Mynnwch help nawr Gwnech rodd

Geirfa triniaeth a chefnogaeth – i bobl ifanc

Yn egluro geiriau ac ymadroddion y mae’n bosib y dewch ar eu traws wrth gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Efallai y bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol os ydych chi:

  • yn yr ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl
  • yn cael help gan wasanaeth iechyd meddwl
  • yn ceisio help gyda’ch iechyd meddwl.

Chwilio am derm

A

Asesiad Deddf Iechyd Meddwl

Dyma pryd mae grŵp o weithwyr iechyd proffesiynol yn cyfarfod â chi i weld a oes angen i chi fynd i'r ysbyty i gael triniaeth a chefnogaeth gyda’ch iechyd meddwl. Os ydynt i gyd yn cytuno bod angen i chi fynd i'r ysbyty, gallech gael eich trosglwyddo yno.  Efallai y byddwch yn clywed hyn yn cael ei alw'n asesiad.

Asesu risg

Pan fyddwch yn yr ysbyty, dyma pryd mae aelod o'ch tîm gofal yn ystyried y risgiau a'r manteision i chi o rhagor o gymorth gyda’ch adferiad, er enghraifft, risgiau a manteision mynd cael egwyl o’r ward/ysbyty.

Atgyfeirio

Mae hwn yn gais i wasanaeth iddynt adolygu sut rydych chi'n teimlo a pha gymorth sydd ei angen arnoch.

Mae'r atgyfeiriad yn helpu i esbonio i'r gwasanaeth newydd pam y dylent eich gweld, a beth yw'r ffordd orau i'ch helpu.

Weithiau, gallwch chi wneud atgyfeiriad, gan aelod o'r teulu neu weithiwr cymdeithasol. Ond maen nhw'n aml yn cael eu gwneud gan eich meddyg gan eu bod yn deall eich hanes meddygol.

Awdurdod lleol

Dyma’r lywodraeth leol ar gyfer ardal benodol. Mae'n darparu gwasanaethau i'r bobl sy'n byw neu'n aros yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, trafnidiaeth a thai.  

Mae pob llywodraeth leol yn penderfynu sut mae gwasanaethau'n cael eu cynnal. Mae hyn yn golygu y gallai fod gan rai gwasanaethau mewn gwahanol ardaloedd reolau gwahanol.

C

Cael eich trosglwyddo (sectioned)

Golyga hyn eich bod yn cael eich cadw yn yr ysbyty er mwyn i chi gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl. Mae deddf o'r enw Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn esbonio pryd a sut y dylai hyn ddigwydd.

Pan gewch eich trosglwyddo, mae'n rhaid i chi fynd i'r ysbyty hyd yn oed os nad ydych chi eisiau gwneud hynny, neu os nad ydych chi'n cytuno i fynd yno. ‘Dan gadwad’ y gelwir hyn weithiau.

Mae yna lawer o wahanol adrannau i’r gorchymyn trosglwyddo ac mae ganddyn nhw i gyd reolau gwahanol i'ch cadw chi'n ddiogel.

Gweler ein tudalen ar cael eich trosglwyddo i gael mwy o wybodaeth.

Claf anffurfiol

Dyma ymadrodd arall ar gyfer claf gwirfoddol. Dyma pryd rydych chi, neu rywun sy'n gofalu amdanoch chi, yn cytuno eich bod yn aros yn yr ysbyty i gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl.

Ewch i’n tudalen ar claf gwirfoddol i gael rhagor o wybodaeth.

Claf gwirfoddol

Rydych yn glaf gwirfoddol os ydych chi, neu rywun sy'n gofalu amdanoch chi, yn cytuno eich bod yn aros yn yr ysbyty er mwyn cael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl. Weithiau, gelwir hyn yn glaf anffurfiol.  

Ewch i’n tudalen ar fod yn glaf gwirfoddol i gael mwy o wybodaeth.

Clinigwr Cyfrifol (RC)

Dyma'r clinigwr sy'n gyfrifol am eich gofal pan fyddwch yn cael eich trosglwyddo i ysbyty.  

Dim ond eich clinigwr cyfrifol all wneud rhai penderfyniadau, fel rhoi caniatâd i chi gael egwyl o’r ward.  

Nhw hefyd yw'r unig berson yn eich tîm gofal all wneud penderfyniad i ddod a’ch trosglwyddiad i ben. Er, mae ffyrdd eraill y gallwch ddod â'ch trosglwyddiad i ben.

Gweler ein tudalen ar cael eich trosglwyddo i gael mwy o wybodaeth.

Cwnsela

Mae hwn yn fath o therapi siarad gyda therapydd hyfforddedig. Gall cwnsela eich helpu i:

  • siarad am eich problemau neu sefyllfa sy’n cael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl
  • deall sut mae’r sefyllfa’n effeithio arnoch chi
  • penderfynu ar strategaethau ymdopi positif neu ffyrdd i wella’r sefyllfa

Gallwch y gwasanaeth fod wyneb yn wyneb, dros y ffon neu dros alwad fideo.

Cwnselwr

Mae cwnselwyr yn gwrando arnoch chi ac yn rhoi lle diogel i chi archwilio sut rydych yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Gallwn nhw hefyd eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd i ymdopi o phethau.

Cydlynydd gofal 

Dyma'ch prif bwynt cyswllt os ydych chi'n cael triniaeth a chefnogaeth barhaus ar gyfer eich iechyd meddwl. Dylent gadw mewn cysylltiad agos â chi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

Cydsyniad

Dyma pryd rydych chi'n cytuno i rywbeth, fel mynd i'r ysbyty neu gael triniaeth.  

Ni allwch gydsynio â rhywbeth oni bai eich bod yn gymwys i wneud hynny (os ydych chi'n 15 neu'n iau), neu os oes gennych y gallu i wneud hynny (os ydych chi'n 16 neu'n hŷn).

Mae bod yn gymwys neu fod â’r gallu i gydsynio yn golygu eich bod chi'n deall yr hyn rydych chi'n cydsynio iddo a beth allai ddigwydd os ydych chi'n cytuno iddo neu'n ei wrthod.

Cynllun gofal

Dyma’r enw a roddir ar gynllun sy'n egluro'ch problem iechyd meddwl, pa driniaeth a chefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, a phwy fydd yn darparu'r gefnogaeth honno. Efallai y bydd cynlluniau gofal hefyd yn cwmpasu'r hyn a ddylai ddigwydd os ydych chi mewn argyfwng iechyd meddwl.  

Mae yna wahanol fathau o gynlluniau, megis Dull Rhaglen Gofal (CPA) neu Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP). Pa bynnag fath o gynllun sydd gennych, byddwch bob amser yn cael copi ohono.

Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP)

Mae hwn yn becyn cymorth a ddarperir gan y GIG i bobl yng Nghymru sydd â phroblem iechyd meddwl.

D

Dan gadwad

Dyma pryd y cewch eich cadw yn rhywle, fel yn yr ysbyty, hyd yn oed os nad ydych yn cytuno â hynny.

Mewn ysbytai iechyd meddwl, fe allech chi gael eich cadw o dan deddf o'r enw Deddf Iechyd Meddwl 1983. Gelwir hyn hefyd yn cael ei cadw mewn ysbyty.

Ewch i’n tudalen ar gael eich cadw mewn ysbyty i gael mwy o wybodaeth.

Deddf Iechyd Meddwl 1983

Mae hon yn gyfraith sy'n caniatáu i bobl gael eu trosglwyddo os oes ganddynt broblem iechyd meddwl a bod angen triniaeth arnynt. Mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Derbyn

Mae hyn yn golygu mynd i ysbyty, clinig, neu wasanaeth arall i gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl.

Os cewch eich derbyn i'r ysbyty, efallai y byddwch yn cael eich derbyn fel:

  • claf allanol (am apwyntiad)
  • claf dydd (byddwch chi yno am y rhan fwyaf o'r dydd ond nid dros nos)
  • neu fel claf mewnol (aros yn yr ysbyty am o leiaf un noson).

Dull Rhaglen Gofal (CPA)

Mae hwn yn becyn cymorth a ddarperir gan y GIG i bobl yng Nghymru sydd â phroblem iechyd meddwl. Mae'n golygu y dylai fod gennych chi gydlynydd gofal a chynllun gofal

E

Egwyl o’r ward o dan Adran 17

Pan gewch eich trosglwyddo, bydd eich prif feddyg yn caniatáu i chi gael egwyl o'r ward. Efallai y byddant yn gosod amodau neu reolau ar gyfer eich egwyl, fel dim ond mynd allan gyda rhiant neu ofalwr.

Eiriolwr

Eiriolwr yw rhywun all wrando arnoch chi a helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Os ydych chi yn yr ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl, efallai y bydd gennych hawl i Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA).

Yng Nghymru, mae gan bawb ar y ward yr hawl i IMHA. Yn Lloegr, dim ond pobl sydd wedi bod yn sydd wedi cael eu trosglwyddo sydd â hawl i IMHA. Ond mae gan rai wardiau eiriolwyr y gall cleifion gwirfoddol eu defnyddio hefyd. Gofynnwch i'ch tîm gofal am ragor o wybodaeth.

Gall eiriolwyr eich cefnogi mewn sefyllfaoedd eraill hefyd.  Os ydych chi'n byw yn Lloegr, fe allech chi gysylltu â VoiceAbility neu POhWER sy'n cynnig gwasanaethau eirioli am ddim. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, cysylltwch â'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol.

G

Gofal claf mewnol

Dyma'r gofal a gewch pan fyddwch yn aros yn yr ysbyty. Efallai eich bod chi'n glaf gwirfoddol neu efallai eich bod wedi cael eich trosglwyddo yno. Efallai eich bod hefyd yn cael triniaeth a chefnogaeth i'ch iechyd corfforol.

Ewch i’n tudalennau ar fod yn glaf gwirfoddol neu ar gael eich trosglwyddo i gael mwy o wybodaeth am yr hawliau hyn.

Gorchymyn gofal

Dyma pan fydd llys yn rhoi pŵer i awdurdod lleol (llywodraeth leol) i wneud penderfyniadau am blentyn (rhywun sydd o dan 18 oed).

Bydd yr awdurdod lleol fel arfer yn gwneud penderfyniadau gyda rhieni neu ofalwyr. Ond os ydyn nhw'n poeni am les neu ddiogelwch y plentyn, gallant wneud penderfyniadau ar eu pennau eu hunain.

Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO)

Mae hwn yn berthnasol pan fyddwch wedi cael eich rhyddhau o’r ysbyty ond yn dal angen dilyn rhai rheolau. Er enghraifft, cymryd meddyginiaeth neu weld eich meddwl. Os ydych chi’n mynd yn dost, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddychwelyd i’r ysbyty.

Yr unig dro y rhoddir CTO i chi yw os ydych chi wedi cael eich trosglwyddo i rai adrannau, fel adrannau 3 neu 37.

Darllenwch ein tudalen ar cael eich trosglwyddo i gael rhagor o wybodaeth am wahanol adrannau.

Gwarcheidiaeth

Pan fyddwch chi'n dost, dyma lle mae rhywun yn cael ei benodi i fod yn 'warcheidwad' yn hytrach na’ch bod chi’n cael eich trosglwyddo a’ch cadw mewn ysbyty.  

Rôl eich gwarcheidwad yw sicrhau eich bod chi'n cael help gyda’ch iechyd meddwl y tu allan i'r ysbyty. Gallant hefyd wneud rhai penderfyniadau amdanoch chi. Er enghraifft, gallant benderfynu ble rydych chi'n byw neu sicrhau eich bod chi'n mynychu apwyntiadau pwysig.  

Dim ond os ydych chi'n 16 neu'n hŷn y gall gwarcheidwad gael ei benodi ar eich cyfer ac mae'n hanfodol er eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun arall.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion (AMHS)

Gwasanaethau'r GIG yw'r rhain sy'n cefnogi oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)

Adran gwasanaethau cymdeithasol yw hon, sy'n cael ei rhedeg gan awdurdod lleol (llywodraeth leol), sy'n delio â gofal cymdeithasol plant a phobl ifanc. Fe'i gelwir hefyd yn wasanaethau plant a phobl ifanc.

Gall gwasanaethau plant:

  • adolygu eich anghenion gofal
  • cefnogi eich rhieni neu'ch gofalwyr
  • eich cefnogi os oes gennych anabledd neu anghenion addysgol arbennig
  • helpu i'ch amddiffyn rhag niwed fel cam-drin domestig.

Gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHP)

Gweithiwr cymdeithasol neu nyrs yw’r rôl hon sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig. Maen nhw'n gyfrifol am drefnu Asesiadau Deddf Iechyd Meddwl. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am eich derbyn i'r ysbyty os ydych chi’n cael eich trosglwyddo.

H

Hanes meddygol

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu amdanoch chi weld eich hanes meddygol. Mae hyn yn eu helpu i roi gofal da i chi. Mae eich hanes meddygol yn cynnwys y manylion canlynol:

  • sut rydych chi wedi teimlo yn y gorffennol
  • unrhyw broblemau iechyd corfforol neu feddyliol rydych wedi'u dioddef
  • os ydych wedi gweld gweithwyr iechyd proffesiynol o'r blaen a pham
  • unrhyw driniaethau neu feddyginiaethau rydych wedi'u cael
  • os ydych chi erioed wedi bod i'r ysbyty o'r blaen.

O

Ôl-ofal Adran 117

Weithiau mae cael eich trosglwyddo yn rhoi hawl gyfreithiol i chi gael cymorth. Os ydych wedi cael eich trosglwyddo o dan adran 3, 37, 47 neu 48, mae gennych hawl i gael cymorth o'r enw ôl ofal adran 117. (Darllenwch ein tudalen ar gael eich trosglwyddo i gael gwybodaeth am y gwahanol adrannau.)

Bydd y gefnogaeth yn adran 117 yn bersonol i chi, gan ddibynnu ar ba gymorth sydd ei angen arnoch i atal eich iechyd meddwl rhag gwaethygu. Nid ddaw’r hawl hon i gefnogaeth i ben nes bod eich tîm gofal yn cytuno nad oes angen y gefnogaeth honno arnoch mwyach.

Ewch i'n tudalen ar gael eich trosglwyddo i gael gwybodaeth am y gwahanol adrannau.

P

Perthynas agosaf

Aelod o'r teulu yw hwn sydd â rhywfaint o gyfrifoldebau drosoch chi os ydych yn cael eich trosglwyddo i ysbyty neu eich bod wedi cael Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO).

Fel rheol dylid dweud wrth eich perthynas agosaf a ydych chi'n mynd i gael eich trosglwyddo. Gallant hefyd:

  • anghytuno â’r penderfyniad i’ch trosglwyddo i ysbyty o dan adran 3
  • gael gwybodaeth am eich triniaeth
  • gofyn i’ch cyfnod yn yr ysbyty ddod i ben os ydych chi wedi cael eich trosglwyddo o dan adran 2 neu 3.

Allwch chi ddim dewis pwy yw eich perthynas agosaf. Mae’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn rhestru’r rheini allwch ddewis. Fel arfer, dewisir y person sydd uchaf ar y rhestr:

  • eich mam neu’ch tad (fel arfer pwy bynnag sydd hynaf)
  • eich brawd neu chwaer (os ydynt dros 18 oed)
  • eich taid neu'ch nain
  • eich ewythr neu'ch modryb.

Polisi

Mae hon yn ddogfen sy'n nodi sut y bydd sefydliad yn gweithredu mewn sefyllfaoedd penodol. Er enghraifft, dylai polisi pontio egluro sut y bydd sefydliad yn rheoli person ifanc sy'n gadael ei wasanaethau.

Pontio

Dyma pryd mae rhywun yn pontio o wasanaeth plant i wasanaeth oedolion. Er enghraifft, pan fydd rhywun yn symud ymlaen o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion (AMHS).  

Ewch i'n tudalen ar bontio i wasanaethau oedolion i gael rhagor o wybodaeth.

R

Rheolwyr ysbytai

Mae rheolwyr ysbytai yn grŵp o bobl sy'n gyfrifol am ddefnyddio Deddf Iechyd Meddwl 1983 mewn ysbyty.

Os ydych chi'n cael eich trosglwyddo ac am i’r trosglwyddiad hwn ddod i ben, gallwch ofyn i reolwyr yr ysbyty. Byddant yn cynnal cyfarfod ac yn ystyried eich achos. Gallant benderfynu dod â'ch trosglwyddiad i ben hyd yn oed os nad yw'ch prif feddyg (a elwir yn glinigwr cyfrifol) yn cytuno.

Rhyddhau

Mae hyn yn golygu bod eich triniaeth mewn ysbyty, clinig neu wasanaeth arall yn dod i ben. Efallai y cewch eich rhyddhau oherwydd:

  • mae eich triniaeth wedi dod i ben
  • rydych chi'n ddigon hen i ddefnyddio gwasanaeth gwahanol
  • rydych chi wedi gofyn am adael
  • mae angen i ran nesaf eich triniaeth barhau yn rhywle arall.

Dylai eich tîm gofal egluro beth mae hyn yn ei olygu, a beth fydd yn digwydd os bydd angen gofal arnoch yn y dyfodol.

S

Seiciatrydd

Meddyg yw hwn sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl (seiciatreg). Gall seiciatryddion:

  • gynnal asesiadau
  • penderfynu ar pa driniaethau i roi cynnig arnynt, gan gynnwys meddyginiaethau
  • weithredu fel eich therapydd ar gyfer maeth o driniaeth, fel therapi grŵp.

Seicolegydd

Mae seicolegwyr yn eich helpu i archwilio sut rydych chi'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae gwahanol fathau o seicolegwyr, fel seicolegwyr clinigol neu seicolegwyr galwedigaethol.

T

Therapi

Dyma driniaeth sy'n ceisio helpu i wella eich iechyd meddwl a'ch lles. Mae llawer o wahanol fathau o therapïau. Dyma rai o'r therapïau cyffredin y mae’n bosib eich bod eisoes wedi clywed amdanynt:

Therapi adsefydlu galwedigaethol

Math o driniaeth gyda therapydd hyfforddedig yw hwn. Gall eich helpu i feithrin eich hyder a'ch sgiliau mewn pethau fel coginio, glanhau neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Therapïau creadigol

Mae hyn yn golygu defnyddio'r celfyddydau (cerddoriaeth, darlunio, paentio, dawnsio, drama) neu chwarae gemau i fynegi'ch meddyliau a'ch teimladau.  

Gall hefyd olygu gwneud gweithgareddau creadigol i wella'ch lles a'ch hyder. Er enghraifft, ysgrifennu neu actio straeon gyda phobl ifanc eraill.

Efallai y byddwch chi'n cymryd rhan mewn therapïau creadigol ar ffurf grŵp neu ar eich pen eich hun.

Therapi grŵp  

Mae hyn yn golygu bod yn rhan o grŵp o bobl ifanc sy'n mynychu sesiynau therapi gyda'i gilydd. Gall fod yn ddefnyddiol gan ei bod hi weithiau’n haws i ddeall problemau yng nghwmni phobl eraill. Er enghraifft, dicter, hunan-barch neu bryder. Seicolegydd neu therapydd sy'n arwain therapi grŵp.

Yn aml mae'n cyfuno gwahanol fathau o therapi, fel therapi siarad neu therapi creadigol.

Efallai y byddwch chi'n mynychu therapi grŵp fel eich prif therapi. Neu efallai y cewch driniaeth a chefnogaeth ar eich pen eich hun hefyd.

Therapïau siarad

Mae'r rhain yn cynnwys siarad â gweithiwr proffesiynol am eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiad. Mae llawer o fathau o therapïau siarad, megis cwnsela neu therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Fel arfer, byddwch yn cymryd rhan am gyfnod penodol o amser ac am nifer o sesiynau.

Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Mae hwn yn fath o therapi siarad gyda therapydd hyfforddedig. Gall eich helpu i ystyried ar eich patrymau meddwl a'ch ymddygiad, i'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi.  

Gall CBT gael ei gynnal wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu dros alwad fideo. 

Therapi ymddygiad tafodieithol (DBT)

Mae hwn yn fath o therapi siarad. Y nod yw eich helpu chi i:

  • deall a derbyn teimladau anodd
  • herio strategaethau ymdopi negyddol
  • dysgu ffyrdd newydd o reoli'ch teimladau.

Efallai y byddwch chi'n cymryd rhan mewn DBT ar ffurf grŵp neu ar eich pen eich hun.

Therapydd

Gweithiwr proffesiynol hyfforddedig yw hwn sy'n gyfrifol am neu sy’n goruchwylio eich therapi. Mae therapyddion yn eich helpu i archwilio sut rydych chi'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, a beth all eich helpu yn y dyfodol.

Mae gwahanol fathau o hyfforddiant ac addysg ar gyfer therapyddion. Mae hyn yn golygu bod gan bob un ohonynt deitlau gwahanol, fel seicolegydd, therapydd, cwnselydd neu seiciatrydd.

Tîm gofal

Dyma'r bobl sy'n gofalu amdanoch chi pan fyddwch chi'n cael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer eich problem iechyd meddwl. Efallai y bydd eich tîm gofal yn cynnwys nyrsys, meddygon a therapyddion.

Efallai y byddan nhw'n gofalu amdanoch chi yn yr ysbyty, yn eich cefnogi chi trwy’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) neu maen nhw’n gofalu amdanoch chi gartref.

Tribiwnlys Iechyd Meddwl (MHT)

Mae hwn yn lys arbennig y gallwch wneud cais iddo pan fyddwch yn cael eich cadw yn yr ysbyty. Mae'r Tribiwnlys yn penderfynu a all eich cyfnod yn yr ysbyty ddod i ben. Gallant hefyd roi cyngor am bethau fel egwyliau ysbyty, trosglwyddiadau ysbyty a rhoi Gorchymyn Triniaeth Gymunedol i chi. Yn Lloegr, gelwir y Tribiwnlys yn Dribiwnlys Iechyd Meddwl. Yng Nghymru, fe’i gelwir yn Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

Pan fyddwch yn cael gwrandawiad Tribiwnlys, mae tri o bobl yn gwneud y penderfyniadau sef:

  • barnwr
  • meddyg
  • rhywun sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y maes iechyd meddwl dan sylw – gweithiwr cymdeithasol neu nyrs fel arfer.

Darllenwch ganllaw YoungMinds' ar Dribiwnlysoedd Iechyd Meddwl i gael rhagor o wybodaeth.

W

Ward

Dyma’r rhan o’r ysbyty y byddwch chi’n aros ynddi. Efallai y rhan hon o’r ysbyty’n cael ei galw’n uned.

Y

Ymyriadau cyfyngol

Pan fyddwch yn yr ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl, gall staff ddefnyddio rhywbeth o'r enw 'ymyriadau cyfyngol' i'ch amddiffyn eich hun ac eraill os oes risg difrifol o niwed.

Gallai ymyriadau cyfyngol gynnwys:

  • eich dal yn gorfforol i'ch atal rhag anafu eich hun neu rywun arall (a elwir weithiau'n ataliad)
  • rhoi meddyginiaeth i chi i'ch tawelu'n gyflym (a elwir weithiau'n dawelydd cyflym)
  • eich gwahanu oddi wrth sefyllfaoedd sy'n eich cynhyrfu (a elwir weithiau'n arwahanrwydd neu'n neilltuedigrwydd)
  • eich gwahanu oddi wrth bobl ifanc eraill ar y ward am amser hir (a elwir weithiau'n wahanu).

Pryd bynnag y defnyddir ymyriad cyfyngol, rhaid dilyn rheolau arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhaid iddynt hefyd fod am yr amser byrraf posibl yn unig
  • dylid gwarchod eich diogelwch a'ch urddas bob amser
  • rhaid eu nodi yn eich cofnodion.

Ysbyty seiciatrig

Dyma ysbyty lle rydych chi'n mynd i gael triniaeth a chefnogaeth gyda’ch iechyd meddwl.

Cyhoeddwyd yr wybodaeth hon ym mis Rhagfyr 2020. Caiff ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig