Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Trawma

Mae'r adran hon yn egluro beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl, a hefyd sut y gallwch eich helpu'ch hun, pa driniaethau sydd ar gael a sut i oresgyn rhwystrau er mwyn cael y cymorth priodol. Mae hefyd yn cynnwys cyngor i bobl sydd am helpu rhywun sydd wedi profi trawma.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw trawma?

Trawma yw'r enw sydd weithiau'n cael ei roi ar y profiad o fynd drwy ddigwyddiadau sy'n achosi straen, ofn neu ofid mawr. Wrth siarad am drawma emosiynol neu seicolegol, gallwn fod yn sôn am:

  • sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau sy'n drawmatig i ni
  • sut mae ein profiadau'n effeithio arnon ni.

Gallwn brofi digwyddiadau trawmatig mewn unrhyw oed a gallant achosi niwed sy'n para'n hir. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i drawma, felly gallech sylwi ar unrhyw effeithiau yn fuan wedyn, neu'n bell ar ôl y digwyddiad.

Byddai'n beth da pe byddai mwy o ymwybyddiaeth o drawma ac o'r ffordd mae'n effeithio ar broses meddwl ac ymddygiad yr unigolyn. [...] Mae'n bosibl iawn i ymddygiadau hunanamddiffyn gael eu camddeall neu eu camddehongli.

Os ydych chi wedi profi effaith trawma, mae'n bwysig cofio i chi ddod drwyddo ym mha ffordd bynnag roeddech yn gallu a bod eich ymatebion yn gyffredin a normal

Os byddwch yn mynd drwy drawma pellach, gall hynny beri i chi ddechrau teimlo effaith profiadau o'r gorffennol, neu waethygu'r problemau sydd gennych chi'n barod. Mae'n iawn gofyn am help ar unrhyw adeg – yn cynnwys adegau pan nad ydych chi'n sicr eich bod wedi profi trawma.

Gwnes i adael cartref yn 18 oed i ddianc o fywyd yr aelwyd... Roeddwn i wedi defnyddio alcohol, wedi cael perthnasoedd peryglus iawn, roeddwn i'n profi pryder ofnadwy drwy'r amser, roeddwn i'n fy niweidio fy hun ac yn meddwl yn aml am fy lladd fy hun... ond doedd gen i mo'r geiriau i ddisgrifio hyn i mi fy hun nac i eraill.

Pa brofiadau all fod yn drawmatig?

Mae profiad trawmatig yn brofiad personol. Does dim ffordd i bobl eraill wybod sut rydych chi'n teimlo am eich profiadau'ch hun neu a ydyn nhw'n achosi trawma i chi. Gallech chi fynd drwy brofiadau tebyg i rywun arall, ond profi effeithiau gwahanol. 

Gall trawma gynnwys digwyddiadau lle rydych chi'n teimlo:

  • ofn
  • o dan fygythiad
  • wedi'ch iselhau
  • wedi'ch gwrthod
  • wedi'ch gadael
  • wedi'ch anwybyddu
  • yn anniogel
  • heb gefnogaeth
  • wedi'ch dal yn gaeth
  • cywilydd
  • yn ddi-rym.

Rhai o'r ffyrdd i drawma ddigwydd:

  • rhywbeth sy'n digwydd unwaith neu drwy'r amser
  • cael eich niweidio'n uniongyrchol
  • gweld rhywun arall yn cael ei niweidio
  • byw mewn awyrgylch trawmatig
  • profi effaith trawma mewn teulu neu gymuned.

Mae'n bosibl y bydd eich profiad o drawma yn ymwneud ag agweddau ar eich hunaniaeth, yn cynnwys aflonyddu, bwlio neu wahaniaethu yn eich erbyn. Os ydych wedi profi trawma ac yn arddel hunaniaeth LGBTQIA+, mae'n bosibl y bydd y wybodaeth hon am iechyd meddwl pobl LGBTQIA+ yn gymorth i chi.

Yn fy achos i, mae'r atgofion wedi bod fel cân sy'n canu yn fy mhen drwy'r amser. Mae'n chwarae drosodd a drosodd, ac weithiau byddaf i'n cofio'r geiriau ac yn canu gyda nhw, ac weithiau dim ond yn clywed yr offerynnau. Ond fydd yr atgofion byth yn mynd i ffwrdd, ac weithiau mae eu sŵn mor uchel fel na fyddaf i'n gallu fy nghlywed fy hun yn meddwl bron.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Mae rhai pobl yn defnyddio'r term Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i ddisgrifio profiadau anodd neu lawn straen yn ystod plentyndod, yn cynnwys cam-drin neu esgeuluso rhywiol, corfforol neu emosiynol. Mae ymchwil wedi dangos bod cysylltiad rhwng profiadau o'r math hwn a phroblemau iechyd corfforol a meddyliol.

Os ydych chi wedi cael eich cam-drin neu'ch esgeuluso yn ystod eich plentyndod, yna mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Bobl a Gafodd eu Cam-drin yn ystod Plentyndod (NAPAC) ar gael i'ch cefnogi. Hefyd, ar ein tudalennau am gam-drin, mae rhestr o sefydliadau sy'n gallu rhoi cymorth i ddelio â cham-drin ym mha oed bynnag y digwyddodd.

" "

Diagnosis am cPTSD

Dydw i ddim eisiau siarad â neb, a'r unig beth y gallaf i feddwl amdano yw beth a ddigwyddodd ac y bydd yn digwydd eto.

A yw trawma yn gallu achosi problemau iechyd meddwl?

Weithiau gall trawma fod yn achos uniongyrchol i broblemau iechyd meddwl, neu gall trawma eich gwneud yn fwy agored i'r perygl o'u datblygu. Trawma yw un o'r achosion posibl i bob math o broblemau iechyd meddwl. Gall fod yn anodd dweud pa broblemau sy'n cael eu hachosi gan drawma.

Rydym hefyd yn gwybod bod rhai anhwylderau'n datblygu o ganlyniad uniongyrchol i drawma, yn cynnwys anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD cymhleth)

Mae trawma yn aros gyda chi, hyd yn oed ar ôl yr eiliad ofnadwy. Mae'n troi'n ddedfryd oes am drosedd rydych chi heb ei gyflawni.

Mae'r ffordd y mae trawma yn effeithio arnoch yn gallu dibynnu ar bethau eraill hefyd, yn cynnwys:

  • profiadau blaenorol o drawma
  • mathau eraill o straen neu bryder sy'n bod ar y pryd neu wedyn 
  • cael niwed gan bobl sy'n agos i chi
  • a yw rhywun wedi'ch helpu neu'ch cefnogi.

Achos yr iselder a gorbryder gweithredu lefel uchel sy gen i yw trawma yn ystod plentyndod a oedd heb effeithio arna i o'r adeg roeddwn i'n 13 oed nes iddo gychwyn pan oeddwn i'n 39 oed.

Os oeddech wedi sôn wrth rywun am beth a ddigwyddodd a bod y person hwnnw heb wrando arnoch chi neu'ch helpu, gallai hyn fod wedi'ch atal rhag cael y cymorth roeddech chi â'i angen neu beri i chi deimlo'n unig – a gallai hynny fod wedi gwaethygu effeithiau'r trawma.

Gwahanol ffyrdd o edrych ar drawma ac iechyd meddwl

Mae gwahanol ffyrdd o ddelio â thrawma a phroblemau iechyd meddwl. Mae rhai pobl yn gweld bod cael diagnosis yn eu helpu am fod hyn yn dilysu eu profiad neu'n egluro beth maen nhw'n mynd drwyddo.

Mae pobl eraill yn teimlo bod hyn yn rhoi pwyslais mwy meddygol ar eu problemau nag sy'n fuddiol. Maen nhw'n dadlau y dylai'r gweithwyr proffesiynol ystyried y pethau yn eu bywyd a fyddai wedi gallu cyfrannu at eu hanawsterau, a helpu gyda'r rhain. Nid canolbwyntio ar ganfod problemau ynddyn nhw fel unigolyn.

Weithiau mae cysylltu â phobl eraill sydd wedi goroesi trawma yn gallu bod o gymorth mawr, er enghraifft, drwy gymorth gan gymheiriaid. Gall hyn fod yn berthnasol os nad ydych yn gweld eich profiadau fel problemau neu symptomau meddygol, neu os yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi gwneud pethau'n waeth i chi. Mae rhai pobl yn cael budd o ymuno â grwpiau sy'n rhan o fudiad i oroeswyr, fel National Survivor User Network (NSUN).

Ym mha ffordd bynnag rydych yn edrych ar eich profiadau'ch hun, rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi wrth ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer gofal a chymorth.

Second sight

Trauma is an unpredictable beast. The enormity of my sensory loss hit me hard.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig