Hunan-niwedio
Yn egluro hunan-niweidio, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth. Yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.
Beth all ffrindiau a theulu ei wneud i helpu?
Darganfod bod rhywun rydych yn malio amdano yn hunan-niweidio
Os yw rhywun yn dweud wrthych ei fod yn hunan-niweidio, neu os ydych yn amau bod rhywun yn brifo ei hun, gall fod yn anodd gwybod beth i’w ddweud a beth yw’r ffordd orau o ddelio gyda’r sefyllfa.
Efallai y byddwch wedi cael sioc, y byddwch yn teimlo’n flin, yn methu â gwneud dim i helpu, yn teimlo’n gyfrifol neu’n mynd drwy bob math o emosiynau anodd eraill.
- Ceisiwch beidio â chynhyrfu a gorymateb. Bydd y ffordd rydych yn ymateb i’ch ffrind neu aelod o’r teulu yn cael effaith ar ei allu i siarad yn agored gyda chi a phobl eraill am ei hunan-niweidio yn y dyfodol.
- Cofiwch mai hunan-niweidio fel arfer yw ffordd rhywun o reoli teimladau neu brofiadau anodd iawn. Yn y rhan fwyaf o achosion mae’n wahanol i deimladau hunanladdol.
Beth sy’n helpu?
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i wneud gwahaniaeth i rywun rydych yn gwybod ei fod yn hunan-niweidio. Mae eich agwedd chi a sut rydych yn ymateb i’r unigolyn yn un o’r prif bethau a all ei helpu i deimlo ei fod yn cael cefnogaeth. Dyma rai pethau i chi eu cadw mewn cof:
- Ceisiwch beidio â barnu’r unigolyn.
- Gadewch i’r unigolyn wybod eich bod chi yno iddo/iddi.
- Ceisiwch ddod i ddeall y person cyfan, nid yr hunan-niwed yn unig.
- Ceisiwch ddangos empathi a dealltwriaeth o’r hyn y mae’r unigolyn yn ei wneud.
- Gadewch i’r unigolyn reoli ei benderfyniadau.
- Cynigiwch helpu’r unigolyn i ddod o hyd i gefnogaeth (gweler cysylltiadau defnyddiol).
- Atgoffwch yr unigolyn o’i rinweddau cadarnhaol a phethau y mae’n eu gwneud yn dda.
- Ceisiwch gael sgwrs onest, lle rydych yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ofnau sydd gennych.
Roedd cael ffrindiau y gallwn i eu ffonio i siarad am bethau sy’n digwydd o ddydd i ddydd yn gyfle i mi gael seibiant oddi wrth yr anobaith.
Beth sydd ddim yn helpu?
Weithiau, hyd yn oed â’r ewyllys gorau yn y byd, gall ymdrechion i gefnogi rhywun gael effeithiau nad oeddech wedi eu bwriadu. Dyma rai peryglon posibl i gadw llygad amdanynt:
- Ceisio gorfodi newid.
- Gweithredu neu gyfathrebu mewn ffordd sy’n bygwth cymryd yr awenau oddi wrth yr unigolyn.
- Naill ai anwybyddu anafiadau’r unigolyn neu ganolbwyntio gormod arnyn nhw.
- Labelu hunan-niweidio fel 'chwilio am sylw'.
Weithiau, ond nid bob amser, hunan-niweidio yw ffordd yr unigolyn o ofyn am sylw. Os hynny, mae’n bwysig cofio nad oes dim byd o’i le â bod eisiau sylw, ac y gall gofid dwfn amharu ar allu rhywun i ddweud yn uniongyrchol beth mae ei angen.
Gofalu amdanoch eich hun
Gall cefnogi rhywun sy’n hunan-niweidio fod yn broses hir. Bydd pethau’n mynd yn dda weithiau ac efallai’n dirywio wedyn. Bydd gofalu amdanoch eich hun yn eich galluogi i ymwneud â’r unigolyn am fwy o amser ac i gadw’n iawn eich hun. Gweler Sut i ymdopi pan fyddwch yn cefnogi rhywun arall i gael mwy o wybodaeth.
Dyma rai pethau defnyddiol i’w gwneud:
- cael ffiniau clir ynglŷn â faint o gymorth y gallwch ei gynnig a pha fath o gymorth fydd hwnnw
- darganfod pa gefnogaeth arall sydd ar gael
- cael cefnogaeth a gwybodaeth i chi eich hun – mae Young Minds yn cynnig cefnogaeth i rieni, ac mae Sane a Self-injury Support yn rhedeg gwasanaethau cefnogi i bobl sy’n bryderus am iechyd meddwl rhywun arall
- efallai y byddech yn hoffi rhoi cynnig ar driniaeth siarad os ydych yn gweld pethau’n anodd.
Cynorthwyo pobl i gadw’n ddiogel
Mae’n gyffredin i rywun ofni’r posibilrwydd y bydd rhywun yn brifo ei hun yn ddifrifol neu hyd yn oed yn lladd ei hun. Er bod yr ofnau hyn yn gwbl ddealladwy, mae’n werth cofio nad yw hunan-niweidio o reidrwydd yn golygu bod rhywun eisiau lladd ei hun.
Ro’n i’n hunan-niweidio am lawer o resymau, ac er bod hynny’n beryglus iawn, rwy’n meddwl ei fod wedi achub fy mywyd i yn y pen draw. Oni bai mod i’n defnyddio hunan-niweidio fel ffordd o ymdopi, mae’n debyg y byddwn i wedi lladd fy hun.
Er hyn, mae nifer fach o bobl sydd yn mynd ymlaen i ladd eu hunain, un ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol. Mae’n bwysig felly cael sgwrs onest gyda’ch ffrind neu aelod o’r teulu am gadw’n ddiogel – er enghraifft, bod yn ymwybodol o’r adegau pan mae pethau’n mynd yn rhy anodd a gwybod pryd i ofyn am help. Edrychwch ar ein tudalennau am ymdopi â theimladau hunanladdol a gwefan y Samariaid i gael mwy o wybodaeth.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ym Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.