Gofalu am eich hun yn yr ysbyty – ar gyfer pobl ifanc
Awgrymiadau a syniadau ar sut i ofalu am eich hun pan fyddwch yn yr ysbyty yn cael triniaeth ar gyfer iechyd meddwl.
Cynghorion ar sut i ofalu am eich hun yn yr ysbyty
Gall mynd i'r ysbyty fod yn brofiad ingol a gofidus, yn enwedig pan fyddwch chi'n teimlo'n dost iawn.
Ar y dudalen hon, mae awgrymiadau a syniadau a allai eich helpu i ofalu am eich lles tra'ch bod yn yr ysbyty.
Efallai y gwelwch fod rhai o'n cynghorion yn gweithio'n well i chi nag eraill, neu nad yw rhai'n teimlo'n bosibl ar hyn o bryd. Byddwch yn garedig â chi'ch hun a dim ond rhoi cynnig ar yr hyn rydych chi'n teimlo'n gyffyrddus ag ef.
I gael gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd pan ewch i'r ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl, gweler ein tudalennau ar fod yn glaf gwirfoddol ac os ydych yn cael eich anfon i ysbyty iechyd meddwl. Mae'r awgrymiadau canlynol ar gyfer pawb.
Fe allech chi wneud hyn trwy ffonio ffrind neu aelod o'r teulu, cael pobl i ymweld, neu anfon llythyrau neu e-byst.
Gall trefnu i wneud galwadau ffôn neu drefnu ymweliadau rheolaidd eich helpu fel bod gennych rywbeth i edrych ymlaen ato.
Cofiwch, does dim pwysau i ddweud 'ie' i weld pobl, neu i gadw mewn cysylltiad os nad ydych chi'n teimlo’n ddigon da. Gall dweud 'na' fod yn beth da weithiau.
Gall cwrdd â phobl newydd fod yn hynod o anodd, yn enwedig gan eich bod mewn lle newydd ac yn teimlo’n anhwylus.
Ond gall siarad â phobl sy'n mynd trwy brofiadau tebyg eich helpu i deimlo nad ydych ar eich pen eich hun. Ac mewn amser, efallai y byddwch wedi gwneud ffrindiau newydd.
“Roedd 8 o bobl eraill ar fy ward ac wrth i ni dreulio diwrnod cyfan gyda’n gilydd, fe ddaethon ni’n ffrindiau eithaf agos... Roedd gwybod bod gen i rwydwaith gymorth uniongyrchol os oeddwn i’n cael anhawster gydag unrhyw beth yn help mawr.”
Gallai llunio cynlluniwr dyddiol neu wythnosol eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd.
Gallai eich cynlluniwr gynnwys gweithgareddau strwythuredig, fel therapi neu ioga. Gallai hefyd gynnwys amser i ymlacio, rhywfaint o amser i dderbyn ymwelwyr, neu unrhyw astudio rydych chi'n ddigon da i'w wneud.
“Gyda'r nos roedd gennym amser rhydd lle gallem wahodd ymwelwyr neu wylio'r teledu neu ymlacio yn ein hystafelloedd.”
Gall ysgrifennu nodyn am sut rydych chi'n teimlo neu dynnu llun ohono eich helpu chi i wneud synnwyr o'r hyn rydych chi'n mynd drwyddo.
Fe allech chi hefyd geisio nodi un peth da, neu un peth rydych chi'n falch ohono, bob dydd.
Cyn belled â’ch bod yn teimlo’n ddigon da, efallai y gofynnir i chi barhau â rhywfaint o waith i'r ysgol neu'r coleg.
Efallai y gwelwch fod astudio yn helpu i roi ymdeimlad o normalrwydd i chi, neu ei fod yn ffordd dda o dynnu’r sylw oddi ar eich sefyllfa.
Ond os nad ydych chi'n teimlo'n ddigon da neu os oes gennych chi unrhyw bryderon, siaradwch â'ch tîm gofal.
Mae'n bwysig peidio â phwysleisio am waith ysgol neu goleg a chanolbwyntio ar wella.
Ceisiwch feddwl am bethau bach y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu chi i deimlo'n debycach i chi'ch hun. Er enghraifft, gwisgo'ch hoff siwmper neu rywbeth cysurus fel sliperi o gartref.
Fe allech chi hefyd ddod o hyd i ffyrdd o fynegi eich creadigrwydd, hyd yn oed os nad ydych chi'n ystyried eich hun yn artist – dwdlo neu ysgrifennu straeon er enghraifft.
Os oes gennych chi syniad arall yr hoffech chi roi cynnig arno, fel pobi neu chwaraeon, siaradwch â'ch tîm gofal i weld a allan nhw drefnu hyn i chi.
Dylai fod gan eich ward rywfaint o le awyr agored, fel iard. Gofynnwch i'ch tîm gofal a allwch ei ddefnyddio i gael awyr iach a mynd am dro.
Gall bod mewn man agored a golau naturiol helpu i wella'ch hwyliau a gwneud i chi deimlo llai o straen neu anniddigrwydd. Gall hefyd roi rhywbeth gwahanol i chi ganolbwyntio arno a'ch helpu i dawelu’ch meddwl.
Os na allwch fynd y tu allan, beth am wahodd natur i mewn. Fe allech chi ofyn i gael planhigyn i ofalu amdano, neu fe allech chi arddangos lluniau o'ch hoff lefydd awyr agored
Mae hyn yn ymwneud â deall beth ddylai ac na ddylai ddigwydd tra'ch bod chi yn yr ysbyty.
Gall hyn eich helpu i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg, a'ch bod yn cael yr holl bethau sydd eu hangen arnoch.
I ddarganfod mwy, darllenwch yr wybodaeth am fod yn glaf gwirfoddol a bod yn glaf sy’n cael ei anfon i ysbyty iechyd meddwl.
Hyd yn oed os ydych chi'n teimlo na ddylech chi fod yn yr ysbyty, ceisiwch ymddiried yn y staff sy'n gofalu amdanoch ac y byddant yn gwneud eu gorau ar eich rhan.
Mae bod ag o leiaf un aelod o staff rydych chi'n cyd-dynnu ag ef ac sy’n rhwydd i siarad â hwy wneud gwahaniaeth mawr.
Os ydych chi'n teimlo'n ddigon da, fe allech chi hefyd geisio meddwl am yr hyn rydych chi eisiau o'ch arhosiad yn yr ysbyty, a rhoi gwybod i staff sut y gallant eich helpu i gyflawni hyn.
"Cofiwch, fyddwch chi ddim yn yr ysbyty am byth ac mae staff eisiau'r hyn sydd orau i chi!”
“Roedd mynd i’r ysbyty yn brofiad brawychus iawn i mi, ond roeddwn i’n hoffi meddwl amdano fel cyfle i ailgychwyn, i ddod allan yn berson cryfach. Fe roddodd gyfle i mi geisio creu bywyd mwy ystyrlon i mi fy hun. Fe wnaeth hefyd fy helpu i sylweddoli nad ydw i ar fy mhen fy hun.”
Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2020
Rydyn ni’n gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.