Deall dy les meddyliol
Mae pobl yn aml yn siarad am bwysigrwydd iechyd meddwl, a pha mor bwysig yw gofalu am ein lles. Rydyn ni yma i dy helpu i ddeall beth yw lles meddyliol, ac i dy helpu i ofalu am dy les di.
Beth yw lles meddyliol?
Mae lles meddyliol yn gallu golygu llawer o wahanol bethau i wahanol bobl. Ar y dudalen hon mae ‘lles meddyliol’ yn golygu sut rwyt ti’n teimlo y funud yma, a pha mor dda rwyt ti’n ymdopi â bywyd bob dydd.
Gall lles meddyliol da gynnwys ystod eang o emosiynau. Gall lles hefyd gynnwys cael syniadau ar gyfer delio â dy emosiynau a theimlo dy fod yn gallu ymdopi’n iawn.
Gall ein lles newid o un foment o'r llall, o un dydd i’r llall neu o un mis i’r llall. Mae gwahanol bobl yn ei chael yn anoddach neu’n haws ymdopi â gwahanol bethau. Weithiau mae ein lles yn newid oherwydd pethau sy’n digwydd i ni, ac weithiau mae’n newid am ddim rheswm amlwg.
Gall ein lles effeithio ar sut rydyn ni’n teimlo amdanon ni ein hunain, sut rydyn ni’n teimlo am eraill, a sut rydyn ni’n teimlo am y pethau rydyn ni’n eu hwynebu yn ein bywyd bob dydd.
Efallai y byddi hefyd yn clywed y term iechyd meddwl. I rai pobl, maen nhw’n golygu’r un peth. I eraill, maen nhw’n golygu pethau ychydig yn wahanol. Gelli di ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen am ddeall iechyd meddwl.
Yn ein bywydau prysur, weithiau rydyn ni’n anghofio ystyried sut rydyn ni’n teimlo. Felly, weithiau dydyn ni ddim yn sylweddoli bod ein lles yn dioddef nes byddwn yn gweld pethau’n anodd.
Pam mae fy lles yn bwysig?
Mae gofalu am dy les meddyliol yr un mor bwysig â gofalu am dy les corfforol. Gall lles da dy helpu i:
- Ymdopi â bywyd bob dydd
- Ymdopi â straen a newidiadau yn dy fywyd
- Gwneud penderfyniadau
- Deall ac ymdopi ag ystod o emosiynau
- Cael hyder a gwell hunan-barch
- Meithrin perthynas ag eraill
- Mwynhau pethau yn dy fywyd
- Meithrin a datblygu dy sgiliau bywyd
Dydy lles da ddim yn golygu ein bod ni’n teimlo'n dda ac yn hapus drwy'r amser. Mae’n normal teimlo’n drist, yn flin neu’n isel weithiau. Mae’n normal profi llawer o wahanol deimladau ar yr un pryd. Ond os ydy ein lles yn wael am gyfnod hir, gall bywyd ddechrau teimlo'n anoddach.
Gall cael problem iechyd meddwl ei gwneud hi’n fwy anodd gofalu am ein lles. Ac os ydyn ni’n cael trafferth â’n lles, gall fod yn fwy anodd ymdopi â’n hiechyd meddyliol a chorfforol. Gall gofalu amdanon ni ein hunain nawr helpu ein hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol yn y dyfodol.
Mae’n bwysig gofalu amdanon ni ein hunain pan fydd pethau’n mynd yn dda a phan fydd pethau’n anodd. Dydy hi ddim bob amser yn hawdd neilltuo amser i ofalu amdanon ni ein hunain. Ond gall gwneud rhywbeth yn rheolaidd wella ein lles. Gallai hynny fod bob dydd, bob wythnos, neu beth bynnag sy’n gweithio i ti.
Neilltuo amser i ti dy hun. Does dim rhaid i ti fod ar dy ben dy hun... cyn belled â dy fod ti’n cymryd amser i gasglu dy feddyliau a deall yr hyn ti’n feddwl ac yn teimlo – Sabihah, 14
Beth ydy hunanofal?
Does dim un diffiniad pendant o hunanofal, a gall edrych fel pethau gwahanol i wahanol bobl. Mae hunanofal yn cynnwys yr holl bethau rydyn ni’n eu gwneud i ofalu amdanon ni ein hunain.
Does dim un peth penodol sy’n cyfrif fel hunanofal. Mae’n golygu ceisio canfod beth sydd ei angen arnat. Hynny yw, beth bynnag sy’n gwneud i ti deimlo’n dda ac fel dy fod wedi gofalu amdanat ti dy hun.
I mi, mae hunanofal yn golygu camu’n ôl o straen bywyd a phroblemau pobl eraill... Mae hunanofal yn golygu bod yn garedig â mi fy hun a phenderfynu beth sydd orau ar gyfer fy lles.
Hunanofal yw’r hyn rwyt ti’n ei wneud i gynnal neu wella dy les. Nid yw'n dibynnu a wyt ti'n cael diwrnod da neu ddrwg, ond dylai fod yn beth rheolaidd. Mae’n golygu gwneud pethau sy'n gwneud i ti deimlo'n dda.
Er bod hunanofal yn benderfyniad i ofalu amdanon ni ein hunain, gall hefyd gynnwys pobl eraill. Er enghraifft, gallai gofalu amdanat ti dy hun olygu gofyn i ffrind neu aelod o’r teulu am help. Mae hynny hyd yn oed yn cynnwys gofyn iddyn nhw dreulio amser gyda thi.
Gall hunanofal fod yn ffordd i ni wella a rheoli ein lles meddyliol. Mae rhywfaint o syniadau ar ein tudalen awgrymiadau ar gyfer gofalu am dy les.
Beth sy’n gallu effeithio ar fy lles?
Mae pawb yn wahanol, felly efallai na fydd yr hyn sy’n effeithio ar dy les di yr un fath â’r hyn sy’n effeithio ar les rhywun arall. Efallai y bydd rhai pethau’n effeithio arnat ti ar rai adegau ond nid ar adegau eraill. Ac mae’n iawn teimlo bod hi’n anodd ymdopi â rhywbeth, hyd yn oed os nad oeddet ti’n disgwyl iddo fod yn anodd.
Dyma rai pethau a allai effeithio ar dy les:
- Digwyddiadau neu newidiadau mawr yn dy fywyd
- Profi pethau anodd neu weld y rhain yn digwydd i rywun arall
- Dy berthynas â’r bobl o dy gwmpas
- Yr help rwyt ti’n ei gael gartref, yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith
- Teimlo’n ddiogel a chael digon o arian a phethau eraill sydd eu hangen arnat ti
- Cael cyfleoedd i wneud yr hyn rwyt ti eisiau ei wneud
- Ble rwyt ti’n byw
- Dy iechyd corfforol
- Pethau sy'n digwydd o dy gwmpas neu yn y byd
- Sut mae pobl eraill yn dy drin
- Teimlo dy fod yn cael dy gynrychioli yn y byd o dy gwmpas
- Teimlo bod dy lais yn cael ei glywed
Efallai dy fod ti’n mynd drwy lawer o bethau sy’n effeithio ar dy les. Neu efallai nad wyt ti’n siŵr os oes rheswm pam ei fod wedi newid. Ac mae hynny’n iawn.
Dw i’n gwneud fy ngorau i helpu fy iechyd meddwl drwy fynd am dro, chwarae pêl-rwyd, mynd allan gyda fy ffrindiau i gael sgwrs... gwylio’r teledu a jest ymlacio yn fy ngwely.
Sut gall y cyfryngau cymdeithasol effeithio ar fy lles?
Gall apiau neu wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Tiktok ac Instagram effeithio ar ein lles mewn ffyrdd da ac mewn ffyrdd drwg.
Gallan nhw ein helpu i deimlo cysylltiad â phobl eraill, yn enwedig pobl fel ni neu bobl sydd â diddordebau tebyg. Gall hynny ein helpu i deimlo’n dda. Ond efallai y byddwn hefyd yn gweld cynnwys sy’n frawychus, yn peri gofid neu’n niweidiol i ni.
Gelli di ystyried sut mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i ti deimlo. Weithiau dydyn ni ddim yn sylweddoli bod yr hyn rydyn ni’n ei weld yn effeithio ar ein lles a sut rydyn ni’n teimlo. Ac mae’n bwysig gwneud yn siŵr dy fod ti’n cadw’n ddiogel ar-lein.
Gelli di roi cynnig ar rai o'r syniadau hyn i dy helpu i ofalu amdanat ti dy hun:
- Dod o hyd i gynnwys rwyt ti’n ei fwynhau ac sy’n gwneud i ti deimlo’n dda.
- Dad-ddilyn, tewi neu flocio cyfrifon neu hashnodau nad wyt ti’n dymuno eu gweld.
- Gosod cyfyngiadau ar faint rwyt ti’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu ar gyfer yr adegau y byddi di’n ei ddefnyddio.
- Blocio a riportio rhywun sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus neu sy’n dy ypsetio. Gelli di hefyd ddweud wrth oedolyn dibynadwy fel athro, rhiant neu warcheidwad beth sy'n digwydd.
- Meddylia am yr hyn rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn ei rannu ar-lein a beth rwyt ti eisiau ei gadw’n breifat neu siarad amdano mewn ffyrdd eraill.
- Meddylia sut rwyt ti’n cadw dy wybodaeth yn ddiogel ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, edrycha ar dudalen Childline ar gadw’n ddiogel ar-lein.
Does dim rhaid i ti wylio neu siarad am unrhyw beth os dwyt ti ddim eisiau gwneud hynny. A does dim rhaid i ti fod yn gyfrifol am unrhyw un arall.
Sut gallaf i ofalu am fy lles?
Yn yr un modd â gofalu am ein hiechyd a’n lles corfforol, mae ffyrdd o ofalu am ein hiechyd meddwl a lles.
Mae gan bawb ffyrdd gwahanol o reoli eu lles. Efallai bod gen ti syniadau’n barod am yr hyn sy’n ddefnyddiol i ti.
Ar ein tudalen awgrymiadau ar gyfer gwella dy les, mae gennym wybodaeth am y canlynol:
- Gofalu am dy les nawr
- Gofalu am dy les yn y tymor hir
- Sut gall gwahanol heriau effeithio ar les
- Awgrymiadau ar gyfer delio â heriau o ran lles
Sut gall pobl eraill fy helpu?
Gall treulio amser gyda phobl eraill ein helpu i deimlo’n dda amdanon ni ein hunain. Gall ein helpu i ofalu am ein lles. Gall hefyd ein helpu i’w wella pan nad yw gystal.
Mae siarad yn agored â phobl eraill yn golygu cael cyfle i siarad am yr hyn sy’n digwydd yn ein bywydau. Mae’n golygu cael cyfle i deimlo dy fod yn cael dy gefnogi. Gall hyn helpu â’n lles.
Gall ein ffrindiau, teulu neu bartner(iaid) hefyd ein helpu i wneud pethau sy’n dda i’n lles. Gallai hynny fod yn bethau fel gwylio ffilm neu fynd am dro gyda’ch gilydd.
Does dim rhaid i ti ddelio â phethau ar dy ben dy hun. Mae’n iawn gofyn am help pan fydd ei angen arnat.
Dim ots beth mae pobl yn ei ddweud, dydy hunanofal ddim yn hunanol. Dw i wedi sylwi, pryd bynnag dw i’n cymryd hunanofal o ddifrif, mae’n cael effaith bositif iawn ar sut dw i’n teimlo ac yn ymddwyn.
Cyhoeddwyd: Tachwedd 2023
Adolygiad nesaf: Tachwedd 2026
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.
