Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gorbryder a phyliau o banig

Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut galla i helpu fy hun?

Gall fod yn anodd iawn byw gyda gorbryder, ond mae camau y gallwch chi eu cymryd a allai helpu. Mae'r dudalen hon yn cynnwys rhai awgrymiadau i chi eu hystyried.

Ar gyfer awgrymiadau ar sut i ymdopi â phyliau o banig, ewch i'n hadran ar beth sy'n helpu i reoli pyliau o banig.

Gall siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo am beth sy'n gwneud i chi deimlo'n bryderus fod yn rhyddhad. Gall cael rhywun i wrando arnoch chi a dangos ei fod yn poeni amdanoch chi, fod yn help ynddo'i hun. Os na allwch chi fod yn agored gyda rhywun sy'n agos atoch chi, mae'r Samariaid ac Anxiety UK yn rhedeg llinellau cymorth y gallwch chi eu ffonio er mwyn siarad â rhywun.

Darllenwch flog Amy am y ffordd y mae rhannu ei phrofiadau o orbryder ag eraill ar-lein yn ei helpu hi.

Mae dweud y cyfan yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau.

Gall gorbryder olygu ei bod hi'n anodd iawn i rywun roi'r gorau i boeni. Efallai bod gennych chi bryderon na allwch chi eu rheoli. Neu efallai eich bod chi'n teimlo bod angen i chi barhau i boeni am ei fod yn teimlo'n ddefnyddiol – neu y gallai pethau drwg ddigwydd os byddwch chi'n rhoi'r gorau i wneud hynny.

Gall fod yn ddefnyddiol rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Er enghraifft, gallech chi:

  • Neilltuo amser penodol i ganolbwyntio ar eich pryderon – fel y gallwch chi sicrhau eich hun nad ydych chi wedi anghofio meddwl amdanyn nhw. Bydd rhai pobl yn gweld ei bod hi'n helpu i osod amserydd.
  • Ysgrifennwch eich pryderon ar bapur a'u cadw mewn lle penodol - er enghraifft, gallech chi eu hysgrifennu mewn llyfr nodiadau, neu ar ddarnau o bapur mewn amlen neu jar.

Darllenwch flog Damien am y ffordd y mae bod yn greadigol yn ei helpu i reoli ei orbryder.

Rwy'n ceisio derbyn mai dyma sut rwy'n teimlo ar hyn o bryd, ond na fydd yn para am byth.

  • Ceisiwch gael digon o gwsg. Gall cwsg roi'r egni i chi ymdopi â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar ymdopi â phroblemau cysgu.
  • Meddyliwch am eich deiet. Gall bwyta'n rheolaidd a chadw lefel y siwgr yn eich gwaed yn sefydlog wneud gwahaniaeth i'ch hwyliau a'ch lefelau egni. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar fwyd a hwyliau.
  • Rhowch gynnig ar wneud ymarfer corff. Gall ymarfer corff fod yn ddefnyddiol iawn i'ch lles meddyliol. Gweler ein tudalennau ar weithgarwch corfforol  am ragor o wybodaeth.

Darllenwch flog Stephen am y ffordd y mae rhedeg yn ei helpu i deimlo'n well.

Mae mynd am dro yn wych, hyd yn oed os na alla i fynd ymhell. Rwy'n cerdded o amgylch yr ardd ac yn bwyta fy nghinio yn yr awyr agored.

Gall ymarferion anadlu eich helpu i ymdopi a theimlo bod gennych fwy o reolaeth dros bethau. Mae awgrymiadau ar ein tudalen ar ymlacio. Mae gan y GIG awgrymiadau ar ymarferion anadlu ar gyfer straen hefyd.

Anadlu... cofiwch anadlu bob amser. Cymerwch yr amser i anadlu i mewn. Mae'n beth hollol syml, ond mae pobl yn anghofio hynny yn ystod pyliau o banig.

A all ymwybyddiaeth ofalgar helpu gyda gorbryder?

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o roi eich holl sylw i'r foment bresennol. Mae rhai pobl yn teimlo bod ymwybyddiaeth ofalgar yn ddefnyddiol i ymdopi â rhai anhwylderau gorbryder, ond mae eraill yn dweud ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo'n waeth.

Un o'r rhesymau dros hyn yw bod rhai pobl yn gweld bod sylwi ar eu teimladau negyddol yn rhy ddwys, ac y gall wneud iddyn nhw deimlo'n waeth. Os byddwch chi'n rhoi cynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar ond yn parhau i deimlo'n sâl, holwch eich meddyg teulu neu eich therapydd ynghylch pethau eraill y gallech chi roi cynnig arnyn nhw.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy'n llunio canllawiau ar arferion gorau mewn gofal iechyd – yn dweud na chaiff ymwybyddiaeth ofalgar ei argymell ar gyfer gorbryder cymdeithasol. Darllenwch fwy am orbryder cymdeithasol (a elwir yn ffobia cymdeithasol weithiau) ar ein tudalen ar fathau o ffobiâu.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar ymwybyddiaeth ofalgar.

Erbyn hyn rwy'n chwilio am ffyrdd naturiol o reoli'r panig a'r gorbryder, gan gynnwys myfyrio, ymarfer corff, ymarferion anadlu, ymwybyddiaeth ofalgar a deiet.

Gallai helpu i wneud nodyn o'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n pryderu neu'n cael pwl o banig. Gallai hyn eich helpu chi i sylwi ar batrymau yn yr hyn sy'n sbarduno'r profiadau hyn i chi, neu i sylwi ar arwyddion cynnar eu bod nhw'n dechrau digwydd.

Gallech chi wneud nodyn o'r hyn sy'n mynd yn dda. Gall byw gyda gorbryder olygu eich bod chi'n meddwl llawer am bethau sy'n eich poeni chi neu bethau sy'n anodd eu gwneud. Mae hefyd yn bwysig bod yn garedig i chi eich hun a sylwi ar y pethau da hefyd.

Rwy'n cadw dyddiadur o'r holl bethau rwyf wedi llwyddo i'w gwneud! Mae'n gwneud i mi feddwl ‘Galla i wneud hyn’. Felly pan fydda i'n mynd i eistedd mewn caffi neu'n mynd am dro, rwy'n tynnu llun ac yn edrych arno eto pan fydda i'n teimlo'n ofnus... mae'n codi fy nghalon ac yn gwneud i mi feddwl y galla i wneud rhywbeth eto os ydw i wedi'i wneud o'r blaen.

Mae cymorth gan gymheiriaid yn dwyn pobl ynghyd sydd wedi cael profiadau tebyg er mwyn iddynt gefnogi ei gilydd. Bydd llawer o bobl yn gweld bod hyn yn eu helpu i rannu syniadau am ffyrdd o aros yn iach, cysylltu ag eraill a theimlo'n llai unig. Gallech wneud y canlynol:

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn mae'n ei olygu a sut i ddod o hyd i grŵp cymorth gan gymheiriaid sy'n addas i chi ar ein tudalennau ar gymorth gan gymheiriaid.

Os nad ydych chi'n gyfarwydd â chymorth gan gymheiriaid ar-lein, gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein gwybodaeth am sut i aros yn ddiogel ar-lein.

Efallai y byddwch chi'n gweld bod therapïau cyflenwol ac amgen yn eich helpu i reoli eich gorbryder.

Mae sawl math y gallwch roi cynnig arnyn nhw, i weld beth sy'n gweithio i chi. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • ioga
  • myfyrio
  • aromatherapi
  • tylino
  • adweitheg
  • triniaethau llysieuol
  • meddyginiaethau blodau Bach
  • hypnotherapi.

Bydd rhai pobl yn gweld y gall un neu fwy o'r dulliau hyn eu helpu i ymlacio neu i gysgu'n well.

Mae llawer o fferyllwyr a siopau iechyd yn gwerthu meddyginiaethau gwahanol a dylen nhw fod mewn sefyllfa i gynnig cyngor.

I mi, mae CD hypnotherapi yn gweithio. Fe wnes i chwerthin pan ddaeth fy ngŵr â'r CD adref; rwy'n ei defnyddio fy hun erbyn hyn. Ymlaciol iawn.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig