Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall iechyd meddwl – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc ynghylch deall iechyd meddwl a phroblemau iechyd meddwl.

Beth yw iechyd meddwl?

Mae iechyd meddwl yn ymwneud â sut rydyn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Fel iechyd corfforol, mae iechyd meddwl gan bawb ac mae’n rhaid i ni ofalu amdano.

Mae ein hiechyd meddwl ar sbectrwm, a gall amrywio o fod yn dda i fod yn wael.

Gall iechyd meddwl dy helpu di i feddwl yn gadarnhaol, i deimlo’n hyderus, ac i ymddwyn yn bwyllog.

Os oes gen ti iechyd meddwl gwael, efallai y byddi di’n ei chael yn anodd ymdopi â’r ffordd rwyt ti’n meddwl, yn teimlo neu’n ymddwyn. Mae’n bosib na fyddi di’n mwynhau’r pethau roeddet ti’n arfer eu gwneud, efallai y byddi di’n teimlo’n drist neu’n grac am adeg hirach nag arfer, neu’n teimlo fel petai hi’n amhosib i ti reoli sut rwyt ti’n teimlo neu’n ymddwyn.

Mae gwybodaeth am y canlynol ar y dudalen hon:

“Mae iechyd meddwl ar sbectrwm – gallwn ni fod yn sâl ac yn ei chael hi’n anodd, ac yn iach ac yn gweithio’n iawn. Mae’n newid o hyd, sy’n gallu peri blinder mawr, ond mae hefyd yn atgoffa rhywun bod pethau’n mynd i wella eto.”

Sut allaf i ofalu am fy iechyd meddwl?

Gall gofalu am dy iechyd meddwl dy helpu di i deimlo’n dda. Gall hefyd helpu i atal rhai problemau iechyd meddwl rhag datblygu, rheoli eu heffeithiau, a’u hatal rhag gwaethygu.

Dyma ambell ffordd y gelli di ofalu am dy iechyd meddwl:

Gofala am dy lesiant – cer i’n tudalen ar lesiant am gyngor ar sut i wneud hyn.

Gofala am dy hun – mae gofalu am dy hun, neu ‘self-care’ yn Saesneg, yn ymwneud â ffyrdd gwahanol o ofalu am dy hun sydd o gymorth i dy iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys adnabod beth sy’n gwneud i ti deimlo’n dda a beth sydd ddim, gweld dy ffrindiau, a gofalu am dy iechyd corfforol. Cer i dudalen Anna Freud ar ofalu am dy hun am ragor o syniadau.

Ffeindia ffyrdd i roi hwb i dy hyder, i ti gael teimlo’n dda am dy hun.

Gofynna am help neu gefnogaeth pan fo angen. Cer i’n tudalen dod o hyd i gymorth i gael gwybodaeth am y ffyrdd gwahanol o gymorth sydd ar gael i ti, neu darllena am sut i siarad â meddyg.

Beth yw problemau iechyd meddwl?

Rydyn ni gyd yn teimlo’n drist, yn bryderus, yn grac neu’n flin ar adegau – fel nerfau cyn arholiad neu deimlo’n drist pan fydd ffrind yn symud i ffwrdd. 

Ond pan fydd ein teimladau yn ein hatal rhag meddwl, teimlo neu ymddwyn yn ein ffordd arferol am amser hir, fel teimlo’n isel neu’n methu cysgu, efallai mai problem iechyd meddwl yw hynny.

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn. Dim arwydd o wendid ydyn nhw, ac maen nhw’n gallu digwydd i unrhyw un. Mae problemau iechyd meddwl yn gallu teimlo’n wahanol i bawb hefyd.

Mae’r canlynol yn dermau sy’n gallu cael eu defnyddio yn lle ‘problem iechyd meddwl’, neu efallai byddai’n well gen ti eu defnyddio nhw:

  • ‘iechyd emosiynol gwael’
  • ‘wedi gorlwytho’
  • ‘salwch meddwl’
  • ‘salwch meddyliol’
  • ‘anawsterau emosiynol’.

Mae nifer o wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl yn bodoli, ac mae enw gan bob un ohonyn nhw, fel iselder a sgitsoffrenia.

Mae profiadau hefyd yn bodoli sy’n gallu bod yn rhan o broblem iechyd meddwl neu sy’n gallu digwydd ar eu pen eu hunain, fel dicter (bod yn grac neu’n flin) a rhithiau (delusions).

“Does dim angen teimlo cywilydd os wyt ti’n ei chael yn anodd ymdopi â dy iechyd meddwl.”

Beth sy’n achosi problemau iechyd meddwl?

Mae nifer o bethau sy’n gallu achosi problemau iechyd meddwl, ac weithiau mae’n bosib bod nifer o bethau yn cyfuno i achosi problem, fel:

  • Problemau yn y cartref, yn yr ysgol neu mewn perthnasau
  • Newidiadau mawr mewn bywyd
  • Dioddef gwahaniaethu oherwydd dy rywioldeb neu dy gredoau
  • Pwysau i lwyddo gennyt ti dy hun neu gan eraill
  • Teimlo’n unig, neu fel petai neb yn dy ddeall di
  • Cael dy fwlio
  • Cael dy gam-drin
  • Teimlo’n isel dy hyder
  • Colli rhywun sy’n agos i ti
  • Pethau sydd wedi digwydd i ti sy’n achosi straen
  • Poeni am yr hyn sy’n digwydd yn y byd, fel y pethau rwyt ti’n eu clywed ar y newyddion.

Gall fod yn rhywbeth sydd ddim ar y rhestr, neu efallai nad wyt ti’n siŵr beth yw’r achos.

Mewn rhai diwylliannau, mae iechyd meddwl yn cael ei gysylltu’n agos gyda bywyd crefyddol neu ysbrydol, ac mewn rhai eraill nid yw’n cael ei ystyried i fod yn rhywbeth gwahanol i iechyd corfforol o gwbl. Gall hyn gynnig eglurhad gwahanol i rywun o darddiad eu problem iechyd meddwl, a rhoi dealltwriaeth wahanol o iechyd meddwl.

Ydy problemau iechyd meddwl yn rhedeg mewn teuluoedd?

Mae peth ymchwil yn awgrymu bod rhai problemau iechyd meddwl yn gallu rhedeg mewn teuluoedd, er nad ydyn ni’n gwbl sicr o hynny.

Gall hyn fod o ganlyniad i’n genynnau, y ffyrdd o feddwl, teimlo ac ymddwyn rydyn ni’n eu dysgu oddi wrth ein rhieni, neu’r amgylchedd rydyn ni’n cael ein magu ynddo.

Mae rhai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sydd heb aelodau o’r teulu sy’n dioddef o’r un cyflwr.

Pa fath o driniaethau a chefnogaeth sydd ar gael?

Mae nifer o wahanol fathau o driniaethau a chefnogaeth ar gael ar gyfer problemau iechyd meddwl, fel y canlynol:

Therapïau siarad – triniaethau rheolaidd yw’r rhain, fel cwnsela a therapi gwybyddol ymddygiadol (Cognitive Behavioural Therapy, neu CBT), sy’n rhoi cyfle i ti siarad am dy feddyliau gyda therapydd proffesiynol sydd wedi derbyn hyfforddiant yn y maes. Triniaeth siarad gyda therapydd yw CBT, sy’n dy helpu di i ystyried dy batrymau meddwl a’r pethau rwyt ti’n eu gwneud, a dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi mewn sefyllfaoedd anodd.

Meddyginiaeth – moddion sy’n cael ei gynghori gan feddyg i dy helpu di i reoli dy deimladau. Cer i dudalen wybodaeth YoungMinds ar feddyginiaeth am fwy o wybodaeth.

Y celfyddydau a therapïau creadigol – gall hyn gynnwys defnyddio'r celfyddydau (cerddoriaeth, arlunio, peintio drama) i fynegi dy feddyliau gyda therapydd proffesiynol mewn awyrgylch diogel, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol er mwyn gwella eich llesiant a’ch hyder.

Cefnogaeth gan gymheiriaid - grwpiau lleol neu ar-lein sy’n cwrdd i drafod eu profiadau o iechyd meddwl a llesiant, ac wrth wneud hynny maen nhw’n rhoi hwb i iechyd meddwl aelodau eraill y grŵp.

Efallai bydd rhaid i ti roi tro ar ambell i beth gwahanol cyn darganfod beth sy’n gweithio orau i ti.

“Cefais help gan fy meddyg teulu i ddeall beth yw anhwylder gorbryder... Yn y diwedd, cefais fy nghyfeirio at therapydd lle dechreuais i ddeall fy mhrofiadau iechyd meddwl personol fy hun mewn rhagor o ddyfnder.”

Ble allaf i gael triniaeth a chefnogaeth?

Gelli di gael triniaeth a chefnogaeth am dy iechyd meddwl mewn nifer o leoedd gwahanol, fel y canlynol:

Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen dod o hyd i gymorth.

Ydy problemau iechyd meddwl yn gwneud rhywun yn beryglus?

Does dim cysylltiad rhwng y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl ac ymddygiad peryglus neu dreisgar. Mae'r syniad hwn yn aml yn cael ei atgyfnerthu gan y ffordd negyddol ac afrealistig mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu portreadu ar deledu, mewn ffilmiau ac yn y cyfryngau.

Ond mae pethau’n newid er gwell. Gelli di helpu herio syniadau anghywir am broblemau iechyd meddwl wrth rannu gwybodaeth ddibynadwy. Gelli di hefyd ymwneud ag ymgyrchoedd, fel rhai YoungMinds.

Ydw i’n gallu byw’n dda gyda phroblem iechyd meddwl?

Mae’n wir fod problemau iechyd meddwl yn gallu effeithio ar rannau o dy fywyd.

Ond gelli di ymdopi â dy symptomau wrth geisio bod yn ymwybodol o beth sy’n gwaethygu dy iechyd meddwl, fel straen neu ddiffyg cwsg, a chymryd camau i newid y pethau hyn.

Gelli di hefyd wneud pethau sy’n gwneud dy iechyd meddwl yn well neu’n fwy sefydlog, fel cwrdd â ffrind neu wneud chwaraeon.

Wrth gymryd camau i ofalu am dy hun, mae’n dal yn bosib i ti gael bywyd hapus a chyflawn.

“Er fy mod i weithiau’n teimlo’n drist bod fy mywyd wedi cael ei effeithio gan broblem iechyd meddwl, mae wedi gwneud fi'r person ydw i.”

Ydw i’n gallu gwella o broblem iechyd meddwl?

Mae’n bosib gwella o broblem iechyd meddwl, ac mae nifer o bobl yn gwneud hynny.

Efallai bydd dy symptomau’n dychwelyd o bryd i’w gilydd, ond pan fyddi di’n dod o hyd i’r cydbwysedd cywir o hunanofal, triniaeth a chefnogaeth sy’n gweithio i ti, mae’n debygol y byddi di’n gallu eu rheoli nhw’n well.

Mae’n bwysig cofio mai taith yw gwella, ac mae’n golygu rhywbeth gwahanol i bawb.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mehefin 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2022. 

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig