Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Arian ac iechyd meddwl

Gall iechyd meddwl gwael wneud ennill a rheoli arian yn fwy anodd. A gall poeni am arian wneud eich iechyd meddwl yn waeth. Gall ddechrau teimlo fel cylch dieflig. Yma, gallwch chi ddysgu mwy am drefnu eich arian, hawlio budd-daliadau pan fydd gennych broblem iechyd meddwl, delio â gwasanaethau, a gofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch chi'n poeni am arian.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Y cysylltiad rhwng arian ac iechyd meddwl

Gall pryderon am arian gael effaith ar eich iechyd meddwl. A gall eich iechyd meddwl effeithio ar y ffordd rydych chi'n rheoli eich arian. Dysgwch fwy am sut mae'r ddau yn effeithio ar ei gilydd, a darllenwch awgrymiadau ar gyfer dod i adnabod eich patrymau arian a phatrymau eich hwyliau.

Arian ac iechyd meddwl

Trefnu eich arian

Dysgwch sut i reoli eich arian pan fyddwch chi'n sâl, gan gynnwys beth i'w wneud os na allwch chi fforddio biliau neu fwyd, a sut i gynllunio ymlaen llaw.

Awgrymiadau ar gyfer rheoli eich arian

Hawlio budd-daliadau

Mae'n bosibl y gallwch hawlio budd-daliadau os oes gennych broblem iechyd meddwl. Dysgwch beth y gallech ei hawlio, a'r camau sydd angen eu cymryd er mwyn hawlio.

Dysgwch am hawlio budd-daliadau

Delio â gwasanaethau

Dysgwch sut i ddweud wrth wasanaethau fod gennych broblem iechyd meddwl, a darllenwch awgrymiadau ar gyfer rheoli galwadau ffôn, apwyntiadau ac agor llythyrau.

Awgrymiadau ar gyfer siarad â gwasanaethau

Cael cymorth

Gall siarad am broblemau ariannol fod yn anodd. Ond os bydd angen cyngor proffesiynol ynghylch arian arnoch, neu gymorth gyda'ch iechyd meddwl, mae help ar gael.

Dysgwch ble i gael cymorth

Pan fydda i'n sylwi fy mod yn dechrau cael problemau dyled, mae fy iechyd meddwl yn gwaethygu, sy'n golygu fy mod i'n fwy tebygol o wario a gwneud problemau dyled yn waeth. Mae fel cylch dieflig.

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Awst 2021. Byddwn ni'n ei hadolygu yn 2024.

arrow_upwardYn ôl i'r brig