Hunan-niweidio
Yn egluro hunan-niweidio, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth. Yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu
Os yw eich teimladau wedi codi cywilydd arnoch, neu os ydych wedi dysgu eu cau i lawr am unrhyw reswm arall, mae dechrau eu hwynebu unwaith eto yn gam dewr iawn. Gall caniatáu i’ch hun brofi emosiynau anodd eto fod yn brofiad dychrynllyd, ac mae’n bwysig symud yn araf iawn. Efallai y gallech gynnwys dulliau fel ymwybyddiaeth ofalgar neu gadw dyddiadur i’ch cefnogi a sicrhau nad yw pethau’n cael y gorau arnoch.
- Rhowch gynnig ar rai o’r dulliau, llyfrau a thaflenni gwaith ar-lein er mwyn deall emosiynau (mae Self-injury Support cynnwys adnoddau er mwyn delio gyda theimladau).
- Gweithiwch gyda therapydd rydych yn ei drystio, er mwyn cael profiad cadarnhaol o weld bod rhywun yn derbyn ac yn cydnabod eich teimladau (edrychwch ar ein tudalennau am therapïau siarad a chwnsela).
- Rhowch gynnig ar y dechneg ymwybyddiaeth ofalgar o sylwi ar deimladau a’u henwi wrth ichi ddod yn ymwybodol ohonynt.
Fe wnes i allu dechrau sianelu fy nheimladau tuag at greadigrwydd. Rhoddodd hyn gyfle i mi adeiladu gwell perthynas gyda fi fy hun, ac ro’n i’n gallu gwneud rhywbeth gyda fy nwylo pan o’n i’n teimlo’n ddrwg iawn nes bod yr awydd i hunan-niweidio wedi lleihau.
Mae dysgu gwerthfawrogi eich hun a gweld eich hun mewn ffordd gadarnhaol yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch profiad mewn bywyd.
- Dechreuwch ymarfer siarad a meddwl yn fwy caredig amdanoch eich hun, fel y byddech yn siarad am rywun rydych yn ei hoffi.
- Newidiwch yr awydd meddyliol ailadroddus i frifo eich hun am feddyliau sydd wedi’u grymuso – er enghraifft, 'Er mod i’n teimlo fel brifo fy hun, rydw i’n mynd i ganfod ffordd arall o ddweud pa mor boenus rydw i’n teimlo.'
- Ysgrifennwch yn rheolaidd dri peth rydych yn eu gwerthfawrogi amdanoch eich hun, hyd yn oed os ydynt yn bethau bach iawn.
- Dysgwch fod yn bendant drwy fynegi ffiniau ar gyfer beth sy’n teimlo’n iawn a beth sydd ddim yn teimlo’n iawn i chi yn eich bywyd.
- Ceisiwch reoli eich penderfyniadau. Atgoffwch eich hun bod gennych gyfrifoldeb dros y dewisiadau rydych yn eu gwneud mewn bywyd, a dewiswch bethau sy’n teimlo’n gefnogol ac yn fuddiol i chi.
Edrychwch ar Sut i wella eich hunan-dyb i gael mwy o awgrymiadau.
Gall rhoi’r gorau i hunan-niweidio deimlo fel penderfyniad mawr iawn sy’n cymryd amser i’w wneud. Gall dealltwriaeth fanylach o’ch perthynas â hunan-niweidio fod yn fuddiol iawn, a’ch helpu i gymryd camau er mwyn cefnogi’r broses. Os ydych yn deall pam rydych yn brifo eich hun, a sut rydych wedi bod yn defnyddio hunan-niweidio, bydd mwy o siawns y gallwch wneud newidiadau a rhoi dewisiadau eraill effeithiol ar waith.
Gall y cwestiynau a ganlyn eich helpu i ddechrau’r broses o ddeall eich hunan-niweidio:
- Sut ydych chi’n teimlo cyn ac ar ôl i chi frifo eich hun?
- Pam y gwnaethoch chi ddechrau brifo eich hun?
- Beth mae hunan-niweidio yn ei roi i chi nawr?
- Beth yw’r sefyllfaoedd lle rydych yn fwyaf tebygol o fod eisiau brifo eich hun?
- Beth yw eich ofnau am fyw heb hunan-niwed?
- Beth fyddech chi’n ei golli am hunan-niweidio?
- Beth arall fyddai’n werth ei ddeall am eich hunan-niweidio?
"Rwy’n credu mai’r ffordd orau o stopio hunan-niweidio yw canolbwyntio ar y ffactorau sylfaenol sy’n eich sbarduno chi i hunan-niweidio. Os ydych chi’n gweithio ar y materion hyn, yna bydd yr hunan-niweidio’n stopio’n naturiol."
I gael mwy o ganllawiau er mwyn helpu’ch hun i stopio hunan-niweidio edrychwch ar adnoddau gwybodaeth Self-injury Support, gwybodaeth LifeSIGNS am ddewisiadau eraill a chanllaw Harmless ar gyfer gweithio drwy hunan-niweidio.
Gall gofalu am eich iechyd a’ch lles ar bob lefel eich helpu i deimlo’n llawer gwell amdanoch eich hun. Pa bynnag gamau rydych yn dewis eu cymryd, mae’n bwysig bod yn garedig gyda chi eich hun. Dyma rai awgrymiadau y gwyddom eu bod yn gallu helpu:
- Gall gwneud gweithgarwch corfforol rheolaidd wella eich hwyliau a lleihau straen.
- Gall bwyta prydau rheolaidd, a digon o ffrwythau a llysiau ffres, hefyd eich helpu i deimlo’n well (gweler bwyd a hwyliau).
- Mae gwneud yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg yn eich helpu i deimlo’n well ac yn fwy abl i ymdopi (gweler problemau cysgu).
- Gall gwneud rhywbeth creadigol eich helpu i fynegi eich teimladau. Er enghraifft, ysgrifennu cân, stori neu flog, peintio, tynnu llun neu ddefnyddio clai.
- Mae treulio amser yn gwneud pethau rydych yn mwynhau eu gwneud, er enghraifft gweld ffrindiau neu fynd am dro, yn bwysig hefyd. Ceisiwch wneud amser i wneud hyn bob wythnos, dim bwys beth arall sy’n digwydd.
Gall estyn allan deimlo’n anodd, yn enwedig os ydych yn poeni y bydd pobl yn eich barnu neu os ydych yn credu na fydd pobl eraill eisiau eich helpu. Atgoffwch eich hun bod ar bawb angen cefnogaeth ar wahanol adegau, a’i bod hi’n iawn i chi ofyn am help.
Pan fyddwch yn barod i estyn allan, dewiswch rywun rydych yn ei drystio i siarad am sut rydych yn teimlo. Gallai’r person hwn fod yn ffrind, aelod o’r teulu, cwnselydd neu weithiwr iechyd proffesiynol (gweler yr adran triniaeth a chefnogaeth am fwy o wybodaeth). Cofiwch mai chi sy’n rheoli beth rydych yn ei ddweud, a does dim rhaid i chi ddweud unrhyw beth nad ydych yn barod eto i’w rannu.
Efallai hefyd y byddai’n fuddiol i chi ysgrifennu rhestr o’r holl bobl, sefydliadau a gwefannau y gallwch fynd atynt i gael help pan fydd pethau’n anodd. Bydd hyn yn eich atgoffa nad ydych ar eich pen eich hun, a ble gallwch gael help. Gweler cysylltiadau defnyddiol am awgrymiadau.
Fe wnaeth cael therapydd a fyddai byth yn barnu, ac a oedd yn gyson ac yn dawel drwy’r adeg, wahaniaeth mawr o ran fy ngalluogi i fod yn agored.
Does yna ddim ateb hawdd a sydyn i broblem hunan-niweidio, a gall gwneud newidiadau gymryd amser a golygu cyfnodau anodd. Mae’n gyffredin i bobl wneud rhywfaint o gynnydd a mynd yn ôl wedyn at yr hen ymddygiadau. Os bydd hyn yn digwydd i chi, atgoffwch eich hun nad methu rydych chi – mae’r cyfan yn rhan o’r broses.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ym Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.