Bod yn glaf gwirfoddol – bobl ifanc
Canllaw ar yr hyn sy'n digwydd a beth yw eich hawliau pan ewch i'r ysbyty fel claf gwirfoddol.
Beth yn union yw bod yn glaf gwirfoddol?
Dyma pryd rydych chi, neu rywun sy'n gofalu amdanoch chi, yn cytuno y byddwch yn aros yn yr ysbyty i gael triniaeth a chefnogaeth i helpu gyda’ch iechyd meddwl. Weithiau gelwir hyn yn glaf anffurfiol.
Mae bod yn glaf gwirfoddol yn wahanol i glaf sy’n cael ei anfon i ysbyty iechyd meddwl. Pan gewch eich anfon i ysbyty iechyd meddwl, cewch eich cadw yn yr ysbyty hyd yn oed os nad ydych am fod yno. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl.
Mae'n hollol naturiol i deimlo'n nerfus, yn bryderus neu'n ofidus ynglŷn â mynd i'r ysbyty. Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi.
Ar y dudalen hon mae gennym wybodaeth am y canlynol:
- Pwy sy’n penderfynu a oes angen i mi fynd i’r ysbyty?
- Beth ddylwn ni fynd gyda mi i’r ysbyty?
- Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyrraedd yr ysbyty?
- A fydd yn rhaid i mi lynu wrth reolau pan fyddaf yn yr ysbyty?
- Pa driniaeth a chefnogaeth a gaf yn yr ysbyty?
- Alla i benderfynu ar y driniaeth a'r cefnogaeth a gaf?
- Beth yw fy hawliau pan fyddaf yn yr ysbyty?
- Beth os nad wyf yn hapus gyda fy nhriniaeth?
- Beth fydd yn digwydd wedi i mi adael yr ysbyty?
Pwy sy’n penderfynu a oes angen i mi fynd i’r ysbyty?
Dylech ond fynd i’r ysbyty os mai dyma’r unig ffordd y gallwch chi gael y driniaeth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Fel arfer bydd angen i chi gytuno i fynd i'r ysbyty. Ond mewn rhai achosion, os ydych chi’n iau nag 16 oed er enghraifft, efallai y gall eich rhiant neu ofalwr gytuno ar eich rhan.
Os ydych chi neu'ch rhiant neu ofalwr yn cytuno na ddylech fynd i'r ysbyty, bydd eich tîm gofal yn ceisio dod o hyd i ffyrdd arall i ofalu amdanoch chi. Os ydyn nhw'n credu mai'r unig ffordd i'ch cadw chi'n ddiogel a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi yw trwy fynd i'r ysbyty, fe allech chi gael eich hanfon i ysbyty iechyd meddwl (sectioned).
P'un a ydych chi'n mynd i'r ysbyty yn wirfoddol neu’n cael eich anfon i’r ysbyty, dylai eich meddygon eich helpu i ddeall beth sy'n digwydd i chi. Dylent hefyd wrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud a'ch barn, ac ateb eich holl gwestiynau.
“Roeddwn i'n gwybod y gallai mynd i'r ysbyty achub fy mywyd; ni fyddai aros gartref wedi gwneud hynny.”
Beth ddylwn ni fynd gyda mi i’r ysbyty?
Os oes gennych rywfaint o amser cyn mynd i'r ysbyty, mae'n syniad da pacio bag i fynd gyda chi. Os nad ydych chi’n siŵr beth i'w bacio, ystyriwch beth fyddech chi’n fynd gyda chi ar wyliau neu drip i ffwrdd. Dyma rai syniadau:
- dillad cyfforddus (efallai y bydd angen i chi dynnu'r cortynnau o hwdis neu dracwisg)
- pyjamas
- fflip-fflops
- llyfrau a chylchgronau
- deunydd ymolchi a brws dannedd
- tamponau neu dyweli misglwyf
- llyfr nodiadau (heb rwymo troellog) a beiro
- gorchudd duvet a chasys gobennydd
- lluniau o deulu, ffrindiau a chariadon
- tedi bêr neu degan meddal
- rhywbeth i'ch cadw'n brysur, fel cardiau neu lechen (tablet)
- rhywbeth i wrando arno, fel cerddoriaeth
- rhestrau o rifau ffôn pwysig (rhag ofn na allwch ddefnyddio'ch ffôn)
- meddyginiaeth gan eich meddyg (efallai y bydd angen i chi roi hwn i'r ysbyty i ofalu amdano).
“Pan euthum i’r ysbyty, doedd gen i ddim syniad beth i fynd gyda mi na sut brofiad fyddai bod yn yr ysbyty.”
Beth na ellir mynd gyda mi i’r ysbyty?
Bydd gan wahanol wardiau eu rheolau eu hunain ynglŷn â'r hyn y cewch a na chewch fynd gyda chi i’r ysbyty.
Fel arfer ni fyddwch yn gallu mynd ag unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio i niweidio'ch hun neu rywun arall. Er enghraifft, efallai na fyddwch chi'n gallu mynd â photeli gwydr fel farnais ewinedd, persawr neu aftershave gyda chi.
Mae yna rai pethau mae'n debyg na fyddwch chi'n gallu mynd â nhw gyda chi ar y ward, fel:
- alcohol
- cyffuriau anghyfreithlon
- meddyginiaeth nad yw gan eich meddyg
- sigaréts
- unrhyw beth â llafn miniog, fel rasel.
Os nad ydych yn siŵr beth i fynd gyda chi, gallwch bob amser ffonio ymlaen llaw a holi. Efallai y gall y staff awgrymu opsiynau eraill i chi. Er enghraifft, fe allech chi fynd â diaroglydd rholio gyda chi yn hytrach na diaroglydd chwistrell, neu stribedi cwyr yn lle raseli.
“Cefais fy nghroesawu gan nyrs gyfeillgar iawn a ddangosodd fy ystafell i mi a chwilio trwy fy mag. Gwnaeth nodyn o fy manylion fel taldra, pwysau a phwysedd gwaed. Yna, aeth a mi o amgylch y ward ac i’r lolfa, lle cwrddais â rhai o'r cleifion eraill.”
Mae hwn yn amser da i ofyn cwestiynau a darganfod am unrhyw beth sy'n eich poeni. Efallai yr hoffech chi wybod…
- oes gennych hawl i gadw'ch ffôn
- pa amser y caiff prydau bwyd eu gweini
- pryd y gall eich teulu neu ffrindiau ymweld â chi
- pa fath o weithgareddau sydd ar gael ar y ward
- sut y gallwch chi olchi'ch dillad.
Peidiwch â bod ag ofn gofyn cwestiwn, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo ychydig o embaras yn ei ofyn – bydd staff yn gyfarwydd â phob math o gwestiynau.
A fydd yn rhaid i mi lynu wrth reolau pan fyddaf yn yr ysbyty?
Mae gan ysbytai reolau ynglŷn â'r hyn y gallwch chi ac na allwch ei wneud ar y ward, a bydd disgwyl i chi lynu wrthynt. Er enghraifft, bydd rheolau ynghylch faint o’r gloch y caiff prydau bwyd eu gweini, beth y caniateir ichi ddod gyda chi i'r ward, a sut y dylech ymddwyn.
Nid oes hawl gan ysbytai ddefnyddio 'cyfyngiadau cyffredinol'. Rheolau yw'r rhain sy'n cyfyngu ar ryddid pob claf heb ystyried anghenion yr unigolion. Er enghraifft, yr ysbyty rydych chi ynddi yn dweud mai dim ond awr o wyliau'r wythnos y caniateir i bawb neu ni chaniateir i neb ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Pa driniaeth a chefnogaeth a gaf yn yr ysbyty?
Pan fyddwch chi yn yr ysbyty, bydd llawer o wahanol bobl yn gofalu amdanoch chi, fel nyrsys, meddygon a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl.
Cyfeirir at y bobl hyn sy'n gofalu amdanoch fel eich tîm gofal. Eu gwaith hwy yw eich helpu chi i gael y gefnogaeth a'r driniaeth sydd eu hangen arnoch i wella. Gallai hyn gynnwys pethau fel:
- therapi siarad (a elwir weithiau'n gwnsela)
- therapi grŵp
- therapi teulu
- therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
- therapi creadigol, fel therapi celf
- therapi symud, fel ioga
- therapi galwedigaethol, fel cael help gyda choginio, cael trafnidiaeth gyhoeddus a siopa bwyd
- meddyginiaeth
- gweithgareddau eraill, gan ddibynnu ar yr hyn sy'n addas i chi.
Bydd gan eich ward hefyd ardal awyr agored lle gallwch gael rhywfaint o awyr iach.
"Roedd gan y ward roeddwn i arni raglen therapi eithaf strwythuredig, a oedd yn ddigon tebyg i amserlen ysgol. Roedd yn cynnwys cylch wythnosol o bob math o grwpiau gwahanol, fel therapi CBT, therapi celf, ioga, pobi, garddio, yn ogystal a sesiynau un wrth un gyda therapyddion.”
Alla i benderfynu ar y driniaeth a'r gefnogaeth a gaf?
Dylai eich tîm gofal bob amser geisio eich cynnwys chi mewn penderfyniadau am eich triniaeth a'ch cefnogaeth. Fe’i gelwir yn gynllun gofal.
Fel arfer ni all eich tîm gofal eich trin oni bai eich bod yn cytuno ar hynny. Gelwir hyn yn rhoi eich caniatâd.
Ond mae yna ychydig o sefyllfaoedd lle efallai y byddan nhw'n gallu rhoi triniaeth i chi heb eich caniatâd. Er enghraifft, os ydych chi'n rhy dost i wneud penderfyniadau drosoch eich hun a bod eich rhiant neu ofalwr wedi cytuno ar eich rhan. Neu os ydych chi'n rhy dost i wneud eich penderfyniadau eich hun a'ch tîm gofal o’r farn y byddai derbyn y driniaeth o’r budd gorau i chi.
Beth yw fy hawliau pan fyddaf yn yr ysbyty?
Mae'n bwysig deall beth yw eich hawliau fel y gallwch sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg, a'ch bod yn cael yr holl bethau sydd eu hangen arnoch.
Bydd llawer o'r hawliau hyn yr un peth pan fyddwch chi'n cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl. I ddarganfod beth sy'n wahanol, darllenwch ein gwybodaeth am gael eich hanfon i ysbyty iechyd meddwl.
Dylai eich ward siarad â'ch ysgol i ddarganfod beth rydych chi'n ei astudio. Bydd hyn yn eu helpu hwy i roi gwaith tebyg i'r hyn y byddech chi fel arfer yn ei gael yn yr ysgol.
Gofynnir i chi wneud cymaint o waith ag y gallwch chi, cyn belled â'ch bod chi'n teimlo'n ddigon da i wneud hynny.
Os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed, mae gennych chi hawl i hyfforddiant hefyd, os hoffech chi hynny.
Dylech gael eich anfon i ward ar gyfer plant dan 18 oed heb os.
Ond os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed, mae yna rai sefyllfaoedd lle gallech chi gael eich anfon i ward oedolion.
Gallai hyn ddigwydd os bydd angen i chi fynd i'r ysbyty ar frys ac nad oes gwelyau ar gael ar y ward i bobl ifanc.
Neu gallai ddigwydd os yw bod ar ward oedolion yn fwy addas i chi. Er enghraifft, os ydych chi bron yn 18 oed a ddim eisiau newid wardiau pan fydd hyn yn digwydd, neu os oes gennych fabi.
Mae gennych hawl i gadw mewn cysylltiad â'ch teulu a'ch ffrindiau tra'ch bod chi yn yr ysbyty. Fe ddylech chi allu gwneud hyn mewn gwahanol ffyrdd, fel cael ymwelwyr, gwneud galwadau ffôn neu anfon negeseuon testun.
Pan ddaw ymwelwyr i'ch gweld, dylai'r ysbyty baratoi ardal i chi dreulio amser gyda nhw, fel ystafell ymwelwyr. Mae'n debyg na fyddan nhw'n cael ymweld â chi yn eich ystafell wely.
Weithiau efallai na fyddwch am weld rhywun sy'n dod i ymweld â chi, a does dim o’i le ar hynny – dylai staff ofyn i chi yn gyntaf bob amser.
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd yr ysbyty gryn bellter o’ch cartref (a elwir hefyd yn lleoliad y tu allan i'r ardal). Os yw'ch teulu'n cael anhawster gyda chostau teithio, gallant ofyn am rywfaint o gefnogaeth. Gofynnwch i'ch tîm gofal am ragor o wybodaeth.
“Mae gan y mwyafrif o ysbytai oriau ymweld a byddant yn annog teulu a ffrindiau i ymweld â chi gan eu bod yn gwybod mor llesol yw hyn i’ch lles meddyliol!”
All pobl ddal ymweld a mi hyd yn oed yn ystod y coronafeirws?
Dylid caniatáu i chi gael ymwelwyr o hyd yn ystod coronafeirws.
Ond efallai y bydd rheolau ar faint o ymwelwyr all ddod i'r ward, ac efallai y bydd yn rhaid i’ch ymwelwyr ymweld a chi y tu ôl i sgrin. Bydd angen i chi hefyd ddilyn canllawiau pellhau cymdeithasol gydag ymwelwyr.
Dylid parchu eich preifatrwydd tra'ch bod chi yn yr ysbyty.
Ond os yw'ch tîm gofal yn poeni am eich diogelwch chi neu rywun arall, efallai y bydd gennych lai o breifatrwydd.
Gallai hyn olygu eu bod yn cadw llygad arnoch chi’n amlach, neu gallai olygu bod angen iddynt gadw llygad arna chi trwy'r amser. Os digwydd hyn, rhaid i chi gael eich trin â pharch o hyd a rhaid i'ch tîm gofal wrando arnoch chi.
Mae gennych ddal hawl i wneud y canlynol:
- golchi a gwisgo mewn man preifat
- gweld eich ymwelwyr mewn man preifat
- anfon e-byst neu dderbyn llythyron sydd ddim yn cael ei ddarllen gan staff.
“Mae ysbytai wedi’u cynllunio i fod yn lleoedd diogel, nid carchar, felly er y gallai deimlo’n gaeedig ar brydiau, cofiwch na fyddwch chi yno am byth ac mae staff eisiau beth sydd orau i chi!”
Fe ddylech chi allu cael rhywfaint o fynediad i'ch ffôn, cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd tra'ch bod chi ar y ward.
Ond efallai y bydd rhai mannau na chaniateir i chi ddefnyddio'ch ffôn.
Efallai y bydd adegau hefyd pan na chaniateir i chi ddefnyddio'ch ffôn o gwbl. Er enghraifft, os yw'ch tîm gofal yn poeni ei fod yn effeithio ar eich iechyd meddwl. Os ydyn nhw'n cymryd eich ffôn oddi wrthych chi, rhaid i hyn fod am gyfnod byr, a dylid ei gadw yn rhywle diogel.
Pan fyddwch yn yr ysbyty, mae gennych hawl i'ch gwybodaeth bersonol gael ei chadw'n gyfrinachol. Mae hyn yn golygu y bydd popeth rydych chi'n ei ddweud yn cael ei gadw rhyngoch chi a'ch tîm gofal.
Dylai fod gan eich ysbyty bolisi sy'n esbonio'r rheolau y mae'n rhaid iddynt lynu wrthynt. Fel arfer, byddan nhw ond yn rhannu'r hyn rydych wedi'i ddweud wrthynt os:
- rydych chi’n dymuno iddyn nhw wneud hynny
- bydd yn eich helpu chi i gael gofal o safon
- os maen nhw’n pryderu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl.
Os oes angen iddynt ddweud wrth rywun arall beth rydych wedi'i ddweud wrthynt, dylent bob amser geisio dweud wrthych chi yn y lle cyntaf.
Disgwylir i chi dreulio'r rhan fwyaf o'ch amser ar y ward, ond dylech allu cael rhywfaint o egwyl oddi ar y ward hefyd. Gelwir hyn yn egwyl o'r ward.
Efallai y byddair’ syniad o gael egwyl oddi ar y ward yn codi braw arnoch chi ar y dechrau, ond mae'n rhan bwysig o wella.
Sut mae egwyl o’r ward yn gweithio?
Os ydych chi am gael egwyl o’r ward, dylech ofyn i nyrs neu feddyg. Bydd angen iddynt ystyried a yw'n ddiogel ai peidio ichi gael egwyl o'r ward. Efallai y bydd angen iddyn nhw gysylltu a’ch rhiant neu ofalwr hefyd.
Ar y dechrau efallai mai dim ond am gyfnod byr y bydd eich tîm gofal eisiau i chi gael egwyl o’r ward ac efallai y bydd angen i chi fynd a cwmni gyda chi. Dros amser, dylech dreulio mwy a mwy o amser oddi ar y ward, ac efallai y gallwch gael egwyl o’r ward dros nos.
Os yw'ch tîm gofal yn pryderu amdanoch chi, efallai y byddan nhw'n gofyn i chi roi'r gorau i gael egwyl o’r ward am gyfnod. Mae'n bwysig cofio mai dros dro yn unig y bydd hyn.
“Ar y dechrau, roeddwn yn cael fy annog i fynd am dro rownd y gornel i'r siop. Fe gynyddodd hyn yn raddol, nes, mewn tua 6 neu 7 wythnos, roeddwn yn gallu mynd gartref dros nos.”
A yw hi’n bosibl i mi gael egwyl oddi ar y ward yn ystod coronafeirws?
Dylai ysbytai ddal i allu rhoi caniatâd i chi yn ystod pandemig coronafeirws.
Ond efallai y bydd angen i staff gyfyngu ar hyd eich egwyl oddi ar y ward, neu ofyn i chi gymryd egwyl o’r ward ar wahanol adegau i gleifion eraill.
Mae yna rai sefyllfaoedd lle mae’n bosibl y bydd gennych lai o hawliau. Er enghraifft:
Bydd gan eich ysbyty reolau ynghylch pryd y gall staff gynnal chwiliad ohonoch chi, eich eiddo, neu gynnal chwiliad o ymwelwyr. Er enghraifft, os ydyn nhw'n credu bod gan rywun rywbeth na chaniateir ar y ward, fel gwrthrych miniog neu alcohol.
Cyn chwilio unrhyw un neu eu heiddo, dylai staff ofyn caniatâd. Dylent hefyd egluro beth sy'n digwydd a pham, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Os nad ydych chi am gael eich chwilio, dylai'r staff siarad â chi a cheisio dod i ddealltwriaeth. Os nad ydych yn cytuno o hyd ac yn credu fod gennych eitem all achosi risg i chi'ch hun neu i eraill, efallai y gofynnir ichi adael y ward yn barhaol.
Os nad yw rhywun sy'n ymweld â chi eisiau cael ei chwilio, efallai na fydd modd iddynt gael mynediad i’r ward.
Os ydych chi’n gwneud y canlynol, dyma ddywed y gyfraith...
- os ydych chi'n anafu'ch hun neu rywun arall
- mae risg difrifol y gallwch anafu'ch hun neu rywun arall
... caniateir i'ch tîm gofal eich ffrwyno yn gorfforol. Gelwir hyn yn ffrwyno.
Dim ond os nad oes unrhyw beth arall wedi helpu i'ch tawelu y cewch eich ffrwyno, a dylai eich tîm gofal geisio siarad â chi yn gyntaf bob amser. Ond, os mai’r unig opsiwn sydd ganddyn nhw yw eich ffrwyno, rhaid iddyn nhw:
- eich ffrwyno am yr amser byrraf posibl
- eich ffrwyno gyda'r grym lleiaf posibl
- eich trin gyda chymaint o barch â phosib tra byddwch yn cael eich ffrwyno
- cadw nodyn ysgrifenedig o'r hyn sydd wedi digwydd a’i gynnwys yn eich nodiadau.
Ni ddylid byth eich ffrwyno fel math o gosb neu gyda'r nod o'ch anafu.
Yn ogystal ag ataliaeth gorfforol, mae yna bethau eraill y gallai fod angen i staff eu gwneud i'ch cadw chi'n ddiogel. Gelwir y rhain yn ymyriadau cyfyngol. Gweler ein geirfa i gael mwy o wybodaeth am ymyriadau cyfyngol.
Beth os nad wyf yn hapus gyda fy nhriniaeth?
Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n cael eich trin yn deg neu'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, siaradwch ag aelod o'ch tîm gofal ac esboniwch sut rydych chi'n teimlo.
Os nad ydych chi'n teimlo'n hyderus i wneud hyn ar eich pen eich hun, gofynnwch i oedolyn dibynadwy neu eiriolwr eich helpu.
“Yn ystod yr wythnos gyntaf ar y ward, cefais gyfarfod ag eiriolwr a esboniodd ei rôl i mi. Roedd yr eiriolwr yn ymweld bob wythnos os oedd unrhyw un eisiau siarad â hi.”
Gwneud cwyn
Os ydych chi'n dal i deimlo nad ydych chi'n cael eich trin yn deg neu eich bod chi'n anhapus â rhywbeth sy'n digwydd ar y ward, gallwch chi gwyno.
Gallwch ofyn i'r ysbyty sut i wneud hyn, ac at pwy y dylech chi anfon eich cwyn.
Gall gwneud cwyn fod yn broses anodd, yn enwedig os ydych chi’n anhwylus. Gall fod yn ddefnyddiol gofyn i oedolyn dibynadwy eich helpu chi, neu weld a oes gwasanaeth eirioli ar eich ward. Gallant eich helpu i ysgrifennu'r hyn rydych chi'n bryderus yn ei gylch a beth hoffech chi weld yn digwydd.
Dylech geisio gwneud eich cwyn cyn gynted â phosibl. Fel arfer y terfyn amser yw 12 mis o'r digwyddiad neu pan ddechreuodd y broblem.
Beth fydd yn digwydd wedi i mi gadael yr ysbyty?
Gall gadael yr ysbyty deimlo fel cam mawr iawn.
Cyn i chi fynd, bydd eich tîm gofal eisiau sicrhau eich bod yn ddigon da i adael, a bod cefnogaeth ar gael ichi pan gyrhaeddwch adref.
Os ydych chi am adael cyn bod eich tîm gofal yn credu eich bod yn barod i wneud hynny, dylen nhw geisio egluro pam nad ydyn nhw'n meddwl eich bod chi'n barod i adael. Os ydych chi yn yr ysbyty fel claf gwirfoddol, ni allant eich gorfodi i aros. Ond, os ydyn nhw'n poeni y gallech chi fod yn risg i chi'ch hun neu i eraill, gallen nhw fynnu eich bod yn mynd i ysbyty iechyd meddwl. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein canllaw ar gael eich anfon i ysbyty meddwl.
Os nad ydych yn teimlo'n barod i adael yr ysbyty, dylech siarad â'ch tîm gofal fel y gallant drafod unrhyw bryderon gyda chi.
“Nod yr ysbyty yw sicrhau eich bod yn teimlo’n well na phan aethoch chi i mewn, a gallu ymdopi gartref, felly os nad ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto yna siaradwch!”
Pan fyddwch yn gadael, rhoddir y canlynol i chi:
- adroddiad rhyddhau claf sy’n esbonio hyd eich arhosiad yn yr ysbyty a hynt eich adferiad tra eich bod yn yr ysbyty
- cynllun gofal, sy'n egluro ychydig amdanoch chi a'r gofal a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. Gallai hyn gynnwys cyngor ar yr hyn a ddylai ddigwydd os ydych chi mewn argyfwng
- manylion cyswllt ar gyfer rhywun y gallwch siarad â hwy os ydych chi'n credu bod eich iechyd meddwl yn dirywio.
Efallai y gofynnir i chi hefyd ddychwelwyd i'r ysbyty ar gyfer apwyntiadau, neu gael apwyntiadau dilynol gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) neu'ch meddyg.
“Heb y gefnogaeth a’r help gan y tîm, dwi wir ddim yn credu y byddwn i’n fyw nag wedi gallu goresgyn fy mhroblemau. Gall meddwl am fynd i’r ysbyty godi braw ar unrhyw un ond nid oedd cynddrwg ag yr oeddwn yn ddisgwyl y byddai.”
Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2020
Rydyn ni’n gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.