Delio â dicter – ar gyfer pobl ifanc
Gwybodaeth i bobl ifanc am ddicter, a chyngor ar sut i’w reoli a ble mae cael cymorth.
Delio â dicter
Gall pob un ohonom deimlo’n ddig neu’n flin ar brydiau. Ond weithiau, gall y ffordd rydyn ni’n delio â hyn fod yn niweidiol i ni ac i’r bobl o’n cwmpas.
Dydy deall ein dicter a meddwl am sut rydyn ni’n delio ag ef ddim yn cael gwared arno. Ond, bydd yn ein helpu i ddysgu sut i’w reoli’n ddiogel. Rydyn ni yma i’ch helpu i ddod o hyd i ffordd.
Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:
“Mewn byd sy’n llawn pethau negyddol, mae’n hawdd teimlo’n flin. Ond mae cefnogaeth ar gael!"
Beth yw dicter?
Rydyn ni’n aml yn teimlo’n flin pan fyddwn yn rhwystredig, ddim yn hoffi sefyllfa, neu wedi cael ein trin yn wael. Ond efallai y byddwn hefyd yn teimlo’n flin heb wybod pam, ac mae hynny’n iawn – cyn belled â’n bod yn dod o hyd i ffordd o fynegi ein teimladau’n ddiogel.
Dim ond pan na fydd dicter yn cael ei reoli’n dda a phan fydd yn mynd allan o reolaeth y daw yn broblem. Dyma rai arwyddion y gallai hyn fod yn digwydd:
- rydych yn mynegi eich dicter mewn ffyrdd gwael neu anniogel
- mae eich dicter yn effeithio ar eich bywyd bob dydd
- mae eich dicter yn effeithio ar eich perthnasoedd a’r bobl o’ch cwmpas
- dicter yw eich prif emosiwn a dyna’r cyfan y gallwch feddwl amdano.
Os ydych chi wedi bod yn profi unrhyw un o’r pethau hyn ers tro, siaradwch ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo cyn gynted ag y gallwch chi. (Edrychwch ar ein gwybodaeth ar reoli dicter i gael awgrymiadau ar sut i estyn allan am gymorth.)
Mae’n bosibl y bydd dicter yn cael ei allanoli, sy’n golygu ei fod yn cael ei fynegi yn uchel neu tuag at bobl eraill. Neu, efallai y bydd yn cael ei fewnoli, sy’n golygu eich bod yn flin gyda chi eich hun.
Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad dig wedi’i allanoli mewn ffordd wael:
- gweiddi neu regi
- colli rheolaeth
- torri neu daflu pethau
- brifo eraill yn emosiynol neu’n gorfforol
- bod yn anghwrtais tuag at eraill neu ymladd ag eraill
- ceisio gwylltio pobl eraill yn fwriadol.
Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad dig wedi’i fewnoli mewn ffordd wael:
- peidio â delio â’ch dicter a beio eich hun
- atal eich hun rhag cael y pethau sydd eu hangen arnoch, fel bwyd neu gwsg
- atal eich hun rhag gwneud pethau rydych yn eu mwynhau, fel gweld ffrindiau
- yfed alcohol neu gymryd cyffuriau
- hunan-niweidio.
Gall bod yn ymwybodol o'r ymddygiadau hyn eich helpu i ddysgu ffyrdd newydd o ddelio â'ch teimladau.
Pam ydw i’n mynd yn flin?
Mae llawer o resymau pam y gallech deimlo’n flin. Gelwir y rhain yn sbardunau.
Mae gan bawb ei sbardunau ei hun, ond mae rhai cyffredin yn cynnwys:
- teimlo’n ofnus neu deimlo bod rhywun yn ymosod arnoch
- teimlo’n rhwystredig, cywilydd, o dan straen neu’n ddi-rym
- teimlo eich bod yn cael eich camddeall, yn cael eich barnu neu nad ydych yn cael eich trin yn deg
- cael eich bwlio, rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn neu’n eich cam-drin
- profi galar neu broblemau mewn perthynas
- lefelau hyder neu hunan-barch isel
- ddim yn gallu deall eich teimladau, neu eu mynegi’n uchel
- problemau iechyd meddwl neu gorfforol, neu gyflyrau fel ADHD neu awtistiaeth, sy’n effeithio ar eich gallu i wneud rhai pethau penodol neu sy’n effeithio ar sut mae pobl eraill yn eich deall
- teimlo’n flin am bethau sy’n digwydd yn y byd, fel hiliaeth neu newid yn yr hinsawdd
Efallai y byddwch yn teimlo’n flin am resymau nad ydyn nhw ar y rhestr hon.
Neu efallai eich bod yn teimlo’n flin a ddim yn gwybod pam. Gallai hyn fod oherwydd bod llawer o bethau’n cronni. Neu gallai fod oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd i chi yn y gorffennol, ond nad ydych yn sylweddoli ei fod yn eich ypsetio o hyd.
Gallai eich dicter hefyd fod yn gysylltiedig â chyfnod y glasoed neu hormonau.
Gall gwahaniaethu yn eich erbyn, neu boeni am bethau sy’n digwydd yn y byd, wneud i chi deimlo’n flin neu’n drist a gwneud i’ch lefel hunan-barch fod yn isel.
Ond mae pethau y gallwch eu gwneud i fynegi eich dicter yn mewn ffordd iach.
Er enghraifft, os ydych chi wedi profi neu os ydych chi yn profi:
- homoffobia, biffobia neu drawsffobia – gallwch godi arian i gefnogi pobl LGBTQIA+a chefnogi ymgyrchoedd.
- rhagfarn ar sail rhyw – neu os ydych yn dymuno cefnogi cydraddoldeb rhywiol a ffeministiaeth, gallwch godi arian neu ymuno ag ymgyrchoedd i gefnogi menywod ifanc.
- hiliaeth – darllenwch am sut i ofalu am eich iechyd meddwl, dysgwch sut i roi gwybod am drosedd casineb, neu ewch i lwyfan cymorth fel Kids of Colour.
- gorbryder am y coronafeirws – ewch i’n hyb coronafeirws i gael gwybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gweithredu yn ystod y cyfyngiadau symud, beth am ddysgu sut i ymuno ag ymgyrchoedd gartref?
- Gorbryder am newid yn yr hinsawdd– gallwch ymuno â rhwydwaith myfyrwyr, llofnodi deiseb am newid, neu ddysgu am orbryder a sut mae cael cymorth.
- cam-drin – neu os nad ydych yn siŵr beth sy’n cael ei ystyried yn gam-drin, gallwch ddarllen gwybodaeth a chyngor ar wefan YoungMinds ac ar wefan Childline.
Cofiwch: dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae yna lefydd lle gallwch chi gael cymorth, a ffyrdd y gallwch chi herio’r pethau nad ydych chi’n cytuno â nhw.
“Mae yna elfen o dabŵ yn ymwneud ag iechyd meddwl, yn enwedig yn fy niwylliant i. Felly mae hynny’n rheswm dros fod yn flin a ddim yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnoch.”
O ble mae dicter yn dod yn yr ymennydd?
Enw prif rannau’r ymennydd sy’n ymwneud â rheoli emosiynau yw’r cortecs cyndalcennol a’r amygdala. Mae’r cortecs cyndalcennol yn ymwneud â chynllunio a gwneud penderfyniadau, ac mae’r amygdala yn ymateb i emosiwn a pherygl i’ch amddiffyn.
Fel arfer, pan fyddwch yn meddwl ac yn gwneud penderfyniadau, mae’r cortecs cyndalcennol yn parhau i weithio ac nid yw’r amygdala yn ymateb. Ond os yw sefyllfa’n ysgogi emosiwn cryf, fel cyffro neu ddicter, mae hyn yn newid.
Pan fyddwch yn gwylltio, mae eich amygdala yn sylwi ar y rhybudd emosiynol hwn. Yna, mae’n anfon neges i’ch corff i ddiystyru popeth arall a gweithredu’n gyflym, heb feddwl am y canlyniadau.
Mae eich amygdala yn gwneud i chi ymateb i’r hyn mae’n ei weld fel ‘perygl’, hyd yn oed os nad oes perygl go iawn yno. Dyna pam y gallech chi wneud neu ddweud pethau y gallech chi eu difaru yn nes ymlaen.
Dros amser, gallwn ddysgu sut i adnabod yr arwyddion, ac arafu neu hyd yn oed atal y broses hon. Gall hyn roi amser i ni feddwl sut rydyn ni’n dymuno ymateb i’r sefyllfa.
A oes cysylltiad rhwng dicter ac iechyd meddwl?
Dim problem iechyd meddwl yw dicter – mae’n emosiwn normal y mae pob un ohonom yn ei deimlo weithiau.
Ond os ydych yn teimlo’n fwy blin nag arfer, efallai ei fod yn arwydd bod gennych iechyd meddwl gwael ar hyn o bryd, neu eich bod yn delio â rhywbeth anodd.
Os ydych yn teimlo’n flin am gyfnod hir, neu os ydych yn meddwl ei fod yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, gallai fod yn arwydd o broblem iechyd meddwl, fel gorbryder neu anhwylder straen wedi trawma.
Cofiwch: mae iechyd meddwl yn golygu’r ffordd rydyn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae angen cymorth ar bawb gyda’r pethau hyn weithiau.
Pan fyddwch yn dechrau gwylltio, mae eich ymennydd yn rhyddhau adrenalin drwy eich corff. Efallai y byddwch yn dechrau teimlo:
- eich cyhyrau'n tynhau
- eich calon yn curo’n gyflymach
- eich bod yn crynu neu'n chwysu.
Mae adnabod yr arwyddion rhybudd hyn yn gallu rhoi cyfle i chi feddwl sut rydych am ymateb i’r sefyllfa.
Po gyntaf y byddwch yn sylwi ar sut rydych yn teimlo, yr hawsaf y gall fod i ddewis sut i reoli eich dicter.
Gall mynd oddi wrth y sefyllfa, am ychydig eiliadau hyd yn oed, eich helpu i benderfynu sut rydych yn teimlo a sut rydych am ymateb. Gallech roi cynnig ar y canlynol:
- cymryd ambell anadl ddofn
- cyfrif i 10
- mynd am dro sydyn
- gofyn a allwch ddelio â’r mater yn nes ymlaen.
“Rwy’n ceisio gadael y sefyllfa.”
Os gallwch chi, siaradwch â ffrind neu aelod o’r teulu rydych yn ymddiried ynddo, ac nad oes a wnelo pam rydych yn teimlo’n flin ddim â nhw.
Disgrifiwch sut rydych yn teimlo a gofynnwch iddyn nhw beth ddylech chi ei wneud.
Os byddai’n well gennych siarad â rhywun nad ydych yn ei adnabod, gallech gysylltu â Childline neu The Mix i gael sgwrs gyfrinachol â chwnselydd.
Ewch i’n tudalen cysylltiadau defnyddiol i weld pa sefydliadau eraill all helpu.
Mae hyn yn ymwneud ag anadlu’n araf, ymlacio eich corff, a chymryd ychydig o amser i adael i’ch meddwl glirio. Gallech roi cynnig ar:
- Ymarfer anadlu i’ch helpu i ymdawelu. Rhowch gynnig ar anadlu drwy eich trwyn am bedwar cyfrif, ei ddal am ddau gyfrif, ac anadlu allan drwy eich ceg am saith cyfrif. Os gallwch ailadrodd hyn, bydd yn helpu i arafu’ch anadl a’ch cadw’n ddigyffro.
- Ymarfer ‘daearu’ i ddod â’ch meddwl yn ôl o dan reolaeth. Ymlaciwch eich corff gymaint ag y gallwch a chanolbwyntio ar ble rydych chi. Ceisiwch enwi pum peth y gallwch eu gweld, pedwar peth y gallwch eu teimlo, tri pheth y gallwch eu clywed, dau beth y gallwch eu harogli, ac un peth y gallwch ei flasu.
Gwnewch rywbeth sy’n tynnu eich sylw oddi wrth eich dicter am gyfnod. Er enghraifft:
- gwrando ar gerddoriaeth a dawnsio
- gwylio pennod o’ch hoff raglen
- cwrdd â ffrind
- chwarae offeryn
- ysgrifennu neu gadw dyddlyfr
- tynnu lluniau
- chwarae gêm neu wneud ymarfer corff.
I gael gwared ar eich egni blin mewn ffordd ddiogel, gallech roi cynnig ar y canlynol:
- pwnio clustog
- popian papur swigod
- sgriblo ar bapur
- chwalu ciwbiau rhew
- rhedeg neu ymarfer corff arall.
Gall hunan-niweidio deimlo fel ffordd o ddelio â dicter sy’n gweithio i chi. Ond dydy hyn ddim yn ffordd iach o ymdopi. Efallai y bydd yn cael gwared ar rywfaint o’r straen neu’r emosiwn i ddechrau, ond dydy hyn ddim yn helpu i ddelio â’r rheswm pam eich bod yn teimlo’n flin.
Ac os ydych yn dechrau dibynnu ar hunan-niweidio fel strategaeth ymdopi, mae’n rhoi’r gorau i arwain at deimlad o ryddhad neu gysur, ac mae’n helpu llai a llai.
“Roeddwn i’n arfer hunan-niweidio fel ffordd o ddelio â’r holl bethau negyddol yn fy mywyd, ond doedd hynny ddim yn ddigon. Roeddwn i’n biwis â phobl, yn ddigywilydd ac yn flin bob amser; blin gyda fi fy hun, a’r byd.”
Os ydych yn teimlo’r awydd i hunan-niweidio, gallech feddwl am ffyrdd o dynnu eich meddwl oddi ar hynny. Er enghraifft:
- mynd am gawod oer
- gwneud ymarfer corff
- tacluso
- clecian bandiau elastig ar eich croen
- arogli rhywbeth cryf, fel olewau naws neu fwydydd.
Mae’n bwysig cael help os ydych chi’n hunan-niweidio. Mae gennym ni awgrymiadau ar sut i fod yn agored am yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo a sut mae siarad a’ch meddyg.
Os byddai’n haws gennych chi siarad â rhywun nad ydych yn ei adnabod, anfonwch neges destun i wasanaeth Crisis Messenger YoungMinds a gall cwnselydd drafod pethau gyda chi.
“Yn y diwedd, dysgais ddulliau ymdopi iachach a oedd yn fy helpu i roi’r gorau i hunan-niweidio. Nawr, gallaf ddweud nad ydw i wedi gwneud hynny ers bron i flwyddyn (1 mis i fynd!), ac rwy’n delio’n well â’m dicter.”
Mae ysgol a choleg yn gallu achosi straen mawr.
“Weithiau, os ydych chi’n flin yn yr ysgol, efallai na fyddwch chi’n gallu gadael a chymryd hoe, fel gallwch chi gartref.”
Dyma rai pethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw pan fyddwch chi yno:
- Byddwch yn ymwybodol o sut mae eich corff yn teimlo. Os oes gennych chi densiwn yn eich ysgwyddau neu os ydych chi’n gwasgu eich dannedd, gall ymlacio’r cyhyrau hynny eich helpu i deimlo’n dawelach eich meddwl.
- Cymerwch anadl ddofn. Neu rhowch gynnig ar gyfrif yn ôl o 10, cyn i chi ddweud neu wneud unrhyw beth.
- Eglurwch sut rydych yn teimlo. Gallech ddweud rhywbeth fel ‘Rydw i’n teimlo’n flin oherwydd...’, ‘Rydw i’n flin ac angen cymryd seibiant oherwydd...’.
- Defnyddiwch amser egwyl i bwyso a mesur pethau. Gall gwybod bod ystafell dawel neu le diogel i chi fynd yn ystod amser egwyl eich helpu i ddelio â’ch dicter. Os nad ydych yn siŵr beth sydd ar gael, siaradwch ag athro/athrawes rydych yn ymddiried ynddo/ynddi.
- Siaradwch â’ch athrawon. Rhowch wybod iddyn nhw sut rydych yn teimlo cyn gynted ag y gallwch chi. Bydd hyn yn eu helpu i’ch cefnogi chi ar y pryd. Pan fyddwch yn teimlo’n fwy pwyllog, ceisiwch egluro beth rydych yn ei deimlo a sut gallant eich helpu yn y dyfodol.
- Cymrwch gam yn ôl oddi wrth bobl sy’n eich gwneud yn flin yn y dosbarth. Gallech wneud hyn drwy ofyn i athro a gewch chi newid eich sedd, neu eistedd yn rhywle arall os yw hynny'n cael ei ganiatáu.
Delio â dadleuon
Mae dadlau â ffrindiau a theulu yn rhywbeth anodd delio ag ef. Ond gall hynny fod yn anoddach fyth os ydych yn teimlo’n flin neu’n rhwystredig.
Dyma ein prif awgrymiadau ar sut i ddelio â dadleuon:
- Meddyliwch beth hoffech ei ddweud cyn i chi ei ddweud. Ceisiwch ddweud eich brawddeg nesaf yn eich pen cyn ei dweud yn uchel.
- Cymerwch anadl ddofn cyn ateb. Efallai y bydd hyn yn ddigon i adael i’ch meddwl setlo a dewis sut rydych am ymateb.
- Gwrandewch ar eu safbwynt. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pam eu bod yn teimlo felly, a bydd yn rhoi amser i chi feddwl sut rydych yn ymateb iddyn nhw.
- Ymddiheurwch am fod yn flin. Peidiwch â’i ddefnyddio fel esgus dros eich ymddygiad, ond ceisiwch egluro ei fod yn rhywbeth rydych chi’n gweithio arno.
- Meddyliwch am sut rydych yn teimlo. Ydych chi’n flin gyda’r person rydych chi’n siarad ag ef, neu a yw’n ymwneud â rhywbeth arall?
- Meddyliwch am ganlyniadau eich ymddygiad. A fydd hyn yn effeithio ar eich perthynas â rhywun? A fydd hyn yn ypsetio rhywun? A fyddwch yn mynd i helynt oherwydd hyn?
- Meddyliwch a fyddwch yn poeni am hyn ymhen chwe mis. Os mai na yw’r ateb, mae’n debyg nad yw’n werth dadlau.
- Ewch i ffwrdd oddi wrth y sefyllfa. Allwch chi ddychwelyd at y sgwrs pan fyddwch yn teimlo’n fwy pwyllog?
Ar-lein neu dros negeseuon
Os ydych yn cael trafferth delio â sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar ap negeseuon, gallech geisio gwneud y canlynol:
- Meddyliwch am bwy rydych yn anfon negeseuon ato, a phwy fydd yn eu gweld.
- Gofynnwch i ffrind edrych dros y negeseuon ar eich rhan – gallai weld a yw eich ymateb yn iawn, neu eich helpu i ddod o hyd i ffordd well o ymateb.
- Gofynnwch i chi eich hun ‘ydw i’n ddigon blin i ddweud rhywbeth y gallwn ei ddifaru’n ddiweddarach?’– os mai ‘ydw’ yw’r ateb, peidiwch â phostio unrhyw beth.
- Cymerwch seibiant a dod yn ôl ato’n nes ymlaen – a all aros am hanner awr, neu tan yfory? Rhowch amser i chi’ch hun feddwl a ydych eisiau ymateb, a beth ddylech ei ddweud.
“Mae’n hawdd iawn teimlo’n rhwystredig wrth anghytuno, a mynd yn flin, ond fydd hyn ddim yn helpu i ddatrys y mater dan sylw, a gallai hyd yn oed wneud pethau’n waeth.”
Gallech geisio cadw dyddiadur neu ddyddlyfr hwyliau i wneud nodiadau am yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn teimlo’n flin. Ceisiwch gofnodi:
- y diwrnod neu’r dyddiad a’r amser
- y sefyllfa neu ble roeddech chi
- beth wnaeth i chi deimlo’n flin?
- sut oeddech chi’n teimlo?
- sut wnaethoch chi ymateb?
- sut oeddech chi’n teimlo wedi hynny?
- sut ydych chi’n meddwl roedd pobl eraill yn teimlo?
- beth allech chi fod wedi’i wneud yn wahanol?
Dros gyfnod o ychydig fisoedd, efallai y byddwch yn dechrau sylwi ar batrwm.
Yna, gallwch nodi ffyrdd mwy diogel a mwy cadarnhaol o reoli eich dicter mewn sefyllfaoedd sy’n sbarduno.
“Roedd deall yr hyn sy’n fy sbarduno wedi bod yn help mawr i mi reoli fy nicter.”
Efallai na fyddwch bob amser yn ei chael hi’n hawdd sylwi sut mae sefyllfa’n gwneud i chi deimlo. Efallai eich bod yn teimlo rhywbeth dydych chi ddim yn ei ddeall, neu rywbeth dydych chi ddim wedi’i deimlo o’r blaen. A gall hyn fod yn frawychus iawn.
Gallech ddefnyddio olwyn emosiynau i’ch helpu i enwi unrhyw deimladau sy’n anodd eu hadnabod. Gallai hyn eich helpu i ddeall pam eich bod yn ymateb mewn ffordd benodol a’ch helpu i siarad â phobl eraill am sut rydych yn teimlo.
Hefyd, gallwch ddarllen ein gwybodaeth ar ddeall eich teimladau.
Efallai y bydd pobl eraill yn sylwi ar bethau rydych yn eu gwneud neu’n eu dweud fel arwyddion eich bod yn mynd yn flin neu’n cynhyrfu, hyd yn oed pan nad ydych chi.
Gall gwrando arnyn nhw eich helpu i ddysgu mwy am eich arwyddion rhybudd a’ch sbardunau. A gall hyn eich helpu i ddeall eich dicter, a datblygu ffyrdd mwy diogel o ddelio ag ef.
Pan fyddwch yn gwylltio, gall fod yn ddefnyddiol gofyn i chi’ch hun:
- A fydd hyn yn fy helpu i gael yr hyn rydw i ei eisiau?
- Sut bydd hyn yn effeithio arnaf i a’r bobl o’m cwmpas?
- Ydy hi’n werth gwylltio?
- A fydda i’n difaru hyn wedyn?
Gallech wneud hyn cyn i chi ddal eich hun yn dechrau gwylltio. Neu gallech wneud hyn pan fyddwch yn teimlo’n ddigynnwrf, fel bod gennych rywbeth i’w gofio yn y dyfodol.
Efallai fod rhai pethau sy’n eich gwneud chi’n flin yn bethau y gallwch eu rheoli, fel dewis gwneud iawn am gamgymeriad neu ymateb i feirniadaeth.
Ond bydd gennych lai o reolaeth, neu ddim rheolaeth o gwbl, dros bethau eraill. Er enghraifft, rheolau’r cyfyngiadau symud yn newid, bod ar y rhestr aros am wasanaeth iechyd meddwl neu eich rhieni’n gwahanu.
Gall y pethau hyn i gyd fod yn anodd iawn delio â nhw. Ac oherwydd eu bod y tu hwnt i’ch rheolaeth chi, allwch chi ddim eu newid. Yn hytrach, rhaid ichi ganolbwyntio ar sut rydych yn delio â nhw.
I’ch helpu i deimlo bod gennych reolaeth, gwnewch restr o bopeth sy’n eich gwneud yn flin, a nodwch beth allwch ei reoli, a beth sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth.
Ar gyfer y pethau y gallwch eu rheoli, cynlluniwch sut rydych yn mynd i ddelio â nhw. Ar gyfer y pethau sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth, meddyliwch am ddefnyddio rhai o’n hawgrymiadau cyflym i fynegi eich dicter mewn ffordd ddiogel.
Ystyr llesiant meddyliol yw sut rydych yn teimlo, a pha mor dda allwch chi ymdopi â phethau. Mae pethau fel beth rydych yn ei fwyta ac yn ei yfed, faint o gwsg rydych yn ei gael, a beth rydych yn ei wneud i ymlacio, i gyd yn gallu effeithio ar eich lles.
Gall gofalu am eich llesiant eich helpu i deimlo’n dawelach eich meddwl a theimlo nad ydych yn cael eich llethu gymaint.
Ewch i’n tudalen ar ofalu am eich lles i gael rhagor o wybodaeth.
Gall unrhyw weithgaredd sy’n codi curiad eich calon, fel rhedeg, bocsiomarfer neu nofio, eich helpu i glirio eich meddwl. Gall hyd yn oed mynd am dro wneud gwahaniaeth.
Hefyd, gall ymarfer corff eich helpu i deimlo’n hapusach ac wedi ymlacio, yn ogystal â rhoi rhywbeth i chi ganolbwyntio arno yn y tymor hir.
I gael mwy o awgrymiadau am bethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw, ewch i wefan y GIG.
Gall teimladau o ddicter ddeillio o ddiffyg hyder ynoch chi eich hun neu yn eich gallu.
Bydd gwella eich hyder a’ch hunan-barch yn eich helpu i fynegi sut rydych yn teimlo ac i feddwl yn fwy cadarnhaol.
Ewch i’n tudalen ar hyder a hunan-barch i gael awgrymiadau ar sut gallwch wneud hyn.
Mae bod yn ‘bendant’ yn golygu gallu mynegi eich barn, dweud beth rydych ei eisiau neu ei angen, neu ddweud sut rydych yn teimlo, heb fynd yn flin. Mae’n golygu sefyll i fyny drosoch eich hun a pharchu barn a theimladau pobl eraill ar yr un pryd.
Gall bod yn fwy pendant helpu i wneud cyfathrebu’n haws a helpu eraill i’ch deall chi.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae gan Childline awgrymiadau ar sut i fod yn fwy pendant.
Efallai eich bod yn teimlo’n nerfus ynghylch bwrw eich bol, ond gall rhannu sut rydych yn teimlo fod yn gam cyntaf tuag at gael help gyda’ch dicter.
Mae gennym wybodaeth i chi am fod yn agored gyda’ch ffrindiau a’ch teulu a siarad â meddyg a allai fod yn ddefnyddiol.
“Heb siarad â rhywun, fe fyddwn i’n dal i fod mewn cyflwr mor ofnadwy.”
Siaradwch ag athro rydych yn ymddiried ynddo, neu â’ch tîm gofal bugeiliol, i weld sut gallant eich helpu i reoli eich dicter.
Os yw eich dicter yn gysylltiedig â phroblem iechyd meddwl neu gyflwr arall, efallai y gall eich ysgol neu'ch coleg wneud 'addasiadau rhesymol' i chi hefyd.
Newidiadau i’r amgylchedd ffisegol neu’r cymorth sy’n cael ei gynnig i chi yw’r rhain. Er enghraifft, efallai y bydd athro yn gadael i chi adael y dosbarth am ychydig pan fyddwch yn teimlo’n flin, neu’n darparu rhywle tawel i chi fynd yn ystod amser egwyl ac amser cinio.
Darllenwch ein gwybodaeth ar ddeall diagnosis i gael rhagor o wybodaeth am ‘addasiadau rhesymol'.
“Peidiwch â chadw popeth i chi’ch hun, na gwthio’ch dicter o’r neilltu. Oherwydd bydd yn cronni a byddwch yn ffrwydro yn y pen draw. Deliwch â’ch dicter bob yn dipyn – ymarferion anadlu, ysgrifennu sut rydych chi’n teimlo, siarad â ffrind.”
Pa gymorth sydd ar gael?
Siarad a'ch meddyg - gall hyn fod y cam cyntaf tuag at gael help gyda’ch dicter. Gall eich meddyg wrando ar sut rydych yn teimlo ac yn ymddwyn, a siarad â chi ynghylch a oes angen rhagor o gymorth arnoch chi.
Mae triniaeth a chymorth ar gyfer dicter yn aml yn canolbwyntio ar eich iechyd meddwl, eich problemau cyfredol neu bethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
Efallai y bydd eich meddyg yn eich cyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) er mwyn i chi allu siarad ag arbenigwr am eich dicter a sut i ddelio â hynny.
Efallai y bydd hefyd yn awgrymu cwnsela neu therapi er mwyn i chi allu archwilio beth sy’n achosi eich dicter a dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi.
I weld rhestr o sefydliadau a all helpu, ewch i’n tudalen cysylltiadau defnyddiol. Mae llawer o sefydliadau’n cynnig gwasanaethau negeseuon testun neu negeseua gwib er mwyn cael mwy o breifatrwydd.
Cyhoeddwyd: Mawrth 2021
Rydyn ni’n gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.