Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Beth yw ECT?

Mae therapi electrogynhyrfol (ECT yn fyr) yn driniaeth sy'n cynnwys anfon cerrynt trydan trwy'ch ymennydd. Mae hyn yn achosi ymchwydd byr o weithgarwch trydanol yn eich ymennydd (a elwir hefyd yn drawiad). Y nod yw lleddfu symptomau difrifol rhai problemau iechyd meddwl.

Rhoddir ECT o dan anesthetig cyffredinol. Mae hyn yn golygu nad ydych yn effro yn ystod y driniaeth.

Beth all ECT ei drin?

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod meddygon ond yn defnyddio ECT fel triniaeth mewn sefyllfaoedd penodol.

Mae hyn yn cynnwys trin iselder difrifol:

  • Os oes yn well gennych chi gael ECT oherwydd eich profiad o'i gael yn y gorffennol 
  • Os oes angen triniaeth frys arnoch, er enghraifft, os yw eich bywyd mewn perygl am nad ydych yn bwyta nac yn yfed
  • Os nad yw triniaethau eraill wedi helpu, fel meddyginiaeth a therapïau siarad 

Mae’r canllawiau hefyd yn argymell bod meddygon ond yn defnyddio ECT fel triniaeth tymor byr os oes gennych chi:

  • Gyfnod difrifol neu hirhoedlog o fania
  • Catatonia, sef pan fyddwch wedi rhewi mewn un safle, neu'n gwneud symudiadau ailadroddus neu aflonydd

Dim ond os ydych wedi ymateb yn dda i'r driniaeth o'r blaen y caiff ECT ailadroddus ei argymell ar gyfer mania a chatatonia. Neu os yw'r holl opsiynau eraill ar gyfer triniaeth eisoes wedi'u hystyried. 

Nid yw canllawiau NICE yn argymell ECT ar gyfer rheoli sgitsoffrenia yn barhaus. Nid ydynt ychwaith yn argymell ECT fel triniaeth arferol ar gyfer iselder ysgafnach.

Gallwch ddarllen canllawiau llawn ar wefan NICE ar gyfer defnyddio ECT i drin catatonia, mania neu sgitsoffrenia, ac fel un o'r triniaethau ar gyfer iselder difrifol.

I bwy y caiff ECT ei argymell?

Ni ellir rhoi ECT i blant dan 11 oed. Ac anaml y mae'n effeithiol ar gyfer plant rhwng 11 a 18 oed. Os argymhellir ECT, bydd angen ail farn ffurfiol cyn ei roi.

Dylai meddygon hefyd ystyried yn ofalus a ddylid argymell ECT os oes gennych risg uwch o effeithiau negyddol. Er enghraifft:

  • Os ydych chi'n feichiog ar hyn o bryd
  • Os ydych chi'n berson hŷn
  • Os ydych chi'n byw gyda chyflwr cardiofasgwlaidd (sy'n effeithio ar eich calon neu bibellau gwaed)

Dylai meddygon ystyried y canlynol cyn cynnig ECT i unrhyw un:

  • Risgiau anesthetig cyffredinol
  • Cyflyrau meddygol eraill a allai fod gennych
  • Effeithiau andwyol posibl, gan gynnwys colli cof
  • Y risgiau o beidio â chael triniaeth

 

Ydy ECT yn gweithio?

Mae rhai pobl yn gweld ECT yn ddefnyddiol, mae eraill yn anghytuno. Nid yw ymchwil yn glir ar sut yn union y mae ECT yn effeithio ar yr ymennydd - gan gynnwys sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl. 

Os ydych chi'n meddwl am gael ECT, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cael gwybodaeth lawn am y driniaeth a'i sgil-effeithiau posibl. 

A allaf gael triniaethau eraill ochr yn ochr ag ECT?

Mae canllawiau NICE yn nodi y dylid ond cynnig ECT i chi os ydych chi wedi rhoi cynnig ar driniaethau eraill a'ch bod wedi canfod eu bod yn aflwyddiannus, yn ddiwerth neu'n annerbyniol.

Mae rhai pobl yn gweld y gall ECT eu helpu i ddechrau eto gyda thriniaethau neu fathau eraill o gymorth. Er enghraifft, meddyginiaeth, therapïau siarad neu therapïau celfyddydol a chreadigol. Gall y rhain eich helpu i barhau i wella ar ôl cael ECT.

Cefnogi rhywun arall

Os ydych chi'n poeni am rywun a allai fod angen triniaeth ECT, efallai y bydd ein tudalennau ar gefnogi rhywun arall gyda'u hiechyd meddwl yn gallu helpu. 

 

Pam fod ECT yn bwnc dadleuol?

Mae ECT yn bwnc dadleuol am sawl rheswm:

  • Mae gweithwyr proffesiynol yn anghytuno ynghylch a ddylid defnyddio ECT ai peidio. Mae rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o'r farn bod ECT yn driniaeth ddefnyddiol. Mae eraill yn teimlo na ddylid ei defnyddio o gwbl.
  • Weithiau gall achosi i bobl colli cof. Gall hyn fod yn brofiad tymor byr. Ond mae rhai pobl yn colli cof am amser hir.
  • Mae rhai pobl yn cael cynnig ECT heb gael cynnig triniaethau eraill yn gyntaf, fel therapïau siarad ar gyfer iselder. Mae hyn yn groes i ganllawiau NICE.

Wnaeth e ddim gweithio dros nos ond wrth i mi fynd drwy'r cwrs o naw sesiwn roeddwn i'n gallu teimlo bod pwysau anferth y niwl du, tywyll yn fy meddwl yn codi.

Sgil-effeithiau ECT

Gall sgil-effeithiau ECT fod yn wahanol i bawb. Ond mae rhai sgil-effeithiau mwy cyffredin o'r driniaeth. Mae'r adran hon yn ymdrin â sgil-effeithiau tymor byr a thymor hir, gan gynnwys colli cof.

Colli cof

Mae llawer o bobl yn colli cof ar ôl cael ECT. Efallai y byddwch yn cael anhawster cofio gwybodaeth newydd. I rai pobl, dim ond am gyfnod byr y mae hyn yn para.

Dylech gael prawf safonol o'ch cof a'ch galluoedd meddwl fel rhan o'ch asesiad. Dylai hyn ddigwydd cyn eich triniaeth ac ar ôl pob sesiwn driniaeth.

Daeth yn amhosibl i mi astudio neu ddarllen am nad oeddwn yn gallu canolbwyntio. Mae fy ngallu i amsugno neu gadw gwybodaeth newydd wedi lleihau i ddim byd, bron.

Sgil-effeithiau ar unwaith ar ôl triniaeth

Efallai y byddwch yn cael sgil-effeithiau eraill yn syth ar ôl y driniaeth. Gall y rhain gynnwys:

  • Cysgadrwydd (efallai y byddwch chi'n cysgu am ychydig)
  • Dryswch
  • Cur pen
  • Teimlo'n sâl
  • Cyhyrau poenus
  • Colli archwaeth

Yn anaml, mae rhai pobl hefyd yn:

  • Anafu eu dannedd neu eu gên, neu gyhyrau eraill, ond dylai'r ymlaciwr cyhyrau leihau'r risg o hyn
  • Teimlo'n ddryslyd iawn, yn aflonydd neu'n gythryblus rhwng triniaethau

Yn anaml iawn, gall pobl gael trawiadau sy'n para amser hir.

Mae yna hefyd rai risgiau gydag anesthetig cyffredinol. Gallwch siarad â'ch meddyg neu dîm gofal iechyd os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn.

Sut alla i ymdopi â sgil-effeithiau ar ôl triniaeth?

Efallai y bydd angen mwy o egni arnoch i wneud eich tasgau bob dydd ar ôl i chi gael triniaeth. Ceisiwch dderbyn cymorth gan bobl eraill yn eich bywyd os gallwch chi. Gallent eich helpu gyda phethau ymarferol, fel gwneud tasgau neu gasglu plant o'r ysgol.

Mae rhai pobl yn ei chael hi'n ddefnyddiol cadw eitemau gerllaw sy'n rhoi cysur iddynt. Neu ddod o hyd i sioe deledu neu bodlediad i'w ffrydio, hyd yn oed os mai dim ond ar gyfer sŵn cefndir ydyw. Os ydych chi'n teimlo'n sâl, gallai fod yn ddefnyddiol cael rhai bwydydd sych gerllaw sy'n hawdd eu bwyta.

Mae ein gwybodaeth am fwyd ac iechyd meddwl yn cynnwys rhai awgrymiadau ar gyfer bwyta pan fyddwch chi'n teimlo'n sâl.

Yn syth ar ôl triniaethau roeddwn i'n gysglyd ond ddim mewn poen ac roedd yna adegau o deimlo'n sâl.

Sgil-effeithiau tymor hir 

Prin yw'r dystiolaeth sydd ar gael am effeithiau hirdymor ECT.

Mae rhai pobl yn disgrifio eu bod yn colli cof hirdymor neu barhaol. Er enghraifft, colli atgofion personol neu anghofio gwybodaeth. Gall hyn fod yn brofiad trallodus iawn.  

Mae rhai pobl hefyd yn colli diddordeb mewn pethau neu'n cael anhawster canolbwyntio. Mae eraill yn gweld nad ydyn nhw'n teimlo mor greadigol neu ysgogol ag o'r blaen.

Beth sy'n digwydd yn ystod sesiynau ECT?

Mae'r adran hon yn esbonio sut mae sesiynau ECT yn gweithio, ble mae'r driniaeth yn cael ei rhoi a faint o sesiynau y gallech eu cael. 

Yn ystod sesiwn ECT

  • Byddwch yn gorwedd ar wely yn yr ystafell driniaeth. Bydd eich gemwaith, esgidiau ac unrhyw ddannedd gosod yn cael eu tynnu a'u cadw'n ddiogel i chi.
  • Unwaith y byddwch chi'n gyfforddus, byddwch yn cael pigiad anesthetig cyffredinol.
  • Unwaith y bydd yr anesthetig wedi eich anfon i gysgu, byddwch yn cael chwistrelliad o feddyginiaeth sy'n ymlacio'r cyhyrau. Mae hyn er mwyn atal eich corff rhag dirdynnu yn ystod y driniaeth. Byddwch hefyd yn cael ocsigen trwy fasg wyneb neu diwb. Mae angen hyn oherwydd yr ymlaciwr cyhyrau.
  • Bydd dau electrod wedi'u padio yn cael eu gosod ar ochr eich pen rhwng y glust a'r talcen. Efallai y bydd un wedi'i osod ar bob ochr i'ch pen (gelwir hyn yn ECT dwyochrog). Neu efallai y bydd dau wedi'u gosod ar yr un ochr i'ch pen (gelwir hyn yn ECT unochrog). Gall eich meddygon ddweud mwy wrthych am y ddau fath hyn o ECT, a pham y gallech gael cynnig y naill neu'r llall.
  • Bydd giard ceg yn cael ei roi yn eich ceg i'ch atal rhag brathu'ch tafod.
  • Bydd y peiriant ECT yn cynhyrchu cyfres o bylsiau trydanol byr. Bydd hyn yn achosi i'ch corff fynd ychydig yn stiff. Efallai y bydd cyhyrau eich wyneb, eich dwylo a'ch traed yn gwingo ychydig. Trawiad yw hyn. Dylai bara rhwng 20 a 50 eiliad.
  • Ar ôl y trawiad, caiff y giard ceg ei dynnu. Yna cewch eich troi ar eich ochr. Bydd yr anesthetydd yn rhoi ocsigen i chi nes bod effaith yr ymlaciwr cyhyrau yn dod i ben. Dylai hyn gymryd ychydig funudau. Yna byddwch chi'n dechrau anadlu ar eich pen eich hun eto.

Ar ôl sesiwn ECT

Ar ôl i'r driniaeth ECT ddod i ben, byddwch yn deffro'n llwyr yn ara deg. Ond efallai y byddwch chi'n teimlo'n ddryslyd. Byddwch yn mynd i'r ystafell adfer ECT a bydd nyrs yn gofalu amdanoch. Efallai y byddwch chi'n cysgu am ychydig ar ôl y driniaeth.

Bydd angen i chi wella o'r anesthetig cyffredinol yn ogystal â'r driniaeth ECT ei hun. Dim ond pan fyddwch wedi gwella'n llwyr ar ôl y driniaeth y byddwch yn gallu gadael.

Ble mae sesiynau ECT yn digwydd?

Dylai hyn gynnwys:

  • Man aros, a ddylai fod yn gyfforddus ac yn ymlaciol
  • Ystafell driniaeth, gyda'r peiriant ECT, offer ar gyfer eich monitro, ac offer ar gyfer dadebru mewn argyfwng
  • Ystafell adfer

Dylai'r ystafelloedd hyn fod ar wahân. Dylech fod yn gallu symud rhwng yr ystafelloedd hyn heb i gleifion eraill eich gweld.

A fyddaf yn cael ECT claf mewnol neu glaf allanol?

Mae'n fwy cyffredin aros yn yr ysbyty tra'n cael triniaeth ECT. Gelwir hyn yn ECT claf mewnol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gallu mynd adref ar yr un diwrnod. Gelwir hyn yn ECT claf allanol.

Os cewch ECT claf allanol, bydd angen i oedolyn arall ddod gyda chi i'ch helpu ar ôl eich triniaeth.

Gallwch siarad â'ch meddygon ynghylch a fyddwch yn cael ECT claf mewnol neu glaf allanol. 

Roedd y driniaeth ei hun yn ddryslyd ac yn llethol. Roeddwn i'n teimlo wedi fy llethu oherwydd roedd yn digwydd mor gyflym.

Faint o sesiynau triniaeth ECT fydda i'n eu cael?

Fel arfer rhoddir ECT ddwywaith yr wythnos am 3 i 6 wythnos. Mae hyn yn golygu y gallech gael 6 i 12 sesiwn. Dylech gael eich asesu ar ôl pob triniaeth i weld a oes angen un arall neu beidio.

Mae'n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun rhwng sesiynau ECT, yn enwedig os ydych chi'n profi sgil-effeithiau.

Cefais gymaint o syndod ar ôl fy nhriniaeth gyntaf am nad oedd mor ddrwg ag yr oeddwn wedi'i ragweld.

Cydsynio i ECT

Gall fod yn anodd penderfynu a ddylid cael ECT ai peidio. Fel arfer, dim ond os ydych yn sâl iawn y cewch gynnig ECT. Felly efallai y byddwch yn ei chael hi'n anoddach deall gwybodaeth a gwneud penderfyniadau.

Os bydd meddyg yn awgrymu eich bod yn cael ECT, mae gennych hawl i wneud penderfyniad gwybodus. Dylech gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gydsynio, mewn ffordd y gallwch ei deall. Er enghraifft: 

  • Manteision y driniaeth
  • Unrhyw sgil-effeithiau a'r risg bosibl o niwed
  • Sut bydd y driniaeth yn cael ei rhoi
  • Triniaethau amgen a allai helpu
  • Beth allai ddigwydd os nad ydych yn cael triniaeth

Gall fod yn anodd cymryd llawer o wybodaeth newydd i mewn ar yr un pryd. Mae'n iawn gofyn i staff meddygol esbonio pethau fwy nag unwaith. Dylech gael o leiaf 24 awr i feddwl am eich penderfyniad.

Gall hefyd fod o gymorth i gael ffrind, perthynas neu eiriolwr gyda chi pan fyddwch yn cael yr wybodaeth. Gallant helpu i sicrhau eich bod yn deall y driniaeth.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn penderfynu cydsynio i ECT?

Os byddwch yn cytuno i ECT, bydd yn rhaid i chi lofnodi ffurflen ganiatâd ysgrifenedig. Ond dylid dweud wrthych y gallwch newid eich meddwl ar unrhyw gam o'r driniaeth. Os gwnewch hynny, bydd y driniaeth yn dod i ben.

Ar bob cam o'r driniaeth, dylai'r meddyg gadarnhau eich bod yn dal i gydsynio.

A ellir rhoi ECT i mi heb fy nghaniatâd?

Os ydych yn cael eich cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel arfer dim ond os ydych yn cydsynio iddo y gellir rhoi ECT. Rhaid i'ch clinigwr cymeradwy neu feddyg a benodwyd i roi ail farn (SOAD) dystio eich bod wedi cydsynio. Rhaid iddynt hefyd ardystio bod gennych chi'r galluedd i wneud hynny.

Os ydych ar orchymyn triniaeth gymunedol (CTO), dim ond os ydych yn cydsynio iddo y gellir rhoi ECT fel arfer. Ac os bydd eich clinigwr cymeradwy yn ardystio eich bod wedi cydsynio (a bod gennych y galluedd i wneud hynny).

Mae’n bosibl y rhoddir ECT i chi heb eich caniatâd os oes angen triniaeth frys arnoch. Neu os nad oes gennych y galluedd i gydsynio iddo.

Triniaeth frys 

Mewn argyfwng, mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 weithiau'n caniatáu rhoi ECT heb eich caniatâd. Ond dim ond os oes angen y driniaeth ar unwaith am unrhyw un o'r rhesymau canlynol:

  • Os bydd yn achub eich bywyd.
  • Os bydd yn atal eich cyflwr rhag gwaethygu'n ddifrifol, ac na fydd yn cael canlyniadau corfforol neu seicolegol anffafriol na ellir eu gwrthdroi.

Os nad oes gennych y galluedd i gydsynio 

Os nad oes gennych y galluedd i gydsynio, efallai y rhoddir triniaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Neu, yn llai cyffredin, o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Os ydych wedi cael eich cadw dan rai adrannau o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, efallai y rhoddir ECT i chi heb eich caniatâd os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • Rydych yn cael eich cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ac eithrio os ydych yn cael eich cadw dan adrannau 4, 5(2) neu 5(4).
  • Ni allwch ddeall yr wybodaeth am ECT. Mae hyn yn golygu na allwch roi cydsyniad ar sail gwybodaeth.
  • Nid ydych wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth ECT o'r blaen. Neu os nad yw atwrnai, dirprwy neu'r Llys Gwarchod wedi gwneud penderfyniad i wrthod triniaeth ECT i chi.
  • Mae arbenigwr ail farn nad yw'n ymwneud â'ch gofal yn ymgynghori â dau weithiwr proffesiynol sydd wedi bod yn ymwneud â'ch gofal. Rhaid i un o'r gweithwyr proffesiynol hyn fod yn nyrs. Rhaid iddynt oll gytuno y dylid rhoi ECT.

Os nad ydych yn cael eich cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, efallai y cewch eich trin heb eich caniatâd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Dim ond os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol y gall hyn ddigwydd:

  • Asesir nad oes gennych y galluedd i gydsynio o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
  • Nid ydych wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth ECT o'r blaen.
  • Ystyrir ei fod er eich lles pennaf i chi gael y driniaeth.

Cyn penderfynu a yw ECT er eich lles pennaf, mae angen ymgynghori â phobl amrywiol, gan gynnwys:

  • Unrhyw un sydd â diddordeb yn eich lles. Er enghraifft, gofalwr neu aelod agos o'r teulu.
  • Eich atwrnai (os ydych wedi penodi un) a dirprwy (os yw'r Llys Gwarchod wedi penodi un).

Os oes anghytundeb ynghylch a yw ECT er eich lles pennaf, efallai y bydd angen gwneud cais i'r Llys Gwarchod i ddatrys yr anghytundeb hwn.

Penderfyniadau ymlaen llaw am ECT 

Os ydych chi'n glir nad ydych chi'n dymuno derbyn ECT hyd yn oed os yw eich bywyd mewn perygl, mae angen i'ch penderfyniad ymlaen llaw fodloni amodau arbennig. Ni ddylid rhoi ECT i chi os yw unrhyw un o'r amodau canlynol yn berthnasol:

  • Rydych chi eisoes wedi gwneud penderfyniad dilys a chymwys ymlaen llaw i wrthod ECT.
  • Mae eich twrnai wedi gwrthod ECT ar eich rhan o dan atwrneiaeth arhosol.
  • Mae dirprwy a benodwyd gan y llys, neu lys, wedi gwrthod ECT ar eich rhan.

Dylid hefyd ymgynghori â'ch teulu ym mhob un o'r achosion hyn, os yw'n briodol.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig