Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ymdopi ar ôl ymgais hunanladdiad

Os ydych chi'n cael amser anodd ar ôl ymgais hunanladdiad, rydyn ni yma i chi. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Ar y dudalen hon:

Rhybudd cynnwys: Gall y wybodaeth hon beri gofid neu fod yn anodd ei darllen. Efallai y byddwch am gymryd eich amser i'w ddarllen. Neu efallai nad dyma'r amser iawn - gallwch ddod yn ôl pan fyddwch chi'n barod. 

Nid ydym yn cynnwys unrhyw wybodaeth am ddulliau penodol o hunanladdiad.

Sut y gallech chi deimlo ar ôl ymgais hunanladdiad

Gall mynd trwy ymgais hunanladdiad ac ymdopi gyda’r dyddiau a'r wythnosau canlynol deimlo’n orlethol. Efallai y byddwch yn teimlo amrywiaeth o emosiynau gwahanol, a gall y rhain newid dros amser. Sut bynnag rydych chi'n teimlo, mae'n iawn.

Efallai y byddwch yn teimlo:

  • Rhyddhad – efallai y byddwch yn teimlo rhyddhad eich bod wedi goroesi'r ymgais. Neu efallai y byddwch chi'n teimlo rhyddhad bod pobl o'ch cwmpas bellach yn ymwybodol o sut rydych chi'n teimlo.
  • Di-deimlad – efallai na fyddwch chi'n teimlo dim, neu ymdeimlad o wacter, ar ôl goroesi ymgais hunanladdiad.
  • Siomedig – er enghraifft, oherwydd eich bod wedi goroesi'r ymgais.
  • Dicter – efallai y byddwch chi'n teimlo'n ddig am geisio dod â’ch bywyd i ben. Neu’n ddig eich bod chi'n dal yn fyw. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo'n ddig am sut mae pobl eraill wedi ymateb i’ch ymgais.
  • Cywilydd – efallai y byddwch chi'n teimlo cywilydd. Gall hyn fod yn deimlad anghyfforddus iawn.
  • Euog – efallai bydd hyn yn ymwneud â’r ymgais ei hun. Neu am yr effaith y mae eich ymgais wedi'i chael ar y bobl o'ch cwmpas.
  • Embaras - efallai y byddwch yn teimlo embaras am geisio hunanladdiad, yn enwedig wrth ddweud wrth bobl amdano.
  • Ar eich pen eich hun - efallai eich bod yn teimlo nad yw pobl yn deall pam eich bod wedi ceisio hunanladdiad, neu fel na allwch siarad â nhw amdano. Neu efallai nad oes unrhyw un yn gwybod eich bod wedi gwneud ymgais hunanladdiad.
  • Edifeirwch – efallai y byddwch chi’n difaru gwneud ymgais hunanladdiad. Neu efallai y byddwch chi'n teimlo edifeirwch eich bod chi wedi goroesi.
  • Ofn - os oeddech chi'n teimlo mai hunanladdiad oedd eich unig opsiwn, efallai y byddwch chi'n teimlo'n ansicr am eich dyfodol.
  • Wedi drysu – efallai bod gennych gymysgedd o emosiynau cadarnhaol a negyddol, sy'n ei gwneud hi'n anodd disgrifio sut yn union rydych chi'n teimlo.

Efallai y byddwch hefyd yn teimlo emosiynau anodd os nad dyma'r tro cyntaf i chi wneud ymgais hunanladdiad. Ni waeth faint o weithiau rydych chi wedi gwneud ymgais hunanladdiad, dylech chi dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Beth i'w wneud mewn argyfwng

Os yw eich bywyd mewn perygl ar hyn o bryd, mae hwn yn argyfwng. Gofynnwch am help ar frys. Gallwch fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys neu ffonio 999 am ambiwlans.

Mae gan ein tudalen sut i gael help mewn argyfwng ragor o opsiynau.

Trawma o ymgais hunanladdiad

Gall ceisio dod â'ch bywyd i ben fod yn frawychus ac yn ofidus iawn. Efallai y byddwch chi'n ei ddisgrifio fel trawmatig, ac efallai y byddwch chi'n profi rhai symptomau trawma. Gall hyn fod ar unwaith, neu rywbryd ar ôl yr ymgais.

Gallai'r rhain gynnwys:

  • Ail-fyw atgofion o'r ymgais – er enghraifft, profi ôl-fflachiadau neu hunllefau
  • Osgoi pethau sy'n eich atgoffa o'r ymgais
  • Teimlo'n ddi-deimlad, mewn breuddwyd, ar wahân i'ch corff neu fel petai'r byd o'ch cwmpas yn afreal (gelwir hyn yn ddatgysylltiad)
  • Teimlo’n wyliadwrus neu ar bigau drain
  • Profi credoau neu deimladau anodd

Gweler ein tudalennau ar drawma i ddysgu rhagor, gan gynnwys ffyrdd o gael cymorth.

Roeddwn i wedi blino’n gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Roeddwn i’n ddi-deimlad ac yn teimlo fel petawn wedi torri.

Beth allai ddigwydd ar ôl ymgais hunanladdiad

Bydd yr hyn sy'n digwydd ar ôl ymgais hunanladdiad yn dibynnu ar eich amgylchiadau eich hun. Er enghraifft, efallai y byddwch yn mynd i'r ysbyty, neu'n gofyn am help ar gyfer unrhyw anafiadau corfforol. Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn a allai ddigwydd yn y sefyllfaoedd hyn.

Ond nid yw pawb yn gwneud y pethau hyn. Efallai eich bod wedi gwneud ymgais hunanladdiad ac heb ddweud wrth neb amdano. Mae'r profiad hwn yn llawer i'w ymdopi ag ef ar eich pen eich hun. Hyd yn oed os yw wedi bod yn amser hir ers eich ymgais, gallwch dal i ofyn am gefnogaeth. Gweler ein hadran ble i ddod o hyd i gymorth ar gyfer opsiynau.

Beth sy'n digwydd os byddaf yn mynd i'r ysbyty?

Os byddwch yn mynd i'r ysbyty ar ôl ymgais hunanladdiad, bydd y math o driniaeth a gewch yn dibynnu ar eich sefyllfa. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae yna ychydig o bethau a ddylai ddigwydd.

Os oes angen triniaeth arnoch i achub eich bywyd, dyma'r flaenoriaeth. Efallai y bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am brofion a thriniaeth os oes gennych anafiadau corfforol. Neu os oes unrhyw bryderon am eich iechyd.

Tra byddwch yn yr ysbyty, dylech gael eich gweld gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a all asesu eich iechyd meddwl. Mae gan rai adrannau damweiniau ac achosion brys dîm seiciatreg, a all roi cymorth arbenigol ar gyfer iechyd meddwl. Gallwch ofyn i’w gweld.

Gallai'r tîm seiciatreg neu'r tîm iechyd meddwl:

  • Gwneud asesiad cychwynnol o'ch anghenion iechyd meddwl (a elwir weithiau'n werthusiad seiciatrig)
  • Helpu i'ch cadw'n ddiogel yn y tymor byr
  • Rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill i gael cymorth parhaus, fel eich tîm argyfwng (CRHT) lleol
  • Penderfynu a allwch fynd adref, neu a oes angen i chi gael eich derbyn i'r ysbyty

Efallai y cewch eich cadw yn yr ysbyty dros nos i gael eich arsylwi. Yn dibynnu ar sut ydych chi, efallai y cewch eich cadw yn yr ysbyty am gyfnod hirach ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Neu efallai y bydd staff yr ysbyty yn penderfynu eich bod yn barod i fynd adref.

A fyddaf yn cael fy nghadw yn yr ysbyty ar ôl gwneud ymgais i ladd fy hun?

Nid yw llawer o bobl sy'n ceisio lladd eu hunain yn cael eu cadw yn yr ysbyty. Ond efallai y bydd gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn cytuno bod triniaeth ysbyty er eich budd gorau, i'ch cadw chi neu eraill yn ddiogel.

Os ydynt yn credu eich bod yn risg sylweddol i chi'ch hun neu i eraill, gallent eich cadw yn yr ysbyty. Mae hyn yn golygu eich cadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Efallai y byddan nhw'n gwneud hyn hyd yn oed os nad ydych chi eisiau bod yno.

Edrychwch ar ein tudalennau ar gael eich cadw yn yr ysbyty i ddysgu rhagor.

Beth os oes gen i anafiadau corfforol?

Efallai y bydd gennych anafiadau corfforol o'ch ymgais hunanladdiad. Os felly, efallai eich bod yn delio ag adferiad corfforol yn ogystal â sut rydych chi'n teimlo.

Efallai y bydd gennych anafiadau parhaol yr ydych yn awr yn dysgu ymdopi â nhw. Neu efallai y byddwch chi'n profi problemau symudedd a phoen. Gall hyn fod yn brofiad ynysig a gall deimlo'n anodd iawn ymdopi ag ef.

Gallwch ofyn i'ch meddyg teulu am unrhyw gymorth ar gyfer eich anafiadau corfforol. Gallai therapi siarad eich helpu i brosesu'r hyn sydd wedi digwydd a dysgu sgiliau ymdopi i chi.

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn gadael yr ysbyty?

Gall gadael yr ysbyty ar ôl ceisio hunanladdiad fod yn frawychus ac yn orlethol. Gall fod yn arbennig o anodd os ydych chi'n mynd yn ôl i'r man lle digwyddodd eich ymgais.

Dylai staff yr ysbyty drafod a chynllunio gofal dilynol gyda chi cyn i chi adael. Efallai y byddan nhw'n gweithio gyda chi i wneud rhywbeth o'r enw cynllun gofal. Mae hyn yn cynnwys asesu unrhyw risgiau y gallech eu hwynebu, a chynllunio gyda phwy y dylech gysylltu os oes angen cymorth arnoch. Byddwn hefyd yn cysylltu â'ch meddyg teulu i roi gwybod iddynt.

Efallai y byddwch yn derbyn gofal dilynol o fewn 48 awr o adael yr ysbyty. Mae hyn er mwyn asesu eich risg o hunan-niweidio neu geisio hunanladdiad, ac i weld pa gymorth a chefnogaeth arall sydd eu hangen arnoch. Bydd hyn yn cael ei roi gan dîm iechyd meddwl, eich meddyg teulu, neu staff yr ysbyty a wnaeth eich cynllun gofal dilynol.

Os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun neu os nad ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich cefnogi gan y bobl rydych chi'n byw gyda nhw, fe allech chi ystyried aros gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddynt am gyfnod.

Beth os nad oes gen i rywle diogel i fynd pan fyddaf yn gadael yr ysbyty?

Mae yna sawl rheswm pam efallai na fydd gennych rywle diogel i fynd ar ôl gadael yr ysbyty. Gall hyn fod oherwydd eich bod yn ddigartref, neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Neu os ydych chi'n ceisio dianc rhag sefyllfa anodd, fel cam-drin domestig.

Os ydych chi'n poeni am hyn, siaradwch â staff ward yr ysbyty cyn gynted â phosibl. Ar ôl ymgais hunanladdiad, mae'n debygol y gofynnir i chi am unrhyw bryderon diogelu. Mae hyn yn cynnwys cam-drin domestig.

Beth os ydw i'n anhapus gyda sut mae gweithwyr iechyd proffesiynol wedi fy nhrin?

Efallai eich bod yn teimlo nad ydych wedi cael cefnogaeth dda tra oeddech yn yr ysbyty. Neu nad oedd eich profiad yn yr ysbyty yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl. Gall hyn fod yn anodd iawn, yn ystod cyfnod sy'n anodd yn barod.

Mae gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ganllawiau ar sut y dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ofalu amdanoch chi ar ôl niweidio'ch hun. Mae hyn yn cynnwys os ydych chi wedi gwneud ymgais hunanladdiad.

Mae pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu hannog i ddilyn canllawiau NICE. Ond gall eich profiad o ofal fod yn wahanol.

Mae gan ein tudalen am geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl rywfaint o wybodaeth am beth i'w wneud os ydych chi'n anhapus â'r ffordd rydych chi wedi cael eich trin. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cwyn.

Ar ôl i mi dderbyn triniaeth feddygol ar gyfer y broblem 'gorfforol', cefais fy anfon adref gyda fy rhieni, heb unrhyw asesiad seiciatrig, cefnogaeth, meddyginiaeth, cyswllt dilynol na gwiriadau pellach.

Yr heddlu

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn dod i gysylltiad â'r heddlu ar ôl i chi geisio hunanladdiad.

Mae ein gwybodaeth am yr heddlu ac iechyd meddwl yn esbonio beth yw eich hawliau pan fyddwch mewn cysylltiad â'r heddlu.

Gwneud cynllun diogelwch

Efallai y byddwch yn dal i deimlo'n hunanladdol ar ôl goroesi ymgais. Efallai na fydd y rhesymau dros eich ymgais wedi newid. Neu efallai eich bod yn cael trafferth gyda sut mae'r ymgais wedi effeithio ar eich bywyd – fel eich perthnasoedd, iechyd corfforol neu waith.

Os nad oes gennych un yn barod, gallai fod o gymorth i greu cynllun diogelwch. Gall hyn eich helpu i gadw'n ddiogel os ydych chi'n teimlo'n hunanladdol eto. Mae eich cynllun yn bersonol i chi, ond gallai gynnwys:

  • Sut i adnabod eich arwyddion rhybudd. Gallech feddwl am unrhyw newidiadau yn eich meddyliau, teimladau neu ymddygiad y gwnaethoch sylwi arnynt cyn eich ymgais flaenorol.
  • Eich strategaethau ymdopi. Efallai eich bod wedi gweld rhai pethau'n ddefnyddiol i ymdopi â theimladau anodd yn y gorffennol. Ceisiwch feddwl am sut y gallwch ddefnyddio'r pethau hyn i'ch helpu chi nawr.
  • Enwau a manylion cyswllt y bobl rydych yn ymddiried ynddynt. Dyma bobl y gallwch ofyn am help ganddynt os ydych yn teimlo'n ofidus.
  • Enwau a manylion cyswllt gweithwyr proffesiynol a all eich cefnogi, fel eich tîm argyfwng lleol.
  • Manylion llinellau cymorth a gwasanaethau gwrando. Gall y gwasanaethau hyn eich helpu pan fyddwch yn teimlo'n ofidus. Gall gweithwyr proffesiynol cymwys wrando ar sut rydych chi'n teimlo a chadw cwmni i chi, cyhyd ag y bydd ei angen arnoch.
  • Beth allwch chi ei wneud i wneud eich amgylchedd yn ddiogel? Er enghraifft, cael gwared ar bethau y gallech eu defnyddio i niweidio'ch hun.
  • Manylion lle diogel y gallwch fynd iddo am gefnogaeth. Gallai hyn fod yn gartref ffrind, aelod o'r teulu neu rywun arall rydych chi'n ymddiried ynddo.

Os gallwch chi, ceisiwch wneud y cynllun pan fyddwch chi'n teimlo ychydig yn well. Mae'n helpu os gallwch chi feddwl yn glir am yr hyn a fyddai'n ddefnyddiol i chi pan fyddwch chi'n ei chael hi'n anodd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol gwneud y cynllun gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo, fel ffrind neu therapydd.

Gall datblygu cynllun diogelwch gymryd amser. Mae'n iawn os ydych chi'n teimlo wedi’ch llethu ganddo neu nad ydych yn gwybod beth i'w ysgrifennu. Gall helpu i'w gwblhau mewn camau.

Gall hefyd helpu i roi eich cynllun diogelwch rhywle gweladwy yn eich cartref. Er enghraifft, mewn oergell neu hysbysfwrdd. Os ydych chi'n byw gyda phobl eraill, mae hyn yn eu helpu i weld eich cynllun yn haws.

Os ydych chi'n cael eich gweld gan wasanaethau iechyd meddwl ar ôl ymgais hunanladdiad, efallai y byddan nhw'n datblygu cynllun diogelwch gyda chi. Gallech hefyd roi copi o'r cynllun iddynt i'w gadw.

Gall cael cynllun diogelwch lle gall eraill ei weld helpu, oherwydd rydych chi’n dweud yn agored, 'Dyma sut y gallaf deimlo.'

Awgrymiadau ar gyfer gofalu amdanoch chi eich hun

Gall yr amser ar ôl ymgais hunanladdiad fod yn orlethol. Gall fod yn anodd meddwl sut y byddwch yn ymdopi, yn enwedig os ydych chi'n dal i brofi teimladau anodd.

Dyma rai awgrymiadau a allai helpu. Ond cofiwch na fydd yr holl syniadau hyn yn helpu pawb. Efallai y bydd yr hyn sy'n ddefnyddiol i chi yn newid dros amser. Peidiwch â phoeni os nad yw unrhyw un ohonynt yn teimlo'n iawn i chi.

Rhowch amser i'ch hun

Mae'n iawn os oes angen amser arnoch i wella ar ôl ymgais hunanladdiad.

Efallai eich bod yn dal i ymdopi ag unrhyw deimladau neu amgylchiadau a arweiniodd at eich ymgais. Ac efallai bod gennych deimladau anodd am yr ymgais ei hun. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo dan straen wrth ddweud wrth bobl eraill.

Efallai y byddwch hefyd yn teimlo bod angen i chi gymryd amser i ffwrdd o rai rhannau o fywyd i wella. Er enghraifft, cymryd seibiant o'r gwaith neu astudio, os allwch chi.

Parhau gyda'ch triniaeth

Os oeddech eisoes yn cael triniaeth ar gyfer problem iechyd meddwl cyn eich ymgais, mae'n syniad da parhau â hyn.

Efallai yr hoffech siarad â'ch meddyg neu therapydd ynghylch a yw'ch triniaeth bresennol yn gweithio i chi. Neu trafodwch unrhyw newidiadau a allai fod o gymorth.

Gofynnwch am yr hyn sydd ei angen arnoch

Efallai na fydd pobl yn eich bywyd bob amser yn gwybod beth y gallant ei wneud i helpu. Ond gall fod gwahanol fathau o gymorth emosiynol neu ymarferol sydd ei angen arnoch. Gallwch ddweud wrthynt beth fyddai fwyaf defnyddiol i chi.

Os nad ydych yn siŵr, dyma rai syniadau am sut y gallai rhywun eich helpu:

  • Eich helpu i greu cynllun diogelwch.
  • Gadael i chi aros gyda nhw.
  • Helpu gyda thasgau, fel coginio neu lanhau.
  • Cysylltu â gwasanaethau i chi, neu fynd i apwyntiadau gyda chi.
  • Eich helpu i reoli'ch meddyginiaeth.
  • Eich atgoffa i fwyta, yfed a gofalu amdanoch chi'ch hun.
  • Gwirio sut ydych chi, hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo'n barod i ymateb.
  • Eistedd gyda chi a pheidio â dweud dim byd o gwbl.

Efallai na fyddwch yn barod i dderbyn cymorth gan bobl eraill eto. Ond efallai y bydd yn helpu i feddwl am ba gefnogaeth y gallech fod ei heisiau yn y dyfodol.

Roedd yn ddefnyddiol gofyn i bobl fy atgoffa i fwyta ac yfed, mynd i'r gwely a gwneud y pethau hunan-ofal hynny. Roedd yn ddefnyddiol oherwydd roeddwn i mewn cymaint o lanast ar y pryd. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i'n ei wneud.

Gwneud eich amgylchedd yn ddiogel

Gwaredwch unrhyw beth yn eich amgylchedd y gallech ei ddefnyddio i frifo'ch hun. Gallech ofyn i rywun eu cloi i ffwrdd ar eich rhan.

Gall darllen neu wylio cynnwys sy'n sôn am hunanladdiad neu hunan-niweidio beri gofid. Yn enwedig os ydych chi wedi gwneud ymgais hunanladdiad yn ddiweddar. Os nad ydych chi'n teimlo'n barod i weld y math hwn o gynnwys, mae'n iawn ei osgoi.

Gall hefyd helpu i gadw llygad am rybuddion cynnwys. Ac os ydych chi'n dod ar draws rhywbeth sy'n eich cynhyrfu ar-lein, caewch y sgrin neu'n sgroliwch heibio’n gyflym. Efallai y byddwch hyd yn oed am ddiffodd eich cyfrifiadur neu ffôn a chymryd seibiant.

Gofalu am y pethau sylfaenol

Ceisiwch beidio â rhoi pwysau arnoch eich hun i wneud gormod. Ceisiwch flaenoriaethu’r pethau pwysicaf y mae angen i chi eu gwneud. Efallai y bydd rhai o'r pethau hyn yn teimlo'n anodd, ond mae'n helpu os gallwch chi wneud y canlynol:

  • Bwyta ac yfed yn rheolaidd
  • Gofalu am eich hylendid sylfaenol
  • Cael awyr iach bob dydd
  • Ceisio cysgu’n dda

Efallai y gwelwch y gall cael trefn ddyddiol roi ffocws i chi a helpu eich adferiad. Gallai trefn ddyddiol gynnwys pethau bach. Er enghraifft, sicrhau eich bod yn cymryd eich meddyginiaeth neu frwsio eich dannedd ar yr un pryd bob dydd.

Mae apiau ac adnoddau ar-lein a all roi nodiadau atgoffa ar gyfer eich trefn ddyddiol. Neu fe allech chi ofyn i rywun arall eich atgoffa.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'r pethau hyn, efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl am sut y byddech chi'n gofalu am rywun sy’n bwysig i chi. Er enghraifft, ffrind sydd angen eich help. Ceisiwch drin eich hun yn yr un ffordd.

Dewch o hyd i rywbeth rydych chi'n mwynhau ei wneud

Gall dod o hyd i weithgaredd rydych chi'n ei fwynhau eich helpu i dynnu eich sylw oddi wrth deimladau anodd. Gallai ychwanegu ystyr i'ch bywyd. Nid oes rhaid iddo fod yn rhywbeth mawr neu ddrud. Gallai fod yn weithgaredd rydych chi'n ei wneud ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill.

Meddyliwch am unrhyw ddiddordebau rydych chi wedi'u mwynhau yn y gorffennol, neu rai newydd yr hoffech roi cynnig arnyn nhw. Weithiau gall gweithgareddau creadigol fel ysgrifennu a phaentio ein helpu i brosesu profiadau poenus.

Gall treulio amser ym myd natur neu fod o gwmpas anifeiliaid helpu hefyd. Neu efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi wylio rhaglen deledu sy’n rhoi cysur i chi, neu ddarllen llyfr cyfarwydd.

Sut i siarad am eich ymgais hunanladdiad

Efallai y byddwch chi'n teimlo fel siarad am eich ymgais hunanladdiad ar ôl iddo ddigwydd. Neu efallai ddim. Hyd yn oed os oes gan bobl gwestiynau neu bryderon, chi sy’n penderfynu beth i'w rannu a sut rydych chi'n ei rannu. Nid oes rhaid i chi rannu unrhyw beth o gwbl.

Os ydych chi'n teimlo'n barod i siarad, gall yr awgrymiadau hyn eich helpu i benderfynu gyda phwy i siarad a beth i'w ddweud.

Gyda phwy y gallwch siarad am eich ymgais

Gall fod yn anodd penderfynu pwy i ddweud wrthynt am eich ymgais. Efallai y byddwch yn poeni am sut y bydd rhywun yn ymateb neu sut y gallai effeithio arnynt.

Ond os ydych chi'n teimlo fel siarad, efallai y byddai'n ddefnyddiol siarad â'r bobl hyn:

Ffrindiau a theulu

Os oes gennych ffrindiau a theulu yn eich bywyd, gallai siarad â nhw am yr hyn sydd wedi digwydd deimlo'n anodd.

Ond gallai rhoi gwybod iddynt beth sy'n digwydd eu helpu i'ch cefnogi. Ac efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad am bethau gyda rhywun sy’n agos atoch.

Grwpiau cymorth cymheiriaid neu fforymau ar-lein

Efallai y bydd yn helpu i siarad am eich profiadau mewn cymuned cymorth cymheiriaid. Gall hyn fod ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Efallai y byddwch yn dod o hyd i bobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg. Efallai y bydd ganddynt gyngor i chi. Sicrhewch eich bod yn dilyn unrhyw ganllawiau ynghylch pa fanylion y mae'n iawn eu rhannu, yn enwedig am eich ymgais ei hun.

Gweler ein tudalennau ar gefnogaeth cymheiriaid am ragor o wybodaeth.

Eich meddyg teulu

Os cawsoch eich trin yn yr ysbyty ar ôl eich ymgais, dylent ddweud wrth eich meddyg teulu. Ond os na wnaethoch geisio cymorth ar ôl eich ymgais hunanladdiad, efallai y byddwch am ddweud wrth eich meddyg teulu eich hun.

Os ydyn nhw'n gwybod beth sydd wedi digwydd, byddan nhw'n gallu eich helpu chi i gael y gefnogaeth gywir. Mae gan ein tudalen am siarad â'ch meddyg teulu awgrymiadau ar gyfer siarad â'ch meddyg am sut rydych chi'n teimlo. Mae hyn yn cynnwys sut i baratoi ar gyfer y sgwrs.

Eich cyflogwr

Os oes gennych gyflogwr, efallai y byddwch yn teimlo'n ansicr am ddweud wrthynt am eich ymgais hunanladdiad. Efallai eich bod yn poeni am gyfrinachedd neu gael eich trin yn annheg. Ond os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn dweud wrthyn nhw, gallan nhw eich cefnogi'n well.

Gweler ein hadran ar ddweud wrth eich cyflogwr am ragor o wybodaeth.

Cychwyn sgwrs am eich ymgais

Gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau sgwrs am geisio hunanladdiad. Efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu:

  • Cynlluniwch yr hyn rydych chi am ei ddweud cyn cael y sgwrs. Gallwch roi cymaint neu gyn lleied o fanylion ag y dymunwch.
  • Efallai y byddwch yn poeni am ddod o hyd i'r amser iawn i ddweud wrth rywun. Efallai y bydd yn helpu i roi gwybod iddynt ymlaen llaw bod rhywbeth pwysig y mae angen i chi siarad amdano. Gall hyn fod yn haws na cheisio ei godi yn ystod sgwrs arall.
  • Efallai y bydd yn teimlo'n llai brawychus siarad am sut rydych chi'n teimlo'n fwy cyffredinol. Gallai hyn eich helpu i gychwyn y sgwrs, cyn siarad am eich ymgais hunanladdiad.
  • Gallwch ysgrifennu beth yr hoffech ei ddweud ymlaen llaw. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd siarad, gallech anfon llythyr atynt yn lle hynny.
  • Efallai y bydd rhai pobl rydych chi eisiau iddynt wybod am eich ymgais, ond efallai na fyddwch chi eisiau dweud wrthyn nhw eich hun. Gallech ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt i rannu hyn ar eich rhan.

Efallai na fydd y person rydych chi'n dweud wrthynt yn ymateb yn y ffordd rydych chi'n ei ddisgwyl. Efallai y bydd hyd yn oed y bobl agosaf atoch yn cael sioc neu'n ofidus.

Efallai na fyddan nhw'n gwybod beth i'w ddweud chwaith. Neu gallai'r pethau maen nhw'n eu dweud beri stigma. Felly, gall fod yn anodd delio ag ymatebion pobl eraill.

Ceisiwch gofio y gallai eu hymateb ddod o ddiffyg dealltwriaeth. Neu lefel uchel o bryder amdanoch chi. Nid oes angen i chi amddiffyn eich hun. A gallwch ddod ag unrhyw sgwrs i ben nad yw'n teimlo'n gefnogol.

A oes angen i mi ddweud wrth fy nghyflogwr?

Os oes gennych gyflogwr, gall yr hyn y mae angen i chi ei ddweud wrthynt ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn absennol am lai na 7 diwrnod

Os ydych yn absennol o'r gwaith am lai na 7 diwrnod, mae'n debygol na fydd angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr am eich ymgais hunanladdiad.

Efallai y byddan nhw'n dal i ofyn pam roeddech chi'n absennol. Ond efallai mai dim ond ateb mwy cyffredinol y bydd angen i chi ei roi - er enghraifft, cymryd amser i ffwrdd oherwydd eich iechyd meddwl.

Os ydych yn absennol am 7 diwrnod neu’n fwy

Os ydych i ffwrdd o'r gwaith am fwy na 7 diwrnod yn olynol, bydd angen nodyn ffitrwydd arnoch gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddyg teulu, meddyg ysbyty neu fferyllydd. Mae gan y GIG ragor o wybodaeth am bwy all roi nodyn ffitrwydd i chi.

Bydd angen i chi gyflwyno hwn i'ch cyflogwr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gennych hawl i dâl salwch statudol gan eich cyflogwr am y 28 diwrnod cyntaf yr ydych i ffwrdd yn sâl.

Pa fath o gefnogaeth y gallent ei gynnig?

Os ydych yn penderfynu dweud wrth eich cyflogwr am yr hyn sydd wedi digwydd, meddyliwch am rywun yn y gwaith y gallwch ymddiried ynddo. Efallai dyma fydd eich rheolwr llinell, neu rywun yn eich adran Adnoddau Dynol (AD). Efallai y byddant yn gallu cynnig gwahanol fathau o gefnogaeth i chi.

Er enghraifft, gallent:

  • Cynnig i chi ddychwelyd i’r gwaith yn raddol
  • Eich helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu Lles i gefnogi eich lles yn y gwaith
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â Rhaglen Cymorth i Weithwyr eich cyflogwr (EAP), os oes ganddo un
  • Gwneud addasiadau rhesymol i helpu gydag unrhyw anawsterau rydych chi'n eu profi yn y gwaith

Beth os ydw i'n profi gwahaniaethu?

Chi sy’n penderfynu ar yr hyn rydych chi am ei ddweud wrth eich cyflogwr. Os ydych chi, efallai y byddwch chi'n wynebu stigma. Ac mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn profi gwahaniaethu.

Mae gan ein tudalennau ar wahaniaethu ar sail anabledd ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud os bydd hyn yn digwydd. Gallai eich iechyd meddwl olygu eich bod yn cael eich diogelu gan y gyfraith - p'un a ydych chi'n ystyried eich hun yn anabl ai peidio.

Mae gan Acas hefyd lawer o gyngor ac opsiynau cymorth os ydych chi'n cael trafferth gyda phroblem yn y gwaith.

Lle i ddod o hyd i gefnogaeth

Efallai y bydd yn anodd gwybod ble i gael help ar ôl ceisio hunanladdiad. Ond gall chwilio am help fod y cam cyntaf tuag at deimlo'n well.

Mae bob amser yn iawn gofyn am help – hyd yn oed os nad ydych yn siŵr a ydych chi'n profi problem iechyd meddwl. Mae'r adran hon yn esbonio rhai ffyrdd y gallwch ddod o hyd i gefnogaeth.

Eich meddyg teulu

Gall gwneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu fod yn gam cyntaf da tuag at gael cymorth. Gallant eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl eraill, a gallant roi meddyginiaeth i chi ar bresgripsiwn.

Os cawsoch driniaeth ysbyty am eich ymgais hunanladdiad, efallai eich bod eisoes mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl. Yn yr achos hwn, byddant yn cysylltu â'ch meddyg teulu.

Gweler ein gwybodaeth am siarad â'ch meddyg teulu i gael awgrymiadau ar gyfer dweud wrth eich meddyg am eich iechyd meddwl.

Yn y pen draw, cefais yr help yr oeddwn ei angen. Es i at fy meddyg teulu a siaradais am sut roeddwn i'n teimlo. Yna dechreuais ddychwelyd i'r gwaith. Roedd fy rheolwr yn gefnogol iawn ac fe wnaeth hynny fy helpu llawer. Mae siarad am yr hyn roeddwn i'n mynd drwyddo wir wedi fy helpu.

Therapïau siarad

Gallai siarad â rhywun ar ôl eich ymgais hunanladdiad eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn sydd wedi digwydd. A gallai eich helpu i brosesu unrhyw emosiynau y gallech fod yn eu profi.

Os hoffech roi cynnig ar therapi siarad, gallwch ofyn i'ch meddyg teulu eich cyfeirio. Neu os ydych yn Lloegr, efallai y gallwch gyfeirio'ch hun. Ewch i adnodd y GIG i ddod o hyd i wasanaethau therapi lleol y GIG i weld a allech fod yn gymwys.

Mae yna opsiynau ar gyfer therapi preifat hefyd, ond gall y rhain fod yn ddrud.

Edrychwch ar ein tudalen ar sut i ddod o hyd i therapi am ragor o wybodaeth.

Fe wnaeth cwnsela fy helpu i adnabod rhai o'r pethau wnaeth fy helpu i a rhai o'r pethau oedd ddim yn fy helpu. Nid oedd cwnsela wedi fy ngwella yn hollol ond rhoddodd ddulliau i mi gael gwell rheolaeth dros fy emosiynau. Gwnaeth i mi anadlu'n haws a theimlo ychydig yn ysgafnach.

Timau iechyd meddwl cymunedol (CMHTs)

Efallai y cewch eich cyfeirio at dîm iechyd meddwl cymunedol (CMHT) ar ôl eich ymgais hunanladdiad. Mae CMHTs yn cefnogi pobl y tu allan i'r ysbyty sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol neu hirhoedlog.

Gall y tîm gynnwys nifer o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Er enghraifft, nyrs seiciatryddol gymunedol (CPN), seicolegydd, therapydd galwedigaethol, cwnselydd, gweithiwr cymorth cymunedol a gweithiwr cymdeithasol.

Efallai y byddwch yn cael eich cysylltu â chydlynydd gofal. Dyma aelod o'r tîm a fydd yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chi ac yn helpu i gynllunio'ch gofal.

Tîm argyfwng

Efallai y cewch eich cyfeirio at dîm argyfwng ar ôl eich ymgais hunanladdiad. Gall timau argyfwng helpu os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch. Er enghraifft, os oes angen i chi fynd i'r ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl.

Edrychwch ar ein tudalen am dimau argyfwng am ragor o wybodaeth.

Beth os ydw i wedi cael cymorth iechyd meddwl yn barod?

Os oeddech eisoes yn cael cymorth iechyd meddwl pan wnaethoch eich ymgais hunanladdiad, efallai mai nhw yw'r bobl orau i siarad â nhw.

Os aethoch chi i'r ysbyty ar ôl eich ymgais, mae'n bosib y byddai'r gwasanaethau hyn wedi cael gwybod beth ddigwyddodd. Ac efallai y byddan nhw'n newid eich cynllun triniaeth i helpu eich atal rhag gwneud ymgais hunanladdiad yn y dyfodol.

Sefydliadau sy'n gallu helpu

Dyma rai sefydliadau y gallai eich helpu os ydych wedi gwneud ymgais hunanladdiad. Neu ar gyfer unrhyw faterion cysylltiedig sy'n effeithio ar eich iechyd meddwl:

Campaign Against Living Miserably (CALM)

0800 58 58 58
thecalmzone.net
Provides a helpline and online chat, as well as information and support, for anyone affected by suicide or suicidal thoughts.

Maytree Suicide Respite Centre

020 7263 7070
maytree.org.uk
Offers free respite stays for people in suicidal crisis.

The Mix

85258 (crisis messenger service, text THEMIX)
themix.org.uk
Support and advice for under 25s, including a crisis messenger service, email and webchat.

National Suicide Prevention Helpline UK

0800 689 5652
spuk.org.uk/national-suicide-prevention-helpline-uk/
Helpline offering a supportive listening service to anyone with thoughts of suicide. Open from 6pm to midnight every day. If you are unable to connect to the main number above you can call 0800 689 0880

Papyrus HOPELINEUK

0800 068 41 41
07860039967 (text)
[email protected]
papyrus-uk.org
Confidential support for under-35s at risk of suicide and others who are concerned about them. Open 24 hours, 7 days a week.

Samaritans

116 123 (freephone)
[email protected]
Freepost SAMARITANS LETTERS
samaritans.org

Samaritans are open 24/7 for anyone who needs to talk. You can visit some Samaritans branches in person. Samaritans also have a Welsh Language Line on 0808 164 0123 (7pm–11pm every day).

Sane

0300 304 7000
sane.org.uk
Offers emotional support and information for anyone affected by mental health problems, including a helpline. 

Shout

85258 (text SHOUT)
giveusashout.org
Confidential 24/7 text service offering support if you're in crisis and need immediate help.

Stay Alive

prevent-suicide.org.uk
App with help and resources for people who feel suicidal or are supporting someone else.

Switchboard

0800 0119 100
hello@switchboard/lgbt
switchboard.lgbt
Listening services, information and support for lesbian, gay, bisexual and transgender people.

Togetherall

togetherall.com
Online mental health community (formerly called Big White Wall). Free in some areas through your GP, employer or university.

This information was published in October 2023. We will revise it in 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig