Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gorbryder a phyliau o banig

Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Byddai fy nannedd yn clecian a gallwn i ddim ei reoli a byddai fy nghorff cyfan yn crynu. Byddwn i'n anadlu'n gyflym ac yn crio oherwydd y panig am fod y teimlad fy mod yn mynd i golli ymwybyddiaeth mor real.

Sut beth yw pyliau o banig?

Yn ystod pwl o banig, gall symptomau corfforol gynyddu'n gyflym iawn. Gall y rhain gynnwys:

  • calon sy'n curo'n drwm neu'n gyflym
  • teimlo'n benysgafn neu'n chwil
  • teimlo'n boeth iawn neu'n oer iawn
  • chwysu, ysgwyd neu grynu
  • cyfog (teimlo'n sâl)
  • poen yn eich brest neu abdomen
  • cael trafferth anadlu neu deimlo eich bod yn tagu
  • teimlo bod eich coesau yn crynu neu'n troi'n llipa
  • teimlo nad ydych mewn cysylltiad â'ch meddwl, eich corff na phethau o'ch cwmpas, sy'n fathau o ddatgysylltiad

Yn ystod pwl o banig, efallai y byddwch yn teimlo ofn mawr eich bod:

  • yn colli rheolaeth
  • yn mynd i lewygu
  • yn cael trawiad ar y galon
  • yn mynd i farw.
Abby

Pyliau o banig – llwyddais i droi fy argyfwng iechyd meddwl yn fuddugoliaeth iechyd meddwl

Er ei bod wedi cymryd llawer o amser i mi rydw i wedi dysgu fy mod i'n berson cryf sydd â'r potensial i helpu eraill.

Efallai y byddwch chi'n gweld eich bod yn ofni mynd allan ar eich pen eich hun neu fynd i fannau cyhoeddus am eich bod yn poeni y byddwch chi'n cael pwl arall o banig. Yr enw ar yr ofn hwn, os bydd yn mynd yn ddwys iawn, yw agoraffobia. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar fathau o ffobiâu.

Roeddwn yn teimlo fy mod i'n methu anadlu. Roeddwn am ddianc, am fynd i rywle arall, ond allwn i ddim am fy mod ar drên.

Pyliau o banig

Gwyliwch Lewis, Polly, Faisal, Shelley a Brian yn egluro sut beth yw pyliau o banig iddyn nhw, ac yn siarad am beth sy'n helpu:

Pryd allwn i gael pyliau o banig?

Mae pyliau o banig yn digwydd ar adegau gwahanol i bawb. Bydd rhai pobl yn cael un pwl o banig ac yna dydyn nhw ddim yn cael un arall byth, neu efallai y byddwch chi'n gweld eich bod chi'n eu cael nhw'n rheolaidd, neu'n cael sawl un mewn cyfnod byr. Efallai y gwelwch fod llefydd, sefyllfaoedd neu weithgareddau penodol yn sbarduno pyliau o banig. Er enghraifft, efallai y byddan nhw'n digwydd cyn apwyntiad anodd.

Mae'r rhan fwyaf o byliau o banig yn para rhwng 5 ac 20 munud. Gallant ddod yn gyflym iawn. Fel arfer, bydd eich symptomau ar eu gwaethaf o fewn 10 munud. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael symptomau pyliau o banig dros gyfnod hirach o amser. Gallai hyn fod am eich bod yn cael ail bwl o banig, neu eich bod chi'n cael symptomau gorbryder eraill.

Mae'n ymddangos bod fy mhyliau o banig yn dod heb rybudd nawr. Ond mewn gwirionedd, mae'n ymddangos eu bod yn cael eu sbarduno yn ystod y nos pan fyddaf i am fynd i gysgu ond alla i ddim atal fy meddwl rhag rasio, gan boeni a chael pyliau o banig am unrhyw beth a all fod ar fy meddwl.

Beth sy'n helpu i reoli pyliau o banig?

Gall pyliau o banig fod yn ddychrynllyd, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu i ymdopi. Gallai helpu i chi argraffu'r awgrymiadau hyn, neu eu hysgrifennu ar bapur, a'u cadw yn rhywle lle mae'n hawdd i chi ddod o hyd iddyn nhw.

Yn ystod pwl o banig:

  • Canolbwyntiwch ar eich anadlu. Gall helpu i ganolbwyntio ar anadlu'n araf i mewn ac allan wrth gyfrif i bump.
  • Curwch eich traed yn eich unfan. Bydd rhai pobl yn gweld bod hyn yn eu helpu i reoli eu hanadlu.
  • Canolbwyntiwch ar eich synhwyrau. Er enghraifft, blaswch losin neu gwm blas mintys, neu cyffyrddwch neu anweswch rywbeth meddal.
  • Rhowch gynnig ar dechnegau daearu. Gall technegau daearu eich helpu i deimlo bod mwy o reolaeth gennych dros bethau. Maen nhw'n arbennig o ddefnyddiol os byddwch chi'n profi datgysylltiad yn ystod pyliau o banig. Mae rhagor o wybodaeth am dechnegau daearu ar ein tudalen ar hunanofal ar gyfer datgysylltu.

Ar ôl pwl o banig:

  • Meddyliwch am hunanofal. Mae'n bwysig cymryd sylw o'r hyn sydd ei angen ar eich corff ar ôl i chi gael pwl o banig. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi eistedd yn dawel yn rhywle, neu fwyta neu yfed rhywbeth.
  • Dywedwch wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo. Os gallwch, gallai helpu i roi gwybod i rywun eich bod chi wedi cael pwl o banig. Gallai fod yn arbennig o ddefnyddiol sôn am y ffordd y bydden nhw'n sylwi pe baech yn cael pwl arall, a sut y byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich helpu chi.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn a allai helpu ar ein tudalennau ar hunanofal ar gyfer gorbryder.

Ymdopi â phyliau o banig

Dechreuais osgoi mynd i'r gwasanaeth, mynd i wersi a mynd allan gyda fy ffrindiau.

Beth yw anhwylder panig?

Os byddwch chi'n cael llawer o byliau o banig ar adegau annisgwyl ac nad oes sbardun nac achos penodol amlwg, gallech gael diagnosis o anhwylder panig. Mae'n gyffredin cael anhwylder panig a mathau penodol o ffobiâu gyda'i gilydd. Gall pobl sy'n cael anhwylder panig gael cyfnodau gyda llai o byliau o banig, neu ddim o gwbl, ond gallan nhw gael llawer ohonynt ar adegau eraill.

Anhwylder panig a sensitifrwydd uchel

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai pobl sy'n cael anhwylder panig fod yn sensitif iawn i brofiadau synhwyraidd (fel golau'r haul, arogleuon a newidiadau yn y tywydd), ond nid oes digon o dystiolaeth eto i ddweud hynny'n bendant.

Hefyd, nid yw'n glir a yw cael lefel uchel o sensitifrwydd i'r mathau hyn o bethau yn rhywbeth a allai achosi i chi ddatblygu anhwylder panig, neu a all fod yn effaith anhwylder panig.

Byth yn gwybod pryd y byddwn i'n cael pwl o banig oedd y teimlad gwaethaf yn y byd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig