Sut i wella eich lles meddyliol
Mae'r dudalen hon yn egluro ystyr lles meddyliol, ac yn rhoi awgrymiadau i'ch helpu i ofalu am eich lles meddyliol.
Download as an Easy Read PDF (new window)
Beth yw lles meddyliol?
Nid oes gan les meddyliol un ystyr penodol. Efallai y byddwn yn ei ddefnyddio i siarad am sut rydyn ni'n teimlo, pa mor dda rydyn ni'n ymdopi â bywyd bob dydd neu'r hyn sy'n teimlo'n bosibl ar hyn o bryd.
Nid yw lles meddyliol da yn golygu eich bod bob amser yn hapus. Neu nad yw eich profiadau wedi effeithio arnoch.
Ac nid yw cael lles da bob amser yn golygu nad oes gennych broblem iechyd meddwl. Efallai eich bod yn byw gyda phroblem iechyd meddwl, ond mae gennych les da ar hyn o bryd. Neu efallai nad oes gennych broblem iechyd meddwl, ond eich bod yn cael trafferth gyda'ch lles ar hyn o bryd.
Gall lles meddyliol gwael ei gwneud hi'n anoddach ymdopi â bywyd bob dydd.
Bu’n rhaid i mi greu lle i fod yn iach. Mae’n swnio’n dwp ond rhowch rywfaint o le i’ch hun - yn fy achos i defnyddiais ymwybyddiaeth ofalgar i fy helpu i gael rheolaeth.
Dan 18 oed? Mae gennym adnoddau i chi ar les, hunan-barch a gofalu amdanoch chi eich hun
Awgrymiadau ar gyfer gwella eich lles meddyliol
Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud i geisio gofalu am ein lles. Mae gennym awgrymiadau i'ch helpu chi:
- Ceisiwch ymlacio a lleihau straen
- Dewch o hyd i ffyrdd o ddysgu a bod yn greadigol
- Treuliwch amser ym myd natur
- Cysylltwch ag eraill
- Gofalwch am eich iechyd corfforol
- Ceisiwch wella eich cwsg
Nid yw bob amser yn hawdd gofalu am ein lles. Neu i wybod lle i ddechrau. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi:
- Rhoi cynnig ar yr hyn sy'n teimlo'n gyfforddus yn unig
- Rhoi amser i'ch hun ddarganfod beth sy'n gweithio i chi. Mae gwahanol bethau'n gweithio i wahanol bobl
- Mynd ar eich cyflymder eich hun
- Cymryd pethau cam wrth gam. Os yw'r cam cyntaf yn teimlo'n rhy anodd, ceisiwch ei dorri i gamau hyd yn oed yn llai.
Cofiwch na fydd diwrnodau da i'ch lles bob amser yn edrych yr un peth. Nid oes bob amser gennym yr un lefelau o egni neu gymhelliant. Byddwch yn garedig i’ch hun a gwnewch yr hyn sy'n teimlo'n iawn i chi ar hyn o bryd.
Os ydych chi'n cael trafferth gyda'r awgrymiadau hyn neu os nad ydynt yn ddefnyddiol i chi, mae gennym wybodaeth am yr hyn i roi cynnig arni os nad yw'r awgrymiadau hyn yn helpu.
Ysgrifennu fy ffordd drwy orbryder ac iselder
Roedd ysgrifennu’n ffordd o gael sgwrs gyda fy hun; gweithio fy ffordd drwy ba bynnag broblemau oedd yn fy mhoeni ar y pryd.
Ceisiwch ymlacio a lleihau straen
Ceisiwch feddwl am yr hyn a allai eich helpu i ymlacio. Os oes rhywbeth yn eich helpu chi, ceisiwch ddod o hyd i amser i'w ffitio i mewn i'ch diwrnod. Er enghraifft, gallai hyn fod trwy cael bath neu gawod. Neu fynd am dro neu wrando ar gerddoriaeth.
Gall ein hawgrymiadau a'n fideos isod eich helpu i ymlacio. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd gwneud hyn, gallech hefyd roi cynnig ar rai o'r awgrymiadau a'r ymarferion ar ein tudalennau ymlacio.
Cymerwch saib os oes angen
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch llethu gan sefyllfa llawn straen, ceisiwch gymryd saib. Gall newid eich lleoliad eich helpu i ymlacio a lleddfu teimladau o ofid, hyd yn oed am ychydig funudau yn unig.
Gwnewch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau
Ceisiwch ganiatáu amser i wneud gweithgaredd rydych chi'n ei hoffi'n rheolaidd. Gallai hyn gynnwys coginio pryd o fwyd, cysylltu â ffrind neu wylio'r teledu.
Ceisiwch reoli straen
Os ydych o dan lawer o bwysau, efallai y byddwch chi'n dechrau teimlo wedi’ch gorlethu neu allan o reolaeth. Gall straen hefyd achosi effeithiau corfforol ar ein cyrff.
Gweler ein tudalennau am straen i gael awgrymiadau ar ddelio â phwysau ac ymdopi â digwyddiadau llawn straen.
Canolbwyntiwch ar y presennol
Gall rhoi sylw i'r foment bresennol neu'ch synhwyrau fod yn ddefnyddiol. Gelwir hyn weithiau yn ymwybyddiaeth ofalgar. Gallwch ddefnyddio technegau fel ymarferion myfyrdod neu anadlu. Neu gallwch ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar drwy roi mwy o sylw i'ch synhwyrau wrth wneud pethau rydych chi'n eu gwneud bob dydd, er enghraifft, wrth olchi’r llestri neu fwyta.
Mae’n wyddys y gall canolbwyntio ar y presennol helpu pobl i ddod yn fwy ymwybodol o'u meddyliau a'u teimladau. Mae hyn yn golygu, yn lle cael eich llethu gan eich teimladau, y gall ddod yn haws eu rheoli.
Mae gan ein tudalennau am ymwybyddiaeth ofalgar ragor o wybodaeth. Efallai y bydd yn eich helpu i benderfynu a yw'n iawn i chi. Ac mae yna rai ymarferion y gallech roi cynnig arnynt.
Gwnewch becyn hunan-ofal
Efallai y bydd yn helpu i gasglu rhai pethau a allai eich helpu pan fyddwch yn cael trafferth. Mae pecyn hunan-ofal yn llawn pethau sydd fel arfer yn eich cysuro ac yn eich helpu i ymlacio. Er enghraifft, gallech gynnwys eich hoff lyfr, lluniau neu ffotograffau, pêl straen neu degan tynnu sylw a blanced neu sliperi cysurus.
Neu gallech chi greu pecyn hunan-ofal digidol ar eich ffôn. Gallwch gadw lluniau, cerddoriaeth, fideos, negeseuon neu ddywediadau sy'n ddefnyddiol i chi. Neu nodiadau i atgoffa'ch hun sut i reoli sefyllfaoedd anodd.
Cymerwch ofal ar-lein
Mae llawer o bethau ar y rhyngrwyd a allai effeithio ar ein lles. Efallai y gwelwch eich bod yn treulio mwy o amser ar-lein nag yr hoffech chi. Neu ei fod yn gwneud eich iechyd meddwl yn waeth. Gallai helpu i gymryd seibiant oddi ar y rhyngrwyd. Neu newid y cyfrifon rydych chi'n eu dilyn neu’r gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Mae gan ein tudalennau am ofalu am eich iechyd meddwl ar-lein ragor o wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ar gael cydbwysedd da ar-lein/all-lein.
Mae gennym hefyd awgrymiadau ar ymdopi â digwyddiadau gofidus yn y newyddion.
Wyth awgrym ymlacio ar gyfer eich iechyd meddwl
Gwyliwch ein hanimeiddiad am wyth awgrym ymlacio i'ch helpu i ofalu am eich lles meddyliol.
Dewch o hyd i ffyrdd o ddysgu a bod yn greadigol
Ymunwch â dosbarth neu grŵp
Gall dysgu sgil newydd mewn grŵp fod yn bleserus, a helpu cynyddu eich hyder. I gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi, gallech gysylltu â'ch cangen Mind lleol. Neu gofynnwch yn eich llyfrgell leol neu ganolfan gymunedol.
Rhowch gynnig ar ddysgu ar-lein
Efallai y byddwch hefyd yn gallu dysgu sgiliau newydd neu ymuno â chlybiau ar-lein. Gall hyn fod yn ddewis da os yw'n anodd i chi fynd allan.
Gweler gwefannau FutureLearn ac OpenLearn i ddod o hyd i gyrsiau ar-lein am ddim.
Ceisiwch wneud rhywbeth creadigol
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi wneud rhywbeth creadigol, fel darlunio, tynnu lluniau neu bobi. Gall hyn eich helpu i dynnu eich sylw oddi wrth feddyliau neu deimladau anodd. Neu gall eich helpu i ddeall eich hun yn well neu fynegi pethau anodd mewn ffordd ddiogel. Gall bod yn greadigol hefyd deimlo'n ymlaciedig neu roi boddhad.
Mae unrhyw fath o weithgaredd crefft wir yn canolbwyntio fy meddwl ac yn fy atal rhag canolbwyntio ar feddyliau negyddol. Gall hefyd roi boddhad i gynhyrchu rhywbeth, er y gall gael yr effaith arall os nad yw pethau'n gweithio allan fel yr oeddech yn bwriadu.
Treuliwch amser ym myd natur
Gall treulio amser ym myd natur helpu gwella eich hwyliau a lleihau teimladau o straen a dicter. Mae ein gwybodaeth am fyd natur ac iechyd meddwl yn trafod y manteision ac yn cynnig syniadau y gallech roi cynnig arnynt.
Dod â byd natur dan do
Gall hyn roi manteision byd natur i chi heb orfod mynd i barc neu ardd gyhoeddus. Gallech geisio gwrando ar adar yn canu, edrych ar luniau o anifeiliaid neu wylio byd natur o'ch ffenestr.
Gallech brynu blodau, planhigion wedi'u potio neu hadau i dyfu ar eich silff ffenestr. Neu gallech gasglu deunyddiau naturiol o'r tu allan, fel dail, blodau neu blu, a'u defnyddio i addurno eich cartref.
Treuliwch amser gydag anifeiliaid
I rai pobl, mae treulio amser gydag anifeiliaid yn ymlaciedig ac yn rhoi mwynhad iddynt. Gallech roi cynnig ar ofalu am anifeiliaid anwes neu gerdded cŵn, bwydo adar o'ch ffenestr, neu ymweld â fferm gymunedol leol.
Rhowch gynnig ar ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ym myd natur
Rhowch sylw i'ch amgylchedd a dewch o hyd i bethau i'w gweld, clywed, blasu, arogli a chyffwrdd. Edrychwch ar ein gwybodaeth am gymryd eiliad ofalgar ym myd natur i gael syniadau y gallech roi cynnig arnynt.
Hadau gobaith
Ni fydd y planhigion a'r ardd yn fy marnu. Dyma lle gallaf ail-adeiladu fy hyder a bod fy hun unwaith eto.
Cysylltwch ag eraill
Gall cysylltu ag eraill ein helpu i gael mwy o ymdeimlad o berthyn a lleihau teimladau o unigrwydd.
Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo
Gall bod yn agored gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo eich helpu i deimlo eich bod yn cael eich clywed a'ch cefnogi. Gall fod yn ffrind, partner neu aelod o'r teulu. Neu gallech ffonio llinell gymorth neu wasanaeth gwrando fel llinell wybodaeth Mind neu’r Samariaid. Weithiau gall cydnabod eich teimladau trwy eu dweud ar lafar helpu.
Rhowch gynnig ar gefnogaeth gan gymheiriaid
Os yw pethau’n anodd i chi, gall siarad â phobl sydd â theimladau neu brofiadau tebyg helpu weithiau. Gallai hyn fod wyneb yn wyneb mewn grŵp cymorth cymheiriaid, neu drwy gymuned ar-lein fel Side by Side Mind. Edrychwch ar ein tudalennau cymorth cymheiriaid i ddysgu rhagor.
Dewch o hyd i ffyrdd o wneud gwahaniaeth
Gall gwneud pethau dros eraill gael effaith gadarnhaol ar ein lles. Gallech ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi achos sy'n bwysig i chi. Er enghraifft, drwy lofnodi deisebau, rhoi i siopau elusen neu fanciau bwyd, neu ddangos eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym wybodaeth am sut i gymryd rhan yng ngwaith Mind.
Gallech hefyd geisio gwneud gweithredoedd bach o garedigrwydd i bobl rydych chi'n eu hadnabod neu i ddieithriaid. Gallai hyn fod yn bethau fel dal drws ar agor i rywun, gwneud paned o de i rywun, neu bostio sylw neu adolygiad neis ar-lein.
Gwirfoddolwch
Gall defnyddio'ch amser i helpu eraill roi ymdeimlad o bwrpas i chi, eich helpu i gwrdd â phobl a chynyddu eich hunan-barch. Dysgwch ragor am wirfoddoli ar gyfer Mind neu ewch i wefan Gwirfoddoli trwy Do It i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli.
Sut gwnaeth cefnogaeth gan gymheiriaid newid fy mywyd
Eisteddais mewn ystafell yn llawn dieithriaid a oedd yn fy neall yn syth yn fwy na fy ffrindiau a fy nheulu.
Yfwch ddŵr yn rheolaidd
Mae yfed digon o ddŵr neu hylifau eraill yn bwysig i'n hiechyd meddwl a chorfforol. Mae gan y GIG ragor o wybodaeth am ddŵr, diodydd a'ch iechyd.
Meddyliwch am yr hyn rydych chi'n ei fwyta
Gall yr hyn rydyn ni'n ei fwyta effeithio ar ein lles, gan gynnwys ein hwyliau a'n lefelau egni. Mae llawer o gyngor ar gael ynglŷn â pha fwydydd y dylen ni eu bwyta neu na ddylen ni eu bwyta. Gall hyn deimlo'n llethol neu'n ddryslyd. Gall teimlo'n euog am yr hyn rydyn ni'n ei fwyta effeithio ar ein lles hefyd. Efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio i chi yr un peth â phawb arall. Gall hyn newid ar wahanol adegau. Ceisiwch wneud dewisiadau bwyd sy'n gweithio orau i chi a'ch sefyllfa. Mae gan ein tudalennau bwyd ac iechyd meddwl ragor o wybodaeth.
Os oes gennych berthynas anodd gyda bwyd a bwyta, mae gan ein tudalennau am broblemau bwyta wybodaeth ac awgrymiadau a allai fod o gymorth.
Gofalwch am eich hun
Mae gwneud pethau fel brwsio'ch dannedd neu gael cawod yn bwysig i'ch iechyd corfforol. Gallant eich helpu i deimlo'n well. Os ydych chi'n cael trafferth gyda hyn, ceisiwch osod uchelgeisiau bach i’ch hun neu gwnewch yr hyn y gallwch.
Meddyliwch am eich defnydd o gyffuriau ac alcohol
Efallai y byddwch yn teimlo fel defnyddio cyffuriau neu alcohol i ymdopi ag unrhyw deimladau anodd. Ond yn yr hirdymor, gallant wneud i chi deimlo'n waeth. Edrychwch ar ein tudalennau am gyffuriau hamdden ac alcohol i ddysgu rhagor.
Ceisiwch gadw'n heini
Ceisiwch wneud gweithgarwch corfforol bob dydd, os yn bosibl. Nid oes rhaid iddo fod yn unrhyw beth mawr. Os nad ydych chi wedi arfer bod yn egnïol, dechreuwch yn fach a cheisiwch ddod o hyd i rywbeth rydych chi'n ei fwynhau.
Mae gan ein tudalennau am weithgarwch corfforol a'ch iechyd meddwl syniadau ar gyfer y rhan fwyaf o oedrannau a galluoedd. Maen nhw’n cynnwys pethau y gallwch eu gwneud gartref. Mae gan y GIG hefyd dudalen o ymarferion eistedd y gallech roi cynnig arnynt.
Fy mwriad yw mynd am dro amser cinio yn ystod yr wythnos waith. Mae'n rhoi amser i mi glirio fy mhen o'r bore sy'n fy helpu i baratoi ar gyfer y prynhawn. Mae hefyd yn fy atgoffa bod angen i mi edrych ar ôl fy hun.
Sefydlwch drefn
Ceisiwch sefydlu trefn o gwmpas amser gwely, i helpu gosod patrwm cysgu rheolaidd.
Meddyliwch am eich amser sgrîn
Ceisiwch roi rhywfaint o amser heb dechnoleg i’ch hun cyn cysgu, ac osgoi sgriniau llachar a all effeithio ar eich cwsg. Yn lle edrych ar sgrin gallech roi cynnig ar wrando ar gerddoriaeth neu bodlediad.
Ceisiwch ymlacio cyn mynd i'r gwely
Gwnewch weithgaredd ymlaciol, fel cael bath, neu roi cynnig ar ymarfer ymlacio cyn i chi fynd i gysgu. Gall hefyd helpu i osgoi caffein cyn amser gwely, gan y gall hyn eich cadw'n effro.
Ceisiwch wneud eich amgylchedd cysgu yn gyfforddus
Gall amgylchedd cysgu cyfforddus helpu gwella eich cwsg. Gall newidiadau bach helpu. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n cysgu'n well gyda golau isel, neu gyda dillad gwely gwahanol.
Os ydych chi'n aros yn yr ysbyty, gall cael eich eitemau eich hun helpu gwneud i bethau deimlo'n fwy cyfforddus a phersonol. Er enghraifft, gallech ofyn i ddefnyddio'ch clustog neu flanced eich hun.
Os ydych chi'n byw mewn hostel neu lety â chymorth, mae gan wefan Groundswell syniadau ar gyfer gwella eich cwsg.
Ceisiwch gofio na fydd yn para am byth
Weithiau gall poeni pryd y byddwn yn cwympo i gysgu neu faint o oriau o gwsg y byddwn yn eu cael wneud i ni deimlo'n waeth byth. Ceisiwch atgoffa eich hun ei bod yn normal i gael trafferth cysgu weithiau. A gall gorwedd yn y gwely a gorffwys hefyd fod yn ddefnyddiol i'ch corff a'ch meddwl.
Edrychwch ar ein tudalennau am broblemau cysgu i gael rhagor o wybodaeth, a mwy o awgrymiadau i wella eich cwsg.
Rwy'n darllen os nad ydw i'n gallu cysgu. Yn ogystal ag yfed te llysieuol, mae'n fy helpu i ymlacio a chwympo i gysgu'n gyflymach. Os nad yw hyn yn helpu, rwy'n canolbwyntio ar fy anadlu ac yn ceisio gwagio fy ymennydd.
Beth os nad yw'r awgrymiadau hyn yn helpu?
Mae ein tudalennau am wahanol broblemau iechyd meddwl yn cynnwys awgrymiadau hunan-ofal a chysylltiadau defnyddiol. Mae gennym hefyd wybodaeth am bethau a allai fod yn effeithio ar eich lles meddyliol, fel arian, hiliaeth a rhywedd a rhywioldeb.
Cofiwch ei bod hi'n iawn gofyn am help. Gweler ein tudalennau am geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl am ganllawiau ar ddod o hyd i gymorth a thriniaeth ar gyfer eich iechyd meddwl.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.