Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut mae apwyntiadau yn CAMHS?

Gwybodaeth i bobl ifanc 11-18 oed sy’n egluro beth allai ddigwydd mewn apwyntiadau CAMHS a sut i ymdopi ag amseroedd aros hir.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am yr hyn mae CAMHS yn ei gynnig, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen ein tudalen ar ddeall CAMHS yn gyntaf.

Os ydych chi eisoes yn cael help gan CAMHS, edrychwch ar ein tudalennau ar bwy sy’n gweithio yn CAMHS a’r problemau y gallech chi eu hwynebu.

Beth ddylai ddigwydd yn fy apwyntiad cyntaf?

Yn eich apwyntiad cyntaf gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru), byddwch yn cwrdd â rhywun o’ch tîm CAMHS. Dylai eich apwyntiad bara tua awr fel arfer:

  • Gallech chi lenwi rhai ffurflenni neu ysgrifennu atebion i gwestiynau am sut rydych chi’n teimlo
  • Efallai y byddwch chi’n siarad am ddiagnosis, problemau iechyd meddwl neu brofiadau anodd sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael
  • Efallai y byddan nhw hefyd yn gwneud rhai gwiriadau iechyd corfforol, fel profion gwaed neu guriad y galon

Efallai y byddan nhw’n gofyn i riant, gofalwr neu warcheidwad ymuno â rhai rhannau o’r cyfarfod – rhowch wybod i’ch tîm CAMHS os nad ydych chi eisiau iddyn nhw fod yno.

Ar ddiwedd eich apwyntiad cyntaf, neu ychydig ar ôl i’ch tîm ystyried pethau, dylent roi gwybod i chi beth sy’n digwydd nesaf. Dylent ddweud wrthych:

  • Os ydyn nhw’n gallu eich helpu chi
  • Sut maen nhw’n gallu eich helpu chi
  • Pa mor hir y byddwch chi’n aros cyn dechrau triniaeth

Pan es i CAMHS am y tro cyntaf, roeddwn i’n ofnus iawn... Roeddwn i’n credu bod angen help yn golygu fy mod i’n wan ac yn druenus. Fe gymerodd dipyn o amser i mi sylweddoli nad oedd hynny’n wir.

Beth fyddan nhw’n ei ofyn i mi yn fy apwyntiad cyntaf?

Efallai y bydd rhywun o’ch tîm CAMHS yn gofyn cwestiynau i chi am y canlynol:

  • Sut rydych chi wedi bod yn teimlo neu sut rydych chi’n teimlo
  • Beth ydych chi wedi bod yn ei brofi
  • Unrhyw newidiadau yn eich patrwm bwyta neu gysgu
  • Problemau yn yr ysgol neu gartref, neu unrhyw bethau anodd sydd wedi digwydd yn ddiweddar
  • Perthynas â theulu, gofalwyr, ffrindiau a phartneriaid
  • Pethau rydych chi’n mwynhau eu gwneud
  • Pethau hoffech chi gael cymorth ar eu cyfer
  • Sut ydych chi’n meddwl y gallai CAMHS helpu
  • Eich hanes meddygol, neu os oes gan bobl sy’n perthyn i chi unrhyw broblemau iechyd

Sut dylwn i baratoi ar gyfer apwyntiad cyntaf?

Gall teimlo’n barod eich helpu i deimlo’n dawelach eich meddwl am eich apwyntiad cyntaf. Does dim angen i chi wneud llawer o waith paratoi. Yn enwedig os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon da, neu os yw’r syniad o wneud hynny’n gwneud i chi deimlo dan straen.

Cyn eich apwyntiad, gallai fod o gymorth i wneud y canlynol:

  • Ysgrifennu pethau ar bapur – ceisiwch ysgrifennu beth rydych chi wedi bod yn ei deimlo neu’n ei brofi, ers faint mae hynny wedi bod yn digwydd ac ar gyfer beth rydych chi’n meddwl mae angen help arnoch chi.
  • Meddwl pa ffyrdd rydych chi eisiau eu defnyddio i rannu – efallai y byddai’n well gennych chi ddarllen rhywbeth rydych chi wedi’i ysgrifennu, siarad yn rhydd, neu efallai ychydig o’r ddau.
  • Siarad â phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw – dywedwch wrthyn nhw sut rydych chi’n teimlo am eich apwyntiad cyntaf a sut gallan nhw eich cefnogi chi cyn hynny.
  • Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer pethau ymarferol – meddyliwch beth sydd angen i chi ei wneud i fod yn barod. Gallai hyn gynnwys gwybod pwy rydych chi’n cwrdd â nhw, ble rydych chi’n cwrdd, a gwneud yn siŵr fod gennych chi ddiod a phad nodiadau.
  • Ceisio wneud amser ar gyfer pethau rydych chi’n eu mwynhau – meddyliwch sut byddwch chi’n gofalu amdanoch chi eich hun cyn ac ar ôl hynny. Er enghraifft, gallech gwrdd â ffrind neu chwarae gemau fideo wedyn.

Ceisiwch rannu popeth o fewn eich gallu i gael y gorau o’r gwasanaeth. Byddwch mor agored a gonest â phosibl. Hyd yn oed os ydych chi’n crio weithiau, mae rhannu eich teimladau bob amser yn gwneud pethau’n llawer gwell.

Pa gwestiynau ddylwn i eu gofyn yn fy apwyntiad cyntaf?

Yn eich apwyntiad cyntaf, gallwch chi holi am unrhyw beth nad ydych chi’n sicr amdano. Mae cael yr holl wybodaeth yn gallu gwneud i chi deimlo bod gennych chi fwy o reolaeth.

Efallai y bydd hi’n help gofyn:

  • Beth dylwn i ei ddisgwyl gan CAMHS?
  • Sawl apwyntiad fydda’ i’n ei gael?
  • Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros?
  • Beth os byddaf yn troi’n 18 oed yn ystod fy nghyfnod gyda CAMHS?
  • Pa driniaethau fydd CAMHS yn eu cynnig i mi?
  • Sut bydd y driniaeth hon yn fy helpu i?
  • Beth dylwn i ei wneud os oes angen cymorth brys arna’ i?
  • Alla i wneud unrhyw i helpu fy hun?
  • Gyda phwy alla i gysylltu os oes gen i ragor o gwestiynau?

Peidiwch â phoeni os ydych chi’n anghofio sôn am rywbeth. Gallwch chi ofyn cwestiynau ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod gyda CAMHS.

Gofynnwch gwestiynau, a daliwch ati i’w gofyn. Bydd gennych chi lawer o gwestiynau, a gallwch chi deimlo eich bod yn gofyn gormod o gwestiynau.

Gall eich apwyntiad cyntaf deimlo’n frawychus neu’n llethol. Cofiwch eu bod eisiau deall sut rydych chi’n teimlo er mwyn iddyn nhw allu eich cefnogi chi orau. Os ydyn nhw’n meddwl y gallan nhw helpu, byddan nhw’n gweithio gyda chi i benderfynu beth fydd ei angen arnoch chi. Os ydych chi eisiau i riant, gofalwr neu warcheidwad fod yn gymorth ychwanegol, gallwch chi ofyn iddyn nhw gymryd rhan hefyd.

Sut bethau yw apwyntiadau CAMHS?

Bydd y math o apwyntiad gewch chi yn dibynnu ar eich gwasanaeth lleol. Efallai y bydd eich apwyntiadau’n digwydd wyneb yn wyneb, neu dros y ffôn neu drwy alwad fideo.

Os ydych chi’n cael therapi siarad wythnosol, gallech chi siarad â therapydd drwy fideo neu dros y ffôn. Efallai y byddwch chi’n mynd i rai apwyntiadau wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar eich anghenion a'r hyn y gall eich gwasanaeth lleol ei gynnig. Mater i’r gwasanaeth, eich therapydd a beth sy’n gweithio orau i chi fydd hyn.

Ers pandemig y coronafeirws, mae CAMHS bellach yn cynnig ffyrdd gwahanol o gael cymorth. Cynigir llawer o gymorth ar-lein, dros y ffôn neu drwy alwadau fideo.

Cefais fy nhriniaeth yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid oedd mor effeithiol ag y gallai fod, oherwydd ei fod dros y ffôn. Doeddwn i ddim yn gallu siarad am fy mywyd gartref.

Os nad ydych chi’n gyfforddus â’r math o apwyntiad rydych chi’n ei gael, gallwch chi ofyn am fath gwahanol sy’n gweithio’n well i chi. Gallwch chi gysylltu â staff y dderbynfa, neu’r person rydych chi’n mynd i siarad â nhw. Dwedwch beth fyddech chi’n ei hoffi a pham. Gallwch hefyd ofyn i oedolyn dibynadwy, fel rhiant, gofalwr neu warcheidwad, eich helpu i wneud hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am eich dewisiadau, edrychwch ar ein tudalen ar broblemau yn CAMHS.

Efallai y byddai wedi bod yn wahanol pe bawn i wedi cwrdd â’r seicolegydd wyneb yn wyneb ac wedi sefydlu rhywfaint o ymddiriedaeth. Yn enwedig pan fyddwch chi’n iau, mae’n anodd cwrdd â rhywun dros sgrin a dweud pethau anodd wrthyn nhw. Doeddwn i ddim yn ei weld yn ddefnyddiol. Dydy o ddim yr un fath.

Sut alla i ymdopi ag amseroedd aros hir?

Gan fod CAMHS yn cefnogi cynifer o bobl ifanc, mae’r rhestrau aros yn aml yn hir iawn. Mae llawer o bobl yn gorfod aros yn hir am apwyntiadau cyntaf, yn ogystal ag unrhyw driniaeth a chymorth dilynol.

Dylen nhw allu rhoi syniad bras i chi o’r amser aros pan fyddan nhw’n cael eich atgyfeiriad y tro cyntaf. Os ydych chi’n poeni y bydd pethau’n gwaethygu wrth i chi aros, rhowch wybod iddyn nhw. I gael rhagor o gyngor, darllenwch ein gwybodaeth am beth i’w wneud os nad ydych chi’n hapus â CAMHS.

Mae aros am help yn gallu gwneud i chi deimlo’n ypset ac yn bryderus iawn, yn enwedig os ydych chi’n ei chael hi’n anoddach ymdopi â’ch iechyd meddwl.

Fe allai'r canlynol eich helpu:

  • Siarad â’ch meddyg - holwch am gymorth arall gallwch chi roi cynnig arno wrth aros. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar fynd i weld eich meddyg.
  • Cysylltu â CAMHS – dylai rhywun allu dweud wrthych pryd y dylech chi gael apwyntiad. Gallwch hefyd ofyn iddynt a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud tra byddwch chi’n aros.
  • Archwilio opsiynau eraill ar gyfer cymorth – efallai y gallwch chi gael help gan yr ysgol, elusennau neu wasanaethau cymunedol yn eich ardal chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar ddod o hyd i gymorth.

Penderfynais dynnu fy enw oddi ar restr aros CBT oherwydd ei bod yn cymryd cymaint o amser. Roeddwn i’n parhau i gael fy sesiynau cwnsela a oedd yn cynnwys technegau CBT.

Ffyrdd o ymdopi wrth aros am gymorth

Gall aros am amser hir am help deimlo’n anodd iawn, ond cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun ac nad chi sydd ar fai.

I ymdopi wrth aros, gallech chi roi cynnig ar bethau eich hun i helpu eich hun:

  • Archwilio gwahanol ffyrdd o ofalu am eich llesiant.
  • Cofnodi neu ysgrifennu sut rydych chi’n teimlo a beth rydych chi’n ei brofi. Gallech chi hefyd ddarllen cynnwys a ysgrifennwyd gan bobl ifanc sydd wedi mynd drwy brofiadau tebyg, fel blogiau.
  • Darllen, gwrando neu wylio pethau sy’n eich dysgu i ymdopi â sut rydych chi’n teimlo.
  • Siarad â phobl ifanc eraill am yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo ar fyrddau negeseuon ar-lein, fel KoothThe MixChildline.

I mi, mae cadw dyddiadur ac ysgrifennu stwff ar dudalen mor ddefnyddiol. Os ydych chi’n cael trafferth gyda meddyliau ymwthiol fel fi, mae’n helpu i’w gweld yn wrthrychol ar dudalen, gan eu bod yn teimlo’n llawer llai brawychus.

I ymdopi wrth aros, gallech chi gael help a chefnogaeth gan bobl eraill:

  • Siarad â theulu a ffrindiau am sut rydych chi’n teimlo. Dywedwch wrthyn nhw pan rydych chi’n cael diwrnod da, yn ogystal â phan fyddwch chi’n mynd drwy gyfnod anoddach.
  • Gofyn i rywun fel oedolyn neu athro dibynadwy sut gallen nhw eich cefnogi chi wrth i chi aros.
  • Cadw mewn cysylltiad â’ch meddyg teulu os ydych chi’n cael trafferth ymdopi, neu os ydy pethau’n gwaethygu.
  • Siarad â rhywun sydd wedi’i hyfforddi i wrando arnoch a’ch cefnogi. Gallwch chi wneud hyn dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy sgwrsio ar y we. Mae mudiadau ac elusennau defnyddiol ar gael yn ein rhestr o gysylltiadau defnyddiol.

Dywedwyd wrthym y byddai’n cymryd peth amser gan fod y rhestrau aros yn eithaf hir. Tra’n aros, cefais gymorth gan fy nghwnselydd ysgol.

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig