Yn esbonio beth yw straen, beth allai ei achosi a sut y gall effeithio arnoch chi. Yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu eich hun a sut i gael cymorth.
Straen yw'r ffordd rydyn ni'n ymateb pan fyddwn ni'n teimlo dan bwysau neu dan fygythiad. Fe arfer mae'n digwydd pan fyddwn ni mewn sefyllfa sydd y tu hwnt i'n rheolaeth.
Pan fyddwn ni'n teimlo dan straen, gall hynny fod:
Os byddwch chi'n teimlo dan straen fel rhan o grŵp mwy, efallai y bydd pob un ohonoch chi'n ei deimlo mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed os yw'r hyn sy'n achosi'r straen yr un peth.
“Mae'n eich llethu. Weithiau allwch chi ddim gweld drwy'r cwmwl du.”
Weithiau, gall ychydig bach o straen ein helpu ni i gwblhau tasgau a theimlo'n fwy egnïol. Ond gall straen ddod yn broblem os bydd yn ddwys iawn neu'n para am amser hir. Mewn rhai achosion, gall straen effeithio ar ein hiechyd corfforol a'n hiechyd meddwl.
Efallai y byddwch chi'n clywed rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cyfeirio at rai mathau o straen fel rhai 'cronig' neu 'acíwt':
“Ces i amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd problemau straen a gorbryder. Roedd pethau'n edrych yn dywyll iawn ac roeddwn i'n mynd o ddrwg i waeth yn gyflym. Roedd arna i ofn.”
Nid yw straen fel arfer yn cael ei ystyried yn broblem iechyd meddwl. Ond mae'n gysylltiedig â'n hiechyd meddwl mewn sawl ffordd:
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2022. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.