Hunan-niweidio
Yn egluro hunan-niweidio, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth. Yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.
Beth yw hunan-niweidio?
Mae hunan-niweidio yn golygu eich bod yn brifo eich hun fel ffordd o ddelio gyda theimladau anodd iawn, atgofion poenus neu sefyllfaoedd a phrofiadau sy’n eich llethu. Mae rhai pobl wedi disgrifio hunan-niweidio fel ffordd o:
- fynegi rhywbeth sy’n anodd ei roi mewn geiriau
- troi meddyliau neu deimladau anweledig yn rhywbeth gweladwy
- newid poen emosiynol yn boen gorfforol
- lleihau teimladau neu feddyliau emosiynol sy’n eich llethu
- teimlo eich bod yn cael pethau dan reolaeth
- dianc rhag atgofion trawmatig
- cael rhywbeth mewn bywyd y gallwch chi ddibynnu arno
- cosbi eich hun am eich teimladau a’ch profiadau
- stopio teimlo nad ydych yn gallu dangos unrhyw emosiynau, eich bod wedi colli cysylltiad â phethau neu wedi eich datgysylltu (gweler datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol)
- creu rheswm i ofalu’n gorfforol amdanoch eich hun
- mynegi meddyliau a theimladau hunanladdol heb ladd eich hun.
Ar ôl hunan-niweidio efallai y byddwch yn teimlo rhywfaint o ryddhad yn y tymor byr, ond nid yw achos eich gofid yn debygol o fod wedi mynd i ffwrdd. Gall hunan-niweidio hefyd arwain at emosiynau anodd iawn a gallai wneud i chi deimlo’n waeth.
Er bod rhesymau bob amser y tu ôl i achosion lle mae pobl yn niweidio eu hunain, mae’n bwysig gwybod bod risgiau yn gysylltiedig â hunan-niweidio. Ar ôl i chi ddechrau dibynnu ar hunan-niweidio, gall gymryd amser maith i stopio.
Mae fy nghorff yn rhoi rhybudd bod pethau ddim yn iawn
Doeddwn i ddim yn gwybod am ffordd arall o ymdopi. Doeddwn i ddim yn hoffi fy hun.
Siarad am hunan-niweidio
Gwyliwch Ben, Lechelle, Debbie a Zainab yn siarad am y rhesymau sydd y tu ôl i’w hunan-niweidio, y gwahanol ffyrdd y maen nhw wedi dysgu ymdopi a sut maen nhw’n meddwl y gallai ffrindiau a theulu fod wedi eu cefnogi.
Sut mae pobl yn hunan-niweidio?
Mae llawer o wahanol fathau o hunan-niweidio. Mae rhai pobl yn defnyddio’r un dull bob tro, tra mae pobl eraill yn brifo eu hunain mewn gwahanol ffyrdd ar adegau gwahanol.
Gall y ffyrdd y mae pobl yn hunan-niweidio gynnwys:
- torri eich hun
- gwenwyno eich hun
- gorfwyta neu danfwyta
- gwneud gormod o ymarfer corff
- brathu eich hun
- pigo neu grafu eich croen
- llosgi eich croen
- rhoi gwrthrychau i mewn yn eich corff
- taro eich hun neu daro waliau
- camddefnyddio alcohol, cyffuriau ar bresgripsiwn a chyffuriau hamdden
- tynnu eich gwallt
- cael rhyw anniogel
- gwthio eich hun i sgarmesoedd lle rydych yn gwybod y byddwch yn cael eich brifo.
Os ydych yn hunan-niweidio, mae’n bwysig eich bod yn gwybod sut i ofalu am eich anafiadau a’ch bod yn gallu cael gafael ar y cyfarpar cymorth cyntaf rydych ei angen. Mae gan LifeSIGNS wybodaeth am gymorth cyntaf ar gyfer hunan-anafu a hunan-niwed.
Os ydych yn bryderus ynglŷn ag anaf, neu os nad ydych yn siŵr sut i’w drin, ewch i weld eich meddyg teulu.
Rwy’n credu mai un o’r prif rwystrau oedd yn fy atal rhag cael help oedd cyfaddef wrthyf fi fy hun bod gen i broblem. Ro’n i’n arfer dweud wrthyf fi fy hun, 'Dim ond crafu ydw i, dyw hyn ddim yn hunan-niweidio go iawn.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ym Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.