Bwyd ac iechyd meddwl
Mae rhai astudiaethau'n awgrymu bod yr hyn rydyn ni'n ei fwyta a'i yfed yn gallu effeithio ar sut rydyn ni'n teimlo. Ond gall fod yn anodd gwybod beth i'w fwyta, yn enwedig pan all bwydydd iachach fod yn ddrutach. A gall fod yn anodd meddwl am ein diet pan rydyn ni'n cael trafferth gyda'n lles meddyliol.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu'r canlynol:
Sut gall bwyd a diod effeithio ar sut rydw i'n teimlo?
Rydyn ni i gyd yn ymateb yn wahanol i'r pethau yn ein diet. Ond mae rhai bwydydd a diodydd yn gallu effeithio ar sut rydym yn teimlo, mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r adran hon yn sôn am fwyd a diod a allai effeithio ar sut rydych chi’n teimlo, ac mae rhai syniadau yma ar sut i reoli hyn.
Gall yr awgrymiadau hyn helpu rhai ohonom i feddwl am beth i'w fwyta a'i yfed. Ond canllawiau yn unig ydyn nhw. Efallai y bydd rhai ohonom yn eu gweld yn llai defnyddiol neu'n amhosibl, yn enwedig pan fyddwn ni’n teimlo'n sâl – ac mae hynny'n iawn.
Mae gan ein hadran sut i reoli eich diet pan fyddwch chi'n teimlo'n sâl rai awgrymiadau a allai helpu hefyd.
Lefelau siwgr yn y gwaed
Os yw eich siwgr gwaed yn is nag arfer, efallai y byddwch yn teimlo'n flinedig, yn bigog neu'n isel eich ysbryd. Gall bwyta'n rheolaidd, a bwyta bwydydd sy'n rhyddhau egni'n araf, helpu i gadw'ch lefelau siwgr yn gyson.
Efallai y bydd gwahanol bobl yn cael gwahanol ymatebion i'r un bwydydd. Ond yn gyffredinol, mae bwydydd sy'n rhyddhau egni'n arafach yn cynnwys:
- Bara grawn cyflawn a grawnfwyd
- Cnau a hadau
- Pasta brown
- Reis brown
Mae hyn o gymharu â bwydydd fel bara gwyn, creision, pasta gwyn a reis gwyn, sy'n rhyddhau egni'n llai araf.
Os oes gennych ddiabetes, siaradwch â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall cyn gwneud unrhyw newidiadau i'ch diet a allai effeithio ar lefelau siwgr yn eich gwaed. Mae gan Diabetes UK ragor o wybodaeth am y cysylltiad rhwng diabetes ac iechyd meddwl.
Yfed hylifau
Os ydych chi'n byw gyda phroblem iechyd meddwl, efallai na fydd gennych yr egni na'r cymhelliant i yfed llawer o hylif. Ond os na fyddwch yn yfed digon o hylif, gall hyn ei gwneud hi'n anoddach canolbwyntio neu feddwl yn glir.
Gall dŵr, te, coffi, sudd a smwddis i gyd eich helpu i gael digon o hylif. Ond gall rhai o'r rhain hefyd gynnwys caffein neu siwgr, a allai effeithio ar sut rydych chi'n teimlo am wahanol resymau.
Gall fod o gymorth i geisio cadw cofnod o faint o hylif rydych yn ei yfed. Gallech geisio ei ysgrifennu i lawr neu ddefnyddio nodyn atgoffa ar eich ffôn.
Ffrwythau a llysiau
Gall bwyta gwahanol ffrwythau a llysiau ychwanegu ystod dda o faetholion at eich diet. Mae'r maetholion hyn yn helpu i'n cadw ni'n iach yn feddyliol ac yn gorfforol.
Weithiau gall ffrwythau a llysiau ffres fod yn ddrud ac yn fwy anodd eu paratoi. Mae ffrwythau a llysiau wedi'u rhewi, mewn tun, wedi'u sychu a sudd ffrwythau a llysiau i gyd yn cyfrif tuag at eich 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd hefyd, os ydych chi eisiau dewis rhatach neu haws.
Darllenwch dudalen y GIG ar gael eich 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd i ddod o hyd i ragor o wybodaeth a syniadau.
Protein
Gall dietau uwch mewn protein gefnogi eich iechyd meddwl. Mae protein yn cynnwys cemegau o'r enw asidau amino, y mae eu hangen ar eich ymennydd i gynhyrchu cemegau o'r enw niwrodrawsyryddion. Mae'r rhain yn helpu i reoli eich meddyliau a'ch teimladau.
Gallwch ddod o hyd i brotein mewn bwydydd fel:
- Codlysiau (pys, ffa a chorbys)
- Cnau a hadau
- Llaeth
- Pysgod
- Wyau
- Caws
- Cig heb lawer o fraster
- Cynhyrchion soia
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cael digon o brotein yn eich diet, gallech chi geisio ychwanegu rhywfaint o gaws wedi'i gratio at bryd o fwyd, neu gael gwydraid o laeth. Neu gallech chi fwyta pecyn o gnau neu hadau.
Caffein
Mae caffein mewn te, coffi, siocled, cola a diodydd egni eraill. Mae'n symbylydd. Mae hyn yn golygu y gall roi hwb cyflym o egni i chi. Ond gallai hefyd gael yr effaith canlynol:
- Gwneud i chi deimlo'n bryderus ac yn isel eich ysbryd
- Tarfu ar eich cwsg, yn enwedig os ydych yn ei gael ychydig cyn mynd i'r gwely
- Rhoi symptomau diddyfnu i chi fel teimlo'n bigog neu'n isel eich ysbryd, os byddwch chi'n rhoi'r gorau iddo’n sydyn
Os ydych chi'n meddwl bod caffein yn effeithio ar eich hwyliau, gallech geisio lleihau'n araf faint o gaffein rydych chi’n ei gael. Er enghraifft, gallech newid rhwng cael diod â chaffein a fersiwn heb gaffein.
Brasterau iach
Mae angen asidau brasterog penodol ar eich ymennydd, fel omega-3 ac omega-6, i'w gadw i weithio'n dda. Gallwch ddod o hyd i'r brasterau iach hyn mewn:
- Cnau a hadau
- Afocados
- Pysgod olewog, fel sardinau a macrell (mae'r rhain yn aml yn rhatach os prynwch nhw mewn tun)
Gwyddom y gall rhai o'r brasterau iachach hyn fod yn ddrutach, ac y gall fod yn heriol bwyta'n dda pan fyddwch chi'n teimlo'n isel. Felly os nad yw'r newidiadau hyn yn teimlo'n bosibl ar hyn o bryd, mae hynny'n iawn.
Bwydydd ar gyfer iechyd perfedd da
Weithiau gall eich perfedd adlewyrchu eich hwyliau. Os ydych chi dan straen neu'n orbryderus gall hyn wneud i'ch perfedd arafu neu gyflymu. Gall hyn arwain at broblemau gyda threuliad, megis teimlo'n chwyddedig neu'n rhwym. Neu efallai nad ydych yn teimlo cymaint o awch bwyd ag arfer.
Os ydych chi'n teimlo dan straen ac yn meddwl ei fod yn effeithio ar eich perfedd, gallech chi roi cynnig ar rai technegau ymlacio neu ymarferion anadlu.
Gallwch hefyd geisio bwyta mwy o fwydydd sy'n cefnogi treuliad iach. Er enghraifft, ffrwythau, llysiau a grawn cyflawn. Neu gorbys, fel ffa tun neu sych, pys a chorbys. Mae profiotigau, fel iogwrt byw, tempeh a kimchi, hefyd yn dda i iechyd y perfedd.
Alcohol
Gall yfed gormod o alcohol amharu ar gemegau yn yr ymennydd sy'n bwysig ar gyfer iechyd meddwl da.
Efallai y bydd rhai ohonom â phroblemau iechyd meddwl yn dibynnu ar alcohol i helpu i ymdopi â theimladau yr ydym yn cael trafferth delio â nhw mewn ffyrdd eraill. Os ydych chi'n defnyddio alcohol yn y modd hwn, efallai eich bod chi'n profi dibyniaeth. Ewch i’n tudalennau caethiwed i alcohol a chyffuriau hamdden i ddod o hyd i gefnogaeth.
Anoddefiadau bwyd ac alergeddau
Os oes gennych anoddefiad bwyd neu alergedd, gallai hyn effeithio arnoch yn gorfforol ac yn feddyliol. Er enghraifft, gall hyn fod yn anoddefiad neu alergedd i wenith, llaeth neu furum.
Os ydych chi'n poeni am hyn, gallech chi siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol fel dietegydd. Ewch i wefan y GIG i ganfod mwy am anoddefiadau bwyd ac alergeddau bwyd. Mae Alergedd y DU hefyd yn cynnig cyngor a chymorth i bobl y mae alergeddau yn effeithio arnynt.
Sut gall meddyginiaeth a bwyd ryngweithio?
Gall rhai bwydydd fod yn beryglus i'w bwyta os ydych chi'n cymryd rhai meddyginiaethau. Gallant atal meddyginiaeth rhag gweithio cystal ag y dylai, neu achosi sgil-effeithiau.
Efallai y bydd angen i chi hefyd gymryd rhai meddyginiaethau cyn neu ar ôl i chi fwyta neu yfed. Gall eraill gynyddu neu leihau eich archwaeth.
Cyn rhagnodi unrhyw feddyginiaeth i chi, dylai eich meddyg egluro unrhyw risgiau neu sgil-effeithiau posibl. Mae hyn i'ch helpu i benderfynu a ydych am ei gymryd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eich meddyginiaeth yn y Daflen Gwybodaeth i Gleifion sydd yn y blwch. Gallwch lawrlwytho taflenni gwybodaeth i gleifion ar gyfer llawer o gyffuriau iechyd meddwl o'n rhestr A-Z o feddyginiaeth seiciatrig.
Os ydych chi'n ansicr neu'n poeni am ba fwydydd a diodydd i'w hosgoi gyda'ch meddyginiaeth, gallwch siarad â'ch meddyg teulu neu fferyllfa leol.
Ysgrifennwch sut mae bwyd yn gwneud i chi deimlo
Os ydych chi'n teimlo y gallwch chi, ysgrifennwch yr hyn rydych chi'n ei fwyta a gwnewch nodiadau am sut rydych chi'n teimlo. Dros amser efallai y byddwch chi'n gweithio allan sut y gall rhai bwydydd effeithio arnoch:
- Gwneud i chi deimlo'n waeth, neu'n well
- Eich cadw’n effro neu roi mwy o egni i chi
- Effeithio ar eich cwsg
Cynlluniwch ymlaen
Pan fyddwch chi'n teimlo'n dda ac mae gennych chi fwy o egni, gall helpu i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer adegau pan nad ydych chi'n teimlo'n dda. Dyma rai syniadau:
- Ceisiwch wneud rhai prydau ychwanegol i'w storio. Gallech chi wneud digon i bara am sawl diwrnod a'u rhewi mewn dognau i gynhesu ar adegau pan nad ydych chi'n teimlo fel coginio.
- Ysgrifennwch restr o brydau hawdd, fforddiadwy i'w gwneud pan nad ydych chi'n teimlo'n dda. Gallai hyn gynnwys prydau fel ffa ar dost neu datws trwy'u crwyn.
- Stociwch rai o'r prif gynhwysion, os gallwch chi. Gallai hyn gynnwys pethau rhatach hir oes neu mewn tun. Neu gallech chi brynu pethau y gallwch chi eu rhewi i'w defnyddio yn nes ymlaen. Bydd y bwydydd hyn yn para'n hirach a gallent arbed arian i chi.
- Trefnu i siopa bwyd gael ei gludo i'ch cartref. Gall hyn arbed amser, ond gall hefyd fod yn ddefnyddiol os nad ydych chi'n teimlo'n barod i adael y tŷ neu fod mewn archfarchnad.
Ceisiwch dderbyn cymorth gan eraill
Pan nad ydym yn teimlo'n dda, efallai y byddwn weithiau'n cael cynnig help gan bobl eraill yn ein bywydau.
Os ydych chi'n cael trafferth a bod rhywun yn cynnig help i chi, gallech chi awgrymu:
- Eu bod nhw'n helpu gyda phethau ymarferol, fel siopa neu archebu bwyd
- Eich bod chi'n cynllunio, coginio a bwyta pryd o fwyd gyda'ch gilydd, i wneud i'r broses deimlo'n llai brawychus
Ceisiwch wneud y broses o baratoi bwyd yn haws
Gall gymryd llawer o egni i baratoi bwyd neu i lanhau wedyn. Gall hyn deimlo'n arbennig o anodd pan fyddwch chi'n teimlo'n sâl. Gallai'r awgrymiadau hyn helpu i’r broses hon deimlo'n haws:
- Golchwch y llestri wrth fynd yn eich blaen. Ceisiwch olchi llestri fesul tipyn wrth i chi baratoi bwyd. Gallai hyn eich helpu i beidio â theimlo wedi’ch llethu gan faint o lestri sydd i’w golchi ar ôl i chi orffen paratoi eich pryd. Os ydych chi'n cael trafferth golchi llestri ac mae'n eich atal rhag bwyta'r hyn sydd ei angen arnoch chi, efallai y byddai'n ddefnyddiol ceisio defnyddio platiau untro a thywelion cegin am gyfnod byr.
- Rinsiwch y llestri cyn eu golchi. Gall hyn atal bwyd rhag glynu atynt a'u gwneud yn haws i'w golchi.
- Coginiwch y bwyd mewn un pot neu ddysgl. Mae gan rai gwefannau ryseitiau neu lyfrau ryseitiau un pot neu un tun. Mae'r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer lleihau faint o offer sydd angen i chi ei ddefnyddio a'i lanhau.
- Ceisiwch ddefnyddio ffrwythau a llysiau wedi'u torri ymlaen llaw neu wedi'u rhewi. Gall hyn leihau faint o fwyd y mae'n rhaid i chi ei baratoi. Mae ffrwythau a llysiau wedi'u rhewi hefyd yn aml yn rhatach na fersiynau ffres.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.