Teimladau hunanladdol
Yn egluro beth yw teimladau hunanladdol, a beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n teimlo fel lladd eich hun. Mae hefyd yn trafod achosion, triniaethau ac opsiynau cymorth ar gyfer teimladau hunanladdol.
Beth yw teimladau hunanladdol?
Hunanladdiad yw’r weithred fwriadol o ladd eich hun.
Gall teimladau hunanladdol olygu cael meddyliau haniaethol am ddod â’ch bywyd i ben neu deimlo y byddai pobl eraill yn well heboch chi. Neu gall olygu meddwl am ffyrdd o ladd eich hun neu wneud cynlluniau clir i ddod â’ch bywyd i ben.
Os ydych yn teimlo nad oes pwrpas byw, gallai’r teimladau hyn fod yn codi ofn arnoch neu’n gwneud i chi deimlo’n ddryslyd. Efallai y bydd y teimladau’n eich llethu.
Ond dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae llawer o bobl yn meddwl am hunanladdiad ar ryw adeg neu’i gilydd yn eu bywydau.
Doeddwn i ddim yn gallu gweld heibio’r boen. Roedd yn realiti gwahanol i mi. Y cyfan roeddwn i’n ei wybod oedd bod arna i eisiau i’r boen stopio, ac i’r gofid fynd i ffwrdd.
Sut mae’n teimlo i fod eisiau dod â’ch bywyd i ben?
Mae gan wahanol bobl wahanol brofiadau o deimladau hunanladdol. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn methu ymdopi â’r teimladau anodd rydych yn eu cael. Efallai nad teimlo eich bod eisiau marw rydych chi, ond teimlo na allwch ddal i fyw’r bywyd sydd gennych.
Gall y teimladau hyn grynhoi dros gyfnod neu gallant newid o hyd. Ac mae’n gyffredin i fethu â deall pam rydych yn teimlo fel hyn.
Sut allech chi fod yn meddwl neu’n teimlo
- yn ddigalon, a dim pwrpas byw
- yn ddagreuol ac yn cael eich llethu gan feddyliau negyddol
- poen annioddefol na allwch ddychmygu y bydd yn dod i ben
- yn dda i ddim, neb eich eisiau na’ch angen
- wedi anobeithio, fel pe bai gennych chi ddim dewis arall
- meddwl y byddai pawb yn well heboch chi
- ddim yn perthyn i’ch corff neu’n gorfforol ddiffrwyth
- yn methu â pheidio meddwl am farwolaeth.
Beth allech chi ei brofi
- cysgu’n wael, gan gynnwys deffro’n gynharach nag y byddech yn hoffi gwneud
- newid yn eich chwant am fwyd, colli neu ennill pwysau
- dim awydd i ofalu amdanoch eich hun, er enghraifft esgeuluso eich ymddangosiad corfforol
- bod eisiau osgoi pobl eraill
- gwneud ewyllys neu roi eiddo i ffwrdd
- methu cyfathrebu’n iawn
- casáu eich hun a dim llawer o hunan-dyb
- awydd i hunan-niweidio
Dydy meddyliau hunanladdol ddim yn barhaol – mae pethau’n gwella. Gallwch ganfod eich cymhelliant i fyw eto.
Sut deimlad ydy cael teimladau hunanladdol?
Mae Graham, Miram, Alicia a Lee yn sôn sut mae’n teimlo i fod eisiau dod â’ch bywyd i ben, a sut maen nhw wedi dysgu ymdopi.
Am faint fydd y teimladau hunanladdol yn para?
Mae hyn yn wahanol i bawb. Mae’n gyffredin i deimlo na fyddwch chi byth yn teimlo’n hapus neu’n obeithiol eto.
Ond â thriniaeth a chymorth, gan gynnwys hunanofal, mae’r rhan fwyaf o’r bobl sydd wedi cael teimladau hunanladdol yn mynd yn eu blaenau i fyw bywydau bodlon.
Gorau po gyntaf rydych yn dweud wrth rywun sut rydych yn teimlo, er mwyn i chi allu cael cymorth yn gyflym i ddod dros y teimladau hyn. Ond mae dweud wrth bobl yn gallu bod yn anodd.
Efallai y byddwch eisiau i bobl eraill ddeall beth rydych yn mynd trwyddo, ond y byddwch yn teimlo:
- eich bod yn methu dweud wrth rywun
- ddim yn siŵr wrth bwy i ddweud
- yn poeni na fydd y person hwnnw’n deall
- yn ofni y byddwch yn cael eich barnu
- yn poeni y byddwch yn achosi gofid i’r person hwnnw.
Os ydych yn teimlo fel hyn, efallai y gallech ddangos ein tudalennau am gefnogi rhywun arall sydd â theimladau hunanladdol i rywun rydych yn ei drystio. Gall fod yn ffordd dda o ddechrau’r sgwrs a gall roi ychydig o awgrymiadau ynglŷn â beth y gall y person hwnnw ei wneud i’ch helpu chi.
Mae’n bwysig cofio eich bod yn haeddu cefnogaeth, dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae help i’w gael.
Mae rhannu’r ffaith fy mod yn cael teimladau hunanladdol gyda ffrindiau agos, er bod gen i ofn gwneud hynny, achos ro’n i’n poeni y bydden nhw’n flin, wedi fy helpu i yn ystod cyfnodau tywyll rydw i wedi eu cael ar ôl hynny. Wnaethon nhw ddweud nad oedden nhw eisiau fy ngholli i heb gael cyfle i helpu.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.