Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall fy nheimladau – ar gyfer pobl ifanc

Mae’r canllaw hwn i bobl ifanc yn esbonio sut y gallet ti adnabod a deall teimladau anodd.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Deall fy nheimladau

Weithiau gall ein teimladau fod yn ofidus, yn frawychus neu’n ddryslyd – yn enwedig os nad wyt ti’n siŵr pam wyt ti’n teimlo fel hynny.

Beth bynnag rwyt ti'n ei deimlo ar hyn o bryd, rydyn ni yma i helpu.

Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:

Paid â rhedeg na chuddio rhag emosiynau: cydnabydda a derbynia nhw. Po fwyaf aml y gwnei di hyn, y mwyaf cyfforddus y byddi di yn teimlo wrth ddelio â nhw.

Ydy emosiynau a theimladau yr un peth?

Efallai y bydde ti’n clywed pobl yn defnyddio’r geiriau ‘emosiynau’ a ‘teimladau’. Maent yn golygu pethau ychydig yn wahanol, ac rydym yn ceisio eu deall fel:

Emosiynau – sut rydyn ni'n teimlo am rywbeth a sut mae ein corff yn ymateb. Er enghraifft, os byddwn yn profi ofn, efallai y byddwn yn teimlo ein calon yn curo'n gyflymach neu'n sylwi ar ein dwylo'n crynu.

Teimladau – sut rydym yn profi ein hemosiynau ac yn rhoi ystyr iddynt. Maent yn wahanol i bawb. Er enghraifft, efallai y byddi ti'n cysylltu dy ddwylo yn crynu â theimlo'n bryderus.

Yn y canllaw hwn, rydyn ni’n defnyddio’r gair teimladau i siarad am eich profiadau a sut maen nhw’n effeithio arno ti.

Beth sy'n digwydd i mi?

Gall fod yn anodd gwneud synnwyr o deimladau. Efallai dy fod yn cael teimladau newydd nad wyt yn eu deall, fel:

  • Peidio â theimlo fel dy hun
  • Teimlo nad yw rhywbeth yn iawn
  • Ei chael hi'n anodd mwynhau pethau yr hoffet ti fel arfer, fel gweld ffrindiau neu bartneriaid, neu wneud dy hoff hobi
  • Teimlo'n grac neu'n drist
  • Teimlo dy fod am fod ar dy ben dy hun
  • Cael meddyliau rhyfedd nad wyt yn eu deall
  • Teimlo'n egnïol neu'n hyper
  • Cael trafferth canolbwyntio neu ganolbwyntio
  • Teimlo allan o reolaeth

Os wyt ti'n poeni am unrhyw beth rwyt ti'n ei deimlo neu'n ei brofi, gall bod yn agored i rywun helpu. Gallant drafod pethau gyda ti, neu dy helpu i ddod o hyd i gefnogaeth.

Weithiau cyfaddef y gallai rhywbeth fod o’i le yw’r rhan anoddaf o gydnabod dy deimladau.

Sut gallaf adnabod yr hyn rwy'n ei deimlo?

Adnabod dy deimladau yw’r cam cyntaf tuag at eu deall a dysgu sut i ymdopi â nhw.

Efallai y bydd yn teimlo'n anodd ar y dechrau, ond gydag amser ac ymarfer, bydd yn dod yn haws.

Dyma ein hawgrymiadau gorau:

  • Neilltua amser i wirio sut wyt ti'n teimlo. Gallet ti defnyddio llyfr nodiadau, dyddlyfr neu dy ffôn i nodi dy deimladau.
  • Ymarfera roi sylw i dy deimladau yn y foment. Er enghraifft, sut wyt ti'n teimlo wrth wneud rhywbeth rwyt ti'n ei fwynhau? Neu sut wyt ti'n teimlo wrth wneud rhywbeth rwyt ti'n ei gael yn anodd neu'n frawychus?
  • Mynega dy deimladau yn greadigol. Gallet dynnu llun, peintio neu roi cynnig ar gelf a chrefft.
  • Siarada â dy hun fel y byddet â ffrind da. Gallet gofyn i di dy hun: ‘A yw hwn yn deimlad newydd?’ neu ‘Beth mae hwn yn teimlo yn debyg iddo?’

Cofia: mae sut rydyn ni'n profi ein teimladau yn unigryw i bob un ohonom. Gall dy teimladau a dy ymatebion fod yn wahanol i rai bobl eraill, hyd yn oed tuag at yr un peth, ac mae hynny’n iawn. Efallai y byddet ti hefyd yn teimlo llawer o bethau gwahanol ar unwaith, ac mae hynny'n iawn hefyd.

Er ei bod yn bwysig talu sylw i dy deimladau a cheisio eu hadnabod, nid oes angen i ti ei wneud drwy'r amser. Mae neilltuo amser i ymlacio a chlirio dy feddwl yr un mor bwysig i dy les. Cymera gymaint o seibiannau ag sydd ei angen arnot.

Gall fod yn frawychus iawn i stopio a meddwl sut wyt ti'n teimlo, yn enwedig pan fo'r teimladau hynny'n negyddol. Treuliais amser hir yn argyhoeddi fy hun nad oedd dim byd o'i le, er ei bod yn amlwg fy mod i'n cael amser caled. Wrth edrych yn ôl, dwi’n difaru peidio ag archwilio fy nheimladau yn gynt.

Pam ydw i'n teimlo fel hyn?

Mae yna lawer o bethau a all effeithio ar y ffordd rwyt ti'n teimlo, fel:

  • Problemau gartref, yn yr ysgol, neu yn dy berthnasoedd a chyfeillgarwch
  • Colli rhywun sy'n bwysig i ti
  • Dryswch ynghylch pwy wyt ti, dy rywioldeb neu gredoau
  • Digwyddiadau mawr neu newidiadau yn dy fywyd
  • Pwysau gennyt ti neu eraill
  • Teimlo'n unig neu fel nad oes neb yn dy ddeall
  • Teimlo'n sâl
  • Cael dy fwlio
  • Cael dy gam-drin
  • Poeni am yr hyn sy'n digwydd yn y byd neu ar y newyddion
  • Poeni am bethau a weli di ar gyfryngau cymdeithasol
  • Profi rhywbeth trawmatig neu frawychus

Weithiau efallai na fydd rheswm dros yr hyn rwyt ti'n ei deimlo, ac mae hynny'n iawn. Nid wyt ti ar dy ben dy hun a rwyt ti'n dal i haeddu cymorth.

Gall deall dy deimladau deimlo’n fwy dryslyd pan fyddi di’n cwestiynu dy rywioldeb a dy hunaniaeth o ran rhywedd. I gael cymorth LGBTQIA+, gallet ymweld â StonewallMermaids a The Proud Trust.

Pan rydyn ni'n brysur iawn, fel os oes gennym ni arholiadau neu wedi dechrau swydd newydd ... efallai y byddwn ni'n anghofio gwirio sut rydyn ni'n teimlo a gallai hynny arwain at deimladau negyddol yn cronni.

Sut mae fy nheimladau ac iechyd meddwl yn gysylltiedig?

Gall deall y cysylltiad rhwng dy deimladau ac iechyd meddwl fod yn ddryslyd.

Gall helpu i ddeall y gwahaniaeth rhwng dy feddyliau, dy deimladau a dy ymddygiad yn gyntaf:

  • Syniadau – beth rydym yn ei feddwl amdanom ein hunain a sefyllfaoedd.
  • Teimladau – rhan o'n hemosiynau a sut rydym yn eu profi.
  • Ymddygiadau – y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn ymateb.

Er enghraifft, os ydym yn hwyr am rywbeth, efallai y byddwn yn:

  • Meddwl – yn ddrwg amdanom ni ein hunain. Efallai y byddwn yn dweud wrth ein hunain mai ein bai ni yw hyn ac yn meddwl beth ddylen ni fod wedi ei wneud yn wahanol.
  • Teimlo – yn bryderus, dan straen, yn euog ac yn bigog.
  • Bihafio – efallai byddwn yn brysio, anghofio pethau neu osgoi mynd.

Efallai y byddwn hyd yn oed yn hwyrach neu ddim yn mynd o gwbl, sy'n dechrau'r cylch eto.

Pan fydd sefyllfa'n codi, mae ein meddyliau, ein teimladau a'n hymddygiad yn cysylltu i roi ein profiad i ni.

Gall bod yn ymwybodol o’n meddyliau, ein teimladau a’n hymddygiad ein helpu i farnu pa mor dda yn feddyliol neu pa mor sâl rydym yn teimlo. Gallet eu defnyddio fel arwyddion bod angen i rywbeth newid, fel os wyt ti'n teimlo'n drist neu'n isel am gyfnod hir. Neu gallet eu defnyddio fel anogaeth i barhau i wneud rhywbeth sy'n gwneud i ti teimlo'n dda.

Os wyt ti'n cael trafferth adnabod a deall dy deimladau, efallai y bydde ti'n ei chael hi'n anoddach ymdopi â theimladau anodd. Efallai na fyddet yn gwybod sut i ymateb, neu efallai y byddet yn ymateb mewn ffordd a all fod yn niweidiol i ti dy hun neu rywun arall. Gweler ein gwybodaeth ar sut i adnabod yr hyn rwy'n ei deimlo am ein hawgrymiadau.

Ydy fy nheimladau yn dod yn broblem iechyd meddwl?

Wrth i ni heneiddio, rydyn ni'n mynd trwy lawer o newidiadau emosiynol a chorfforol. Efallai y byddwn yn profi ystod o deimladau o foment i foment, neu o ddydd i ddydd, a gall rhai deimlo’n anoddach eu rheoli.

Os yw'r ffordd rwyt ti'n teimlo, yn meddwl neu'n ymddwyn yn para am amser hir, yn dod yn anodd ymdopi ag ef, neu'n dy atal rhag gwneud y pethau rwyt ti'n eu mwynhau, gallai fod yn arwydd bod angen mwy o help arnat ti. I gael gwybod mwy, gweler ein tudalen ar ddeall iechyd meddwl.

Cofia: p’un a yw dy deimladau’n rhan o broblem iechyd meddwl ai peidio, rwyt ti’n dal i haeddu cymorth os wyt ti’n cael trafferth ymdopi â nhw.

Nid oes angen i unrhyw beth achosi hwyliau isel. Gall ddigwydd, ac mae hynny'n iawn! 

Pryd ddylwn i ofyn am help?

Mae'n normal meddwl tybed a allet ti trin pethau ar dy ben dy hun, neu hyd yn oed deimlo nad wyt ti'n gwybod ble i ddechrau. Beth bynnag wyt ti'n ei deimlo, yn fawr neu'n fach, nid oes angen i ti ymdopi ar dy ben dy hun. Gallet agor i fyny i rywun cyn gynted ag y byddet yn teimlo'n barod.

Nid oes ots pa mor hir rwyt ti wedi bod yn cael trafferth gyda dy deimladau, mae bob amser yn iawn gofyn am help.

Roedd cadw fy mrwydrau yn gyfrinach yn pwyso i lawr arnaf fel tunnell o frics, a phenderfynais fod yn rhaid i mi ddweud wrth rywun.

Pam ddylwn i ofyn am help?

Gall gofyn am help deimlo fel cam anodd iawn, ond gall estyn allan am gefnogaeth dy helpu i:

  • Dod o hyd i gefnogaeth i helpu gyda sut rwyt ti'n teimlo
  • Teimlo nad wyt ti ar dy ben dy hun
  • Rhannu sut wyt ti'n teimlo gyda rhywun rwyt ti'n ymddiried ynddo
  • Deall dy deimladau'n well
  • Siarad â gweithiwr proffesiynol, fel meddyg, cwnsler neu arbenigwr iechyd meddwl
  • Atal pethau rhag gwaethygu
  • Dechrau teimlo'n well

Mae’n bwysig ceisio dysgu adnabod a mynd i’r afael â’r teimladau hyn, a chael y gefnogaeth gywir bryd hynny i ymdopi â nhw.

Beth alla i ei wneud ar hyn o bryd?

Fe allet ti:

  • Meddwl am sut y gallet ti rhannu dy deimladau gyda rhywun rwyt ti'n ei adnabod. Gallet siarad â ffrind, partner neu oedolyn y gallet ymddiried ynddo. Os nad wyt ti eisiau siarad neu os nad wyt ti'n siŵr beth wyt ti’n ei deimlo, fe allet ti ceisio ysgrifennu llythyr neu dynnu llun. Gweler ein tudalen ar agor i fyny am fwy o syniadau.
  • Ffonio llinell gymorth i gael sgwrs gyfrinachol gyda chynghorydd. Weithiau mae’n haws siarad â rhywun nad wyt yn ei adnabod. Gweler ein tudalen cysylltiadau defnyddiol am syniadau ar bwy i gysylltu â nhw.
  • Ymweld â dy feddyg. Gweler ein tudalen ar siarad â dy feddyg am ein canllaw ar sut i wneud hyn.
  • Archwilio opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Gweler ein tudalen ar ddod o hyd i gefnogaeth am ragor o wybodaeth.
  • Cymeryd amser i wneud rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau neu sy’n helpu ti i ymlacio. I gael awgrymiadau ar bethau y gallet rhoi cynnig arnynt, gweler ein tudalen gofalu am eich lles.

Rwy’n ei chael hi’n anodd deall fy nheimladau a dyna sy’n gwneud i mi deimlo allan o reolaeth. Fodd bynnag, gydag ymarfer rwyf wedi dod o hyd i dechnegau i helpu i ddeall sut rwy'n teimlo, ac rwy'n defnyddio mecanweithiau ymdopi cadarnhaol i'm helpu.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Mawrth 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig