Gofalu am eich lles – ar gyfer pobl ifanc
Gwybodaeth i bobl ifanc ar ddeall lles meddyliol, a sut mae gofalu amdano.
Gofalu am eich lles
Os ydych chi wedi clywed am y term 'lles meddyliol' ond nad ydych chi'n gwybod beth mae'n ei olygu, neu os hoffech gael gwybod sut mae gofalu am eich lles a theimlo'n dda, rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddysgu mwy.
Mae gan y dudalen hon wybodaeth am:
Beth yw lles meddyliol?
Mae eich lles meddyliol yn golygu sut rydych chi'n teimlo y munud yma, a pha mor dda allwch chi ymdopi â bywyd bob dydd. Gall ein lles newid o un foment o'r llall, o un dydd i'r llall neu o un mis i'r llall.
Weithiau, mae'n newid oherwydd pethau sy'n digwydd i ni ac weithiau mae'n newid am ddim rheswm o gwbl. Gall effeithio ar sut rydyn ni'n teimlo amdanom ein hunain ac am eraill, ac am y pethau rydyn ni'n eu hwynebu yn ein bywyd bob dydd.
Pam mae lles yn bwysig?
Gall lles da eich helpu chi i:
- deimlo a mynegi ystod o emosiynau
- cael hyder a hunan-barch cadarnhaol
- cael perthynas dda ag eraill
- mwynhau'r byd o'ch cwmpas
- ymdopi â straen ac addasu pan fydd pethau'n newid.
Dydy lles da ddim yn golygu y byddwch chi'n hapus bob amser. Mae'n normal teimlo'n drist, yn flin neu'n isel weithiau. Ond os yw eich lles yn wael am gyfnod hir, efallai y byddwch chi'n dechrau gweld pethau'n anoddach i ymdopi â nhw.
Beth sy'n gallu effeithio ar fy lles?
Mae pawb yn wahanol, felly efallai na fydd yr hyn sy'n effeithio ar eich lles chi yr un fath â'r hyn sy'n effeithio ar les rhywun arall. Ond dyma'r pethau cyffredin:
- digwyddiadau anodd neu'n llawn straen mewn bywyd
- eich perthynas â'r bobl o'ch cwmpas
- y gofal a'r gefnogaeth rydych yn eu cael gartref ac yn yr ysgol
- eich iechyd corfforol - faint o gwsg rydych yn ei gael, beth rydych yn ei fwyta a'i yfed, ydych chi'n cymryd cyffuriau neu'n yfed alcohol, ac a oes gennych chi unrhyw broblemau iechyd
- eich amgylchedd - amodau tai, sut mae eraill yn eich trin, problemau ariannol
- gallu adnabod a chyfleu eich emosiynau.
Efallai y byddwch yn cael anawsterau gydag un neu ragor o'r meysydd hyn, neu hyd yn oed yn wynebu problemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru yma. Mae hynny'n iawn. Maw pawb yn wahanol.
Sut gallaf i ofalu am fy lles?
Sut bynnag rydych chi'n teimlo mae eich lles ar y funud, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i ofalu amdano a'i wella.
Efallai na fydd yr hyn sy'n eich helpu nawr yr un peth â'r hyn fydd yn eich helpu yn y dyfodol. Rhowch gynnig ar yr hyn rydych chi'n teimlo sy'n gyfforddus ac yn iawn i chi ar hyn o bryd.
Dyma rai o'n prif awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich lles:
Cyhoeddwyd: Mawrth 2020
Rydyn ni’n gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.
