Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Delio â gwasanaethau

Gwybodaeth am ddweud wrth wasanaethau bod gennych chi broblem iechyd meddwl, beth i'w wneud os byddwch chi'n cael eich trin yn annheg, a rheoli gorbryder am alwadau ffôn, biliau ac apwyntiadau.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae'n rhaid i bob un ohonom ni ddelio â gwasanaethau gwahanol – boed yn fanc, yn ddarparwr ynni, neu'n gwmni ffôn.

Efallai y byddwch chi'n penderfynu dweud wrth y gwasanaeth rydych chi'n delio ag ef fod gennych broblem iechyd meddwl. Eich dewis chi yw hyn, ac mae'n bwysig meddwl yn ofalus am y penderfyniad. Os byddwch chi'n dweud wrth y gwasanaeth, efallai y bydd yn helpu'r staff i ddeall eich sefyllfa yn well a rhoi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch. Ond efallai y byddwch chi hefyd yn poeni am y ffordd y byddwch chi'n cael eich trin.

Mae awgrymiadau ar y dudalen hon i'ch helpu i ddechrau arni.

Dweud wrth wasanaeth am eich problem iechyd meddwl

Os byddwch chi'n penderfynu dweud wrth wasanaeth fod gennych chi broblem iechyd meddwl, mae rhai pethau y dylech chi eu hystyried:

  • Meddyliwch am faint rydych chi am i'r gwasanaeth ei wybod. Does dim rhaid i chi ddweud popeth. Efallai eich bod am i'r gwasanaeth wybod sut mae eich iechyd meddwl yn effeithio ar eich gallu i dalu biliau, agor llythyrau neu siarad ar y ffôn.
  • Mae gan rai gwasanaethau dîm neu aelod o staff arbenigol sy'n delio â chwsmeriaid sy'n agored i niwed. Gofynnwch am gael siarad â'r bobl hyn. Edrychwch ar wefan y gwasanaeth - efallai fod gwybodaeth i gwsmeriaid sy'n agored i niwed.
  • Esboniwch pam eich bod yn rhannu'r wybodaeth hon, ac ar gyfer beth yr hoffech i'r gwasanaeth ei defnyddio. Er enghraifft, os hoffech i'r staff ddweud wrthych am gyfyngiadau y gallant eu rhoi ar eich cyfrif banc.
  • Gallech chi gael Ffurflen Dystiolaeth Dyled ac Iechyd Meddwl (DMHEF) gan eich meddyg teulu. Mae hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod cwmnïau dyled yn ystyried eich problemau iechyd meddwl.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod eich hawliau. Mae cyfreithiau ar waith i wneud yn siŵr bod eich gwybodaeth bersonol wedi'i diogelu, gan gynnwys gwybodaeth am broblem iechyd meddwl. Hefyd, mae cyfreithiau i wneud yn siŵr bod gwasanaethau yn eich cefnogi os oes gennych broblem iechyd meddwl. Mae gan Rethink Mental Illness wybodaeth am sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei diogelu.

Darllenwch ein gwybodaeth am yr addasiadau y mae'n rhaid i wasanaethau eu gwneud os bydd gennych broblem iechyd meddwl.

Rhywbeth sy'n achosi llawer o straen i mi yw gorfod delio â chwmnïau mawr sy'n gwneud camgymeriadau gyda'r biliau.

Rheoli straen a gorbryder am filiau, llythyrau, apwyntiadau a galwadau ffôn

Efallai y byddwch chi'n mynd yn bryderus neu'n teimlo dan straen am wneud galwadau ffôn, delio â biliau eu fynd i apwyntiadau. Mae hyn yn ddealladwy. Ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud a allai wneud y rhain yn haws.

Delio â biliau neu lythyrau

  • Gofynnwch i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i agor eich llythyrau a'ch biliau i chi. Gall roi gwybod i chi pa rai sy'n bwysig.
  • Trefnwch amser ar gyfer agor bil neu lythyr. Does dim rhaid i chi agor pob un ar yr un pryd – gallwch eu hagor cam wrth gam.
  • Ystyriwch roi gwybod i'ch banc fod gennych chi broblem iechyd meddwl, fel y gall wneud addasiadau.

Pan eisteddais i lawr gyda fy eiriolwr i agor y biliau, diflannodd llawer o fy mhryderon.

Apwyntiadau neu asesiadau

  • Os byddwch chi'n teithio i apwyntiad, cynlluniwch eich taith ymlaen llaw. Gadewch amser ychwanegol fel na fyddwch chi'n poeni am fynd ar goll.
  • Ystyriwch ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu eiriolwr fod gyda chi i roi cymorth, neu fod ar gael i gael sgwrs wedi hynny.
  • Cysylltwch ymlaen llaw a gofynnwch beth y gallwch chi ei ddisgwyl yn yr apwyntiad.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall beth sy'n cael ei ddweud wrthych chi, a beth y mae angen i chi ei wneud nesaf. Os na fydd rhywbeth yn glir, gofynnwch i'r unigolyn ailadrodd ei hun nes y byddwch chi'n deall.
  • Wedyn, gwnewch nodyn o bopeth y gwnaethoch chi siarad amdano. Gallwch chi hefyd ofyn i'r unigolyn yn yr apwyntiad anfon crynodeb atoch.

Darllenwch ein gwybodaeth am asesiadau budd-daliadau.

Galwadau ffôn

  • Os byddwch chi'n teimlo'n anghyfforddus yn siarad ar y ffôn, defnyddiwch wasanaethau sy'n caniatáu i chi reoli eich cyfrif ar-lein, neu sy'n gadael i chi siarad â rhywun gan ddefnyddio gwe-sgwrs.
  • Gwnewch nodiadau ymlaen llaw ar bopeth rydych chi am ofyn amdano. Gallech chi ysgrifennu popeth rydych chi am ei ddweud i lawr, a pharatoi atebion ar gyfer unrhyw gwestiynau y gallai rhywun eu gofyn i chi.
  • Casglwch eich holl waith papur gyda'i gilydd, fel biliau, llythyrau a chyfriflenni banc. Os byddwch chi'n sylwi bod rhywbeth ar goll yn ystod yr alwad, mae'n iawn gofyn i'r unigolyn aros tra byddwch chi'n dod o hyd iddo.
  • Os byddwch chi'n teimlo dan straen neu'n bryderus am orfod aros ar y ffôn, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gynllunio gweithgaredd i'w wneud tra byddwch chi'n aros. Gallech chi ddefnyddio seinydd y ffôn, ac yna golchi'r llestri neu ddarllen llyfr. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n rhy nerfus neu bryderus i wneud hyn, ac mae hynny'n iawn. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi roi cynnig ar ymarfer ymlacio yn lle hynny.
  • Siaradwch yn araf, a chymerwch eich amser. Os bydd yr unigolyn yn ddiamynedd neu os na fydd yn gwrando ar yr hyn y byddwch chi'n ei ddweud wrtho, peidiwch â bod ofn ailadrodd eich hun. Cofiwch, mae hawl gennych ofyn cwestiynau a dweud eich dweud. Os byddwch chi'n teimlo eich bod yn cael eich trin yn annheg, darllenwch ein gwybodaeth am gwyno i wasanaeth.
  • Wedyn, gwnewch nodyn o bopeth y gwnaethoch chi siarad amdano. Gallwch chi hefyd ofyn i'r unigolyn ar y ffôn anfon crynodeb atoch.​

Beth i'w wneud os bydd gwasanaeth yn eich trin chi yn annheg

Ni ddylai neb gael ei drin yn wael oherwydd ei iechyd meddwl. Ond weithiau gall hyn ddigwydd, ac mae'n bwysig gwybod bod help ar gael os bydd hynny'n digwydd. Cofiwch, os ydych chi wedi cael eich trin yn wael oherwydd eich iechyd meddwl, nid chi sydd ar fai.

Os bydd gwasanaeth yn eich trin yn annheg oherwydd eich iechyd meddwl, gallai hyn fod yn achos o wahaniaethu. Bydd y peth gorau i'w wneud yn dibynnu ar y math o wahaniaethu y gwnaethoch chi ei brofi a beth yn union sydd wedi digwydd.

Weithiau byddwch chi'n gallu datrys y broblem yn anffurfiol, drwy siarad â'r gwasanaeth eich hun. Os bydd angen i chi gwyno i'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'ch cwmni benthyciadau, mae gan Helpwr Arian lythyrau enghreifftiol y gallwch chi eu defnyddio.

Hefyd, efallai fod gan y gwasanaeth weithdrefn gwynion y gallwch chi ei dilyn. Mae gan wefan y Gwasanaethau Ombwdsmon wybodaeth am ddilyn gweithdrefn gwynion.

Os na fydd y rhain y gweithio, efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd camau cyfreithiol.

Gofalu am fy arian a'm hiechyd meddwl

Er ei bod wedi teimlo'n anghyfforddus rhannu ar adegau, mae gwneud hynny yn torri'r ffasâd. Mae gen i gymorth ar waith i'm helpu i reoli fy arian a dw i nawr yn teimlo'n hyderus i ennill, arbed, gwario a chyllidebu am y tro cyntaf yn fy mywyd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig