Delio â dicter – ar gyfer pobl ifanc
Gwybodaeth i bobl ifanc am ddicter, a chyngor ar sut i’w reoli a ble mae cael cymorth.
Sut gallaf i gefnogi ffrind?
Gall fod yn anodd cefnogi ffrind neu gariad sy’n flin. Yn enwedig os ydyn nhw’n cyfeirio eu dicter tuag atoch chi weithiau.
Mae’n bwysig gwybod eu bod yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain, gan gynnwys dysgu sut i reoli eu dicter.
Ond, os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny, mae pethau y gallwch eu gwneud i’w cefnogi:
- Cadwch eich pen pan fyddan nhw wedi cynhyrfu. Siaradwch â nhw yn eich llais arferol, heb godi eich llais na dadlau.
- Gwrandewch arnyn nhw heb farnu. Efallai nad oes arnyn nhw eisiau unrhyw help arall hyd yn oed, dim ond rhywun i fod yno iddyn nhw.
- Helpwch nhw i ddod o hyd i rywle i ymdawelu. Gallech awgrymu eu bod yn mynd am dro, neu eu helpu i ddod o hyd i ystafell dawel os ydych chi mewn ysgol neu goleg.
- Parchwch eich ffiniau eich hun. Meddyliwch am ba ymddygiad sy’n annerbyniol i chi, a gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei wneud os byddan nhw’n croesi eich ffiniau.
- Helpwch nhw i adnabod eu sbardunau neu arwyddion rhybudd. Efallai y byddwch yn gallu sylwi ar rywbeth nad ydyn nhw’n sylwi arno, a gallai hyn eu helpu i gynllunio sut i osgoi sbardunau neu ddelio â nhw’n wahanol.
- Helpwch nhw i ddod o hyd i wybodaeth am ddicter. Gallech ddangos ein gwybodaeth am ddelio â dicter iddyn nhw.
- Cefnogwch nhw os ydyn nhw eisiau siarad â phobl eraill – gallech rannu ein hawgrymiadau ar fod yn agored â phobl neu sut i siarad â meddyg â nhw.
“Rwy’n gallu trafod pethau gyda fy ffrindiau ynghylch eu sbardunau eu hunain a sut gallaf helpu i wneud yn siŵr nad yw’r rhain yn amharu ar bethau pan fyddaf gyda nhw.”
Beth os nad ydyn nhw’n meddwl bod ganddyn nhw broblem?
Os nad ydyn nhw’n meddwl bod ganddyn nhw broblem, neu os nad ydyn nhw eisiau cael help, gall hyn fod yn anodd iawn i chi.
Gallwch eu hatgoffa eich bod yno iddyn nhw, ac y gallwch eu helpu i ofyn am gymorth pan fyddan nhw’n barod.
Cofiwch: does dim rhaid i chi ysgwyddo hyn i gyd, ac mae’n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun hefyd.
Ewch i’n tudalennau ar sut i gefnogi ffrind a gofalu am eich lles eich hun i gael rhagor o wybodaeth.
“Mae’n bwysig rhoi blaenoriaeth i’ch iechyd meddwl chi hefyd. Mae’n bwysig gofalu amdanoch chi eich hun.”
“Mae cefnogi rhywun yn gallu bod yn anodd, ac ni ddylid disgwyl i chi ddioddef camdriniaeth neu drais, mewn unrhyw ffordd, dim ond oherwydd anawsterau rhywun.”