Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gorbryder a phyliau o banig

Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Adnoddau hunangymorth

Efallai mai adnodd hunangymorth fydd y driniaeth gyntaf y bydd eich meddyg teulu'n ei gynnig i chi. Mae hyn am ei fod ar gael yn eithaf cyflym, ac mae siawns y gallai eich helpu chi i deimlo'n well heb fod angen rhoi cynnig ar opsiynau eraill.

Gellir cynnig hunangymorth drwy'r canlynol:

  • Gweithlyfrau. Er enghraifft, gallai eich meddyg teulu argymell llyfrau penodol o gynllun o'r enw Darllen yn Well, sy'n cynnig Llyfrau ar Bresgripsiwn. Caiff y cynllun hwn ei gefnogi gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd lleol, felly gallwch ddarllen y llyfrau am ddim - does dim angen i chi gael presgripsiwn gan feddyg.
  • Rhaglenni therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ar-lein. Mae sawl cwrs CBT ar ffurf ap i drin gorbryder a phyliau o banig. Gallwch chwilio drwy lyfrgell apiau'r GIG i ddod o hyd i ap a all weithio i chi. Efallai y byddwch yn cael cynnig adnodd i weithio drwyddo eich hun, neu gwrs gyda phobl eraill sy'n cael anawsterau tebyg.

Fe ges i ddiagnosis o anhwylder gorbryder cyffredinol, iselder a nodweddion OCD. Fe ges i CBT am bron i flwyddyn, a fu'n ddefnyddiol iawn.

Therapïau siarad

Os nad yw'n debygol y bydd adnoddau hunangymorth yn helpu gyda'ch problemau gorbryder, neu os ydych chi eisoes wedi rhoi cynnig arnyn nhw ac nad ydyn nhw wedi helpu, dylai eich meddyg gynnig triniaeth siarad i chi. Mae dau fath o driniaeth siarad yn cael eu hargymell ar gyfer gorbryder a phyliau o banig:

  • Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) - mae hyn yn canolbwyntio ar y ffordd y mae eich meddyliau, eich credoau a'ch agweddau yn effeithio ar eich teimladau a'ch ymddygiad, ac mae'n addysgu sgiliau ymdopi i chi ar gyfer delio â phroblemau gwahanol.
  • Therapi ymlacio cymhwysol –  mae hyn yn cynnwys dysgu sut i ymlacio eich cyhyrau mewn sefyllfaoedd lle rydych chi'n teimlo'n bryderus fel arfer.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhain a mathau eraill o therapi ar ein tudalennau ar therapïau siarad a CBT.

Y ffordd y gwnaeth CBT fy helpu i drechu'r bwli yn fy mhen

Dydw i ddim yn gorddadansoddi popeth bach sy'n digwydd mwyach.

Meddyginiaeth

Gallai eich meddyg gynnig rhagnodi meddyginiaeth i'ch helpu i reoli eich symptomau. Bydd rhai pobl yn gweld ei bod yn ddefnyddiol rhoi cynnig ar therapïau siarad a meddyginiaeth ar yr un pryd, ond dylech gael cynnig mwy na dim ond meddyginiaeth.

Dyma rai meddyginiaethau a allai gael eu cynnig i chi:

Cyffuriau gwrth-iselder

Fel arfer, bydd y rhain yn fath o'r enw atalydd aildderbyn serotonin dethol (SSRI). Gall SSRIau achosi sgil-effeithiau i rai pobl, fel problemau cysgu neu deimlo'n fwy pryderus nag o'r blaen. Os na fyddant yn gweithio, neu os na fyddant yn addas i chi, efallai y cewch gynnig math gwahanol.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar gyffuriau gwrth-iselder.

Pregabalin

Mewn rhai achosion, hyd yn oed os ydych chi wedi cael diagnosis o anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD), gall eich meddyg benderfynu rhagnodi cyffur o'r enw pregabalin i chi. Cyffur gwrthdrawiad yw hwn, sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i drin epilepsi, anhwylder niwrolegol a all achosi trawiadau (seizures), ond mae hefyd wedi'i drwyddedu i drin gorbryder.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar feddyginiaeth gorbryder a pregabalin.

Atalyddion-Beta

Defnyddir atalyddion-beta weithiau i drin symptomau corfforol gorbryder, gan gynnwys curiad calon cyflym, crychguriad y galon a chryndod. Ond nid cyffuriau seiciatrig ydyn nhw, felly ni fyddan nhw'n lleihau unrhyw rai o'ch symptomau seicolegol. Gallen nhw fod yn ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd sy'n sbarduno eich ffobia.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar driniaeth ar gyfer ffobiâu.

Tawelyddion benzodiazepine

Os byddwch chi'n cael gorbryder difrifol sy'n cael effaith sylweddol ar eich bywyd pob dydd, efallai y cewch gynnig tawelydd benzodiazepine. Ond gall y cyffuriau hyn achosi sgil-effeithiau annymunol a gallan nhw fod yn gaethiwus, felly dim ond dogn isel am gyfnod byr y dylai eich meddyg ei ragnodi, er mwyn eich helpu chi drwy gyfnod o argyfwng.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar benzodiazepinau.

Cyn i chi benderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch i wneud penderfyniad hyddysg.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar bethau i'w hystyried cyn cymryd meddyginiaeth a'ch hawl i wrthod meddyginiaeth.

Mae ein tudalennau ar ddod oddi ar meddyginiaeth yn rhoi arweiniad ar sut i ddod oddi ar feddyginiaeth yn ddiogel.

Rwy'n cymryd meddyginiaeth ac mae hyn yn helpu, ond rwyf hefyd wedi cael therapi ar-lein a oedd yn werthfawr, a therapi dadansoddi gwybyddol fel claf allanol mewn ysbyty seiciatrig. Mae technegau siarad yn wych.

Sut y galla i gael gafael ar driniaeth?

I gael triniaeth ar y GIG, y cam cyntaf fel arfer yw ymweld â'ch meddyg teulu. Bydd yn cynnal asesiad, a all gynnwys gofyn i chi lenwi holiadur ynghylch pa mor aml rydych chi'n teimlo'n bryderus ac yn nerfus.

Yna, dylai esbonio eich opsiynau o ran triniaeth i chi, a gallwch benderfynu gyda'ch gilydd beth fyddai'n fwyaf addas i chi.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i baratoi ar gyfer apwyntiad a lleisio eich barn yn ystod triniaeth ar ein tudalennau ar geisio help ar gyfer problem iechyd meddwl.

Yn anffodus, gall rhestrau aros y GIG am driniaethau siarad fod yn hir iawn. Os byddwch chi'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar therapïau siarad, gallech chi ystyried:

  • Elusennau a sefydliadau arbenigol. Ceir rhestr o sefydliadau a all gynnig therapi neu a all eich rhoi chi mewn cysylltiad â gwasanaethau lleol yn cysylltiadau defnyddiol. Gallai Llinell Wybodaeth Mind hefyd eich helpu chi i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal.
  • Therapi preifat. Mae dod o hyd i therapydd preifat yn opsiwn arall y bydd rhai pobl yn dewis ei archwilio, ond nid yw'n addas i bawb oherwydd gall fod yn ddrud. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar therapi preifat.

Beth os bydd fy ngorbryder yn fy atal rhag ceisio help?

Gall fod yn arbennig o anodd cael triniaeth os bydd gwneud neu fynd i apwyntiad gyda'ch meddyg yn golygu gwneud rhywbeth sy'n achosi llawer o orbryder i chi. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn teimlo y gallwch siarad ar y ffôn na gadael y tŷ.

Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnynt:

  • Gofynnwch i'ch meddyg a yw'n cynnig ymweliadau cartref neu asesiadau dros y ffôn. Os nad ydyw, efallai y gall drefnu apwyntiad i chi ar adeg pan fydd y feddygfa'n dueddol o fod yn dawel.
  • Bydd rhai meddygfeydd yn gadael i rywun arall ffonio i drefnu apwyntiadau i chi (gyda'ch caniatâd). Byddai'n helpu pe bai rhywun yn gallu mynd gyda chi i'r apwyntiad i'ch cefnogi.
  • Yn dibynnu beth sydd ar gael yn eich ardal, efallai y gallwch chi atgyfeirio eich hun i gael therapi siarad mewn gwasanaeth Gwella Mynediad i Therapïau Seicolegol (IAPT) lleol. Caiff rhai gwasanaethau IAPT eu darparu ar-lein neu dros y ffôn. Gallwch chi chwilio am wasanaethau IAPT ar wefan y GIG.

Mae gwybodaeth fanylach yn y canllawiau ar gyfer trin anhwylderau gorbryder gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Os na wyddoch beth sy'n bod arnoch chi, sut y gwyddoch sut i ddatrys y broblem? I mi, roedd cael diagnosis o orbryder ac anhwylder panig yn rhyddhad! Roedd yn golygu nad oeddwn i'n dychmygu'r symptomau ofnadwy roeddwn wedi bod yn eu cael.

Beth fydd yn digwydd os na fydda i'n teimlo'n well?

Dylai eich meddyg gynnig apwyntiadau rheolaidd i gadarnhau sut ydych chi, ac i weld pa mor dda y mae unrhyw driniaeth yn gweithio i chi.

Bydd pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol, felly os na fydd meddyginiaeth benodol, math o therapi siarad neu therapydd penodol yn gweithio i chi, dylai eich meddyg gynnig opsiwn amgen.

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar amrywiaeth o driniaethau ac nad oes yr un ohonyn nhw wedi helpu, gallai eich meddyg eich atgyfeirio at dîm iechyd meddwl cymunedol (CMHT). Mae hwn yn cynnwys nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel seiciatryddion a seicolegwyr clinigol. Gall eich CMHT eich asesu ar wahân a chynnig cynllun triniaeth personol i chi.

Caiff hyn ei argymell yn benodol:

Mae'n bwysig cofio bod gwella yn daith, ac na fydd yn syml bob amser. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n teimlo bod canolbwyntio ar ddysgu mwy amdanoch chi eich hun a datblygu ffyrdd o ymdopi yn fwy defnyddiol na cheisio cael gwared ar bob un o'ch symptomau.

Mae rhagor o  wybodaeth ar ein tudalennau ar wella ac ar wynebu a goresgyn rhwystrau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig