Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Mae profiad pawb o orbryder yn wahanol, felly mae'n anodd gwybod yn union beth sy'n achosi problemau gorbryder. Mae'n debygol bod llawer o ffactorau dan sylw.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu rhai pethau a all ei gwneud yn fwy tebygol y bydd problemau gorbryder yn codi:
Mae profiadau anodd yn ystod plentyndod, glaslencyndod neu fel oedolion yn sbardun cyffredin ar gyfer problemau gorbryder. Mae wynebu straen a thrawma pan fyddwch chi'n ifanc iawn yn debygol o gael effaith fawr iawn. Ymysg y profiadau a all sbarduno problemau gorbryder mae pethau fel:
Gall cael rhieni nad ydyn nhw'n eich trin chi'n annwyl neu sy'n orwarchodol hefyd fod yn ffactor.
“Cefais i fy anfon i ysgol breswyl a chefais orbryder gwahanu difrifol, am fy mod i oddi cartref, a bu bron i mi golli fy mrawd pan oeddwn i'n 12 oed. Cafodd fy mam waeledd emosiynol difrifol am gyfnod o tua blwyddyn a bu'n rhaid iddi gael ei nyrsio gartref."
Gall problemau presennol yn eich bywyd sbarduno gorbryder hefyd. Er enghraifft:
Gall newidiadau mawr i'ch bywyd pob dydd sbarduno gorbryder yn benodol, felly efallai y byddwch chi'n gweld eich bod wedi cael problemau gorbryder yn ystod pandemig y Coronafeirws. I gael gwybodaeth am y ffordd y gallai'r Coronafeirws fod wedi effeithio ar eich iechyd meddwl a beth allai helpu, ewch i'n tudalennau ar y Coronafeirws ac iechyd meddwl.
"Rwyf wedi sylweddoli'n ddiweddar fy mod i'n gwario arian pan fydda i'n bryderus, sydd, yn ei dro, yn gwneud i mi deimlo'n bryderus ynglŷn â faint o arian rwy'n ei wario."
Gall problemau iechyd eraill achosi gorbryder weithiau, neu ei wneud yn waeth. Er enghraifft:
Gall gorbryder weithiau fod yn sgil-effaith cymryd:
I nodi sgil-effeithiau meddyginiaeth, ewch i wefan Cerdyn Melyn y llywodraeth.
“Roeddwn i wedi rhoi'r gorau i yfed. Mae llawer yn credu bod yfed alcohol yn helpu o ran gorbryder, ond mae'n gwneud pethau'n waeth yn y pen draw."
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.