Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gwybodaeth iechyd meddwl Gymraeg

Pan ydych chi'n byw gyda phroblem iechyd meddwl, neu'n cefnogi rhywun sydd, mae'n hanfodol i gael mynediad at y wybodaeth gywir. Dewiswch un o'r opsiynau isod i ddarganfod mwy. Mae gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc ar gael yma.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn methu â chadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.

Gofynnwch am gyngor brys

Coronafeirws ac iechyd meddwl

Mae'n bosib eich bod yn poeni am y coronafeirws (COVID-19) a sut y gall effeithio ar eich bywyd. Gall hyn fod yn anodd a gall achosi straen. Gall y dolenni cyswllt canlynol fod o gymorth:

Eich Straeon

Gall blogiau a straeon ddangos bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu deall, ac ein bod yn gwrando arnyn nhw. Gallwn eu defnyddio i herio'r arferol a newid agweddau.

Anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD)

Mae'n esbonio beth yw PMDD, gan gynnwys achosion posibl, symptomau a sut i gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau hunanofal ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)

Mae'r adran hon yn egluro anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), sydd hefyd yn cael ei alw'n anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog (EUPD), ac yn nodi'r achosion posib a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

Mae'n egluro beth yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Anhwylderau personoliaeth

Mae'r adran hon yn egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys beth allai achosi hynny a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Arian ac iechyd meddwl

Awgrymiadau ymarferol ar reoli eich arian a gwella eich iechyd meddwl.

Cefnogi eich hun wrth ofalu am rywun

Dysgwch sut i reoli eich lles eich hun wrth ofalu am rywun arall. Cewch wybodaeth ac awgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl a dod o hyd i gymorth.

Eurinllys Trydwll (St John's wort)

Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw Eurinllys Trydwll (St John's wort), am beth y mae’n cael ei ddefnyddio a pha sgil-effeithiau y gallech eu cael. Mae hefyd yn egluro pryd y dylech osgoi cymryd Eurinllys Trydwll ac ym mhle y gallwch chi ddysgu rhagor.

Gorbryder a phyliau o banig

Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc

Os ydych chi'n profi amser anodd neu'n brwydro gyda sut rydych chi'n teimlo, mae'n gallu bod yn ofidus. Rydyn ni yma i helpu chi ddeall dydych chi ddim ar ben eich hunan ac i helpu chi ffeindio'r gefnogaeth rydych chi'n haeddu.

Hunan-niweidio

Yn egluro hunan-niweidio, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth. Yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Iselder

Gwybodaeth am iselder, ei symptomau a'r rhesymau posib dros hynny, a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynghylch sut i ofalu amdanoch eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Meddwlgarwch

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am feddwlgarwch, sut i’w ymarfer a sut y gall helpu â phroblemau iechyd meddwl.

Paranoia

Yn egluro paranoia, gan gynnwys achosion posibl a sut i gael triniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Problemau bwyta

Mae'n egluro beth yw problemau bwyta, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Problemau cysgu

Yn egluro cwsg ac iechyd meddwl, gan roi awgrymiadau ymarferol a gwybodaeth ynglŷn â ble i gael cymorth.

Profedigaeth

Yn darparu gwybodaeth am brofedigaeth, lle i fynd am gymorth, ac awgrymiadau ar gyfer eich helpu chi eich hun ac eraill drwy alar.

Straen

​Yn esbonio beth yw straen, beth allai ei achosi a sut y gall effeithio arnoch chi. Yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu eich hun a sut i gael cymorth.

Teimladau hunanladdol

Yn egluro beth yw teimladau hunanladdol, a beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n teimlo fel lladd eich hun. Mae hefyd yn trafod achosion, triniaethau ac opsiynau cymorth ar gyfer teimladau hunanladdol.

Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)

Mae’r dudalen hon yn esbonio beth yw CBT, yr hyn mae’n ei drin a sut i ddod o hyd i therapydd. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ynghylch sut i roi cynnig ar CBT ar eich pen eich hun.

Trawma

Mae'r adran hon yn egluro beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl, a hefyd sut y gallwch eich helpu'ch hun, pa driniaethau sydd ar gael a sut i oresgyn rhwystrau er mwyn cael y cymorth priodol. Mae hefyd yn cynnwys cyngor i bobl sydd am helpu rhywun sydd wedi profi trawma.

Unigrwydd

Mae'r adran hon yn egluro unigrwydd, gan gynnwys beth sy'n achosi unigrwydd a sut mae hynny'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n rhoi awgrymiadau ymarferol i helpu i reoli teimladau o unigrwydd, a lle arall gallwch chi fynd i gael cymorth.

I bobl ifanc

Os ydych chi'n berson ifanc, mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi. Mae'n gallu'ch helpu i ddeall eich teimladau a dod o hyd i gefnogaeth.

 

arrow_upwardYn ôl i'r brig