Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Problemau y gallwn eu hwynebu yn CAMHS

Canllaw i bobl ifanc 11-18 oed ar beth yw triniaeth deg yn CAMHS. Mae hefyd yn esbonio beth i’w wneud os nad yw pethau’n mynd fel y dylent.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi eisoes yn cael triniaeth a chymorth gan CAMHS.

Os ydych chi’n awyddus i gael cymorth gan CAMHS neu os ydych chi’n aros am gymorth ganddynt, edrychwch ar ein tudalennau deall CAMHS, apwyntiadau CAMHS a phwy sy’n gweithio yn CAMHS.

Sut ddylai CAMHS fy nhrin i?

Efallai y bydd eich cymorth iechyd meddwl gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru) yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw, a beth rydych chi’n ei deimlo ac yn ei brofi.

Ond beth bynnag rydych chi’n cael cymorth ar ei gyfer, dylech chi bob amser ddisgwyl i CAMHS eich trin chi’n deg. Dylent wneud y canlynol:

  • Eich trin chi â pharch
  • Peidio â gwahaniaethu yn eich erbyn
  • Rhoi gwybodaeth i chi am beth gallant ei gynnig a sut gallant eich cefnogi
  • Eich galluogi i wneud dewisiadau a bod yn rhan o benderfyniadau am eich triniaeth a’ch cefnogaeth
  • Gwrando ar eich barn, yn enwedig y staff sy’n gweithio yn CAMHS
  • Gadael i chi ofyn cwestiynau am eich triniaeth a’ch cefnogaeth
  • Dweud wrthych chi sut gallwch chi gwyno am eich triniaeth a’ch cefnogaeth
  • Eich helpu i gynllunio eich gofal, a allai gael ei alw’n gynllun gofal, mewn ffordd sy’n gweithio orau i chi
  • Cadw eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol

I gael rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl a’ch hawliau, ewch i’n tudalen ar ddeall eich hawliau.

Os ydych chi’n cael cymorth gan CAMHS, dylai eich cymorth ddilyn y Dull Rhaglen Ofal(CPA) fel arfer.

Mae hyn yn golygu y dylai fod gennych chi’r canlynol:

  • Cydlynydd gofal
  • Cynllun gofal

 

Gyda’r CPA, ni ddylai eich cymorth ddod i ben oni bai fod eich tîm gofal yn credu nad oes ei angen arnoch mwyach. Dylent bob amser geisio cytuno ar hyn gyda chi.

Efallai na fyddwch chi’n gwybod a yw eich cefnogaeth yn dilyn y CPA, neu efallai na fydd gennych gopi ysgrifenedig o’ch cynllun gofal. Os felly, siaradwch â rhywun yn eich tîm CAMHS.

Os ydych chi’n cael cymorth gan SCAMHS Cymru, dylech chi gael:

  • Cydlynydd cynllun gofal a thriniaeth
  • Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP).

Ni ddylai eich CTP ddod i ben oni bai fod eich tîm gofal yn credu nad oes ei angen arnoch mwyach. Dylent bob amser geisio cytuno ar hyn gyda chi.

Os nad ydych chi’n gwybod unrhyw beth am eich CTP, neu os nad ydych chi wedi cael copi ysgrifenedig ohono, dylech holi rhywun yn eich tîm CAMHS.

Mae gennych hawl i gael gwybod yn uniongyrchol am gefnogaeth a beth dylech chi ei ddisgwyl. Hynny ydy, ni ddylech fod ofn gofyn cwestiynau.

Pa broblemau allwn i eu hwynebu?

Dydy pawb ddim yn cael problem gyda’u triniaeth a’u cefnogaeth gan CAMHS. Ond efallai na fydd rhai pethau’n mynd fel rydych chi’n teimlo y dylen nhw.

Efallai y byddwch chi’n cael problemau fel:

  • Dydych chi ddim yn cyd-dynnu’n dda â’ch therapydd neu bobl eraill yn eich tîm gofal
  • Dydych chi ddim yn cael digon o gymorth
  • Dydych chi ddim yn cytuno â’r driniaeth a’r cymorth rydych chi’n eu cael
  • Dydych chi ddim yn hoffi’r math o driniaeth a’r cymorth rydych chi’n eu cael
  • Rydych chi’n cael trafferth gyda sut mae eich apwyntiadau’n gweithio
  • Dydy eich anghenion diwylliannol, crefyddol neu benodol ddim yn cael eu diwallu
  • Dydych chi ddim yn teimlo bod eich llais yn cael ei glywed
  • Rydych chi wedi profi gwahaniaethu
  • Mae CAMHS wedi rhoi’r gorau i’ch cefnogi chi’n rhy fuan
  • Dydych chi ddim yn gwybod beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gadael CAMHS

Ni waeth beth yw’r broblem, dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac rydych chi’n haeddu cymorth.

Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd y gallwn i newid fy therapydd. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud, gan fod fy rhieni’n hoffi fy therapydd.

Beth alla i ei wneud os nad ydw i’n hapus gyda rhywbeth?

Os nad ydych chi’n hapus â’ch profiad yn CAMHS, dylech chi yn gyntaf geisio siarad â’ch tîm i ddweud wrthynt beth sydd ei angen arnoch. Er enghraifft, gofyn am therapydd gwahanol, neu ddweud wrthyn nhw nad ydych chi’n meddwl bod eich triniaeth bresennol yn gweithio.

Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â staff CAMHS, gallech chi ofyn i oedolyn dibynadwy fel rhiant, gofalwr neu athro eich helpu. Gallech chi hefyd ofyn am gymorth gan eiriolwr.

I helpu gyda’ch problem, efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn am bethau fel:

  • Cefnogaeth sy’n diwallu eich anghenion diwylliannol, crefyddol neu ymarferol
  • Cyfieithydd ar gyfer iaith arall, os oes angen un arnoch chi neu riant neu ofalwr
  • Gweithio gyda rhywun o ryw gwahanol
  • Mwy o wybodaeth am rywbeth nad ydych yn ei ddeall
  • Gwahanol ffyrdd o gysylltu â CAMHS, fel e-bostio yn hytrach na siarad dros y ffôn
  • Newid eich math o apwyntiad, fel cyfarfod wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar-lein

I mi roedd llawer yn dibynnu ar p’un a oeddwn i’n cyd-dynnu â’r seicolegydd. Doedden ni ddim wedi sefydlu’r un berthynas mewn sesiynau galwadau fideo.

I’ch helpu i baratoi ar gyfer y sgwrs hon, gallech chi feddwl am y canlynol:

  • Y broblem rydych chi’n ei hwynebu
  • Sut mae’r broblem yn effeithio arnoch chi
  • Pam yr hoffech i bethau fod yn wahanol
  • Sut yr hoffech i bethau newid
  • Sut gall CAMHS helpu i newid pethau

Ar ôl i chi baratoi'r hyn yr hoffech ei ddweud, gallech chi siarad â'r person sy'n gyfrifol am eich gofal. Gallai hyn fod yn gydlynydd gofal, yn seiciatrydd neu’n therapydd i chi. Gallech chi wneud hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn llythyr neu e-bost. Os na allwch chi gysylltu â nhw, gallech chi ofyn i staff y dderbynfa drosglwyddo eich neges.

Cofiwch: mae’n iawn gofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch. Rydych chi’n haeddu cael help mewn ffordd sy’n gweithio i chi. Drwy weithio gyda’ch tîm CAMHS i ddatrys unrhyw broblemau, gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich triniaeth a’ch cymorth.

Dros amser, efallai y byddwch chi’n rhoi cynnig ar wahanol fathau o driniaeth a chymorth. Mae’n debyg y byddwch yn hoffi rhai ohonynt yn fwy nag eraill, ac mae hynny’n iawn. Dydy pob triniaeth ddim yn gweithio i bawb. Mae gennych chi hawl i ofyn am rywbeth gwahanol.

Gofynnais am beidio â chael CBT, ond cefais weithiwr achos sy’n arbenigo mewn CBT. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy niystyru’n fawr bryd hynny.

Beth alla i ei wneud os byddaf yn profi gwahaniaethu?

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gyfraith sy’n eich amddiffyn rhag gwahaniaethu ac yn rhoi’r hawl i chi ei herio. Gallai triniaeth annheg mewn gwasanaethau iechyd meddwl oherwydd eich hil, eich rhyw, eich anabledd, neu oherwydd eich bod yn LGBTQIA+  fod yn enghraifft o wahaniaethu.

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi profi gwahaniaethu, yn gyntaf, gallech chi geisio siarad gyda rhywun yn CAMHS. Os nad ydynt yn gwrando arnoch nac yn eich cefnogi, gallech chi wneud cwyn ffurfiol. Gallai eiriolwr eich helpu gyda chwynion ffurfiol ac anffurfiol.

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar y pethau hyn ac nad oes dim wedi helpu, efallai yr hoffech chi siarad â chyfreithiwr. Gallant drafod eich opsiynau gyda chi a dweud wrthych a allech chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn CAMHS. I gael rhagor o wybodaeth am ddod o hyd i gyfreithiwr, ewch i wefan Cymdeithas y Gyfraith.

Roedd rhai o’r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw wedi profi gwahaniaethu mewn gwahanol ffyrdd:

Roedd fy seicolegydd yn cydymdeimlo’n fawr â fy mam ac yn credu bod y ffaith mod i’n gwiar yn annheg â fy rhieni. Pe bawn i’n gwybod sut i ddelio â phroblemau yn CAMHS ar y pryd, byddwn i wedi teimlo bod gen i fwy o rym i siarad am hyn a gofyn am seicolegydd gwahanol.

Pan wnes i adael yr ysgol, gwaethygodd fy mhroblemau gyda CAMHS. Ond roeddwn i’n gwybod fy ngwerth a’r hyn rydw i’n ei haeddu. Fe wnes i gwyno a chael therapydd newydd heb unrhyw wrthdaro o ran diwylliant. Roedd y gweithwyr proffesiynol yn sylweddoli bod angen iddyn nhw wrando arna i.

Gall fod yn anodd iawn mynd drwy brofiad o wahaniaethu. Yn ogystal â’i riportio, ceisiwch rannu eich teimladau â phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw a dod o hyd i ffyrdd o ofalu amdanoch chi eich hun. I gael awgrymiadau hunanofal, edrychwch ar ein tudalennau gofalu am eich llesiant a deall eich teimladau.

Pwy arall all fy helpu gyda phroblemau yn CAMHS?

Efallai y byddwch chi’n teimlo’n ypset iawn os byddwch chi’n cael problemau yn ystod eich amser gyda CAMHS. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, a gall pobl eraill eich cefnogi, fel:

  • Eich rhieni, gofalwyr, gwarcheidwaid, aelodau eraill o’r teulu neu bobl rydych chi’n byw gyda nhw
  • Oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw, fel athrawon neu weithwyr ieuenctid
  • Eich ffrindiau neu bartneriaid
  • Eich meddyg, neu staff CAMHS eraill nad ydynt yn ymwneud â’ch problem

Efallai y byddan nhw’n gallu eich cefnogi chi drwy wneud y canlynol:

  • Trafod y broblem gyda chi
  • Eich helpu i ganfod beth i’w ddweud
  • Mynd i apwyntiadau gyda chi
  • Ysgrifennu llythyrau i chi

Gallwch ddod o hyd i fannau eraill a all eich helpu yn ein rhestr o gysylltiadau defnyddiol.

Cael help gan eiriolwr

Mae eiriolwyr yn gallu eich helpu i siarad am y pethau sy’n bwysig i chi. Maen nhw’n annibynnol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gweithio i’r GIG, i gynghorau lleol nac i’r gwasanaethau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut gallan nhw eich cefnogi chi a sut i ddod o hyd i un, ewch i’n tudalen ar eiriolaeth ac iechyd meddwl. Gallwch chi hefyd ddarllen ein tudalen ar sut i eirioli drosoch eich hun.

Sut i gwyno wrth CAMHS

Os nad yw siarad â’ch tîm CAMHS am eich problem yn helpu, gallwch gwyno.

Gallwch ofyn i rywun yn y tîm gweinyddol sut mae gwneud hyn, fel derbynnydd. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi ysgrifennu llythyr, neu lenwi ffurflen.

Cyn i chi wneud hyn, ceisiwch feddwl am y broblem rydych chi’n ei chael ac ysgrifennwch eich meddyliau. Gallech ofyn i chi’ch hun:

  • Beth sydd wedi gweithio’n dda i mi yn CAMHS hyd yma?
  • Beth yw’r broblem rwy’n ei hwynebu?
  • Ym mha ffyrdd y mae’r broblem hon yn effeithio arnaf i?
  • Pam hoffwn i bethau fod yn wahanol?
  • Pa newidiadau fyddwn i’n hoffi eu gweld?
  • Sut gall CAMHS helpu i newid pethau?

Efallai y byddwch chi’n teimlo’n anghyfforddus am wneud cwyn, neu’n poeni beth fydd yn digwydd. Ni fydd gwneud cwyn yn eich atal rhag cael help – dylai wneud eich triniaeth a’ch cefnogaeth yn well i chi.

Ond gall cwyno deimlo fel proses anodd i fynd drwyddi. Yn enwedig os nad ydych chi’n teimlo’n dda, neu os ydych chi’n ymdopi â theimladau anodd o’r ffordd mae CAMHS wedi eich trin chi. Efallai y byddwch chi am ofyn i oedolyn dibynadwy neu eiriolwr eich helpu a’ch cefnogi drwy’r broses.

Sut i ysgrifennu cwyn

Os nad ydych chi’n teimlo’n iawn am rannu eich problem wyneb yn wyneb, gallwch ysgrifennu e-bost neu lythyr.

Os ydych chi mewn cysylltiad â'r person yn eich gofal, gallwch ei anfon atynt. Gallwch hefyd ei anfon at staff gweinyddol, fel derbynnydd, neu ofyn i oedolyn dibynadwy wneud hyn ar eich rhan.

Ceisiwch ddefnyddio ein hawgrymiadau ar gyfer ysgrifennu cwynion:

  • Ceisiwch fod mor benodol â phosibl gyda’r wybodaeth. Ceisiwch gynnwys dyddiadau pwysig ac enwau pobl rydych chi wedi ceisio siarad â nhw am eich problem.
  • Os yw ysgrifennu hynny yn anodd i chi, gofynnwch i ffrind neu oedolyn dibynadwy ei ysgrifennu neu i ddarllen drosto.
  • Cofiwch gynnwys copïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon e-bost perthnasol sydd gennych am eich cwyn neu broblem.
  • Gall ysgrifennu am yr hyn sydd wedi digwydd wneud i chi deimlo’n ypset - mae’n bwysig bod yn garedig gyda chi eich hun a chymryd seibiant os oes angen.

Templed o gŵyn e-bost neu lythyr

Ceisiwch ddefnyddio ein templed drafft i’ch helpu i egluro’r broblem rydych chi’n ei chael a beth hoffech chi ei weld yn digwydd:

Nid ydych yn faich. Mae’n cymryd llawer i ofyn ac i ddal ati i ofyn. Nid yw’n broses syml ac mae angen i bopeth gael ei ddatgymalu.

Gall profi gwahaniaethu, problemau neu orfod cwyno deimlo’n anodd. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen ein tudalennau am ofalu am eich llesiant a deall eich teimladau.

Os ydych chi wedi darllen drwy ein tudalennau ar ddeall beth allai ddigwydd yn CAMHS, ewch yn ôl i’n hyb gwybodaeth CAMHS.

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth 

arrow_upwardYn ôl i'r brig