Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Teimladau hunanladdol

Yn egluro beth yw teimladau hunanladdol, a beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n teimlo fel lladd eich hun. Mae hefyd yn trafod achosion, triniaethau ac opsiynau cymorth ar gyfer teimladau hunanladdol.

Ble galla i gael triniaeth a chymorth ar gyfer teimladau hunanladdol?

Os ydych yn cael teimladau hunanladdol parhaus, efallai y byddwch yn teimlo nad oes dim byd a allai eich helpu. Ond mae cymorth ar gael i’ch helpu i ymdopi â’r problemau a allai fod yn achosi i chi gael teimladau hunanladdol.

Mae’r dudalen hon yn trafod:

 

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn methu â chadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.

Gofynnwch am gyngor brys

Cymorth drwy eich meddyg teulu

Mae mynd at eich meddyg teulu yn fan cychwyn da er mwyn cael help. Mae poeni ynglŷn â siarad gyda’ch meddyg am deimladau hunanladdol yn beth cyffredin. Ond mae eich meddyg teulu wedi arfer gwrando ar bobl sy’n cael teimladau anodd.

Gall eich meddyg teulu:

Edrychwch ar y dudalen am siarad gyda’ch meddyg teulu i gael awgrymiadau ynglŷn â sut i siarad gyda’ch meddyg am eich iechyd meddwl.

Gofynnwch am help bob amser. Mae’n anodd siarad, ond gall pobl ein helpu i ddod drwy’r adegau anodd.

 

Llinellau cymorth a gwasanaethau gwrando

Gall llinellau cymorth a gwasanaethau gwrando fod yn ffyrdd da o gael gwybodaeth neu gefnogaeth pan mae arnoch ei hangen. Mae llawer ar gael ar wahanol adegau o’r diwrnod, ac maent yn darparu gwasanaeth cyfrinachol, di-ragfarn.

Gall siarad gyda rhywun ar y ffôn fod yn fuddiol hefyd os ydych yn cael anhawster i fod yn agored gyda phobl rydych yn eu hadnabod, neu os nad ydych eisiau siarad gyda rhywun wyneb yn wyneb.

Gallwch ffonio llinell wybodaeth Mind i gael mwy o wybodaeth a chael eich cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill. 

Neu edrychwch ar ein tudalen am linellau cymorth a gwasanaethau gwrando i gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys rhestr o sefydliadau y gallwch siarad gyda nhw.

Rydw i wedi cadw rhif y Samariaid, felly rydw i’n gwybod bod lle i siarad bob amser.

Cefnogaeth gan gymheiriaid

Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn dod â phobl sydd wedi cael profiadau tebyg at ei gilydd i gefnogi ei gilydd. Efallai y byddwch yn gweld bod hyn yn ffordd fuddiol o rannu eich meddyliau, teimladau ac awgrymiadau ar gyfer ymdopi gyda phobl eraill sy’n deall beth rydych yn mynd drwyddo.

Gall cefnogaeth gan gymheiriaid ddigwydd wyneb yn wyneb, mewn grwpiau neu un i un. Gall hefyd ddigwydd dros y ffôn neu drwy negeseuon testun. Neu gallai ddigwydd ar-lein, er enghraifft drwy ebost, mewn cymunedau cefnogi ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Efallai y byddai’n well gennych gael cefnogaeth ar-lein os nad ydych yn teimlo’n ddigon cyfforddus i siarad wyneb yn wyneb ynglŷn â sut rydych yn teimlo. 

Dyma rai o’r gwahanol leoedd y gallwch gael cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein:

  • Big White Wall, sy’n cynnig cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn ogystal â chefnogaeth gan gymheiriaid - pobl eraill sy’n cael problemau iechyd meddwl. Gall sawl rhan o’r DU gael mynediad i’r wefan am ddim, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi gael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu er mwyn defnyddio’r gwasanaeth.
  • Ochr yn Ochr, cymuned ar-lein gefnogol Mind.

Edrychwch ar ein tudalennau am gefnogaeth gan gymheiriaid neu cysylltwch â’ch cangen leol o Mind i gael mwy o wybodaeth am opsiynau cefnogaeth gan gymheiriaid yn eich ardal chi.

Neu edrychwch ar ein tudalen am offer iechyd meddwl ar-lein i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gael cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein.  

Therapïau siarad

Mae therapïau siarad yn driniaethau lle rydych yn siarad gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig am eich meddyliau, eich teimladau a’ch ymddygiad. Er enghraifft, siarad gyda chwnselydd neu seicotherapydd.

Gall therapïau siarad eich helpu i ddeall pam rydych yn cael teimladau hunanladdol. Gallant hefyd eich helpu i feddwl am ffyrdd o helpu eich hun i ymdopi â’r teimladau hyn a’u datrys.

Mae’n bosibl y bydd rhestr aros hir yn eich ardal chi er mwyn defnyddio therapïau siarad ar y GIG. Ond efallai y gallwch gael mynediad atynt drwy elusennau, eich gweithle neu’r brifysgol. Neu efallai y gallwch gael mynediad atynt yn breifat am bris is.

Edrychwch ar ein tudalennau am therapïau siarad i gael mwy o wybodaeth am wahanol fathau o driniaethau a sut i gael mynediad atynt.

Meddyginiaeth

Nid oes cyffur penodol sydd wedi’i drwyddedu i drin teimladau hunanladdol. Ond efallai y bydd eich meddyg yn rhoi meddyginiaeth seiciatrig ar bresgripsiwn i chi i’ch helpu i ymdopi â’ch symptomau. Neu efallai y bydd yn rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i chi i drin problem iechyd meddwl a allai fod yn achosi eich teimladau hunanladdol.

Gallai’r meddyginiaethau hyn gynnwys:

A all meddyginiaeth wneud i mi deimlo’n waeth?

Gellir rhoi meddyginiaeth seiciatrig ar bresgripsiwn i helpu i drin problem iechyd meddwl sy’n achosi teimladau hunanladdol. Ond mae rhai pobl yn gweld bod y meddyginiaethau hyn mewn gwirionedd yn gwneud iddynt deimlo’n waeth. Edrychwch ar ein tudalen am ymdopi â sgil effeithiau meddyginiaeth seiciatrig i gael rhagor o wybodaeth. 

Os ydych yn cael teimladau hunanladdol tra’n cymryd meddyginiaeth seiciatrig, dylech siarad gyda’ch meddyg teulu cyn gynted ag sy’n bosibl ynglŷn â hyn.

Gwasanaethau argyfwng

Mae gwasanaeth argyfwng yn golygu unrhyw wasanaeth sydd ar gael ar fyr rybudd i’ch helpu a’ch cefnogi yn ystod argyfwng iechyd meddwl. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • Timau triniaeth yn y cartref i ddatrys argyfwng (CRHT) – Gallant eich helpu os oes gennych argyfwng iechyd meddwl a chithau ddim mewn ysbyty. Yn aml iawn maen nhw’n cael eu galw’n 'dimau argyfwng', ond efallai y bydd gan eich gwasanaeth lleol enw gwahanol. Edrychwch ar ein tudalen am dimau argyfwng i gael mwy o wybodaeth.
  • Tai argyfwng – Mae’r rhain yn cynnig cefnogaeth ddwys, fyrdymor i’ch helpu i reoli argyfwng iechyd meddwl mewn lleoliad preswyl, yn hytrach nag ysbyty. Edrychwch ar ein tudalen am dai argyfwng i gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i ddarganfod beth sydd ar gael yn agos atoch chi.
  • Gwasanaethau cefnogi lleol – Efallai y bydd y rhain yn cynnig gwasanaethau dydd, sesiynau galw heibio, gwasanaeth cwnsela neu gefnogaeth â materion penodol. Mae llawer o ganghennau lleol o’r Samariaid yn cynnig cymorth ‘cerdded i mewn’ lle gallwch siarad â rhywun wyneb yn wyneb. Edrychwch ar ein tudalen am wasanaethau dydd i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ganfod a defnyddio gwasanaethau cefnogi lleol.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig