Straen
Yn esbonio beth yw straen, beth allai ei achosi a sut y gall effeithio arnoch chi. Yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu eich hun a sut i gael cymorth.
Arwyddion a symptomau straen
Gall straen effeithio ar ein hemosiynau, ein corff, a'r ffordd rydyn ni'n ymddwyn, mewn sawl ffordd wahanol. Weithiau pan fyddwn ni'n teimlo dan straen, efallai y byddwn ni'n gwybod hynny'n syth. Ond ar adegau eraill, efallai y byddwn ni'n colli'r arwyddion.
Mae'r dudalen hon yn cyfeirio at rai o'r arwyddion a'r symptomau cyffredin:
Roedd hi'n agoriad llygaid pan sylweddolais mai'r rheswm dros fy nghalon yn curo'n gyflym, fy meddwl ar ruthr, fy ymddygiad a fy mhersonoliaeth orfywiog oedd y ffaith fy mod i'n teimlo dan straen enfawr drwy'r amser.
Sut mae straen yn gallu gwneud i chi deimlo
Os ydych chi'n teimlo dan straen, efallai y byddwch chi:
- Yn bigog, yn flin, yn ddiamynedd neu wedi cynhyrfu
- Wedi'ch llethu
- Yn bryderus, yn nerfus neu'n ofnus
- Fel petai eich meddwl chi ar ruthr ac na allwch chi ei ddiffodd
- Yn ei chael hi'n anodd mwynhau eich hun
- Yn teimlo'n isel
- Wedi colli diddordeb mewn bywyd
- Fel petaech chi wedi colli eich synnwyr digrifwch
- Yn teimlo ofn
- Yn poeni neu ar bigau'r draen
- Yn teimlo wedi'ch esgeuluso neu'n unig
- Yn teimlo bod eich problemau iechyd meddwl yn gwaethygu
Efallai y bydd rhai pobl sy'n teimlo o dan straen difrifol yn cael teimladau hunanladdol. Gall hyn beri gofid mawr.
Arwyddion corfforol straen
Gall yr hormonau y mae ein cyrff yn eu cynhyrchu i ymateb i sefyllfaoedd sy'n peri straen gael sawl effaith corfforol. Gallai'r effeithiau hyn gynnwys:
- Anhawster anadlu
- Pyliau o banig
- Golwg aneglur neu lygaid tost
- Problemau cysgu
- Blinder
- Poen yn y cyhyrau a phennau tost
- Poen yn y frest a phwysedd gwaed uchel
- Diffyg traul neu ddŵr poeth
- Rhwymedd neu ddolur rhydd
- Teimlo'n sâl, yn benysgafn neu lewygu
- Magu neu golli pwysau yn sydyn
- Datblygu brechau ar y croen neu'r croen yn cosi
- Chwysu
- Newidiadau yng nghylchred eich mislif
- Problemau iechyd corfforol sy'n bodoli'n barod yn gwaethygu
Os byddwn ni'n teimlo dan straen mawr, gall yr effeithiau corfforol hyn waethygu. Gall hyn hefyd ddigwydd os byddwn ni'n teimlo dan straen am gyfnod hir o amser.
Mewn rhai achosion, gall straen achosi problemau iechyd corfforol mwy difrifol neu hirdymor. Gallai'r rhain gynnwys:
- Cardiomyopathi takotsubo (syndrom 'torcalon'). Gall hwn deimlo’n debyg i drawiad ar y galon. Mae gan Sefydliad Prydeinig y Galon wybodaeth am gardiomyopathi takotsubo.
- Amenorhea eilaidd. Os na fyddwch chi'n cael mislif am fwy na thri mis yn olynol. Mae gan y GIG wybodaeth am hyn.
Dechreuais i ddeffro yn y bore mewn panig ac yn teimlo'n sâl, a byddai fy nghalon yn curo'n gyflym. Byddai'r teimlad hwnnw'n para nes y byddwn i'n mynd i gysgu. Fel arfer, roeddwn i'n teimlo pe bai rhywbeth gwael iawn ar fin digwydd.
Sut mae straen yn gallu gwneud i chi ymddwyn
Os byddwch chi'n teimlo dan straen, efallai y byddwch chi:
- Yn ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau
- Yn methu â chanolbwyntio
- Yn methu â chofio pethau, neu'n cofio pethau'n arafach na'r arfer
- Yn poeni drwy'r amser neu'n ofni gwneud pethau
- Yn bigog
- Yn cnoi eich ewinedd
- Yn pigo neu'n crafu eich croen
- Yn rhincian eich dannedd neu'n clensio eich gên
- Yn cael problemau rhywiol, fel colli diddordeb neu bleser mewn rhyw
- Yn bwyta gormod neu ddim digon
- Yn smygu, yn defnyddio cyffuriau hamdden neu'n yfed alcohol yn amlach na'r arfer
- Yn aflonydd, yn methu ag eistedd yn llonydd
- Yn crio neu'n teimlo'n ddagreuol
- Yn gwario neu'n siopa gormod
- Ddim yn gwneud cymaint o ymarfer corff â'r arfer, neu'n gwneud gormod o ymarfer corff
- Yn ymbellhau oddi wrth y bobl o'ch cwmpas
Mae'r byd [fel pe bai] yn cau amdana i, alla i ddim anadlu ac mae amser yn mynd yn brin.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2022. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.