Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall cwsg ac iechyd meddwl – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc ar gwsg ac iechyd meddwl, beth sy’n achosi cwsg gwael a sut y gallai hyn effeithio arnat ti.

Cwsg ac iechyd meddwl

Mae angen i bob un ohonom gysgu ac mae’n rhan bwysig o’n bywydau. Ond mae llawer ohonom yn cael problemau wrth gysgu. Gall y problemau hyn effeithio mwy arnat ti fel person ifanc, am lawer o resymau.

Mae’n gallu bod yn anodd ymdopi â’r broblem o gael trafferth cysgu. Gall hyn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant. Ond dwyt ti ddim ar ben dy hun, ac mae pethau y galli di wneud i wella’r broblem.

Dyma wybodaeth ar dy gyfer di os hoffet ti ddeall mwy am gwsg. Mae'n canolbwyntio ar sut mae cwsg yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a sut gall cwsg gwael effeithio arnat ti.

Sut i reoli a gwella cwsg

Gweld awgrymiadau ymarferol ar wella cwsg

Paid â bod ofn cael cymorth i gysgu, mae'n bwysig iawn i dy fywyd.

Pam mae cwsg yn bwysig?

Mae cwsg yn bwysig i’n llesiant corfforol a meddyliol. Mae cwsg yn helpu’r ymennydd a’r corff i weithio ar eu gorau, ac mae’n ein helpu i ganolbwyntio o ddydd i ddydd.

Mae cwsg yn helpu’r corff i dyfu ac i wella. Mewn rhai achosion, gall cwsg helpu i’n hamddiffyn rhag problemau iechyd yn y dyfodol. Drwy gael digon o gwsg, gallwn hefyd ymdopi â’n hemosiynau a storio ein hatgofion.

Pan nad wyt ti wedi cysgu’n dda, mae’n bosibl y byddi di’n teimlo’n llai egnïol neu’n teimlo fel nad wyt ti’n gallu ymdopi â bywyd bob dydd.

Mythau a safbwyntiau cyffredin am gwsg

Gall fod yn ddryslyd ac yn bryderus os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n cael digon o gwsg, neu os nad wyt ti’n cael cwsg da. Mae’n bosibl dy fod wedi clywed llawer o safbwyntiau gwahanol am y ffordd gywir o gysgu, ond gall cael cwsg da olygu rhywbeth gwahanol i bawb.

Dyma rai syniadau cyffredin y mae’n bosibl i ti glywed amdanyn nhw.

Mae cwsg yn gysylltiedig ag iechyd meddwl – cywir

Os nad ydyn ni’n cael cwsg da, mae’n bosibl na fyddwn ni’n teimlo’n iach. Gall teimlo’n flinedig wneud i ni deimlo’n isel neu’n bryderus. Os wyt ti’n cael trafferth gyda sut wyt ti’n teimlo, gallai hynny hefyd effeithio ar dy gwsg.

Mae’n rhaid dysgu sut i gysgu – anghywir

Mae’r ymennydd â’r corff yn gweithio gyda’i gilydd yn naturiol er mwyn dy helpu i gysgu. Does dim pethau sy’n rhaid i ti wneud, na chamau y mae angen i ti eu cymryd er mwyn cysgu. Mae’n iawn cael trafferth cysgu hefyd, ac mae pethau y galli di wneud er mwyn dy helpu i gysgu’n well.

Mae angen yr un faint o gwsg ar bawb – anghywir

Does dim amser perffaith o gwsg ar gael. Mae’n wahanol i bawb. Mae faint o gwsg sydd ei angen arnat ti’n dibynnu ar wahanol bethau, fel oedran a beth sy’n mynd ymlaen yn dy fywyd bob dydd.

Mae'n bwysig meddwl pa mor dda wyt ti’n cysgu, a faint o gwsg wyt ti’n ei gael. Os wyt ti’n teimlo’n flinedig yn ystod y dydd ac yn cael trafferth gyda phethau, mae’n bosibl y bydd angen i ti gysgu mwy, neu gysgu’n well.

Pan oeddwn i’n cysgu yn nhŷ ffrind dros nos, byddai fy ffrindiau i gyd yn syrthio i gysgu’n syth. Byddwn i’n eistedd yn y gwely, ac yn gwybod y byddwn i’n effro ac ar fy mhen fy hun am oriau.

Mae angen mwy o gwsg ar bobl ifanc nag oedolion – cywir, yn bennaf

Fel person ifanc, mae’n bosibl fod dy gwsg di’n wahanol i gwsg bobl hŷn.

Mae’n bosibl y bydd angen i ti gael mwy o gwsg i ymdopi â newidiadau i’r corff a’r ymennydd. Er enghraifft, gall newidiadau corfforol fel y glasoed effeithio ar gwsg. Mae’n bosibl y byddi di hefyd yn gweld ei bod yn cymryd mwy o amser i syrthio i gysgu, neu dy fod yn effro’n hwyrach na rhywun hŷn.

Fel arfer, mae person ifanc yn cysgu rhwng 7 ac 11 awr bob nos, a mwy o amser byth i bobl iau, ond mae pawb yn wahanol.

Mae newidiadau i gwsg yn normal - cywir

Mae newidiadau i gwsg yn normal, yn union fel y mae’n normal i bethau newid yn dy fywyd.

Dros amser, mae’n bosibl y bydd y canlynol yn digwydd i ti:

  • Cael trafferth cysgu
  • Ffafrio aros yn effro yn ystod y nos a chodi’n hwyrach y diwrnod wedyn
  • Cael patrymau cysgu gwahanol i bobl hŷn
  • Cysgu llai na phan oeddet ti’n iau

Mae newidiadau i gwsg ac anawsterau cysgu’n gyffredin, ond gallan nhw wella gydag amser. I gael rhagor o wybodaeth, cer i edrych ar ein hawgrymiadau i helpu i gysgu.

Mae cael trafferth cysgu yn ddrwg i'r iechyd - mae'n gymhleth

Mae llawer o ymchwil yn dweud y gallai cwsg gwael fod yn ddrwg i'r iechyd meddyliol a chorfforol, ond does dim byd yn glir iawn. Ac os wyt ti’n cael trafferth cysgu, mae’n bosibl y bydd pethau eraill yn effeithio ar yr iechyd ac ar fywyd bob dydd. Gall fod yn anodd eu gwahanu.

Does gennym ni ddim ymchwil wyddonol glir i wybod bod cwsg gwael yn achosi unrhyw beth yn uniongyrchol. Mae llawer o bethau’n digwydd yn ein bywydau, a gall fod yn gymhleth iawn. Weithiau mae’n bwysig gwneud beth sy’n gweithio orau i ti.

Gall fod yn anodd peidio â phoeni am bethau fel cael trafferth cysgu. Cofia fod ffyrdd o ofalu am dy lesiant a allai fod yn haws.

Sut mae cwsg yn gysylltiedig ag iechyd meddwl?

Mae cysylltiad agos rhwng cwsg ac iechyd meddwl. Os wyt ti’n cael trafferth gydag iechyd meddwl, gall hyn effeithio ar ba mor dda wyt ti’n cysgu.

Er enghraifft, os wyt ti’n teimlo’n bryderus, mae’n bosibl y bydd dy bryderon yn dy gadw’n effro yn y nos. Neu os wyt ti’n teimlo’n isel a heb gymhelliad, mae’n bosibl y byddi di’n cael mwy o gwsg.

Gall cael trafferth cysgu hefyd effeithio ar iechyd meddwl, a gwneud i ti deimlo’n bryderus neu’n isel. Mae’n bosibl y byddi di’n ei chael yn anoddach gwneud tasgau o ddydd i ddydd, a gall hynny wedyn effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl.

Gallai problemau cysgu ddangos dy fod yn cael trafferth gyda sut wyt ti’n teimlo, neu mae’n bosibl mai’r problemau hynny sy’n achosi’r ffordd wyt ti’n teimlo. Gall fod yn anodd cadarnhau hynny. Mae’n bosibl nad oes cysylltiad clir, a gallant effeithio ar ei gilydd.

Os wyt ti’n niwrowahanol, er enghraifft, os wyt ti’n awtistig neu os oes gen ti ADHD, mae’n bosibl y byddi di’n cael trafferth cysgu. Mae’n bosibl y bydd teimlo’n aflonydd a chael llawer o feddyliau yn dy gadw’n effro.

Gall teimlo’n fwy blinedig waethygu rhai symptomau neu ymddygiadau. Gall hyn wneud i ti deimlo’n fwy pryderus, a gallai dy gadw di’n effro. I gael rhagor o wybodaeth am bethau sy’n gallu helpu, cer i edrych ar ein tudalen am awgrymiadau i wella cwsg.

Mae fy mhroblemau cysgu yn gysylltiedig ag ADHD, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli hyn tan yn ddiweddar, er fy mod i’n cael trafferth gydag anhunedd ers fy mhlentyndod.

Sut gall cwsg gwael effeithio arna i?

Mae cael trafferth cysgu’n gallu bod yn wahanol i bawb.

Dyma rai problemau y gallet ti eu cael:

  • Cael trafferth mynd i gysgu neu aros ynghwsg, fel deffro’n gynt nag oeddet ti wedi bwriadu
  • Cael pethau penodol yn tarfu ar dy gwsg, fel hunllefau neu atgofion
  • Cael trafferth deffro, codi o’r gwely neu aros yn effro yn ystod y dydd
  • Teimlo’n flinedig neu’n gysglyd yn ystod y dydd
  • Cysgu gormod, a bod hynny’n effeithio ar dy fywyd bob dydd

Mae fy iechyd meddwl yn cael effaith fawr ar fy nghwsg. Weithiau, os oes llawer o bethau yn mynd ymlaen yn fy mywyd, mae’r ymennydd yn diffodd ac felly dydw i methu cael llawer o gwsg.

Os wyt ti’n cael trafferth cysgu, mae’n bosibl y byddi di’n cael y canlynol:

  • Cael trafferth ymdopi ag emosiynau, fel mynd yn ddig yn hawdd, neu deimlo’n flin. Mae’n bosibl y byddi di hefyd yn teimlo bod gormod o bethau’n mynd ymlaen, ac yn poeni am rai pethau.
  • Cael trafferth gydag iechyd meddwl, neu deimlo fod symptomau o broblem iechyd meddwl yn gwaethygu.
  • Teimlo’n gorfforol sâl, fel cur pen neu boen yn y stumog. Gallai cwsg gwael hefyd waethygu problemau iechyd corfforol.
  • Teimlo nad oes gen ti egni. Gallai hyn ei gwneud yn anoddach canolbwyntio yn yr ysgol neu yn y gwaith, neu’n anoddach gwneud pethau rwyt ti’n mwynhau eu gwneud fel arfer.
  • Cael trafferth gyda ffrindiau a pherthnasoedd, fel ffraeo mwy gyda phobl sy’n agos atat.
  • Teimlo dy fod yn cymryd mwy o risgiau, fel newid y ffordd rwyt ti’n yfed alcohol, neu’n cymryd cyffuriau.

Gall cael trafferth cysgu effeithio arnat ti mewn gwahanol ffyrdd os bydd yn para am gyfnod hir neu gyfnod byr. Mae pawb yn wahanol, ac mae’n bosibl y byddi di’n cael rhai pethau’n anoddach i ymdopi â nhw na phethau eraill.

Fy nghyngor pennaf fyddai peidio â bod yn rhy galed arnat ti dy hun. Mae’n gyffredin iawn cael trafferth cysgu, ond mae llawer o awgrymiadau gwych ar gael i helpu.

Pam allwn i fod yn cael trafferth cysgu?

Mae llawer o resymau pam y gallet ti fod yn cael trafferth cysgu. Mae’n bosibl y byddi di’n profi un neu lawer o’r pethau hyn, ac maen nhw’n aml yn gysylltiedig â’i gilydd.

Dyma rai pethau a allai effeithio ar dy gwsg:

  • Cael trafferth gydag iechyd meddwl neu dy deimladau. Gallai hyn gynnwys poeni am ysgol neu waith. Gallet ti hefyd fod yn ymdopi â phroblem iechyd meddwl.
  • Cael problemau gartref. Gallai hyn gynnwys digwyddiadau anodd mewn bywyd, colli rhywun rwyt ti’n ei garu neu broblemau gyda theulu.
  • Cael problemau yn yr ysgol neu yn y gwaith. Mae’n bosibl dy fod yn delio â straen arholiadau, neu symud i ysgol newydd. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ti aros yn effro neu ddeffro’n gynnar oherwydd ysgol neu’r gwaith. Gall fod yn anodd addasu i hynny hefyd.
  • Newidiadau i’r awyrgylch neu dy drefn arferol o ddydd i ddydd, fel y tymhorau’n newid. Pan fydd hi’n goleuo yn yr haf, mae’n bosibl i ti gael mwy o drafferth cysgu. Neu, pan fydd hi’n tywyllu yn y gaeaf, mae’n bosibl i ti deimlo’n flinedig yn ystod y dydd, neu’n cael mwy o drafferth codi.
  • Cael trafferth gydag iechyd corfforol. Os wyt ti’n teimlo’n sâl neu’n delio â symptomau corfforol, mae’n bosibl i ti gael trafferth cysgu. Gall fod yn anodd hefyd delio â newidiadau corfforol, fel y glasoed, neu sgil-effeithiau meddyginiaethau.
  • Cael trafferth cysgu mewn lle penodol. Gallai hyn gynnwys byw mewn ardal swnllyd neu ardal lachar, cysgu yn yr un gwely neu’r un ystafell â rhywun arall, neu bod yn yr ysbyty. Mae’n bosibl hefyd nad wyt ti’n teimlo’n ddiogel lle rwyt ti'n byw, neu nad oes gen ti le i fyw.
  • Cael trafferth rheoli cwsg. Gallai hyn olygu peidio â gallu rheoli pryd wyt ti’n mynd i gysgu neu’n deffro. Gallai fod llawer o resymau dros hyn. Er enghraifft, oherwydd bod dy rieni, gofalwyr neu warcheidwaid wedi gosod rheolau ar gyfer mynd i’r gwely. Gallai dy oriau gwaith, neu oriau gwaith rhywun sy’n byw hefo ti, effeithio ar hyn hefyd.
  • Bod yn ofalwr ifanc. Mae’n bosibl dy fod yn gofalu am berthynas, neu’n helpu gyda brodyr a chwiorydd iau. Gallai hyn olygu dy fod yn gorfod ymdopi â llawer o gyfrifoldebau, neu ddeffro i helpu rhywun arall, felly dwyt ti ddim yn cael cymaint o orffwys ag sydd ei angen arnat ti.
  • Cael profiadau o drawma, fel cam-drin neu drais yn y cartref.
  • Dioddef gwahaniaethu, fel hiliaeth a homoffobia.
  • Bod yn niwrowahanol, fel bod yn awtistig neu gael ADHD. Gallai hyn gynnwys teimlo’n aflonydd yn y nos neu gael llawer o feddyliau sy’n dy gadw’n effro.
  • Newidiadau eraill dros dro i batrymau cwsg. Gallai fod rhesymau crefyddol neu ddiwylliannol dros hyn, fel deffro ar gyfer sehri yn ystod Ramadan. Gall teithio a blinder ar ôl hedfan hefyd amharu ar gwsg.

Os wyt ti'n cymryd meddyginiaeth ac yn meddwl y gallai hyn effeithio ar gwsg, mae'n bwysig siarad â'r meddyg. Os wyt ti’n ystyried rhoi’r gorau i gymryd y feddyginiaeth, mae’n bwysig siarad â’r meddyg yn gyntaf.

Gall newid neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth, heb siarad â’r meddyg, gael sgil-effeithiau peryglus.

I gael rhagor o wybodaeth, cer i dudalen YoungMinds ar feddyginiaeth.

Drwy fod yn awtistig, mae’n cael effaith wirioneddol ar ba mor hawdd i mi ac i’m ffrindiau ydy cael trefn cysgu dda a theimlo’n gyfforddus.

Mathau o broblemau a phrofiadau wrth gysgu

Weithiau gall cael trafferth gyda’n cwsg fod yn rhan o broblem ehangach o ran cwsg.

Mae sawl math o broblemau cysgu y gallet ti glywed amdanynt, neu wedi’u dioddef. Rydyn ni wedi rhoi ychydig o enghreifftiau isod.

Anhunedd (insomnia)

Anhunedd (neu insomnia) yw’r term y mae meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ei ddefnyddio os bydd rhywun yn cael trafferth yn rheolaidd o ran cysgu. Mae’n bosibl dy fod yn dioddef anhunedd os wyt ti’n cael trafferth mynd i gysgu ac aros ynghwsg.

Arswydion a hunllefau yn ystod y nos

Os wyt ti’n cael arswydion yn ystod y nos, mae’n bosibl i ti siarad, gweiddi neu symud wrth gysgu. Mae’n annhebygol y byddi di’n cofio hyn erbyn y bore.

Breuddwydion drwg yw hunllefau, sy’n gwneud i ti ddeffro ar ôl eu cael nhw. Weithiau, mae’n bosibl y byddi di’n cofio dy fod wedi’u cael nhw erbyn y bore.

Parlys cwsg

Os wyt ti’n cael parlys cwsg, mae’n bosibl y byddi di’n teimlo na alli di symud neu siarad wrth ddeffro, neu wrth fynd i gysgu. Gall hyn fod yn frawychus iawn. Mae’n bosibl y byddi di hefyd yn teimlo bod rhywun yn dy ystafell neu fod rhywbeth yn pwyso arnat ti.

Cerdded yn dy gwsg

Mae cerdded yn dy gwsg yn golygu y gallet ti fod yn cerdded neu’n gwneud pethau tra byddi di’n cysgu. Er bod dy lygaid ar agor, mae’n bosibl nad wyt ti’n ymwybodol o’r hyn rwyt ti’n ei wneud, nac yn adnabod pobl eraill.

Mae cerdded yn dy gwsg yn gyffredin, ond gall hefyd fod yn arwydd nad wyt ti’n cael digon o gwsg. Os wyt ti’n teimlo dan straen neu’n bryderus, gallet ti fod yn fwy tebygol o gerdded yn dy gwsg.

Gall llawer o broblemau cysgu a phrofiadau wella gydag amser. Os wyt ti’n teimlo fod hyn yn effeithio ar dy fywyd bob dydd, efallai y byddai’n ddefnyddiol siarad â meddyg.

Ti sy’n penderfynu pryd fyddi di’n siarad â meddyg, ond does dim rhaid i ti aros nes bydd pethau’n mynd yn waeth i ofyn am help.

Sut alla i wella fy nghwsg?

Mae hefyd sawl ffordd y galli di helpu i wella dy gwsg. Mae gennym awgrymiadau a chymorth ar y canlynol:

  • Beth i’w wneud os byddi di’n deffro yn y nos
  • Sut i wella cwsg nawr
  • Sut i wella cwsg yn y tymor hir

Dysgu sut i wella cwsg

Awgrymiadau ar sut i wella cwsg

 

Gallet ti hefyd lawrlwytho a llenwi ein hadnodd ‘What’s disrupting my sleep?’ i edrych ar yr hyn allai fod yn effeithio ar dy gwsg:

Galli di ddefnyddio hwn i ysgrifennu awgrymiadau ar gyfer pethau y gallet ti eu newid. Hyd yn oed os mai dim ond pethau bach y galli di eu newid, maen nhw’n gallu helpu.

Mae’n bosibl nad yw’n glir beth sy’n achosi i ti gael trafferth cysgu ac mae’n debygol o fod yn gyfuniad o bethau. Mae’n bosibl y bydd angen rhoi cynnig ar lawer o bethau i helpu gyda chwsg, neu fynd i’r afael â phethau un ar y tro. Mae’n bosibl y byddi di hefyd am roi cynnig ar ddull cwbl wahanol.

Y gwir yw nad yw 'arferion da o ran cwsg' neu arferion da yn y nos yn gallu datrys problemau cysgu'n llwyr i rai pobl, er bod yr arferion hynny’n sicr yn werth rhoi cynnig arnynt.

Ymhle arall alla i gael cymorth?

Mae beth bynnag rwyt ti’n mynd drwyddo, neu beth bynnag rwyt ti’n teimlo, yn ddilys. Os wyt ti’n meddwl y gallet ti gael problem cysgu, neu os wyt ti’n cael trafferth gyda chwsg ac iechyd meddwl, rwyt ti’n haeddu cael cymorth.

Yn ogystal â rhoi cynnig ar rai o’n hawgrymiadau cysgu, gallet ti siarad â meddyg. Mae’n bosibl y bydd ganddyn nhw awgrymiadau ar bethau a allai helpu. Gallen nhw dy gyfeirio i wasanaethau fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), a allai dy helpu i ymdopi â sut wyt ti’n teimlo. Gallai’r meddyg hefyd dy gyfeirio at glinig cwsg er mwyn helpu i reoli anhwylderau cysgu. Ond gall gymryd dipyn o amser i gael apwyntiad ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Paid â bod ofn cael cymorth i gysgu, mae'n bwysig iawn i dy fywyd.

Meddyginiaeth ar gyfer cwsg

Fel arfer, dydy meddyginiaeth ar gyfer cwsg ddim yn cael ei rhoi i bobl ifanc. Fel arfer, dim ond os nad oes dim arall wedi gweithio, ac os nad wyt ti’n gallu cysgu o gwbl, y bydd meddyginiaeth yn cael ei rhoi.

Gallet ti hefyd gael meddyginiaeth ar bresgripsiwn ar gyfer cwsg os oes gen ti broblem iechyd meddwl neu os wyt ti’n niwrowahanol – er enghraifft, os wyt ti’n awtistig, neu os oes gen ti ADHD. Weithiau, mae meddyginiaeth rwyt ti eisoes yn eu cymryd hefyd yn gallu helpu gyda chwsg.

Os wyt ti'n ystyried rhoi cynnig ar gynnyrch er mwyn helpu i gysgu o fferyllfa neu o rywle tebyg, mae’n well siarad â meddyg yn gyntaf.

Mae angen help arna i yngylch phethau eraill sy'n effeithio ar fy ngwsg

Gweld ein tudalen ar ddod o hyd i gymorth

Mynd at ein restr o gysylltiadau defnyddiol

Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2023
Adolygiad nesaf: Gorffennaf 2026

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig