Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gorbryder a phyliau o banig

Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw anhwylderau gorbryder?

Gallwch brofi gorbryder mewn sawl ffordd wahanol. Os bydd eich profiadau'n bodloni meini prawf penodol, efallai y bydd eich meddyg am roi diagnosis o anhwylder gorbryder penodol i chi.

Rhai o'r anhwylderau gorbryder y rhoddir diagnosis ar eu cyfer fel arfer yw:

  • Anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD) – mae hyn yn golygu eich bod yn cael pryderon rheolaidd neu rai na ellir eu rheoli am sawl peth gwahanol yn eich bywyd pob dydd. Gan fod llawer o symptomau gorbryder posibl, gall hwn fod yn ddiagnosis eithaf eang, gan olygu y gallai'r problemau a gewch chi o ran GAD fod yn eithaf gwahanol i broblemau rhywun arall.
  • Anhwylder gorbryder cymdeithasol – mae'r diagnosis hwn yn golygu eich bod chi'n profi ofn neu orbryder eithafol sydd wedi'i sbarduno gan sefyllfaoedd cymdeithasol (fel partïon, gweithleoedd, neu sefyllfaoedd pob dydd lle mae'n rhaid i chi siarad â rhywun arall). Caiff ei alw'n ffobia cymdeithasol hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar fathau o ffobiâu.
  • Anhwylder panig – mae hyn yn golygu cael pyliau rheolaidd neu aml o banig heb achos na sbardun clir. Gall anhwylder panig olygu eich bod yn poeni drwy'r amser eich bod yn mynd i gael pwl arall o banig, nes bod yr ofn hwn ynddo'i hun yn sbarduno'ch pyliau o banig. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar byliau o banig.
  • Ffobiâu – ffobia yw ofn neu orbryder eithafol wedi'i sbarduno gan sefyllfa benodol (fel mynd y tu allan) neu wrthrych penodol (fel corynnod). Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar ffobiâu.
  • Anhwylder straen wedi trawma (PTSD) – gallwch gael y diagnosis hwn os byddwch yn datblygu problemau gorbryder ar ôl mynd drwy rywbeth oedd yn drawmatig i chi. Gall PTSD gynnwys ôl-fflachiadau neu hunllefau a all wneud i chi deimlo eich bod chi'n ail-fyw'r holl ofn a gorbryder a gawsoch ar adeg y digwyddiadau trawmatig. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar PTSD a PTSD cymhleth.
  • Anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) – gallwch gael y diagnosis hwn os bydd eich problemau gorbryder yn cynnwys cael meddyliau, ymddygiadau neu ysfeydd ailadroddus. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar OCD.
  • Gorbryder iechyd – mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael obsesiynau a chymelliadau sy'n gysylltiedig â salwch, yn cynnwys ymchwilio i symptomau neu edrych i weld a oes symptomau gennych. Mae'n gysylltiedig ag OCD. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am orbryder iechyd ar wefan Anxiety UK.
  • Anhwylder dysmorphia'r corff (BDD) – mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael obsesiynau a chymelliadau mewn perthynas â'ch ymddangosiad corfforol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar BDD.
  • Gorbryder amenedigol neu OCD amenedigol – bydd rhai pobl yn datblygu problemau gorbryder yn ystod beichiogrwydd neu yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar orbryder amenedigol ac OCD amenedigol.

Efallai nad ydych chi wedi cael diagnosis o anhwylder gorbryder penodol, nac am gael diagnosis o'r fath - ond gallai fod yn ddefnyddiol o hyd i ddysgu mwy am y mathau o ddiagnosisau gwahanol er mwyn eich helpu chi i feddwl am eich profiad eich hun o orbryder ac ystyried y cymorth sydd ar gael.

Byw gyda GAD a phyliau o banig ar ôl colli fy nhad

Rwy'n credu mai siarad yw un o'r therapïau gorau y gallwch ei gael.

Mae fel haid o wenyn yn sïo, sïo, sïo, yn ddi-baid, sy'n golygu ei bod hi'n amhosibl canolbwyntio a bron yn amhosibl arafu a thynnu anadl.

Gorbryder a phroblemau iechyd meddwl eraill

Mae'n gyffredin iawn cael gorbryder ochr yn ochr â phroblemau iechyd meddwl eraill, fel iselder neu deimladau hunanladdol. Os oes gennych symptomau gorbryder ac iselder ond nad oes un yn fwy perthnasol na'r llall, gallech gael diagnosis o ‘anhwylder gorbryder ac iselder cymysg’.

Small brown teddy bear in a white chair facing forwards

Roeddwn i'n meddwl mai gorbryder fyddai fy her fwyaf... Roeddwn i'n anghywir

Roeddwn i'n teimlo'n iawn. Dwi bob amser yn teimlo'n iawn pan dwi ar i fyny. Dyna ran o'r broblem.

Darllenwch stori Pete

Mae gen i anhwylder gorbryder cyffredinol ac iselder sy'n ymddangos fel pe baent yn dod mewn cylchoedd. Y pyliau annisgwyl sydd anoddaf.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig