimlo eich bod yn cael mwy o gefnogaeth
- Does dim rhaid i chi fod ar eich pen eich hun pan fydd angen i chi ddelio â phethau, neu wneud penderfyniadau
- Gallant helpu gyda phethau ymarferol, megis mynd â chi i apwyntiadau neu siarad â'ch ysgol
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar siarad â ffrindiau a theulu am eich iechyd meddwl.
Yn realistig, bydd angen i chi golli’r ysgol ar gyfer apwyntiadau, a doeddwn i ddim wedi meddwl am hynny go iawn. Roedd yr ysgol yn gwybod fy mod yn mynd i apwyntiadau oherwydd bod fy mam wedi siarad â nhw.
- Dydych chi ddim eisiau iddyn nhw ddod i apwyntiadau gyda chi
- Rydych chi’n poeni y byddan nhw’n cael gwybod beth rydych chi wedi’i ddweud
- Does gennych chi ddim perthynas dda â nhw, neu rydych chi’n cael trafferth gyda’ch bywyd gartref
Ceisiwch egluro i’ch tîm CAMHS pam mae hyn yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus. Gallwch chi hefyd ofyn iddynt faint o’r hyn rydych chi’n ei ddweud yn eich apwyntiad sy’n aros yn breifat.
Hyd yn oed os nad ydych chi eisiau i’ch rhieni, eich gofalwyr neu’ch gwarcheidwaid gymryd rhan, gall fod yn dda cael rhywun i’ch cefnogi. Efallai y byddwch am ddweud wrth ffrind neu bartner beth sy’n digwydd yn CAMHS os ydych chi’n teimlo’n fwy cyfforddus gyda nhw.
Os nad ydych chi am i’ch tîm CAMHS gynnwys eich rhieni, eich gofalwyr neu’ch gwarcheidwaid o gwbl, efallai y byddwch chi’n gallu trafod hyn gyda’ch tîm CAMHS. Ond mewn gwirionedd, mae’n dibynnu ar sut mae eu gwasanaeth yn gweithio, yn ogystal â’ch oedran a’ch sefyllfa.
I gael gwybod sut a phryd mae gwybodaeth am eich iechyd meddwl yn cael ei chadw’n breifat, ewch i’n tudalen ar gyfrinachedd.
Pan oeddwn i’n ymwneud â CAMHS am y tro cyntaf, nid oeddwn yn barod i siarad gan fod arna i ofn y byddai pethau’n mynd yn ôl at fy rhieni. Byddai wedi bod yn llawer gwell pe bawn wedi gwybod sut y byddai CAMHS yn trin fy ngwybodaeth, ac wedi cael gwybod mwy am gyfrinachedd.
Yn ystod fy nghyfnod gyda CAMHS, roedd gen i seicolegydd a ddwedodd wrthyf, mewn ymateb i mi yn sôn am fod yn gwiar, am beidio â dweud wrth neb gan y byddwn i’n ‘tyfu allan ohono’.
Doeddwn i ddim yn sylweddoli am ba hyd y byddwn i gyda nhw. Doeddwn i ddim wedi llawn sylweddoli faint o help y byddai ei angen arnaf ac am ba hyd.
Yn hytrach na phenderfynu mynd at wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn syth ar ôl CAMHS, fe wnaethon nhw fy rhyddhau pan oeddwn i’n 18 oed.
Roeddwn i’n gwneud yn well o lawer o fewn ychydig fisoedd. Cefais fy rhyddhau ar fy nhelerau i, pan oeddwn yn barod.
Os yw CAMHS yn cynnig triniaeth fel therapi i chi, efallai y byddan nhw’n rhoi nifer penodol o apwyntiadau i chi. Ar ôl y rhain, dylai eich tîm CAMHS siarad â chi am sut mae pethau’n mynd a sut rydych chi’n teimlo. Bydd hyn yn helpu’r ddwy ochr i benderfynu a ydynt yn dal yn gallu rhoi cymorth i chi.
Bydd CAMHS yn rhoi’r gorau i’ch cefnogi ar oedran penodol. Yn y rhan fwyaf o leoedd, bydd hynny yn digwydd pan fyddwch yn troi’n 18 oed, ond gall fod yn gynharach neu’n hwyrach. Mae’n dibynnu ar y gwasanaeth a ble rydych chi’n byw. Os ydych chi’n meddwl bod CAMHS wedi rhoi’r gorau i’ch helpu chi’n rhy fuan, dylech chi gysylltu â’r person sy’n gyfrifol am eich triniaeth a’ch cymorth.
Dylai CAMHS eich helpu hefyd i baratoi ar gyfer cael eich rhyddhau neu symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS). I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein canllaw ar adael CAMHS.
Cofiwch bob amser nad peth drwg ydy bod angen cymorth am gyfnod hir. Rwy’n fodlon â’r ffaith y bydd angen cymorth arnaf am weddill fy mywyd o bosib.
Beth os ydw i’n troi’n 18 oed wrth aros am gymorth?
Mae pob CAMHS yn wahanol. Dylai gwasanaethau eich cefnogi nes byddwch chi’n 18 oed, ond gall hyn fod yn wahanol hefyd os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr. Efallai y bydd rhai yn dechrau pontio i wasanaethau oedolion o 16 oed ymlaen, efallai y bydd eraill yn eich cefnogi yn CAMHS hyd nes byddwch chi’n 25 oed.
Yn gyffredinol:
- Os byddwch chi’n troi’n 18 oed cyn eich apwyntiad cyntaf, efallai na fyddan nhw’n gallu eich helpu chi
- Os byddwch chi’n troi’n 18 oed tra byddwch chi’n aros am driniaeth, efallai na fyddan nhw’n gallu eich helpu chi
Er y gallai’r ystodau oedran hyn gyfyngu ar eich gallu i gael cymorth gan CAMHS, gallech chi hefyd gael eich rhyddhau o’r gwasanaeth ar unrhyw oedran, hyd yn oed cyn i chi fod yn 18 oed. Ond ddylech chi ddim cael eich rhyddhau oni bai eich bod chi a’ch tîm gofal yn cytuno eich bod yn teimlo’n well.
Ychydig cyn i mi gyrraedd 18 oed, doedd fy iechyd meddwl ddim yn wych ond roeddwn i wedi sefydlogi. Yn hytrach na phenderfynu mynd at wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn syth ar ôl CAMHS, fe wnaethon nhw fy rhyddhau pan oeddwn i’n 18 oed.
Os yw eich oedran yn golygu na allwch chi gael cymorth, dylent roi gwybod i chi am opsiynau eraill. Gallai hyn gynnwys cymorth y gallwch ei gael yn eich cymuned, neu gyngor ar AMHS. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â CAMHS neu’r person a’ch atgyfeiriodd.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau oedolion ac opsiynau eraill ar gael ar ein tudalen ar adael CAMHS.
Referral - Atgyfeiriad
Cais sy’n cael ei anfon at wasanaeth yw hwn. Mae’n gofyn iddo adolygu:
- Sut rwyt ti’n teimlo
- Pa gymorth sydd ei angen arnat ti
Mae’r atgyfeiriad yn helpu i egluro i’r gwasanaeth newydd pam y dylai dy weld di a beth yw’r ffordd orau o dy helpu di.
Weithiau, byddi di’n gallu dy atgyfeirio dy hunan, neu bydd aelod o’r teulu neu weithiwr cymdeithasol yn gallu dy atgyfeirio di. Ond, yn aml, dy feddyg fydd yn gwneud hyn gan ei fod yn deall dy hanes meddygol.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Therapy - Therapi
Triniaeth y bwriedir iddi helpu i wella dy iechyd meddwl a dy lesiant meddyliol yw therapi. Mae llawer o wahanol fathau o therapïau ar gael. Dyma rai mathau cyffredin y gallet ti fod wedi clywed amdanyn nhw:
- Therapïau siarad
- Therapïau creadigol
- Ecotherapi
- Meddyginiaeth
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.
Creative therapies - Therapïau creadigol
Mae hyn yn cyfeirio at ddefnyddio pethau fel cerddoriaeth, darlunio, peintio, dawnsio, drama neu chwarae gêmau i fynegi dy feddyliau a dy deimladau.
Gall hefyd gyfeirio at wneud gweithgareddau creadigol i wella dy lesiant ac i roi mwy o hyder i ti. Er enghraifft, ysgrifennu neu actio straeon gyda phobl ifanc eraill.
Gallet ti gymryd rhan mewn therapïau creadigol mewn grŵp, neu ar dy ben dy hun.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Talking therapies - Therapïau siarad
Mae’r therapïau hyn yn ymwneud â siarad â gweithiwr proffesiynol am dy feddyliau, dy deimladau a dy ymddygiad. Mae llawer o wahanol fathau o therapïau siarad ar gael, fel cwnsela neu therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Fel arfer, byddi di’n cymryd rhan am gyfnod a nifer o sesiynau y cytunir arnyn nhw.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Local authority - Awdurdod lleol
Dyma’r lywodraeth leol ar gyfer ardal benodol. Mae'n darparu gwasanaethau i'r bobl sy'n byw neu'n aros yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, trafnidiaeth a thai.
Mae pob llywodraeth leol yn penderfynu sut mae gwasanaethau'n cael eu cynnal. Mae hyn yn golygu y gallai fod gan rai gwasanaethau mewn gwahanol ardaloedd reolau gwahanol.
Inpatient care - Gofal fel claf mewnol
Hwn yw’r gofal rwyt ti’n ei gael pan fyddi di’n aros mewn ysbyty. Gallet ti fod yn glaf anffurfiol neu gallet ti fod wedi dy anfon i’r ysbyty. Gallet ti fod yn cael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd corfforol hefyd.
I gael mwy o wybodaeth, darllen ein tudalen am fod yn glaf anffurfiol neu am gael dy anfon i'r ysbyty.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Counselling - Cwnsela
Math o therapi siarad gyda chwnselydd hyfforddedig yw hwn. Gall cwnsela dy helpu di:
- I drin a thrafod problem neu sefyllfa sy’n effeithio’n negyddol ar dy iechyd meddwl
- I gydnabod sut mae’r broblem neu’r sefyllfa’n effeithio arnat ti
- I ddod o hyd i strategaethau ymdopi cadarnhaol neu ffyrdd o wella’r sefyllfa
Gall ddigwydd wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Cognitive behavioural therapy (CBT) - Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT)
Math o therapi siarad gyda therapydd hyfforddedig yw hwn. Gall dy helpu di i ystyried dy ymddygiad a dy batrymau meddwl i helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi.
Gall y therapi gael ei ddarparu wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Therapist - Therapydd
Gweithiwr proffesiynol hyfforddedig sy’n cynnal neu’n goruchwylio dy therapi di yw hwn. Mae therapyddion yn dy helpu di i bwyso a mesur sut rwyt ti’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, a beth all dy helpu di yn y dyfodol.
Gallet ti glywed y termau therapydd neu gwnselydd yn cael eu defnyddio, ond mae eu hystyr yr un fath.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Counsellor - Cwnselydd
Mae cwnselwyr yn gwrando arnat ti ac yn darparu man diogel i ti drin a thrafod sut rwyt ti’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.
Gallan nhw dy helpu di i siarad am broblemau neu sefyllfaoedd sy’n effeithio arnat ti, ac i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi.
Efallai y byddi di’n clywed y termau cwnselydd a therapydd yn cael eu defnyddio, ond mae eu hystyr yr un fath.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Discharge - Cael dy ryddhau
Ystyr hyn yw bod dy driniaeth mewn ysbyty, clinig neu wasanaeth arall yn dod i ben. Gallet ti gael dy ryddhau am y rhesymau hyn:
- Mae dy driniaeth wedi dod i ben
- Rwyt ti’n ddigon hen i ddefnyddio gwasanaeth arall
- Rwyt ti wedi gofyn i gael gadael
- Mae angen i ran nesaf dy driniaeth barhau rywle arall
Dylai dy dîm gofal egluro beth mae hyn yn ei olygu, a beth fydd yn digwydd os bydd angen gofal arnat ti yn y dyfodol.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Adult Mental Health Services (AMHS) - Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS)
Gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) i gynorthwyo oedolion â phroblemau iechyd meddwl yw’r rhain.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Group therapy - Therapi grŵp
Ystyr hyn yw bod yn rhan o grŵp o bobl ifanc sy’n mynd i sesiynau therapi gyda’i gilydd. Gall fod yn ddefnyddiol, oherwydd gall bod yng nghwmni pobl ifanc eraill dy helpu di i ddeall yr hyn rwyt ti’n ei wynebu.
Mae therapi grŵp yn cael ei arwain gan seicolegydd neu therapydd. Yn aml, bydd yn cyfuno gwahanol fathau o therapi, fel therapi siarad neu therapi creadigol.
Efallai mai therapi grŵp fydd dy brif therapi di, neu efallai y byddi di’n cael triniaeth a chymorth ar dy ben dy hun hefyd.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Adult services
These are public services that support adults rather than children and young people, like Adult Mental Health Services (AMHS) for example.
Visit our full treatment and support glossaryTransition - Pontio
Hwn yw’r cyfnod pan fyddi di’n symud oddi wrth wasanaeth plant i wasanaeth oedolion. Er enghraifft, gallet ti symud oddi wrth Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS).
Darllena ein tudalen am symud i wasanaethau oedolion i gael mwy o wybodaeth.
Gweler ein rhestr lawn o eiriau ac ymadroddion efallai y byddet ti'n eu clywed wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer dy iechyd meddwl.Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2022
Adolygiad nesaf: Rhagfyr 2025
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.