Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gorbryder a phyliau o banig

Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Beth yw gorbryder?

Gorbryder yw'r hyn rydyn ni'n ei deimlo pan fyddwn ni'n poeni, ar bigau'r drain neu'n ofnus - yn benodol am bethau sydd ar fin digwydd, neu bethau rydyn ni'n meddwl a allai ddigwydd yn y dyfodol.

Mae gorbryder yn ymateb dynol naturiol pan fyddwn ni'n teimlo ein bod ni dan fygythiad. Gall amlygu ei hun drwy ein meddyliau, ein teimladau a'n synwyriadau corfforol​

I mi, mae gorbryder yn teimlo fel petai pawb yn y byd yn aros i fi wneud camgymeriad, fel y gallan nhw chwerthin am fy mhen i. Mae'n fy ngwneud i'n nerfus ac yn ansicr ai'r cam nesaf y bydda i'n ei gymryd yw'r ffordd orau ymlaen.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n bryderus ar adegau. Mae'n arbennig o gyffredin i rywun deimlo rhywfaint o orbryder wrth ymdopi â digwyddiadau neu newidiadau llawn straen, yn enwedig os gallen nhw gael effaith fawr ar eich bywyd. Mae rhagor o wybodaeth am straen ar ein tudalennau ar sut i reoli straen.

Os ydych chi'n teimlo'n bryderus neu os ydych chi'n cael pwl o banig nawr, ewch i'n tudalen ar sut i reoli pyliau o banig.

Beth yw'r ymateb ‘ymladd, dianc neu rewi’?

Mae pobl, fel anifeiliaid, wedi datblygu ffyrdd o helpu i ddiogelu eu hunain rhag perygl. Pan fyddwn ni'n teimlo dan fygythiad, bydd ein corff yn ymateb drwy ryddhau hormonau penodol, fel adrenalin a chortisol, a all fod yn ddefnyddiol. Mae'r hormonau hyn yn:

  • gwneud i ni deimlo'n fwy effro, fel y gallwn ni weithredu'n gyflymach
  • gwneud i'n calonnau ni guro'n gyflymach, gan anfon gwaed i'r mannau lle mae ei angen fwyaf.

Ar ôl i ni deimlo bod y bygythiad wedi mynd heibio, bydd ein cyrff yn rhyddhau hormonau eraill i helpu ein cyhyrau i ymlacio. Weithiau gall hyn wneud i ni grynu.

Fel arfer, gelwir hyn yn ymateb ‘ymladd, dianc neu rewi' - mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn awtomatig yn ein cyrff a gallwn ni ddim ei reoli.

Mae gadael y tŷ yn her oherwydd mae arna i ofn mynd i banig ac rwy'n teimlo fy mod i'n cael fy ngwylio neu fy meirniadu. Mae'n ofnadwy. Rwyf am gael help ond rwy'n ofni cael fy meirniadu.

Pryd y bydd gorbryder yn broblem iechyd meddwl?

Gall gorbryder fynd yn broblem iechyd meddwl os bydd yn effeithio ar eich gallu i fyw eich bywyd mor llawn ag y mynnwch. Er enghraifft, gall fod yn broblem:

  • os yw eich gorbryder yn gryf iawn neu'n para am amser hir
  • os yw eich ofnau neu bryderon yn eithafol o ystyried y sefyllfa
  • os byddwch chi'n osgoi sefyllfaoedd a allai wneud i chi deimlo'n bryderus
  • os yw eich pryderon yn achosi llawer o ofid neu'n anodd eu rheoli
  • os byddwch yn cael symptomau gorbryder, a allai gynnwys pyliau o banig
  • os byddwch yn ei chael hi'n anodd parhau â'ch bywyd pob dydd neu wneud pethau rydych chi'n eu mwynhau.

Os yw eich symptomau yn cyfateb i gyfres benodol o feini prawf meddygol yna gallech gael diagnosis o anhwylder gorbryder penodol. Ond mae hefyd yn bosibl i chi gael problemau gorbryder heb gael diagnosis penodol. Mae ein tudalennau ar hunanofal a thriniaeth ar gyfer gorbryder yn cynnig awgrymiadau ar gyfer help a chefnogaeth.

Sut beth yw problemau gorbryder?

Gwyliwch Lewis, Polly, Faisal, Shelley a Brian yn trafod sut beth yw problemau gorbryder iddyn nhw, a beth sy'n eu helpu nhw i ymdopi:

Stori Gus

Mae DJ Heart FM, Matt Wilkinson, yn siarad â Gus Marshall am ei brofiad o orbryder a phyliau o banig.

Darllenwch drawsgrifiad o'r podlediad yma. Dysgwch fwy am ein podlediadau neu tanysgrifiwch i'n podlediad ar iTunes neu Audioboom.

Wyddoch chi'r teimlad hwnnw pan rydych chi'n siglo ar goesau cefn eich cadair ac yn sydyn rydych chi'n meddwl eich bod chi ar fin syrthio; y teimlad hwnnw yn eich stumog? Dychmygwch fod y teimlad sydyn hwnnw yn cael ei rewi mewn amser a'i ddal yn eich stumog am oriau/diwrnodau, a dychmygwch fod ymdeimlad parhaus o arswyd ar yr un pryd hefyd, ond weithiau dydych chi ddim hyd yn oed yn gwybod pam.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig