Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl (sectioned) – i bobl ifanc

Canllaw ar yr hyn sy'n digwydd a beth yw eich hawliau pan gewch eich anfon i ysbyty iechyd meddwl.

This page is also available in English.

Beth mae cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl yn ei olygu?

Golyga cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl eich bod yn cael eich cadw mewn ysbyty iechyd meddwl er mwyn i chi gael triniaeth a chefnogaeth i ymdrin â'ch iechyd meddwl. Mae deddf o'r enw Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn esbonio pryd a sut y dylai hyn ddigwydd.

Mae cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl yn wahanol i fod yn glaf gwirfoddol. Bryd hynny, rydych chi'n cytuno i fynd i'r ysbyty. Pan fyddwch chi'n cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl, mae'n rhaid i chi fynd i'r ysbyty hyd yn oed os nad ydych chi eisiau mynd, neu os nad ydych chi'n cytuno y dylech fynd i’r ysbyty. Weithiau gelwir hyn yn ‘claf dan gadwad’.

Eir ati i’ch anfon i ysbyty iechyd meddwl er mwyn eich cadw'n ddiogel a sicrhau'r driniaeth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Ond mae'n gyffredin iawn i hyn wneud i chi deimlo'n ofnus, yn ddigalon neu'n ddig.  

Rydyn ni yma i siarad â chi am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd, a beth yw eich hawliau pan fyddwch chi'n cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl. Ar y dudalen hon mae’r wybodaeth ganlynol:

Geirfa triniaeth a chefnogaeth

Ewch i’r adran geirfa triniaeth a chefnogaeth sy'n esbonio geiriau ac ymadroddion y gallech eu clywed pan fyddwch chi'n cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl, gan gynnwys termau cyfreithiol.  

Pryd y caf fi fy anfon i ysbyty iechyd meddwl?

Dim ond os ydych chi'n dost iawn a bod meddygon yn poeni eich bod chi'n risg i chi'ch hun neu i rywun arall y cewch eich anfon i ysbyty iechyd meddwl (sectioned).  

Dylai eich meddygon bob amser geisio meddwl am ffyrdd eraill o ofalu amdana chi yn gyntaf, fel gofyn ichi fynd i'r ysbyty fel claf gwirfoddol. Darllenwch ein gwybodaeth ar fod yn glaf gwirfoddol i ddarganfod mwy.

Fel arfer, dim ond os mae popeth arall maen nhw wedi rhoi cynnig arno wedi methu y cewch eich anfon i ysbyty iechyd meddwl.

Pwy sy'n penderfynu a oes angen i mi gael fy anfon i ysbyty iechyd meddwl?

Cyn y gallwch gael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl, mae'n rhaid i chi gwrdd a grŵp o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n rhaid iddyn i bob un ohonyn nhw gytuno bod angen i chi fynd i'r ysbyty i gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer eich anhwylder iechyd meddwl.

Efallai y byddwch chi'n clywed hyn yn cael ei alw'n asesiad neu'n 'Asesiad Deddf Iechyd Meddwl'.

Dyma fydd aelodau’r tîm:

  • gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy (AMHP)  fel arfer, gweithiwr cymdeithasol neu nyrs sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig
  • dau feddyg  fel arfer, bydd o leiaf un o'r meddygon yn gyfarwydd i chi.

Dylai o leiaf un o'r bobl hyn hefyd fod yn arbenigwr ym maes iechyd meddwl plant a phobl ifanc.  

Beth sy'n digwydd yn ystod yr asesiad?

Pan welwch y gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy (AMHP), dylent ddweud wrthych pwy ydyn nhw a pham maen nhw'n cwrdd â chi.  

Dylent hefyd ofyn i chi a ydych chi am i rywun arall, fel eich rhiant neu ofalwr, fod gyda chi wrth iddynt siarad â chi. Os gwnewch hynny, dylent drefnu hyn i chi. Ond weithiau, fel mewn argyfwng, efallai na fyddan nhw'n gallu gwneud hyn.  

Bydd yr AMHP yn gofyn cwestiynau ichi fel y gallant benderfynu a ddylid eich cadw yn yr ysbyty i gael triniaeth ar gyfer eich anhwylder iechyd meddwl. Bydd dau feddyg hefyd yn gofyn rhai cwestiynau i chi. Gallai hyn ddigwydd ar yr un pryd, neu efallai y byddwch chi'n gweld y meddygon ar wahân.  

Os bydd y tîm yn penderfynu y dylech gael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl, dylent roi gwybodaeth glir i chi i'ch helpu i ddeall beth sy'n digwydd. Dylent hefyd wrando ar eich teimladau a'ch barn, ac ateb eich holl gwestiynau.

“Mae’n swnio’n llawer mwy dychrynllyd nag yr oedd mewn gwirionedd!  Yn syml, yn y cyfarfod, roedd fy meddyg arferol, gweithiwr cymdeithasol a meddyg arall anghyfarwydd yn darllen fy nodiadau. Yna daethant i mewn i ystafell gyda mi a fy mam a gofyn cwestiynau i mi."

Cael eich asesu yn ystod coronafeirws

Os cewch eich asesu yn ystod coronafeirws, efallai y byddwch yn siarad ag un neu fwy o'r gweithwyr iechyd proffesiynol dros alwad fideo. Dylai o leiaf un aelod o'r tîm fod yn bersonol, er efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser.

Beth yw ystyr yr holl wahanol adrannau (sections)?

Mae yna lawer o wahanol adrannau, ac mae ganddyn nhw i gyd reolau gwahanol i'ch cadw chi'n ddiogel.

Y prif adrannau mae'n debyg y byddwch chi'n clywed amdanyn nhw yw adran 2 ac adran 3.

Ar gyfer rhai adrannau, gallwch ofyn i'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl (llys arbennig) ddod â'ch cyfnod yn yr ysbyty meddwl i ben.  

I ddarganfod mwy, darllenwch ein gwybodaeth ar sut i ddod â'ch cyfnod yn yr ysbyty iechyd meddwl i ben.

Adran 2

Mae hyn yn golygu y gellir eich cadw yn yr ysbyty am hyd at 28 diwrnod fel y gall eich tîm gofal:

  • ddysgu mwy am eich anhwylder iechyd meddwl
  • deall pa fath o driniaethau a chefnogaeth fyddai yn addas ar eich cyfer chi.

Gallwch herio'r ffaith eich bod wedi cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl yn y Tribiwnlys Iechyd Meddwl a gofyn iddi ddod i ben. Ond dim ond unwaith y gallwch chi wneud hyn, ac mae angen i chi wneud hyn yn y 14 diwrnod cyntaf.  

Os yw'ch tîm gofal yn dal i feddwl bod angen triniaeth a chefnogaeth arnoch ar ddiwedd y 28 diwrnod, efallai y byddant yn eich asesu i weld a ddylid symud eich arhosiad yn yr ysbyty iechyd meddwl i adran 3.

Adran 3

Mae hyn yn golygu y gellir eich cadw yn yr ysbyty am hyd at 6 mis os mai dyma'r unig ffordd i ddarparu triniaeth a chefnogaeth i chi ar gyfer eich anhwylder iechyd meddwl.

Gellir ymestyn eich cyfnod yn yr ysbyty iechyd meddwl o dan drefniadau adran 3 am 6 mis arall, ac yna ar ôl hynny, bob blwyddyn. Ni fydd hyn yn digwydd oni bai bod eich clinigwr cyfrifol (prif feddyg) yn credu bod angen triniaeth a chefnogaeth barhaus arnoch yn yr ysbyty.  

Gallwch herio’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl ynghylch adran unwaith yn ystod y 6 mis cyntaf, unwaith yn yr ail 6 mis, ac yna unwaith bob blwyddyn.  

Adrannau eraill

Dyma restr o adrannau eraill le gallwch gael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl, a beth maen nhw’n ei olygu a’u hyd:

Beth mae hyn yn ei olygu?

Golyga hyn bod AMHP ac un meddyg yn cytuno bod angen i chi fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, tra’n aros i ail feddyg eich asesu a phenderfynu a oes angen eich anfon i ysbyty iechyd meddwl o dan drefniadau adrannau 2 neu 3.

Beth yw ei hyd?

Hyd at 72 awr (tridiau).

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl i fy anfon i ysbyty iechyd meddwl?

Na allwch.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Gellir galw hyn hefyd yn 'bŵer dal'. Mae ond yn berthnasol os ydych chi'n glaf gwirfoddol neu'n aros yn yr ysbyty am reswm arall.

Mae'n golygu bod eich meddyg yn dweud bod angen i chi aros yn yr ysbyty tra penderfynir a ddylid eich cadw yn yr ysbyty o dan drefniadau adran 2 neu 3.

Beth yw ei hyd?

Hyd at 72 awr (tridiau).

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Na allwch.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Gellir galw hyn hefyd yn 'bŵer dal'. Dyw’r adran hon ond yn berthnasol os ydych chi eisoes yn yr ysbyty yn cael triniaeth fel claf gwirfoddol.

Mae'n golygu y gall nyrs eich cadw ar y ward am gyfnod byr, felly gellir gwneud trefniadau i feddyg eich asesu i weld a oes angen i chi aros yn hirach.  

Dim ond os ydych chi wedi dweud eich bod am adael y ward y gall nyrs ddefnyddio'r adran hon. Neu os ydych chi wedi gweithredu mewn ffordd sy'n awgrymu eich bod chi'n ymgeisio i adael y ward.

Beth yw ei hyd?

Hyd at 6 awr.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Na allwch.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Gellir galw hyn hefyd yn 'warcheidiaeth'. Mae'n golygu bod rhywun yn cael ei benodi i fod yn 'warcheidwad' i chi yn hytrach na’ch bod yn cael eich anfon i ysbyty a'ch cadw yno.  

Gwaith eich gwarcheidwad yw sicrhau eich bod chi'n cael cefnogaeth i'ch iechyd meddwl y tu allan i'r ysbyty. Gallant hefyd wneud rhai penderfyniadau amdanoch chi. Er enghraifft, gallant benderfynu ble rydych chi i fyw neu sicrhau eich bod chi'n cadw apwyntiadau pwysig. 

Dim ond os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn y gellir defnyddio Adran 7.

Beth yw ei hyd?

6 mis, ond gellir ei ymestyn.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Gallwch. Mae modd i chi wneud hyn unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn ystod yr ail 6 mis ac yna unwaith bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Gelwir hyn hefyd yn 'Orchymyn Triniaeth Gymunedol', neu 'CTO'.

Mae'n golygu bod eich prif feddyg yn dweud y gallwch chi fyw yn y gymuned, ond mae'n rhaid i chi ddilyn rhai rheolau. Gallai'r rhain gynnwys cytuno i weld eich meddyg a chymryd meddyginiaeth.  

Dim ond os ydych chi eisoes wedi cael eich anfon i’r ysbyty o dan drefniadau adran 3 neu 37 y rhoddir Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO) i chi. Ni allwch gael CTO os mai dim ond adran 2 oedd yn berthnasol i chi.

Beth yw ei hyd?

6 mis, ond gellir ei ymestyn.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Gallwch. Mae modd i chi wneud hyn unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn ystod yr ail 6 mis ac yna unwaith bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Golyga hyn bod barnwr yn y llys yn dweud y dylech fynd i ysbyty i gael triniaeth, yn hytrach na mynd i’r carchar.

Yr unig dro y bydd yr adran hon yn berthnasol i chi yw os ydych chi wedi’ch cael yn euog o drosedd.

 Beth yw ei hyd?

6 mis, ond gellir ei ymestyn.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Gallwch. Mae modd i chi wneud hyn unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn ystod yr ail 6 mis ac yna unwaith bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Os mai adran 37 sy’n berthnasol i chi, gall y barnwr sicrhau bod adran 41 yn berthnasol i chi hefyd.  

Gelwir hyn hefyd yn 'orchymyn cyfyngu'. Mae'n golygu mai dim ond gyda chaniatâd y Llywodraeth y gallwch gael eich rhyddhau, eich symud i ysbyty arall, neu gael caniatâd i adael y ward.

Dim ond os yw’r barnwr yn bryderus eich bod yn risg difrifol i bobl eraill y bydd gorchymyn cyfyngu yn weithredol.

Beth yw ei hyd?

Dim cyfnod penodedig.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Gallwch. Mae modd i chi wneud hyn unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn ystod yr ail 6 mis ac yna unwaith bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Golyga hyn bod y Llywodraeth yn awyddus i’ch symud chi o’r carchar i ysbyty, fel y gallwch gael y driniaeth angenrheidiol ar gyfer eich anhwylder iechyd meddwl.

Beth yw ei hyd?

6 mis ond gellir ei ymestyn.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Gallwch. Mae modd i chi wneud hyn unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn ystod yr ail 6 mis ac yna unwaith bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae hyn yn golygu bod y Llywodraeth eisiau eich symud o'r carchar i'r ysbyty (os ydych yn aros am ddyddiad yr achos), fel y gallwch gael triniaeth ar gyfer eich anhwylder iechyd meddwl.  

Neu, gall olygu bod y Llywodraeth yn awyddus i’ch symud o ganolfan gadw i fewnfudwyr i ysbyty fel y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth.

Beth yw ei hyd?

6 mis, ond gellir ei ymestyn.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Gallwch. Mae modd i chi wneud hyn unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn ystod yr ail 6 mis ac yna unwaith bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Os ydych chi wedi cael eich trosglwyddo o dan adran 47, gall y barnwr hefyd eich trosglwyddo o dan adran 49 hefyd.  

Gelwir hyn hefyd yn 'orchymyn cyfyngu'. Mae'n golygu mai dim ond gyda chaniatâd y Llywodraeth y gallwch gael eich rhyddhau, eich symud i ysbyty arall, neu gael hawl i adael y ward.

Beth yw ei hyd?

Nid oes cyfnod penodedig.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Gallwch.  Mae modd i chi wneud hyn unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn ystod yr ail 6 mis ac yna unwaith bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Os ydych chi wedi cael eich trosglwyddo i’r ysbyty o dan adran 348, gall y Llywodraeth hefyd eich trosglwyddo o dan adran 49.  

Gelwir hyn hefyd yn 'orchymyn cyfyngu'. Mae'n golygu mai dim ond gyda chaniatâd y Llywodraeth y gallwch gael eich rhyddhau, eich symud i ysbyty arall, neu gael caniatâd i adael y ward.

Beth yw ei hyd?

Nid oes cyfnod penodedig.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Gallwch. Mae modd i chi wneud hyn unwaith yn y 6 mis cyntaf, unwaith yn ystod yr ail 6 mis ac yna unwaith bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Efallai y byddwch chi'n clywed hyn yn cael ei alw’n 'pŵer heddlu' neu 'adran heddlu'.

Mae'n golygu, os oes pryderon am eich iechyd a'ch diogelwch meddwl, gall yr heddlu fynd i mewn i'ch cartref a mynd â chi i le diogel.

Rhaid i'r heddlu fod gyda meddyg a’r AMHP.

Gall y man diogel fod ar ward ysbyty neu mewn ystafell arbennig mewn ysbyty. Gallai hefyd fod yn eich cartref. Ni fydd byth mewn cell.

Beth yw ei hyd?

Fel arfer, am 24 awr (diwrnod), ond gellir ei ymestyn am 12 awr.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Na allwch. Ond, os ydych chi’n anhapus gyda’r modd y mae’r heddlu wedi gweithredu, gallwch wneud cwyn. Darllenwch ragor ar wefan Ymddygiad yr Heddlu.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Efallai y byddwch chi'n clywed hyn yn cael ei alw’n 'pŵer heddlu' neu 'adran heddlu'.

Fe'i defnyddir fel arfer pan fyddwch wedi cael eich trosglwyddo o dan adran ond rydych wedi gadael yr ysbyty heb ganiatâd. Mae'n golygu y gall yr heddlu fynd i mewn i'ch cartref a’ch dychwelyd i'r ysbyty.  

Efallai bydd meddyg neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol arall, ond does dim rhaid iddyn nhw fod.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Na allwch. Ond, os ydych chi’n anhapus gyda’r modd y mae’r heddlu wedi gweithredu, gallwch wneud cwyn. Darllenwch ragor ar wefan Ymddygiad yr Heddlu.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Efallai y byddwch chi'n clywed hyn yn cael ei alw’n 'pŵer heddlu' neu 'adran heddlu'.

Mae'n golygu, os oes pryderon am eich iechyd a'ch diogelwch meddwl, gall yr heddlu fynd i mewn i'ch cartref a mynd â chi i le diogel.

Gall y man diogel fod yn ward mewn ysbyty neu'n ystafell arbennig mewn ysbyty. Gallai hefyd fod yn eich cartref. Ni fydd byth yn gell.

Pa mor hir mae’n para?

Fel arfer am 24 awr (diwrnod), ond gellir ei ymestyn am 12 awr.

A allaf herio penderfyniad y Tribiwnlys Iechyd Meddwl?

Na allwch. Ond, os ydych chi’n anhapus gyda’r modd y mae’r heddlu wedi gweithredu, gallwch wneud cwyn. Darllenwch ragor ar wefan Ymddygiad yr Heddlu.

“Pan gefais fy nhrosglwyddo i ysbyty iechyd meddwl, roedd yn deimlad od, afreal,  rhywbeth nad oeddwn yn rhan ohono."

Gofalu am eich hun yn yr ysbyty

Darllenwch ein tudalen ar gofalu am eich hun yn yr ysbyty i gael cynghorion a syniadau ar sut i ofalu am eich hun a’ch lles.

Os y caf fy anfon i’r ysbyty iechyd meddwl, beth yw fy hawliau?

Pan gewch eich trosglwyddo i ysbyty iechyd meddwl, bydd llawer o’r hawliau fydd gennych yr un â rhai claf gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys gallu gwneud y canlynol:

  • parhewch â'ch astudiaethau
  • bod ar ward gyda phobl o’r un oed a chi
  • cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
  • bod â phreifatrwydd
  • cael rhywfaint o fynediad i’r rhyngrwyd a’r ffôn
  • cadwch eich gwybodaeth yn gyfrinachol.

Darllenwch ein tudalen ar fod yn glaf gwirfoddol i gael rhagor o wybodaeth ar yr hawliau hyn.

Dyma wybodaeth ar yr hawliau ychwanegol sydd gennych chi os cewch eich trosglwyddo i ysbyty iechyd meddwl:

Os ydych chi wedi cael eich trosglwyddo i ysbyty iechyd meddwl, mae hawl gennych i wasanaeth eiriolwr.

Eiriolwr yw rhywun all wrando arnoch chi, a helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed mewn penderfyniadau a wneir yn eich cylch.

I ddysgu mwy, gofynnwch i’ch tîm gofal am wybodaeth am y gwasanaethau eirioli sydd ar gael ar eich ward chi.   

Dylid rhoi gwybodaeth i'ch helpu chi i ddeall beth sy'n digwydd i chi a beth yw eich hawliau. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am:

  • yr adran rydych chi oddi tani a pham rydych chi wedi cael eich trosglwydo
  • pryd y gellir rhoi triniaeth ichi pan fyddwch wedi’ch troslgwyddo
  • sut y gallwch herio'r adran yr ydych wedi trosglwyddo iddi (gofyn iddi ddod i ben)
  • sut i gael cefnogaeth ychwanegol gan eiriolwr.

Dylai rhywun yn eich tîm gofal esbonio'r wybodaeth i chi a rhoi copi papur i chi, fel taflen. Gallwch hefyd ofyn i gael yr wybodaeth mewn iaith wahanol neu Braille.

Os na roddir y wybodaeth hon i chi, gallwch ofyn i aelod o'ch tîm gofal neu eiriolwr eich helpu i'w gael. Os ydych chi'n dal i fethu â chael y wybodaeth, gallwch chi gwyno.

Os ydych chi wedi'ch trosglwyddo o dan adran 2 neu 3, neu os rhoddwyd Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO) i chi, bydd gennych chi rywbeth o'r enw 'perthynas agosaf'.

Fel rheol, rhiant neu ofalwr fydd eich perthynas agosaf. Ond fe allai hefyd fod yn frawd neu'n chwaer os ydyn nhw dros 18 oed. Neu gallai fod yn aelod arall o'r teulu, fel nain neu daid, modryb neu ewythr.

Nid yw eich perthynas agosaf yr un peth â'ch perthynas agosaf (next of kin), ac ni allwch ddewis pwy ydyn nhw – ond fel rheol mae'n rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.

Fel rheol dylid dweud wrth eich perthynas agosaf os ydych yn mynd i gael eich trosglwyddo. Gallant hefyd:

  • wrthod i chi gael eich trosglwyddo i ysbyty iechyd meddwl o dan adran 3
  • rhoi gwybodaeth i chi am eich triniaeth
  • gofyn i’r adran rydych wedi cael ei trosglwyddo iddi i ddod i ben os ydych chi ar adran 2 neu 3.

Os nad ydych chi am i’r wybodaeth ynghylch eich triniaeth a chefnogaeth gael ei rhannu gyda hwy, dywedwch wrth eich tîm gofal.

“Roedd fy mam yn rhan fawr o’m triniaeth ac felly, roeddwn wedi hen arfer â hynny.”

Rhaid i'ch clinigwr cyfrifol (prif feddyg) roi caniatâd i chi gael egwyl o’r ward. Weithiau gelwir hyn yn drosglwyddiad adran 17.

Cyn y bydd eich meddyg yn rhoi hawl i chi gael trosglwyddiad o dran adran 17, mae angen iddo feddwl a yw'n ddiogel ichi fynd y tu allan i'r ward.

Pan fyddwch chi'n cael eich trosglwyddo gyntaf, efallai na fydd gennych chi unrhyw egwyl. Pan fydd eich meddyg yn gadael i chi gael egwyl am y tro cyntaf, efallai mai dim ond egwyl byr y byddan nhw eisiau ichi ei gael. Efallai y bydd angen i chi hefyd fynd gyda staff neu gydag oedolyn dibynadwy. Dros amser, dylai eich egwyliau gronni, ac efallai y gallwch gael egwyl o’r ward dros nos.

Gallwch siarad â'ch meddyg am eich egwyl yn ystod eich cyfarfod, neu ofyn i eiriolwr eich helpu. Os oes angen absenoldeb arnoch ar frys, dylech siarad ag aelod o'ch tîm gofal a gofyn iddynt gysylltu â'ch meddyg.

“Fe wnaethon nhw esbonio y gall y cyfnod y treuliwch oddi ar y ward ddod i ben am gyfnod – mae’n dibynnu pa mor lwyddiannus yw’r driniaeth.”

Alla i ddal gael egwyl oddi ar y ward yn ystod coronafeirws?

Dylai ysbytai ddal i allu rhoi caniatâd i chi yn ystod coronafeirws. Ond efallai y bydd angen i staff:

  • gyfyngu ar faint o absenoldeb sydd gennych
  • gofyn i chi gymryd egwyl ar gyfnodau gwahanol i gleifion eraill.

Os ydyn nhw o’r farn na allwch chi ddilyn canllawiau diogelwch (fel pellhau cymdeithasol), gallen nhw wrthod i chi gael egwyl o’r ward dros dro.

 

Gwneud cwyn

Os ydych chi'n dal i deimlo nad ydych chi'n cael eich trin yn deg neu eich bod chi'n anhapus â rhywbeth sy'n digwydd ar y ward, gallwch chi gwyno.

Gallwch ofyn i'r ysbyty sut i wneud hyn, ac at pwy y dylech chi anfon eich cwyn.  

Gall gwneud cwyn fod yn broses anodd, yn enwedig os ydych chi’n anhwylus. Gall fod yn ddefnyddiol gofyn i oedolyn dibynadwy eich helpu chi.

Dylech geisio gwneud eich cwyn cyn gynted â phosibl. Fel arfer y terfyn amser yw 12 mis o'r adeg digwyddiad neu phan ddechreuodd y broblem.

“Doeddwn ni ddim yn sylweddoli bod gennyf yr hawl o hyd i rannu fy marn ar faterion fel triniaeth neu yr hyn oedd yn digwydd i mi, er mai’r meddygon oedd â’r gair olaf.”

Sut daw fy nghyfnod o gael fy nhrosglwyddo i’r ysbyty i ben?

Efallai y bydd eich cyfnod yn yr ysbyty iechyd meddwl yn dod i ben ar ôl cyfnod penodol o amser. Neu gall eich clinigwr cyfrifol (prif feddyg) ddod â'r cyfnod i ben os nad ydyn nhw'n credu bod ei angen arnoch chi i gadw'n ddiogel mwyach.  

Gallwch hefyd ofyn i'ch cyfnod yn yr ysbyty ddod i ben (a elwir yn herio'ch penderfyniad). Mae yna ychydig o wahanol ffyrdd y gallwch chi wneud hyn:

  • Gofynnwch i'ch perthynas agosaf wneud cais i'r cyfnod ddod i ben. Os yw'ch meddyg yn anghytuno, yna bydd eich trosglwyddiad yn parhau. Os digwydd hyn, gallent ofyn i reolwyr yr ysbyty neu'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl ddod â’ch trosglwyddiad i ben yn lle.
  • Gofynnwch i reolwyr yr ysbyty. Gallant gynnal gwrandawiad i wrando arnoch chi a'ch barn tîm gofal ynghylch pam na ddylech gael eich rhyddhau. Gall rheolwyr yr ysbyty ddod â'r trosglwyddiad i ben hyd yn oed os nad yw'ch meddyg yn cytuno.
  • Gwneud cais i'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl. Mae'r tribiwnlys yn llys arbennig sy’n annibynnol o’r ysbyty. Mae ganddyn nhw'r pŵer i ddod â'ch troslgwyddiad i ben hyd yn oed os nad yw'ch meddyg yn cytuno. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Canllaw YoungMinds ar yr hyn sy’n digwydd mewn tribiwnlys.

Pan ddaw eich troslgwyddiad i ben, gallwch aros yn yr ysbyty os oes angen triniaeth a chefnogaeth arnoch o hyd. Cewch eich galw yn glaf gwirfoddol bryd hynny. Darllenwch ein tudalennau ar fod yn glaf gwirfoddol i gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn.

“Cefais sgwrs gyda fy meddyg ac roedd y ddau ohonom yn cytuno ynglŷn â dod â fy nghyfnod yn yr ysbyty iechyd meddwl i ben.  I fod yn onest, roedd y broses yn ddigon syml.”

Rheolwyr ysbytai yn ystod coronafeirws:

  • Os na fydd modd trafod wyneb yn wyneb, yna gellir cynnal y drafodaeth dros y ffôn neu ffion fideo.
  • Os na ellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, gellir ei ohirio am gyfnod byr.

Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl yn ystod coronafeirws:

  • Os na ellir ei gynnal wyneb yn wyneb, yna gellid ei gynnal dros y ffôn neu ffôn fideo.
  • Gellir ei gynnal gyda dim ond un neu ddau aelod o’r tribiwnlys (fel arfer, mae angen tri).

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn gadael yr ysbyty?

Gall gadael yr ysbyty deimlo fel cam mawr iawn.

Cyn i chi adael, bydd eich tîm gofal eisiau sicrhau eich bod yn ddigon da i adael, a bod cefnogaeth ar gael ichi pan gyrhaeddwch gartref.

  • adroddiad rhyddhau claf sy’n esbonio hyd eich arhosiad yn yr ysbyty a hynt eich adferiad tra yn yr ysbyty
  • cynllun gofal, sy'n egluro ychydig amdanoch chi a'r gofal a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. Gallai hyn gynnwys cyngor ar yr hyn a ddylai ddigwydd os ydych chi mewn argyfwng
  • manylion cyswllt ar gyfer rhywun y gallwch siarad â hwy os ydych chi'n credu bod eich iechyd meddwl yn dirywio.

Byddwch yn cael manylion yr hawl sydd gennych i gymorth a chefnogaeth am ddim pan fyddwch yn gadael yr ysbyty.  Yn aml, adran 117 – yr adran ôl-ofal.

Efallai y gofynnir i chi hefyd ddychwelwyd i'r ysbyty ar gyfer apwyntiadau, neu gael apwyntiadau dilynol gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) neu'ch meddyg.

Bydd cefnogaeth adran 117 yn bersonol i chi, yn dibynnu ar pa gymorth sydd ei hangen arnoch i atal eich iechyd meddwl rhag gwaethygu.

Ni ddaw’r hawl hwn i gefnogaeth i ben nes bydd eich tîm gofal yn cytuno nad oes angen y gefnogaeth hon arnoch mwyach.

Efallai y gofynnir i chi hefyd fynd yn ôl i'r ysbyty ar gyfer apwyntiadau, neu gael apwyntiadau dilynol gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) neu'ch meddyg.

Cyhoeddwyd yr wybodaeth hon ym mis Rhagfyr 2020.  Caiff ei hadolygu yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig