Teimladau hunanladdol
Yn egluro beth yw teimladau hunanladdol, a beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n teimlo fel lladd eich hun. Mae hefyd yn trafod achosion, triniaethau ac opsiynau cymorth ar gyfer teimladau hunanladdol.
Pam rydw i’n cael teimladau hunanladdol?
Gall teimladau hunanladdol effeithio ar unrhyw un, beth bynnag eich oed, rhyw neu gefndir, unrhyw bryd.
Os ydych chi’n cael teimladau hunanladdol mae’n debygol y byddwch wedi bod yn teimlo’n fwy a mwy anobeithiol ac yn dda i ddim ers tro. Efallai na fyddwch yn gwybod beth sydd wedi achosi i chi deimlo fel hyn, ond yn aml iawn mae’n gyfuniad o ffactorau.
Mae’r dudalen hon yn trafod:
Byddai’r meddyliau’n eich difa chi’n llwyr weithiau, teimlo fel tasai gennych chi ddim rheolaeth dros eich corff eich hun.
Achosion cyffredin teimladau hunanladdol
Gall ceisio ymdopi ag anawsterau penodol yn eich bywyd achosi i chi gael teimladau hunanladdol. Gall yr anawsterau hyn gynnwys:
- problemau iechyd meddwl
- bwlio neu wahaniaethu
- gwahanol fathau o gam-drin, gam gynnwys cam-drin domestig, rhywiol neu gorfforol
- profedigaeth, gan gynnwys colli rhywun agos atoch sydd wedi cyflawni hunanladdiad
- diwedd perthynas
- poen neu salwch corfforol hirdymor
- addasu i newid mawr, er enghraifft ymddeoliad neu golli gwaith
- problemau ariannol
- problemau tai, gan gynnwys digartrefedd
- teimlo’n ynysig neu’n unig
- bod mewn carchar
- teimlo’n annigonol neu’n fethiant
- caethineb neu gamddefnyddio sylweddau
- beichiogrwydd, geni plentyn neu iselder ôl-enedigol
- amheuon ynglŷn â’ch hunaniaeth o ran rhyw neu rywedd
- pwysau diwylliannol, er enghraifft priodas dan orfod
- mathau eraill o drawma.
Os nad ydych yn siŵr pam rydych yn cael teimladau hunanladdol, efallai y bydd yn anoddach fyth i chi gredu bod ateb i’w gael. Ond beth bynnag y rheswm, mae cymorth ar gael i’ch helpu i ymdopi a goresgyn y teimladau hyn.
Ydy meddyginiaeth yn gallu achosi teimladau hunanladdol?
Mae rhai meddyginiaethau, er enghraifft gwrth-iselyddion, yn gallu achosi i bobl gael teimladau hunanladdol. Mae’r sgil effaith hon yn aml yn gysylltiedig â math o wrth-iselyddion sy’n cael eu galw’n atalyddion aildderbyn serotonin dethol (SSRIs). Ond mae hon yn risg bosibl ar gyfer gwrth-iselyddion o bob math.
Mae ambell waith ymchwil yn dangos bod pobl ifanc dan 25 oed yn fwy tebygol o gael teimladau hunanladdol wrth ddefnyddio’r meddyginiaethau hyn.
Mae rhai meddyginiaethau gwrthseicotig a sefydlogyddion hwyliau hefyd yn achosi i rai pobl gael teimladau hunanladdol.
Os ydych yn cael teimladau hunanladdol wrth gymryd meddyginiaeth seiciatrig, dylech siarad gyda’ch meddyg teulu ynglŷn â hyn cyn gynted ag y bo modd.
Pryd bynnag y bydda i’n teimlo bod teimladau hunanladdol yn dechrau cau amdana i rwy’n atgoffa fy hun bod teimladau’n gallu newid ar amrantiad. Efallai y bydda i’n deffro fory ac na fydda i’n teimlo mod i eisiau marw – oherwydd mae hynny wedi digwydd i mi sawl tro yn y gorffennol.
Pam y mae mwy o risg o hunanladdiad ymhlith rhai grwpiau?
Mae ymchwil yn dangos bod mwy o risg i ddynion a phobl o gymunedau LGBTQIA+ gyflawni hunanladdiad.
Dynion
Nid yw’n glir pam y mae mwy o ddynion nag o ferched yn lladd eu hunain. Ond os ydych yn ddyn, efallai y byddwch:
- yn teimlo dan bwysau i 'ddal i fynd' a chadw eich meddyliau a’ch teimladau i chi eich hun
- yn dewis dulliau hunanladdiad lle mae llai o siawns i rywun oroesi
- yn credu eich bod yn gallu ymdopi heb help, neu’n teimlo y gallwch ymdopi heb help
- yn poeni y byddwch yn ymddangos yn wan os byddwch yn siarad am eich teimladau neu’n gofyn am help.
Mae’r Ymgyrch yn Erbyn Byw yn Ddigalon (CALM) yn gweithio er mwyn atal hunanladdiad ymhlith dynion yn y DU. Mae CALM yn cynnig cymorth i ddynion sydd mewn argyfwng drwy linell gymorth a gwe-sgwrs.
Bod yn ddyn a chael teimladau hunanladdol
Yn y fideo hwn mae Lee, Rohan a Graham yn siarad am anawsterau bod yn ddyn a chael teimladau hunanladdol.
Pobl o gymunedau LGBTQIA+
Mae astudiaethau’n dangos bod pobl o gymunedau LGBTQIA+ yn fwy tebygol o gael teimladau hunanladdol ac o ladd eu hunain.
Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth, ond mae problemau iechyd meddwl ymhlith pobl LGBTQIA+ wedi cael eu cysylltu â:
Gallech hefyd brofi gwrthodiad, ymatebion negyddol neu elyniaeth oddi wrth bobl yn eich bywyd. Er enghraifft, gallai hyn fod oddi wrth aelodau o’r teulu, ffrindiau, cyflogwyr, aelodau o gymuned grefyddol neu ddieithriaid. Gall hyn gael effaith fawr ar eich hunan-dyb. Efallai hefyd y byddwch yn teimlo eich bod yn methu â bod yn agored ynglŷn â’ch hunaniaeth o ran rhyw neu rywedd yn y gwaith, gartref neu mewn agweddau eraill ar eich bywyd.
Mae’r sefydliadau sy’n cynnig cymorth i bobl o gymunedau LGBTQIA+ yn cynnwys:
- Switchboard, sy’n darparu cymorth a gwybodaeth i bobl LGBTQIA+ drwy linell gymorth gyfrinachol, negeseua gwib a gwasanaeth ebost
- Y Gymdeithas Ymchwil ac Addysg Hunaniaeth o ran Rhywedd (GIRES), sydd â chyfeiriadur o grwpiau sy’n cefnogi neu’n cynorthwyo unigolion traws ac anghydffurfiol o ran rhywedd.
Gweler ein tudalennau ar iechyd meddwl LGBTQIA+ am ragor o wybodaeth a ffyrdd o gael cymorth.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.